Publication

Datgelu taliadau’r diwydiant i’r sector gofal iechyd

Published 5 October 2023

Rhagair gweinidogol

Daw’r ymgynghoriad hwn ar adeg sy’n bwysig i ddiwydiant gwyddorau bywyd y DU. Mae gan ddatblygiadau mewn technolegau megis meddalwedd a deallusrwydd artiffisial y potensial i drawsnewid gofal cleifion, ac mae COVID-19 wedi sbarduno arloesedd mewn meddyginiaethau gwrthfeirol a diagnosteg. Ar yr un pryd, mae gwaith i’w wneud er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau a’r dyfeisiau meddygol yr ydym yn eu defnyddio yn parhau i fod yn ddiogel ac yn effeithiol i bawb.

Y llynedd, lansiodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Equity in medical devices: independent review, dan gadeiryddiaeth yr Athro Fonesig Margaret Whitehead, i archwilio’r hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod dyfeisiau meddygol yn rhydd o ragfarn. Rydym wedi ymrwymo i’r gwaith hwn a gwyddom fod mwy y gallwn ei wneud.

Dangosodd adroddiad First do no harm Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol dan arweiniad y Farwnes Cumberlege fod yn rhaid i ddiwydiant a’r system gofal iechyd addasu i wrando ar anghenion cleifion ac atal methiannau’r gorffennol. Mae tryloywder yn allweddol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Er mwyn meithrin ymddiriedaeth a diogelu’r system iechyd rhag gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a chanfyddedig, rhaid inni ddeall a chefnogi’r ffyrdd pwysig y mae diwydiant yn rhyngweithio â’r proffesiwn gofal iechyd. Er mwyn sicrhau nad yw’r rhain yn peryglu gofal cleifion, rydym bellach yn dymuno deall a ddylai gwybodaeth am y rhyngweithiadau hyn fod yn hygyrch i’r cyhoedd.

Mae cleifion ledled y Deyrnas Unedig yn ymddiried yn fawr yn ein system iechyd. Er mwyn diogelu’r ymddiriedaeth honno, rhaid inni barhau i ymdrechu am y safonau ymarfer uchaf gan y diwydiant, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau. Trwy’r ymgynghoriad hwn, mae gennym gyfle gwych i hybu’r ymdrechion hyn, ac i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cynhyrchion gofal iechyd yn canolbwyntio bob amser ar anghenion a lles gorau cleifion.

Will Quince AS
Gweinidog Gwladol (Y Gweinidog Iechyd a Gofal Eilaidd)

Crynodeb gweithredol

Rydym yn dymuno cael safbwyntiau ar gyflwyno deddfwriaeth eilaidd newydd posibl i roi dyletswydd ar weithgynhyrchwyr a chyflenwyr masnachol meddyginiaethau, dyfeisiau a sylweddau ffiniol i adrodd manylion y taliadau a’r buddion eraill y maent yn eu darparu i sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Nod yr ymgynghoriad hwn yw mynd i’r afael ag ail ran argymhelliad 8 a gynhwysir yn adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol, ynghylch gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a chanfyddedig yn y system iechyd. Mae casglu safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad yn gam pwysig yn y broses o ddatblygu polisïau yn y maes hwn.

Datblygwyd cwmpas yr ymgynghoriad hwn yn dilyn ymgysylltiad â grwpiau cleifion, y diwydiant a rheoleiddwyr i ddylunio dull posibl sy’n cyflawni tryloywder i gleifion a’r cyhoedd gan leihau’r baich ar ein diwydiant gwyddorau bywyd hanfodol. Nod y cwestiynau hyn yw archwilio’r posibilrwydd o gynyddu tryloywder y perthnasoedd rhwng y diwydiant a’r sector gofal iechyd er mwyn galluogi ymddiriedaeth cleifion yn y system iechyd a diogelu didueddrwydd y broses o wneud penderfyniadau clinigol.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig er mwyn cefnogi’r broses o gyflawni ein nodau ledled y DU gyfan.

Cyflwyniad

Mae’r diwydiant gwyddorau bywyd yn hanfodol i iechyd y genedl, gan ddatblygu arloesedd mewn meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol sy’n gwella ansawdd bywyd dinasyddion ledled y DU. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r diwydiant yn gweithio’n agos gydag ysbytai, clinigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw i ddatblygu cynhyrchion a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol.

Weithiau, mae’r perthnasoedd hyn yn cynnwys darparu taliadau a buddion gan y diwydiant megis grantiau ymchwil, digwyddiadau hyfforddi ac ad-dalu am waith megis profi ac ymgynghori. Fodd bynnag, gallai diffyg tryloywder ynghylch adrodd ar y trafodiadau hyn arwain at wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig rhwng darparwyr gofal iechyd a’r diwydiant.

Ymchwiliodd Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol, dan arweiniad y Farwnes Cumberlege, i dri ymyriad meddygol a arweiniodd at ganlyniadau andwyol:

  • Primodos
  • sodiwm falproad
  • rhwyll pelfis

Cododd adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol bryderon am wrthdaro buddiannau gwirioneddol a chanfyddedig rhwng clinigwyr a gweithgynhyrchwyr, a sut y gallai hyn ddylanwadu ar ofal cleifion, a diogelwch cleifion yn y pen draw.

Dywed tudalen 34 o adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol:

Rydym wedi clywed pryderon penodol [gan gleifion] fod gweithgynhyrchwyr yn talu clinigwyr neu yn eu cymell mewn modd arall. Gall hyn ddylanwadu ar eu harferion, a’r camau gweithredu y maent yn eu hargymell i gleifion, megis defnyddio gweithdrefnau neu gyffuriau penodol yn ddelfrydol.

Cydnabu adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol system Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Disclosure UK, sy’n cyhoeddi gwybodaeth am daliadau y mae rhai busnesau fferyllol yn eu gwneud i’r sector gofal iechyd. Yn 2022, cyhoeddodd 145 o weithgynhyrchwyr daliadau drwy Disclosure UK. Amlyga adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol nad oes system debyg ar waith ar gyfer y sector dyfeisiau meddygol.

Dywed tudalen 34 o adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol:

Dylai gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol… sicrhau eu bod yn cyhoeddi manylion taliadau a thaliadau mewn nwyddau y maent yn eu gwneud i ysbytai addysgu, sefydliadau ymchwil ac unigolion.

Ers government’s response to the IMMDS report, rydym wedi ymgysylltu â chleifion, rheoleiddwyr proffesiynol a chymdeithasau masnach ynghylch ffyrdd o gryfhau gofynion adrodd y diwydiant. Gwyddom fod gan gymdeithasau masnach feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol godau ymddygiad ar waith sy’n gosod safonau ar gyfer sut y dylai busnesau ymgysylltu ag ymchwilwyr a darparwyr gofal iechyd. Mae’r rhain yn ategu codau ymddygiad proffesiynol y mae’n ofynnol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eu dilyn.

Mae’r llywodraeth hefyd yn gwneud gwaith ar wahân i fynd i’r afael â’r pryderon a godir gan adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol mewn cysylltiad â datganiadau o wrthdaro buddiannau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Pan fydd y ddau ddarn o waith wedi eu cwblhau, ystyrir sut i ddefnyddio datganiadau diwydiant a phroffesiynol i gefnogi cleifion ledled y DU gyfan i gael golwg glir ar unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ar draws y system iechyd a gofal.

Dim ond ag agwedd y diwydiant y mae’r ymgynghoriad cyhoeddus presennol yn ymdrin ac nid yw wedi ei gynllunio i nodi nac i ystyried datganiadau clinigol proffesiynol o wrthdaro buddiannau.

