Consultation outcome

Ymgynghoriad mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus

Updated 8 December 2022

1. Cyd-destun

Mae digwyddiadau brawychus 2021, yn gwbl briodol, wedi dod â thrais yn erbyn menywod a merched i flaen y gad o ran sylw’r cyhoedd. Denodd y Cais am Dystiolaeth ar gyfer Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched y Llywodraeth dros 180,000 o ymatebion, ffigur rhyfeddol ar gyfer ymgynghoriad gan y llywodraeth. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain gan fenywod unigol, yn aml iawn yn disgrifio eu profiadau eu hunain o gam-drin domestig a threisio. Ond roeddent hefyd yn cynnwys profiadau eraill a oedd yn ddirdynnol i’r menywod dan sylw; profiadau y mae’n gwbl annerbyniol i fenyw eu profi. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, cael eich cam-drin yn eiriol neu weiddi arnoch yn y stryd, cael eich dilyn, derbyn ystumiau anweddus, neu gael eich cyffwrdd gan ddieithryn. Gelwir y rhain yn aml yn ‘aflonyddu rhywiol cyhoeddus’, neu ‘aflonyddu ar y stryd’.

Yn yr arolwg cenedlaethol cynrychioliadol o 2,000 o bobl a oedd yn rhan o’r Cais am Dystiolaeth, teimlai 44% o’r ymatebwyr fod aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn digwydd yn amlach yng Nghymru a Lloegr na phum mlynedd ynghynt (gan gynnwys 18% a oedd yn teimlo ei fod yn digwydd llawer mwy aml) o gymharu â 10% a deimlai ei fod yn digwydd llai a 35% a deimlai na fu unrhyw newid.

Ym mis Mai 2022 cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ystadegau yn ymwneud â chanfyddiadau o ddiogelwch a phrofiadau o aflonyddu, yn seiliedig ar yr Arolwg Barn ar Farnau a Ffordd o Fyw a gynhaliwyd rhwng 16 Chwefror a 13 Mawrth 2022.[footnote 1] Canfu:

  • Roedd un o bob dwy fenyw ac un o bob chwe dyn yn teimlo’n anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn stryd dawel ger eu cartref.

  • Roedd 45% o fenywod a 18% o ddynion yn teimlo’n anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn man cyhoeddus prysur.

  • Roedd 82% o fenywod a 42% o ddynion yn teimlo’n anniogel yn cerdded ar eu pen eu hunain ar ôl iddi dywyllu mewn parc neu fan agored arall.

  • Roedd un o bob dwy fenyw rhwng 16 a 34 oed wedi profi un math o aflonyddu yn ystod y 12 mis blaenorol, gyda 38% o fenywod rhwng 16 a 34 oed wedi profi galwadau ffôn, chwibanau, sylwadau rhywiol neu jôcs digroeso, a 25% wedi teimlo eu bod wedi cael eu dilyn.

  • Roedd 54% o bobl a ddywedodd eu bod yn teimlo’n anniogel yn ystod y dydd, a 46% a ddywedodd eu bod yn teimlo’n anniogel ar ôl iddi dywyllu, wedi newid eu hymddygiad, o ganlyniad, yn ystod y mis blaenorol.

Mae’r ffigurau hyn yn syfrdanol. Ac eto ni all niferoedd yn unig gyfleu’r ofn y mae menyw yn debygol o’i deimlo pan yw hi’n cael ei cham-drin yn eiriol yn y stryd neu’n cael ei dilyn ar noson dywyll. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a mwy, mae menywod o bob cefndir wedi teimlo eu bod wedi’u grymuso i rannu sut mae’r profiadau hyn wedi teimlo iddynt a sut maent wedi effeithio ar eu bywydau. Mae’r ymateb hwn gan gymdeithas gyfan yn arwain at newid cymdeithasol gwirioneddol, y mae’r llywodraeth yn chwarae ei rhan lawn ynddo.

