Diweddariad ar Ran Un Strategaeth Forol y DU 2025
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae DEFRA, Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ar y diweddariad i Ran 1 Strategaeth Forol y DU. Mae hwn yn nodi ein hasesiad o’r cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y targedau a osodwyd ar gyfer Statws Amgylcheddol Da (GES) yn rhan 1 y Strategaeth Forol yn 2019. Mae hefyd yn nodi cynigion ar gyfer amcanion, targedau a dangosyddion lefel uchel wedi’u diweddaru i’w defnyddio ar gyfer y cylch adrodd nesaf.
Lle bo’n bosibl, rydym wedi seilio ein hasesiadau ar y rhai sydd wedi’u cwblhau yn sgil Confensiwn OSPAR ar gyfer Diogelu Adroddiad Statws Ansawdd Gogledd-ddwyrain Cefnfor Iwerydd (QSR2023).
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi ar ein hasesiadau a beth y maent yn ei ddweud wrthym am gyflwr ein moroedd. Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar y targedau unigol rydym yn eu gosod ar gyfer pob elfen o Strategaeth Forol y DU.