Amcanion polisi

Mae’r llywodraeth yn cytuno ag adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol y byddai rhagor o dryloywder yn helpu i ddiogelu uniondeb y system gofal iechyd rhag gwrthdaro buddiannau canfyddedig a gwirioneddol. Gallai mandad posibl ar gyfer adrodd nawdd gyflawni dau amcan allweddol sy’n mynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad:

  • gwella ymddiriedaeth cleifion mewn sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • helpu i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn parhau i wneud penderfyniadau am ofal cleifion sy’n ddiduedd ac yn seiliedig ar dystiolaeth

Fel y nodir yn adroddiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol, mae cyfyngiadau ar y systemau presennol ar gyfer datgelu’r wybodaeth hon, ac mae bylchau ynddynt ac, i gyflawni ein hamcanion, mae’n bosibl y bydd angen tryloywder cynhwysfawr a chyson.

Rydym wedi ystyried sawl dewis ar gyfer gwella tryloywder, gan gynnwys:

  • ehangu cynlluniau gwirfoddol megis Disclosure UK Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain
  • gweithio gyda chymdeithasau masnach i wella codau ymddygiad
  • dull statudol o ofyn am ddatgeliad

Rydym yn dymuno deall safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch ai gofyniad deddfwriaethol i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei gwneud yn gyhoeddus yw’r ffordd o ddarparu tryloywder. Mae hyn yn unol â systemau sydd ar waith yn rhyngwladol, gan gynnwys yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a Ffrainc.

Mae Deddf Iechyd a Gofal 2022 (Deddf 2022) yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud manylion am y taliadau neu’r buddion eraill y maent yn eu darparu i bobl sy’n darparu gofal iechyd neu’n cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn y DU yn hysbys i’r cyhoedd. Byddai rheoliadau’n diffinio cwmpas a gweithrediad y gofynion adrodd.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio safbwyntiau ar ein cynigion ar gyfer dyletswydd sy’n gynhwysfawr, yn glir ac yn rhwydd ei gweithredu. Felly, mae’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad yn cael eu llunio fel cynigion os penderfynir bwrw ymlaen â rheoliadau. Bydd y cynigion a amlinellir isod yn galluogi busnesau i rannu safbwyntiau ynghylch a fyddent yn cael eu cipio gan unrhyw ddyletswydd a pha daliadau (os oes) ddylai fod yn berthnasol. Bydd y cynigion hefyd yn gwneud a ddylid gwneud gwybodaeth yn hysbys i’r cyhoedd, a sut i wneud hynny, yn eglur. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am safbwyntiau ar ddewisiadau eraill yn lle rheoleiddio.

Busnesau efallai y bydd yn rhaid iddynt gyhoeddi gwybodaeth

Mae Deddf 2022 yn caniatáu i reoliadau roi rhwymedigaeth ar weithgynhyrchwyr a chyflenwyr masnachol sy’n darparu cynhyrchion gofal iechyd, ac ar bobl gysylltiedig. Rydym yn gofyn am safbwyntiau ar gynigion i ddiffinio ymhellach pwy ddylai fod angen cyhoeddi gwybodaeth.

Credwn mai’r ffordd fwyaf syml o adnabod busnesau o ran cwmpas yw drwy gyfeirio at y cynhyrchion y maent yn eu rhoi ar farchnad y DU. Rydym yn cynnig edrych ar gwmpas pob gwneuthurwr a chyflenwr meddyginiaethau masnachol, dyfeisiau meddygol a sylweddau ffiniol, yn ogystal â’u his-gwmnïau a’u rhiant fusnesau. Pan fo hynny’n bosibl, byddwn yn defnyddio diffiniadau cyfreithiol sydd eisoes yn bodoli. Byddai hyn yn ei gwneud yn haws i fusnesau wybod a fyddai angen iddynt gydymffurfio â’r ddyletswydd newydd hon. Er enghraifft, diffinnir cynhyrchion meddyginiaethol a dyfeisiau meddygol yn Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 a Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 (fel y’u diwygiwyd), yn y drefn honno.

Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu, os yw busnes yn gweithgynhyrchu neu’n cyflenwi cynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol yn fasnachol, y byddai angen iddi gyhoeddi gwybodaeth. Byddai’r dull hwn yn rhoi eglurder i fusnesau ac yn sicrhau ffordd hawdd iddynt ganfod a ydynt yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i adrodd.

Ochr yn ochr â meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, gall clinigwyr ragnodi rhai cynhyrchion bwyd a dermatolegol, a elwir gyda’i gilydd yn sylweddau ffiniol, y rhestrir rhai ohonynt yn y Tariff Cyffuriau. Rhagnodir y rhain i reoli cyflyrau meddygol miloedd o gleifion bob blwyddyn. Felly, rydym yn cynnig y dylai busnesau sy’n cynhyrchu neu’n cyflenwi’r cynhyrchion hyn (a phobl gysylltiedig) hefyd fod yn berthnasol i’r gofyniad.

Rydym yn cynnig diffinio sylweddau ffiniol o fewn cwmpas y rheoliadau drwy gyfeirio at gynnwys y cynnyrch yn rhannau perthnasol y Tariff Cyffuriau. Defnyddiwyd y dull hwn o ddiffinio sylweddau ffiniol mewn deddfwriaeth arall, er enghraifft Rheoliadau Cynnyrch y Gwasanaeth Iechyd (Darparu a Datgelu Gwybodaeth) 2018 (gweler y diffiniad yn Atodiad A).

Felly, byddai’n ofynnol i weithgynhyrchwyr a chyflenwyr masnachol y cynhyrchion hyn gyhoeddi gwybodaeth.

Mae Deddf 2022 yn cynnwys y cyfeiriad at bobl gysylltiedig i sicrhau na all busnesau osgoi rhwymedigaethau i adrodd drwy ddefnyddio endidau busnes eraill i wneud taliadau. Y bwriad yw diffinio ‘connected persons’ (pobl gysylltiedig) fel is-gwmnïau, rhiant fusnesau neu fusnesau fel arall yn yr un grŵp o fusnesau fel gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr masnachol cynhyrchion perthnasol. Rydym hefyd yn cynnig cipio taliadau neu fuddion a ddarperir gan drydydd parti sy’n gweithredu ar ran busnes perthnasol.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gymesuredd baich busnes mewn cysylltiad â’r buddion. Sylwch ein bod yn gofyn am faint y busnesau y gallai fod yn ofynnol iddynt adrodd yn yr adran ‘Effeithiau a monitro’.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig gwneud y busnesau canlynol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon i adrodd—gwneuthurwyr a chyflenwyr masnachol sy’n darparu:

  • meddyginiaethau
  • dyfeisiau meddygol
  • sylweddau ffiniol

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod
  • Mae gen i awgrym amgen

Esboniwch eich awgrym amgen (hyd at 100 o eiriau).

Derbynyddion perthnasol

Mae Deddf 2022 yn cyfeirio at ‘payments or other benefits’ (taliadau neu fuddion eraill) a wneir i ‘relevant persons’ (pobl berthnasol). Diffinnir hyn yn adran 92(11)(b) fel endid sy’n cynnwys pobl a sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd yn y DU, a pherson neu sefydliad sy’n cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn y DU. Rydym yn cynnig egluro cwmpas derbynyddion drwy ddiffinio’r termau hynny ymhellach yn y rheoliadau.

Os byddwn yn mynd rhagom i reoleiddio, rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am daliadau perthnasol i unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig neu unrhyw ysbyty, ymddiriedolaeth, clinig, bwrdd iechyd, fferyllfa neu feddygfa, boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector annibynnol.

Byddai taliadau i ddarparwyr gofal iechyd cyhoeddus a phreifat ill dau yn berthnasol. Mae hyn oherwydd na ellir pennu terfynau clir rhwng cyhoeddus a phreifat yn ymarferol. Mae rhai darparwyr gofal iechyd yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer cleifion y GIG a chleifion sy’n ariannu eu gofal eu hunain yn yr un lleoliad, gan ddefnyddio’r un offer a’r seilwaith arall.