2. Camau anneddfwriaethol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus

Fe wnaethom gyhoeddi’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched ym mis Gorffennaf 2021[footnote 2], a ddilynwyd gan y Cynllun Cam-drin Domestig cyflenwol ym mis Mawrth 2022[footnote 3].Nod y rhain yw sicrhau newidiadau mawr yn ymateb cymdeithas i drais yn erbyn menywod a merched, drwy fynd ar ôl y drwgweithredwyr, cefnogi dioddefwyr, blaenoriaethu atal a chryfhau’r system sylfaenol. Maent yn cydnabod na ellir gweld aflonyddu rhywiol cyhoeddus ar ei ben ei hun, a thrwy gamau gweithredu fel ein buddsoddiad mewn ymchwil i’r hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ein cymorth i athrawon gyflwyno’r cwricwlwm Perthnasoedd, Rhyw ac Iechyd, a’n cefnogaeth i benodi’r Dirprwy Brif Gwnstabl Maggie Blyth fel yr Arweinydd Heddlu Cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, ein nod yw mynd i’r afael â’r ystod gyfan o droseddau trais yn erbyn menywod a merched.

Nodyn ar derminoleg: Mae’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’ yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gamdriniaeth y gwyddom sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae troseddau ac ymddygiad a gwmpesir gan y term hwn yn cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, cam-drin domestig, stelcian, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ (gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, a lladd ar sail ‘anrhydedd’), yn ogystal â llawer o rai eraill, gan gynnwys troseddau a gyflawnir ar-lein. Er ein bod yn defnyddio’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’, mae hyn bob amser yn cyfeirio at holl ddioddefwyr unrhyw un o’r troseddau hyn.

Ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen camau gweithredu cadarn penodol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Ers cyhoeddi’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched mae’r Llywodraeth wedi cymryd sawl cam i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus:

  • Ym mis Medi 2021, lansiwyd offeryn peilot gennym, StreetSafe[footnote 4], sy’n galluogi’r cyhoedd i roi gwybod yn ddienw am feysydd lle maent yn teimlo’n anniogel, fel y gall awdurdodau lleol a’r heddlu gymryd camau ymarferol mewn ymateb, megis teledu cylch cyfyng a goleuadau stryd gwell, yn ogystal â defnyddio mwy o bresenoldeb heddlu. Mae oddeutu 19,000 o adroddiadau wedi’u gwneud hyd yma, sydd wedi galluogi’r heddlu i wneud mwy o batrolau wedi’u targedu, cynyddu eu presenoldeb a nodi poethfannau newydd.

  • Ym mis Hydref 2021, fe wnaethom gyhoeddi dyfarniadau o £23.5 miliwn i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol o dan Rownd 3 o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel[footnote 5], i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i bawb drwy brosiectau i helpu menywod a merched i deimlo’n fwy diogel ar y strydoedd. Roedd y rhan fwyaf o’r prosiectau’n ymwneud â gweithgarwch i atal troseddu megis mwy o wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng, yn ogystal â newid agweddau tuag at drais yn erbyn menywod a merched. Er enghraifft, roedd y prosiect Strydoedd Mwy Diogel gwerth £550,000 yn Sussex yn cynnwys ymgyrch gyda’r arwyddair “Gwnewch y Peth Iawn”, a oedd yn ceisio herio ymddygiad amhriodol ar ran rhai dynion.

  • Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom gyhoeddi canlyniadau ein cronfa Diogelwch Menywod yn y Nos gwerth £5 miliwn ar wahân [footnote 6]. Dyfarnwyd cyllid i 22 o brosiectau i gyflawni mentrau a gynlluniwyd i wella diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus gyda’r nos, gan gynnwys yn economi’r nos. Er enghraifft, fe wnaethom ariannu Awdurdod Cyfunol Gorllewin Swydd Efrog i lansio ymgyrch Diogelwch Trên i hyrwyddo mynediad i ddolen ar-lein gyda gwybodaeth diogelwch ar gyfer defnyddwyr cludiant cyhoeddus, megis olrhain bysiau, fel nad oes angen sefyll wrth safle bws yn unig mwyach wrth aros am fws gohiriedig.

  • Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Coleg Plismona becyn cymorth newydd, hygyrch i swyddogion yr heddlu[footnote 7], yn eu cynghori am y troseddau, y gorchmynion sifil a strategaethau ataliol eraill y gallant eu defnyddio mewn perthynas â gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

  • Ym mis Mawrth 2022, lansiwyd ein hymgyrch gyfathrebu ‘Digon’ ledled Cymru a Lloegr. Nod yr ymgyrch yw targedu a herio’r ymddygiadau niweidiol sy’n bodoli o fewn y gymdeithas ehangach, addysgu pobl ifanc am berthnasoedd iach a chydsyniad, a sicrhau bod dioddefwyr yn gallu adnabod camdriniaeth a derbyn cefnogaeth. Mae’r ymgyrch yn ceisio grymuso gwylwyr i ymyrryd yn ddiogel, i annog cyflawnwyr i gwestiynu eu hymddygiad eu hunain, ac i annog dioddefwyr i geisio cefnogaeth. Mae wedi rhedeg ar draws teledu, hysbysfyrddau, cyfryngau cymdeithasol, radio a gwefan. Er ei fod wedi ymdrin ag ystod o niwed yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, mae aflonyddu rhywiol cyhoeddus wedi bod yn un o’i brif feysydd ffocws, ac roedd rhan gyntaf yr hysbyseb deledu’n portreadu dyn ifanc yn aflonyddu ar fenyw ifanc mewn man cyhoeddus, a chael ei herio am ei ymddygiad gan ei ffrindiau. Mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod yr ymgyrch yn sicrhau’r effaith a ddymunir gyda chynulleidfaoedd targed.

  • Ym mis Mawrth 2022, lansiwyd Rownd 4 o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel[footnote 8], sydd yn cyfuno ac yn ehangu ar rowndiau blaenorol o gyllid Strydoedd Mwy Diogel a Diogelwch Menywod yn y Nos, gan dargedu troseddau cymdogaeth a thrais yn erbyn menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â chynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol fel prif ffocws am y tro cyntaf.

  • Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi diweddariadau cyn bo hir i’w ganllawiau cyfreithiol ar droseddau trefn gyhoeddus i’w gwneud yn glir i erlynyddion sut y gellir defnyddio troseddau trefn gyhoeddus i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Rydym yn credu, gyda’i gilydd, y bydd y camau niferus hyn yn lleihau nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, yn cefnogi’r heddlu ac erlynyddion i fynd i’r afael ag ef lle mae’n digwydd, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o fenywod a merched.

3. Y posibilrwydd o dramgwydd troseddol newydd

Rydym yn cydnabod, serch hynny, yr hoffai llawer o bobl i ni fynd ymhellach, gyda llawer o bobl yn awgrymu y dylai’r Llywodraeth greu trosedd newydd sy’n targedu aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn benodol. Yn y Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, fe wnaethom gadarnhau ein bod yn edrych yn ofalus i weld lle y gallai fod bylchau yn y gyfraith bresennol a sut y gallai trosedd benodol ar gyfer aflonyddu rhywiol cyhoeddus fynd i’r afael â’r rheini. Nododd y strategaeth fod hwn yn faes cymhleth, a’i bod yn bwysig i ni gymryd yr amser i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth bosibl yn gymesur ac wedi’i diffinio’n rhesymol. (Mae angen i ni hefyd sicrhau, wrth greu unrhyw drosedd, ei fod yn cael ei ddrafftio fel y gellir ei orfodi. Mae angen i unrhyw dramgwydd troseddol newydd alluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i fynd i’r afael â’r ymddygiad hwn, yn hytrach na chreu dryswch neu feichiau tystiolaethol ychwanegol i ymchwilwyr ac erlynwyr.)

Rydym hefyd wedi rhoi sylw manwl i sylwadau Comisiwn y Gyfraith yn ei adroddiad ar ddeddfau troseddau casineb ym mis Rhagfyr 2021[footnote 9]. Dywedodd yr adroddiad ei bod yn werth ystyried a allai trosedd aflonyddu rhywiol cyhoeddus bwrpasol gynrychioli ymateb wedi’i dargedu’n well i aflonyddu rhywiol cyhoeddus na deddfwriaeth troseddau casineb (testun ei adroddiad). Nododd Comisiwn y Gyfraith fod trosedd o’r fath yn mynd y tu hwnt i’w gylch gorchwyl, ac felly, nad oedd wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r mater nac wedi ymgynghori ar ei gwmpas posibl. Argymhellodd yr adroddiad felly fod y Llywodraeth yn cynnal adolygiad o’r angen am drosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a pha ffurf y dylai unrhyw drosedd o’r fath fod arni.