O ran pobl sy’n cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, credwn y dylai sefydliadau ymchwil a hyfforddiant meddygol (er enghraifft, colegau brenhinol), yn ogystal ag endidau sy’n gysylltiedig â sefydliadau darparwyr gofal iechyd megis canghennau elusennol ysbyty, fod yn berthnasol. Mae’r llywodraeth yn cydnabod y swyddogaeth gwerthfawr ac integredig y mae’r mathau hyn o sefydliadau yn ei chwarae yn yr ecosystem iechyd a gofal. Dyna pam y gallent ddylanwadu ar y llwybrau gofal iechyd a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol y rheng flaen a’r gofal y maent yn ei ddarparu. Felly, dylid cyhoeddi gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill a ddarperir iddynt.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill a ddarperir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd a sefydliadau sy’n gysylltiedig â darparu gofal iechyd, ac nid yw’r rheoliadau yn gwahaniaethu rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Cwestiwn

A ydych chi neu’ch busnes yn gwneud taliadau neu’n darparu buddion eraill ar hyn o bryd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a sefydliadau sy’n darparu gofal iechyd?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

A ydych chi neu’ch sefydliad yn derbyn taliadau neu fuddion eraill gan weithgynhyrchwyr neu gyflenwyr cynhyrchion gofal iechyd ar hyn o bryd?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi gwybodaeth am daliadau neu fuddion eraill a ddarperir i unrhyw sefydliad sy’n ymwneud ag ymchwil neu hyfforddiant meddygol. Dylai taliadau i ganghennau elusennol ysbytai neu sefydliadau tebyg sy’n gysylltiedig â darparwyr gofal iechyd fod yn berthnasol hefyd.

Pa sefydliadau canlynol ydych yn credu y dylid eu cynnwys yng nghwmpas y rheoliadau hyn? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)

  • Canghennau elusennol ysbytai
  • Sefydliadau ymchwil meddygol neu glinigol (gan gynnwys elusennau ymchwil feddygol)
  • Cyrff proffesiynol sy’n gyfrifol am hyfforddiant craidd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (er enghraifft colegau brenhinol, Aelodaeth o Golegau Brenhinol y Meddygon (MRCP))
  • Darparwyr addysg neu hyfforddiant meddygol eraill
  • Sefydliadau eirioli cleifion
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Gweithredu’r ddyletswydd

Mae Deddf 2022 yn caniatáu i reoliadau bennu pryd a sut y dylid cyhoeddi gwybodaeth. Hefyd, gallwn eithrio busnesau rhag y gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth pan maent yn cymryd rhan mewn cynlluniau adrodd trydydd parti cyfatebol, sy’n galluogi’r arferion gorau presennol i barhau.

Pa mor aml y bydd yn rhaid adrodd

Mae’r llywodraeth yn cynnig y byddai’n ofynnol i fusnesau gyhoeddi data yn flynyddol, gan gynnwys yr wybodaeth am daliadau a wnaed yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol. Mae’r amlder blynyddol yn cyd-fynd â’r rhan fwyaf o adroddiadau busnes gorfodol eraill, gan gynnwys y datganiad ar gaethwasiaeth fodern ac adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Pe byddai’n mynd rhagddi, byddai’r rheoliadau yn dod i rym chwe mis ar ôl iddynt gael eu gosod, gan roi amser i fusnesau roi prosesau cydymffurfio ar waith. Byddai busnesau’n cael chwe mis bob blwyddyn i goladu’n fewnol, adolygu ac yna cyhoeddi’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn galendr flaenorol. Cyfeirir at hyn weithiau fel cyfnod gras cyhoeddi.

Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd hygyrchedd fel bod cleifion ac aelodau’r cyhoedd yn gallu dod o hyd i’r datganiadau a’u dehongli. Rydym yn cynnig gofyniad rheoleiddiol i fusnesau gyhoeddi’r wybodaeth berthnasol ar eu gwefannau â dolen at yr wybodaeth mewn lle amlwg ar hafan y wefan, yn unol â’r gofynion cyfredol o dan Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am daliadau ar eu gwefannau â dolen mewn lle amlwg ar hafan DU y wefan.

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod
  • Mae gen i awgrym amgen

Esboniwch eich awgrym amgen (hyd at 100 o eiriau).

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi manylion taliadau a buddion perthnasol yn flynyddol ar eu gwefannau â dolen mewn lle amlwg ar hafan DU y wefan.

Pa mor aml y dylid ei gwneud yn ofynnol i adrodd?

  • Pob 12 mis
  • Pob 6 mis
  • Pob 3 mis
  • Ddim yn gwybod
  • Arall, nodwch

Busnesau perthnasol am ran o’r flwyddyn yn unig

Rydym yn ystyried y goblygiadau i fusnesau efallai nad ydynt yn ddarostyngedig i’r gofyniad i adrodd ond am ran o’r cylch adrodd yn unig. Er enghraifft, mae rhai cynhyrchion a gynhwysir yn y Tariff Cyffuriau yn cael eu hychwanegu neu eu diddymu drwy gydol y flwyddyn. Gallai hyn olygu ansicrwydd ynghylch a ddylid adrodd taliadau a buddion eraill ai peidio os nad yw busnes yn cyflenwi cynhyrchion eraill sy’n eu gwneud yn berthnasol. Rydym yn rhagweld y bydd hon yn sefyllfa brin, ond byddem yn croesawu safbwyntiau busnesau ynghylch a ydynt yn credu bod hyn yn berthnasol iddynt neu a allai achosi problemau.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i fusnesau adrodd yr holl daliadau a buddion perthnasol a ddarperir drwy’r flwyddyn gyfan, pe baent yn cyflenwi cynnyrch perthnasol ar ddechrau’r cylch adrodd.

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Cyflwyniad i byrth neu systemau eraill

Rydym yn cydnabod porth Disclosure UK gwirfoddol presennol a gynhelir gan Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr meddyginiaethau i ddatgan eu taliadau. Byddai cefnogi hunanreoleiddio yn gwneud y diwydiant yn rhanddeiliad ar y cyd wrth gynnal y ddyletswydd hon, gan roi cyfle iddynt gynnal eu henw da a’u canlyniadau cadarnhaol. Hefyd, gallai cynlluniau o’r fath ddarparu i’r cyhoedd adnoddau i gynorthwyo dealltwriaeth o bwrpas ac arwyddocâd y taliadau hyn. Felly, rydym yn dymuno parhau i annog mentrau a arweinir gan y diwydiant sy’n bodloni’r gofynion statudol lleiaf.

Mae’r pwerau yn Neddf 2022 yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganiatáu i fusnesau gydymffurfio â’r gofyniad i adrodd drwy gyhoeddi gwybodaeth o dan gynllun adrodd trydydd parti ‘perthnasol’ dynodedig. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddynodi cynllun pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn bod darparu gwybodaeth o dan y cynllun yn gwneud cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y rheoliadau yn ddiangen.

Rydym yn cynnig caniatáu i fusnesau gydymffurfio â’r gofynion i adrodd drwy eithriad drwy gynllun trydydd parti dynodedig a chyfeiriad at y cynllun ar eu gwefan. Byddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn asesu unrhyw gynlluniau a gyflwynir i’w dynodi fel cynllun arall perthnasol. Mae’r llywodraeth yn cynnig dynodi cynlluniau sy’n golygu bod cyfranogwyr yn cydymffurfio’n llawn â’r gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth a nodir yn y rheoliadau arfaethedig er mwyn osgoi bylchau neu adroddiadau deuol.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig caniatáu i fusnesau gydymffurfio â’r gofynion i adrodd drwy eithriad, gan adrodd drwy gynllun trydydd parti. Dim ond cynlluniau sy’n bodloni safonau rheoleiddio fyddai’n cael eu dynodi gan yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

A ydych yn adrodd unrhyw daliadau i Disclosure UK ar hyn o bryd, sef cynllun gwirfoddol a gynhelir gan Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

A fyddech chi’n ystyried cymryd rhan mewn cynllun tebyg, neu lansio cynllun tebyg, pe byddai hyn yn golygu y gallech chi neu eich aelodau gael eich eithrio o’r ddyletswydd ddeddfwriaethol i adrodd taliadau ar eich gwefan eich hun?

  • Byddwn
  • Na fyddwn
  • Ddim yn gwybod

Gwybodaeth i’w chyhoeddi

Rydym yn cynnig y byddai’r rheoliadau’n nodi pa wybodaeth y byddai’n ofynnol i fusnesau ei chyhoeddi am daliadau neu fuddion perthnasol eraill a ddarperir. Mae’r llywodraeth yn credu ei bod yn hollbwysig ystyried anghenion defnyddwyr arfaethedig ochr yn ochr â sicrhau bod busnesau yn gallu cydymffurfio mewn modd syml ac uniongyrchol.

Rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi cofrestr o daliadau gyda’r cofnodion a nodir isod. Ystyrir derbynwyr unigol ymhellach yn yr adran isod.

Cofrestr arfaethedig o gofnodion taliadau i’w cyhoeddi:

  • enw’r derbynnydd
  • unigolyn neu sefydliad
  • rhif cofrestru proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol)
  • cyfeiriad gwaith
  • swm cyfanredol blynyddol taliadau neu fuddion (mewn Punnoedd Prydain Fawr)
  • rhesymau dros daliad neu fudd

Mae hyn yn golygu mai’r derbynnydd fyddai’r brif ffordd y byddai datganiadau yn cael eu trefnu, sy’n fanteisiol i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno deall pwy sy’n darparu taliadau neu fuddion eraill i ymchwilwyr, ysbytai a chlinigwyr. Er mwyn cefnogi busnesau â hyn ac annog cysondeb wrth adrodd, byddem yn cyhoeddi templed cydymffurfio i gasglu a lanlwytho’r wybodaeth hon mewn canllawiau.

Dylai cyhoeddiadau fod â nodyn esboniadol sy’n nodi sut mae’r busnes wedi penderfynu pa daliadau sy’n berthnasol a pha rai nad ydynt, sut mae taliadau cymhleth yn cael eu cynrychioli, ac ystyriaethau perthnasol eraill megis trosi cyfraddau cyfnewid ar daliadau nad ydynt mewn sterling. Byddem yn darparu canllawiau ychwanegol i gynorthwyo busnesau i fodloni’r gofyniad hwn.

Diogelu data

Dylai claf allu nodi ac olrhain taliadau a wneir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol hysbys sy’n ymwneud â’i ofal. Mae hyn yn golygu y byddai data personol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn cysylltiad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol unigol. Dylai busnesau hysbysu’r testun data yn rhagweithiol o’r angen i gyhoeddi gwybodaeth am daliad ar yr adeg pan wneir y taliad. Dylai busnesau reoli disgwyliadau gyda darparwyr gofal iechyd hefyd pan fo unrhyw daliad neu fudd yn cael ei roi.

Gallai rheoliadau nodi pa mor hir y dylai gwybodaeth am daliadau barhau i fod ar gael i’r cyhoedd. Y bwriad yw y byddai’n ofynnol i fusnesau gadw’r data hyn yn y parth cyhoeddus am dair blynedd. Gwnaethom ddewis y cyfnod hwn yn seiliedig ar y diben dros gasglu’r data hyn, enghreifftiau domestig a rhyngwladol, egwyddorion o dan gyfreithiau diogelu data y DU, ac anghenion disgwyliedig y defnyddiwr. Rydym o’r farn y dylai cleifion sydd â diddordeb mewn deall mwy am berthnasoedd eu clinigwyr â’r diwydiant fod â modd o wneud hynny a chael sgwrs am unrhyw bryderon sy’n effeithio ar eu gofal.

Mae system Disclosure UK ac, yn rhyngwladol, cofrestr yr Iseldiroedd a’r cynllun datgelu sydd ar waith ar gyfer busnesau fferyllol Sbaen wedi pennu terfyn amser o dair blynedd ar gadw (gweler tabl 1). Nid yw systemau yr Unol Daleithiau na Ffrainc wedi pennu terfyn. I’r rhai sy’n ceisio cael gafael ar yr wybodaeth, mae angen i gofnodion fynd yn ddigon pell yn ôl i roi ymdeimlad o’r berthynas sydd rhwng y diwydiant a darparwyr gofal iechyd. Fodd bynnag, mae angen i hyn fod yn gytbwys ac yn gymesur â hawliau a buddiannau y testunau data na ddylid cadw eu data am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol.

Ochr yn ochr â’r cyfnod ar gyfer cadw’r wybodaeth yn gyhoeddus, rydym wedi ystyried pa ddata y dylid eu cyhoeddi. Mae Tabl 1 yn dangos meysydd data sy’n ofynnol gan systemau datgelu mewn gwledydd eraill yn ogystal â Disclosure UK.

O ran cydbwysedd, nid ydym o’r farn ei bod yn briodol ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi cyfeiriadau gwaith na chartref y derbynwyr unigol. Ar y llaw arall, gallai rhifau cofrestru proffesiynol fod o gymorth i nodi clinigwyr sydd wedi newid eu cyflogwr neu enw yn ddiweddar (er enghraifft, oherwydd priodas). Ar gyfer derbynwyr unigol, byddem felly yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi’r sefydliadau perthnasol y maent yn gweithio iddynt a’u rhif cofrestru proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol a dim ond os yw’r corff proffesiynol perthnasol eisoes yn cyhoeddi’r rhain).

Caiff cynlluniau a arweinir gan y diwydiant ddewis cipio mwy o wybodaeth na’r hyn a bennir yn y rheoliadau. Rhaid i fusnesau unigol a chynlluniau trydydd parti ystyried eu rhwymedigaethau bob amser o dan ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.

Tabl 1: gofynion adrodd taliadau a chyfnodau cadw yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Disclosure UK Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Gofyniad Yr Iseldiroedd Yr Unol Daleithiau Ffrainc Disclosure UK
Dull Adnabod Personol Nac oes Nac oes Nac oes Nac oes
Dull Adnabod ar gyfer rheoleiddio proffesiynol Oes Nac oes Weithiau Nac oes
Gweithle Oes Oes Oes Oes
Cyfeiriad gwaith Oes Oes Oes Oes
Swm cyfanredol fesul cwmni Oes Nac oes Nac oes Oes
Terfyn amser ar gadw 3 blynedd Dim Dim 3 blynedd

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi cofrestr o daliadau gyda chofnodion sy’n cynnwys enw’r derbynnydd, swm blynyddol y taliadau a’r buddion a wneir, a rhestr gyflawn o’r rhesymau dros bob taliad a budd. Os yw’r derbynnydd yn unigolyn, byddem yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi ei rif cofrestru cyflogwr a phroffesiynol (os yw hynny’n berthnasol ac wedi ei gyhoeddi gan y corff proffesiynol).

Pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y dylai gael ei chyhoeddi?

  • Enw’r derbynnydd
  • Gwerth blynyddol y taliadau a’r buddion
  • Rhestr gyflawn o’r rhesymau dros bob taliad a budd
  • Os yw’r derbynnydd yn unigolyn, ei weithle a’i rif cofrestru proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol ac wedi ei gyhoeddi gan y corff proffesiynol).
  • Dim un o’r uchod
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i ddatganiadau aros yn y parth cyhoeddus am o leiaf tair blynedd. Dewiswch yr amserlen a ffefrir gennych o’r opsiynau canlynol.