Nodyn: rydym yn cyfeirio drwy gydol yr ymgynghoriad hwn at aflonyddu rhywiol cyhoeddus a brofir gan fenywod a merched. Mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn fenywod. Ond gall dynion a bechgyn fod yn ddioddefwyr hefyd. Nid yw’r troseddau drafft yr ydym yn eu cynnwys yn rhyw-benodol a gellid eu defnyddio i amddiffyn menywod a dynion. Rydym yn croesawu’n fawr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn gan ddynion a bechgyn, yn ogystal â chan fenywod a merched.

4. Deddfwriaeth bresennol

Mae troseddau presennol y gellir eu defnyddio mewn achosion o aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Mae trosedd aflonyddu eisoes yn bodoli o dan adran 2 o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 (Deddf 1997). Gall person sy’n dilyn cwrs o ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu ar berson arall, ac y mae’n gwybod neu y dylai wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu, wynebu hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy amhenodol. Mae Deddf 1997 yn datgan bod aflonyddu ar berson yn cynnwys eu dychryn neu achosi gofid iddynt. Mae hefyd yn nodi bod cwrs ymddygiad naill ai’n gwneud rhywbeth mwy nag unwaith tuag at un person arall neu’n gwneud rhywbeth o leiaf unwaith tuag at fwy nag un person arall.

Creodd Adran 4 o Ddeddf 1997 drosedd o roi rhywun mewn ofn trais. Mae’n darparu bod person y mae ei ymddygiad yn peri i berson arall ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn, yn euog o drosedd os yw’n gwybod neu y dylai wybod y bydd ei ymddygiad yn achosi i’r person arall ofni’r canlyniad hwnnw ar bob un o’r achlysuron hynny. Gall person a geir yn euog o’r drosedd hon wynebu hyd at ddeng mlynedd yn y carchar.

Mae hyn yn golygu, yn y ddau achos, nad yw un weithred a gyfeirir at berson sengl wedi’i chynnwys yn y drosedd. Mae’r un peth yn wir am y ddwy drosedd stelcio ar wahân a grëwyd gan Ddeddf 1997.

Creodd Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 (Deddf 1986) dair trosedd sy’n berthnasol yma ac y gellir eu defnyddio i fynd i’r afael â gweithredoedd sengl:

  • Mae Adran 4 – ofni neu gythruddo trais – yn berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus tuag at berson arall (neu’n dosbarthu neu’n arddangos cynrychiolaeth weladwy iddynt gyda’r un effaith) sy’n fygythiol, difrïol neu sarhaus, a lle:

    • mae’r diffynnydd yn bwriadu i’r achwynydd gredu y bydd trais anghyfreithlon uniongyrchol yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn ef neu rywun arall, neu’n bwriadu ysgogi trais gan yr achwynydd neu rywun arall; neu

    • mae’r achwynydd yn debygol o gredu y bydd trais o’r fath yn cael ei ddefnyddio neu ei ysgogi yn y modd hwn.

  • Mae Adran 4A – aflonyddu, braw neu ofid bwriadol – yn berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus tuag at berson arall (neu’n dangos cynrychiolaeth weladwy iddynt gyda’r un effaith), lle mai bwriad y diffynnydd yw achosi aflonyddwch, dychryn neu ofid i’r achwynydd, a dyna yn wir yr effaith a gynhyrchir.

Gall person a geir yn euog o dan adran 4 neu 4A o Ddeddf 1986 wynebu hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy ddiderfyn.

  • Adran 5 – aflonyddu, braw neu ofid – yn berthnasol pan yw person yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu sarhaus, neu ymddygiad afreolus (neu’n dangos cynrychiolaeth weledol gyda’r un effaith) o fewn clyw neu olwg person sy’n debygol y caiff aflonyddu, braw neu ofid ei achosi iddo o ganlyniad.

Gall person a geir yn euog o dan adran 5 wynebu dirwy o hyd at £1,000.