  • O leiaf 1 flwyddyn
  • O leiaf 3 blynedd
  • O leiaf 5 mlynedd
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Gorfodi

Pe byddai’r llywodraeth yn mynd rhagddi â deddfwriaeth, byddem yn gosod dull gorfodi ar gyfer y ddyletswydd hon yn ein hymateb swyddogol i’r ymgynghoriad hwn. Rydym wedi ymrwymo i orfodi yn deg ac yn gytbwys, gan annog cwmnïau i gydymffurfio â’r ddyletswydd. Byddai hyn yn cynnwys rhoi gwybod i fusnesau os oes gennym reswm dros gredu nad ydynt wedi cyflawni eu cyfrifoldebau. Byddai hefyd yn cynnwys y potensial o osod cosbau ariannol os yw cwmni’n parhau i fethu â chydymffurfio â’r rheoliadau neu’n darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol. Byddai llwybr apelio clir a thryloyw hefyd ar gyfer busnesau.

Byddai’r dull gorfodi yn cael ei amlinellu yn y rheoliadau. Byddai hyn yn cynnwys cyflwyno hysbysiad o’r bwriad o osod cosb ariannol arfaethedig os na chredir bod cydymffurfiaeth yn cael ei chyflawni, asesu euogrwydd a chaniatáu i’r person wneud sylwadau. Dilynir hyn drwy gyflwyno’r hysbysiad terfynol yn gosod y gosb, a fyddai’n cynnwys y gallu i apelio yn ei erbyn. Byddai’r safonau tystiolaeth sydd eu hangen i ddangos cydymffurfiaeth, gan gynnwys darparu data, yn cael eu hamlinellu yn y rheoliadau.

Cwestiynau

A ddylai cydymffurfiaeth â’r gofynion gael ei monitro?

  • Dylai
  • Na ddylai
  • Ddim yn gwybod

Pa mor aml y dylai cydymffurfiaeth â’r gofynion gael ei monitro?

  • Pob 3 mis
  • Pob 6 mis
  • Pob 12 mis
  • Pob 24 mis
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Pwy ddylai fonitro cydymffurfiaeth?

  • Corff masnach
  • Llywodraeth
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Cwestiynau

Sut y dylid adrodd pan fo amheuaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth?

  • Llinell ffôn ar gyfer cysylltu
  • E-bost
  • Llwyfan ar-lein
  • Trwy wiriadau swyddogol yn unig
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Pan adroddir diffyg cydymffurfiaeth yn uniongyrchol neu fod diffyg cydymffurfiaeth yn cael ei nodi drwy’r broses fonitro, gellid sbarduno ymchwiliad cydymffurfiaeth â’r gofynion. A ddylid adolygu’n llawn yr holl achosion a nodir ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth posibl?

  • Dylid
  • Na ddylid
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Cwestiwn

Pa sbardunau y dylid eu defnyddio i benderfynu a yw achos yn cael ei ymchwilio’n llawn?

  • Gwerth ariannol yr achos
  • Achosion blaenorol o ddiffyg cydymffurfiaeth
  • Ddim yn gwybod
  • Arall

Os gwnaethoch ateb ‘Arall’, rhowch fwy o wybodaeth (hyd at 100 o eiriau).

Cwestiwn

A ydych chi’n ystyried y byddai cosbau ariannol yn rhwystr effeithiol a theg ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Cwestiwn

Rhannwch sylwadau neu adborth pellach sy’n ymwneud â gorfodi, os oes gennych unrhyw rai (hyd at 500 o eiriau).

Taliadau nad ydynt yn berthnasol

Mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol yn galluogi pob ‘payments or other benefits’ (taliad neu fudd arall) i fod yn berthnasol i’r rheoliadau, ond mae’n darparu ar gyfer eithriadau.

Y bwriad fyddai adrodd pob taliad neu fudd arall y gellir eu mynegi fel gwerth ariannol. Byddai hyn yn cynnwys y taliadau a’r buddion hynny a wneir yn unrhyw le yn ddaearyddol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae’r llywodraeth yn credu mewn cyflwyno tryloywder cynhwysfawr sy’n taflu goleuni ar berthnasoedd rhwng y diwydiant a darparwyr.

Enghraifft o daliad uniongyrchol fyddai talu arian parod fel y gall ymddiriedolaeth GIG noddi digwyddiad.

Enghraifft o fudd uniongyrchol fyddai gwasanaeth a ddarperir, megis hyfforddiant ar gynhyrchion a gweithdrefnau sy’n berthnasol i ddarparu gofal iechyd, y tu allan i gytundebau contractiol.

Enghraifft o daliad anuniongyrchol fyddai taliad sy’n mynd drwy berson cyfreithiol sy’n gysylltiedig â derbynnydd, er enghraifft sefydliad elusennol.

Pan fo gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio, er enghraifft, gwmni i dderbyn taliadau ar ei ran, byddai’r rheoliadau’n dal yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwneuthurwr ddatgan taliadau o’r fath. Rydym yn cydnabod bod llawer o’r buddion hyn yn rhoi gwerth i gleifion a’r system iechyd a gofal drwy sicrhau bod cynhyrchion gofal iechyd yn cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol.

Trothwy sylfaenol

Ar ôl ystyried cynlluniau rhyngwladol tebyg ac ymgysylltu â chymdeithasau masnach, nododd y llywodraeth amgylchiadau penodol efallai y bydd eithriad rhag adrodd rhai taliadau neu fuddion oddi tanynt.

Er mwyn rheoli’r baich busnes ac o ystyried bod taliadau neu fuddion gwerth isel yn annhebygol o greu gwrthdaro, rydym o’r farn ei bod yn briodol pennu isafswm gwerth ar y taliadau y dylid eu datgan. Cyflwynir trothwyon ar gyfer adrodd taliadau yn nhabl 2.

Tabl 2: Trothwyon adrodd taliadau yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc a’r Iseldiroedd

System Trothwy adrodd taliad unigol Trothwy adrodd cyfanredol blynyddol
Yr Unol Daleithiau Sunshine Act $10 $100
Ffrainc Loi (Cyfraith) Bertrand €10 Anhysbys
Cofrestr Tryloywder yr Iseldiroedd € 50 Dim ar hyn o bryd ond € 500 ydoedd yn 2017

Mae Physician Payment Sunshine Act yr Unol Daleithiau yn eithrio trosglwyddiadau gwerth llai na UDA$10, pan nad yw cyfanswm gwerth yr holl daliadau neu’r trosglwyddiadau gwerth a wneir i un derbynnydd dan sylw yn fwy na UDA$100 yn ystod y flwyddyn adrodd.

Rydym yn cynnig mabwysiadu dull tebyg â hyblygrwydd ychwanegol, a phennu trothwy sylfaenol o £50 ar gyfer taliadau unigol os nad yw’r gwerth cyfanredol blynyddol yn fwy na £500 ar gyfer y derbynnydd hwnnw. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i fusnesau adrodd taliadau o hyd pe byddai unrhyw dderbynnydd yn derbyn taliadau a buddion gwerth £500 ac uwch mewn unrhyw flwyddyn adrodd benodol. Mae’r llywodraeth yn credu bod angen cynnwys trothwy cyfanredol blynyddol er mwyn osgoi tanseilio’r ddyletswydd i adrodd drwy rannu taliadau.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau o dan £50 pan nad yw cyfanswm gwerth y taliadau blynyddol yn fwy na £500 ar gyfer y derbynnydd hwnnw.

Pa werth taliad sylfaenol ydych chi’n meddwl y dylid ei eithrio o’r rheoliadau hyn?

  • O dan £10 pan nad yw cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £100
  • O dan £50 pan nad yw cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £500
  • O dan £100 pan nad yw cyfanswm gwerth blynyddol y taliadau yn fwy na £1,000
  • Ddim yn gwybod
  • Arall - nodwch

Ymchwil a datblygu

Mae’r sector gwyddorau bywyd yn hanfodol i iechyd, cyfoeth a chadernid y wlad. Mae datblygiadau yn y gwyddorau bywyd wedi gwella hyd ac ansawdd bywyd yn y DU ac yn fyd-eang. Fel y nodir yn Y Weledigaeth ar gyfer Gwyddorau Bywyd, un o gryfderau’r DU yw’r cyfle i’r sector gydweithredu ag academyddion gorau y DU, y mae llawer ohonynt yn glinigwyr gweithredol, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Gall hyn arwain at ryngweithio masnachol sensitif rhwng busnesau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Felly, gallai gwybodaeth am daliadau neu fuddion a ddarperir ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif. Os byddwn yn mynd rhagom i reoleiddio, mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau o ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif. Rydym yn cynnig diffinio ‘gwybodaeth fasnachol sensitif’ fel gwybodaeth y mae’r busnes yn credu y byddai ei datgelu yn niweidio yn sylweddol fuddiannau busnes cyfreithlon y fenter y mae’n ymwneud â hi. Mae hyn yn debyg i ddiffiniadau a ddarperir yn Neddf Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol 2021.

Er enghraifft, mae cwmni gofal iechyd yn ceisio ehangu ei bortffolio mewn maes therapiwtig newydd ac yn sefydlu perthnasoedd newydd gydag arbenigwyr allweddol yn y maes. Gallai chwaraewyr eraill y farchnad sydd eisoes wedi eu sefydlu yn y maes hwn ddefnyddio gwybodaeth am y perthnasoedd newydd hyn i geisio atal newydd-ddyfodiaid rhag cystadlu â nhw’n effeithiol. Mae cystadleuaeth iach a chymhellion dros arloesi yn hanfodol i sicrhau bod y diwydiant gofal iechyd yn darparu gwerth i gleifion a darparwyr, felly dylai eithriad fod yn berthnasol ar gyfer adrodd gwybodaeth fasnachol sensitif.

Mae’n bwysig nodi y byddai angen datgelu’r taliad o hyd a dim ond i ddatgelu gwybodaeth sensitif y byddai’r eithriad yn berthnasol. Mae’r rhwystr ar gyfer bodloni’r diffiniad hwn yn uchel, gan na fyddai pob cyfuniad o daledig a derbynnydd yn gyfystyr â gwybodaeth fasnachol sensitif (gweler y data y bwriedir eu cyhoeddi yn nhabl 1 uchod). Hefyd, mae cyfuno taliadau bob blwyddyn, a chaniatáu i fusnesau ddarparu rhestr gyflawn o resymau dros daliadau a buddion eisoes yn cyfyngu ar y risg o ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif.

Os yw busnesau yn cymhwyso’r eithriad hwn, byddai’n ofynnol iddynt gyhoeddi eu rhesymeg dros ddefnyddio’r eithriad a datgan yn amlwg ar eu gwefan eu bod wedi ei gymhwyso, heb ddatgelu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif. Dylai hyn ddangos bod busnesau wedi archwilio ffyrdd o ‘ddadsensiteiddio’ yr wybodaeth cyn cymhwyso’r eithriad.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau a allai ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif ar yr amod eu bod yn cyhoeddi eu rhesymeg dros ddefnyddio’r eithriad ac yn datgan eu bod wedi cymhwyso’r eithriad.

Pa rai o’r dewisiadau canlynol ydych chi’n cytuno â nhw, os o gwbl?

  • Rwy’n cytuno â chynnig y llywodraeth—bod eithriadau yn cael eu caniatáu, dylid rhoi’r rhesymeg dros ddefnyddio’r eithriad ar gyfer pob defnydd a dylid gwneud datganiad cyhoeddus bod yr eithriad wedi ei gymhwyso
  • Rwy’n cytuno’n rhannol â chynnig y llywodraeth—dylid caniatáu eithriadau, a dylid cyhoeddi ymwadiad safonol bod yr eithriad wedi ei gymhwyso i rai taliadau
  • Rwy’n anghytuno â chynnig y llywodraeth—yn ddieithriad, dylid adrodd pob taliad
  • Dylid adrodd fersiwn wedi ei golygu o’r taliadau
  • Ddim yn gwybod

Dylid nodi bod rhai gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn darparu grantiau addysgol i amrywiaeth eang o dderbynwyr, gan gynnwys cymdeithasau meddygol, ysbytai a chymdeithasau proffesiynol. Mewn amgylchiadau pan nad yw’r busnes yn gwybod pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol a gafodd gyllid o’r grant, dylai’r busnes adrodd taliadau o’r fath gan enwi’r derbynnydd cyntaf.

Rydym o’r farn na ddylai fod yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion y maent yn eu darparu i ddarparwr gofal iechyd neu berson sy’n cyflawni gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, pan fo’r derbynnydd yn talu am y gwasanaethau neu’r cynhyrchion hynny am bris teg y farchnad. Yn Lloegr, mae ymddiriedolaethau’r GIG yn gwneud gweithgarwch caffael yn dryloyw drwy gyhoeddi pob cyfle tendro y mae gwerth y contract dros £25,000 a manylion cyfanswm gwariant fesul cyflenwr bob mis ar eu gwefannau. Felly, rydym yn credu bod dulliau adrodd priodol yn bodoli ar gyfer gwariant o dan gontract.

Er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian, mae angen cyfrinachedd ar ddarparwyr gofal iechyd i drafod gyda’r diwydiant er mwyn dyfarnu contractau. Gall y trafodaethau hyn arwain at ostyngiadau ar y pris a ddatganwyd yn gyhoeddus ar gyfer meddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol. Rydym yn cynnig na ddylai fod yn ofynnol i fusnesau gyhoeddi gwybodaeth am ostyngiadau a roddir ar brisiau cynhyrchion neu wasanaethau a ddarperir yn rhan o gytundeb contractiol. Mae prisio meddyginiaethau yn gymhleth ac, oherwydd amrywiaeth o gytundebau masnachol, gallai’r pris net y mae’r GIG yn ei dalu am feddyginiaeth fod yn sylweddol is na’i bris rhestr gyhoeddus.

Ni fyddai’r eithriad hwn yn berthnasol i gontractau â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ein bod yn credu y bydd tryloywder gwasanaethau ymgynghori a ddarperir gan glinigwyr i fusnesau, er enghraifft, yn hanfodol i gyflawni’r amcanion polisi. Mae Disclosure UK eisoes yn darparu gwybodaeth am ffioedd gwasanaethau dan gontract ac rydym yn rhagweld y byddai darpariaethau tebyg yn ffurfio rhan o’r rheoliadau.

Cwestiwn

Mae’r llywodraeth yn cynnig eithrio busnesau rhag adrodd taliadau a buddion a wneir o dan rwymedigaethau contractiol pan fo sefydliad y darparwyr gofal iechyd yn talu pris teg y farchnad i’r busnes, gan gynnwys gostyngiadau ar brisiau sy’n bodloni’r meini prawf hyn.

A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig hwn?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn gwybod

Effeithiau a monitro

Effaith adrodd gorfodol ar y diwydiant

Rydym o’r farn y byddai’r cynigion a amlinellir yn cydbwyso adroddiadau taliadau cyson a wneir gan fusnesau fferyllol a dyfeisiau meddygol i’r sector gofal iechyd o’u cymharu â’r baich gweinyddol ar fusnesau. Byddem yn croesawu safbwyntiau gan y diwydiant er mwyn deall yn well yr effaith y byddai’r rheoliadau newydd arfaethedig yn ei chael ar fusnesau.

Cwestiwn

A ydych chi’n meddwl y dylai busnesau bach a micro gael eu heithrio rhag y ddyletswydd?

  • Ydw, eithrio busnesau bach (hyd at 50 o gyflogeion)
  • Ydw, eithrio microfusnesau (hyd at 10 o gyflogeion) yn unig
  • Nac ydw, peidiwch ag eithrio busnesau ar sail maint
  • Ddim yn gwybod

Os ateboch chi ‘ydw’, eglurwch pam yr ydych chi’n credu y dylai busnesau bach a/neu ficro gael eu heithrio (hyd at 250 o eiriau).

Os ateboch chi ‘nac ydw’, eglurwch pam yr ydych chi’n credu na ddylai busnesau bach a/neu ficro gael eu heithrio (hyd at 250 o eiriau).

Cwestiwn

Faint o amser a chost ydych chi’n disgwyl ei dreulio/talu wrth sefydlu neu ymuno â chynllun adrodd trydydd parti arall?

Rhowch amcangyfrif fesul y mathau o gost yr ydych yn eu disgwyl, er enghraifft gosod TG (hyd at 500 o eiriau).

Cwestiwn

Faint o amser a chost (ychwanegol) ydych chi’n disgwyl ei dreulio/talu bob blwyddyn i ddatgan taliadau, gan gynnwys casglu, adolygu a chyhoeddi’r wybodaeth?

Rhowch amcangyfrif.

Cwestiwn

Os ydynt ar gael, faint o daliadau perthnasol ydych chi’n disgwyl eu gwneud bob blwyddyn?

Rhowch amcangyfrif.

Cwestiwn

A oes unrhyw faterion neu sylwadaethau eraill yr hoffech roi sylwadau arnynt? (Hyd at 500 o eiriau)

Gwireddu manteision cynigion

Mae’r llywodraeth yn credu y gallai adrodd gorfodol ar wybodaeth am daliadau a buddion eraill a ddarperir gan fusnesau i ddarparwyr gofal iechyd helpu i leihau’r risgiau o wrthdaro buddiannau, gan gadw effeithiau cadarnhaol perthnasoedd y diwydiant neu ddarparwyr gofal iechyd.

Byddem yn croesawu safbwyntiau ar ba mor effeithiol y byddai adrodd gorfodol yn cyflawni’r amcanion a fwriedir: galluogi cleifion i ymddiriedaeth yn fwy mewn sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a helpu i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn parhau i wneud penderfyniadau diduedd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth am ofal cleifion. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i archwilio pob dewis i gyflawni’r polisi hwn.

Cwestiwn

Gan feddwl am y cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn, a oes unrhyw ddewisiadau eraill ar gyfer adrodd taliadau y dylai’r llywodraeth eu harchwilio a fyddai’n cyflawni nodau tebyg? Cewch ddewis cynifer o’r opsiynau isod ag y dymunwch.

  • Cydymffurfio gwirfoddol â chanllawiau a gyhoeddir gan y llywodraeth
  • Cyhoeddi gwybodaeth y mae’n ofynnol ei chadw ar hyn o bryd gan unrhyw gymdeithas fasnach yr ydych yn aelod ohoni, yn wirfoddol
  • Arall

Os gwnaethoch ateb ‘Arall’, rhowch fwy o wybodaeth (hyd at 500 o eiriau).

Cwestiwn

Rhowch fanylion unrhyw systemau adrodd presennol yn y DU a allai arwain at ddyblygu pe byddai’r ddyletswydd newydd hon yn cael ei chyflwyno.

Gallai hyn fod yn adrodd yn wirfoddol neu’n orfodol, y diwydiant neu’n swyddogol, ac eithrio gofynion tramor (hyd at 500 o eiriau).

Cwestiwn

A ydych chi’n credu y bydd y cynigion yn newid perthnasoedd cleifion â’u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Os ydych, sut ydych chi’n meddwl y byddai’r cynigion hyn yn newid perthnasoedd cleifion â darparwyr gofal iechyd?

  • Rwy’n credu y byddant yn gwella’r berthynas
  • Rwy’n credu y byddant yn niweidiol i’r berthynas

Cwestiwn

A ydych chi’n credu y byddai’r cynigion hyn yn cynyddu penderfyniadau diduedd gan sefydliadau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

A fyddech chi’n cael gafael ar yr wybodaeth gyhoeddedig ac yn ei defnyddio i wneud penderfyniadau ar eich gofal iechyd?

  • Byddwn
  • Na fyddwn
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

Pe byddai’r wybodaeth gyhoeddedig hon wedi bod ar gael i chi yn y gorffennol, a fyddech wedi ei defnyddio?

  • Byddwn
  • Na fyddwn
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn

Gan fyfyrio ar yr atebion a roddwyd gennych i’n cynigion, rhannwch unrhyw syniadau a gwybodaeth bellach i’n helpu i ddeall eich safbwyntiau, yn enwedig pan rydych yn anghytuno â chynigion (hyd at 250 o eiriau).

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad yn agored am chwe wythnos, a bydd yn cau am 11:59pm ar 16 Tachwedd 2023. Croesawn ymatebion gan unrhyw berson, busnes neu sefydliad sydd â diddordeb.

Y ffordd hawsaf o ymateb yw drwy gwblhau’r arolwg ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, e-bostiwch industry-reporting-consultation@dhsc.gov.uk. Peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth bersonol at y cyfeiriad e-bost hwn.

Atodiad A: diffiniadau cyfreithiol

Meddyginiaethau (cynhyrchion meddyginiaethol)

Diffinnir meddyginiaethau (cynhyrchion meddyginiaethol) yn rheoliad 3(12) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 fel a ganlyn.

Yn y rheoliadau hyn, mae ‘medicinal product’ (cynnyrch meddyginiaethol) yn golygu naill ai:

  • unrhyw sylwedd neu gyfuniad o sylweddau a gyflwynir fel rhai sydd â nodweddion atal neu drin clefydau mewn bodau dynol
  • unrhyw sylwedd neu gyfuniad o sylweddau y gellid eu defnyddio gan fodau dynol, neu eu rhoi iddynt, gyda’r bwriad o:
    • adfer, cywiro neu addasu swyddogaeth ffisiolegol drwy weithredu ffarmacolegol, imiwnolegol neu fetabolaidd
    • gwneud diagnosis meddygol

Nid yw’r rheoliadau hyn yn berthnasol i:

  • waed dynol cyfan
  • unrhyw elfen gwaed dynol, ac eithrio plasma a baratoir gan ddull sy’n cynnwys proses ddiwydiannol

Dyfeisiau meddygol

Diffinnir dyfeisiau meddygol yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol y DU 2002 (fel y’u diwygiwyd), fel a ganlyn.

Mae ‘medical device’ (dyfais feddygol) yn golygu offeryn, cyfarpar, deunydd neu erthygl arall, p’un a yw’n cael ei defnyddio ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad, ynghyd ag unrhyw feddalwedd sy’n angenrheidiol i’w cymhwyso’n briodol:

  • y mae’r gwneuthurwr yn bwriadu iddi gael ei defnyddio ar gyfer bodau dynol at ddibenion:
    • diagnosis, atal, monitro, triniaeth neu leddfu clefyd
    • diagnosis, monitro, triniaeth, lleddfu neu wneud iawn am anaf neu anfantais
    • ymchwilio, amnewid neu addasu’r anatomi neu broses ffisiolegol
    • rheoli cenhedlu
  • nad yw’n cyflawni ei phrif weithred arfaethedig yn y corff dynol neu arno drwy ddulliau ffarmacolegol, imiwnolegol neu fetabolaidd, hyd yn oed os caiff ei chynorthwyo yn ei swyddogaeth drwy ddulliau o’r fath, ac mae’n cynnwys dyfeisiau y bwriedir iddynt roi cynnyrch meddyginiaethol neu sy’n ymgorffori fel rhan annatod sylwedd a fyddai, pe byddai’n cael ei ddefnyddio ar wahân, yn gynnyrch meddyginiaethol ac sy’n debygol o weithredu ar y corff gan gynorthwyo gweithrediad y ddyfais

Sylweddau ffiniol

Diffinnir sylweddau ffiniol yn rhan 16 o’r Tariff Cyffuriau ac adran 22(4) o Reoliadau Cynnyrch y Gwasanaeth Iechyd (Darparu a Datgelu Gwybodaeth) 2018 fel a ganlyn.

Rhestrir bwyd neu gynnyrch dermatolegol mewn Tariff Cyffuriau os yw’r bwyd neu’r cynnyrch wedi ei restru:

Nid yw Tariff Cyffuriau yr Alban yn diffinio sylweddau ffiniol ond gellir dod o hyd i’r cynhyrchion y gellir eu rhagnodi o’r math hwn yn rhannau XII a XVI.

Atodiad B: hysbysiad preifatrwydd

Yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2023, bydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn am safbwyntiau unigolion a sefydliadau drwy ymgynghoriad cyhoeddus, i lywio rheoliadau newydd ar gyfer gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i adrodd taliadau a wneir i ddarparwyr gofal iechyd. Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd data a gesglir drwy’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio a hawliau ymatebwyr o dan Erthyglau 13 neu 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).

Rheolwr data

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r rheolwr data.

Pa ddata personol ydym ni’n eu casglu

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad drwy ein harolwg cyhoeddus y gellir ei gwblhau ar-lein a’i gyflwyno drwy e-bost.

Byddwn yn casglu data ar yr hyn a ganlyn:

  • a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad.
  • eich galwedigaeth
  • eich enw ac enw eich sefydliad
  • y wlad a’r rhanbarth yr ydych chi’n byw ynddi, neu le yn y DU y mae eich sefydliad yn darparu gwasanaethau
  • (os ydych yn ymateb ar-lein) eich cyfeiriad protocol rhyngrwyd (at ddibenion diogelwch y mae hyn ac ni fydd ynghlwm wrth eich ymateb i’r arolwg)

Os ydych chi’n gwirfoddoli, byddwn hefyd yn casglu data am:

eich cyfeiriad e-bost (os ydych yn cwblhau arolwg papur ac yn ei gyflwyno drwy e-bost, neu os ydych yn ymateb ar ran sefydliad ac yn cadarnhau y caiff yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol gysylltu â chi ynglŷn â’ch ymateb) - unrhyw ddata personol arall yr ydych chi’n eu gwirfoddoli drwy dystiolaeth neu enghraifft yn eich ymateb i gwestiynau penagored yn yr arolwg

Sut yr ydym ni’n defnyddio eich data (dibenion)

Bydd eich data yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.

Rydym yn casglu eich data personol yn rhan o’r broses ymgynghori:

  • at ddibenion ystadegol, er enghraifft, i ddeall pa mor gynrychioliadol yw’r canlyniadau ac a yw safbwyntiau a phrofiadau yn amrywio ar draws demograffig
  • fel y gall yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth am eich ymateb (os ydych yn ymateb ar ran sefydliad ac wedi rhoi eich caniatâd)

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd, neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd.

Proseswyr data a derbynwyr eraill data personol

Bydd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu gweld gan:

  • ddadansoddwyr proffesiynol ac arweinwyr polisi sy’n gweithio ar y rheoliadau newydd ar gyfer gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol i adrodd taliadau i ddarparwyr gofal iechyd (neu feysydd sy’n gorgyffwrdd) yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • cyflenwr trydydd parti yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (SurveyOptic), sy’n gyfrifol am redeg a chynnal yr arolwg ar-lein

Ni fydd unrhyw ddata personol adnabyddadwy yn cael eu rhannu.

Hefyd, gallai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol rannu eich ymatebion, mewn modd dienw, ag:

  • unigolion sy’n cefnogi’r prosiect hwn yn asiantaethau gweithredol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyrff cyhoeddus gweithredol anadrannol megis GIG Lloegr
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • ymchwilwyr allanol os oes angen cymorth ychwanegol i ddadansoddi’r ymatebion a gafwyd

Trosglwyddiadau data rhyngwladol a lleoliadau storio

Storir data gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy seilwaith cyfrifiadurol diogel ar weinyddion a leolir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Mae ein rhaglenni yn ddarostyngedig i fesurau diogelwch ac amgryptio helaeth.

Storio data gan SurveyOptic trwy weinyddion diogel a leolir yn y DU.

Polisi Cadw a gwaredu

Bydd data personol yn cael eu cadw gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am o leiaf blwyddyn ac uchafswm o dair blynedd.

Bydd SurveyOptic yn dileu yn ddiogel y data a gedwir ar ei system bum mlynedd ar ôl i’r arolwg ymgynghori ar-lein ddod i ben, neu pan fo’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarwyddo i wneud hynny os yw’r data wedi cyflawni eu pwrpas arfaethedig (pa un bynnag sy’n digwydd yn gyntaf).

Adolygir y trefniadau cadw data yn flynyddol. Caniateir cadw data dienw am gyfnod amhenodol.

Sut yr ydym yn cadw eich data’n ddiogel

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn defnyddio mesurau diogelwch technegol, sefydliadol a gweinyddol priodol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn ein cofnodion rhag colled, camddefnyddio, mynediad heb awdurdod, datgelu, newid a dinistrio. Rydym wedi ysgrifennu gweithdrefnau a pholisïau sy’n cael eu harchwilio a’u hadolygu’n rheolaidd ar lefel uwch.

Mae SurveyOptic wedi ei ardystio gan Cyber Essentials.

Eich hawliau fel testun data

Yn ôl y gyfraith, mae gennych hawliau fel testun data. Mae eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol.

Dyma’r hawliau hyn:

  • yr hawl i gael copïau o wybodaeth—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth amdanynt a ddefnyddir
  • yr hawl i gywiro gwybodaeth—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanynt sy’n anghywir yn eu barn nhw gael ei chywiro
  • yr hawl i gyfyngu ar sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gyfyngu ar unrhyw ran o’r wybodaeth a gedwir amdanynt, er enghraifft, os ydynt yn credu bod gwybodaeth anghywir yn cael ei defnyddio
  • yr hawl i wrthwynebu’r wybodaeth a ddefnyddir—caiff unigolion ofyn am i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanynt beidio â chael ei defnyddio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth, gan roi gwybod i’r unigolion os yw hyn yn wir.
  • yr hawl i ddileu gwybodaeth—nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth, gan roi gwybod i’r unigolion os yw hyn yn wir.

Sylwadau neu gwynion

Dylai unrhyw un sy’n anhapus neu sy’n dymuno cwyno am sut mae data personol yn cael eu defnyddio yn rhan o’r rhaglen hon gysylltu yn y lle cyntaf â data_protection@dhsc.gov.uk neu ysgrifennu at:

Swyddog Diogelu Data
1st Floor North
39 Victoria Street
Llundain
SW1H 0EU

Caiff unrhyw un sy’n dal i fod yn anfodlon wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu ysgrifennu i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomataidd

Ni wneir unrhyw benderfyniad am unigolion gan ddefnyddio penderfyniadau awtomataidd yn unig (pan wneir penderfyniad amdanynt gan ddefnyddio system electronig heb gyfranogiad dynol) sy’n cael effaith sylweddol arnynt.

Newidiadau i’r polisi hwn

Adolygir yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd, a bydd fersiynau newydd ar gael ar ein tudalen hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 4 Medi 2023.