Mae’r Llywodraeth o’r farn bod amrywiaeth o fathau o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus a allai gael eu dal gan y troseddau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys syllu’n barhaus ar rywun, cornelu neu ynysu rhywun, gwneud ystumiau neu sylwadau anweddus ar berson, neu eu dilyn mewn cerbyd. Pan luniwyd Deddf 1986 nid dyma’r mathau o ymddygiad y rhagwelwyd y byddai’n eu cynnwys. Ond os yw telerau Deddf yn cwmpasu ymddygiad penodol, nid yw’r ffaith bod rhesymau eraill dros greu’r Ddeddf yn atal ei defnyddio ar gyfer yr ymddygiad hwnnw. Mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir ei defnyddio – yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos – ar gyfer yr arferion hyn, ac mae’r CPS yn glir y gellir defnyddio Deddf 1986 i erlyn ymddygiad o’r fath.

Gellir defnyddio troseddau eraill – eto, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol yr achos – i fynd i’r afael â mathau eraill o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus:

  • Mae Adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 – ymosodiad rhywiol – yn ymdrin â sefyllfaoedd lle mae person yn cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol mewn ffordd rywiol, lle nad yw’r achwynydd yn cydsynio i gael ei gyffwrdd ac nad yw’r diffynnydd yn credu’n rhesymol bod yr achwynydd yn cydsynio. Gall person a geir yn euog o ymosodiad rhywiol gael ei ddedfrydu i uchafswm o ddeng mlynedd yn y carchar. Gellir defnyddio’r drosedd hon mewn perthynas â mathau o aflonyddu rhywiol cyhoeddus lle mae cyswllt corfforol yn gysylltiedig, megis ‘byseddu’.

  • Mae Adran 66 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 – dinoethi – yn ymdrin â sefyllfaoedd lle mae person yn dinoethi ei organau cenhedlu’n fwriadol, gyda’r bwriad y bydd rhywun yn eu gweld ac y caiff braw neu ofid ei achosi. Gall person a geir yn euog o hyn gael ei ddedfrydu i uchafswm o ddwy flynedd yn y carchar.

  • Gellir defnyddio adran 39 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, sy’n cwmpasu’r drosedd cyfraith gwlad o guro, hefyd mewn perthynas ag ymddygiad sy’n cynnwys rhywfaint o gyswllt corfforol. Nid oes angen i’r cyswllt corfforol fod yn rhywiol.

5. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn

Barn y Llywodraeth felly yw bod ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus eisoes wedi’i gwmpasu gan droseddau presennol (yn amodol ar amgylchiadau unigol yr achos). Gwyddom fod gan eraill farn wahanol, ac rydym yn parchu hynny. Ni fyddai’r Llywodraeth yn ceisio creu trosedd newydd pe byddai’n creu gorgyffwrdd â throseddau newydd (oherwydd, er enghraifft, byddai hyn yn creu ansicrwydd a gwaith ychwanegol i’r heddlu ac erlynwyr). Yn seiliedig ar ein dadansoddiad ein hunain bod ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus eisoes wedi’i gwmpasu gan droseddau presennol, ni allem felly gynnig creu trosedd hollol newydd.

Fodd bynnag, mae opsiwn o ychwanegu at drosedd sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu un newydd. Byddai’n bosibl darparu, os yw person yn cyflawni trosedd sy’n bodoli eisoes ac yn gwneud hynny ar sail rhyw yr achwynydd, yna gallent dderbyn dedfryd uwch na phe bai wedi cyflawni’r drosedd heb y cymhelliant hwnnw. Byddai hyn yn osgoi’r problemau sy’n codi gyda throseddau sy’n gorgyffwrdd. Rydym yn cyflwyno dau fodel posibl o drosedd o’r fath yn yr ymgynghoriad hwn.

Fodd bynnag, nid yw’r Llywodraeth wedi penderfynu a ddylai fod trosedd newydd o’r fath. Er y gallai ateb deddfwriaethol fod yn bosibl, nid yw o reidrwydd yn golygu mai dyna’r llwybr polisi cywir. Mae’n bosibl bod troseddau presennol (gan gynnwys sicrhau bod yr heddlu’n gwbl hyderus i’w defnyddio) a mesurau anneddfwriaethol yn ffordd well o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus, ac er, fel y nodwyd yn gynharach, rydym wedi cymryd sawl cam anneddfwriaethol, efallai fod rhai eraill y gallem eu cymryd hefyd.

Felly, yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ymgynghori ar y materion dilynol:

  • Yr egwyddor a ddylid cael deddf newydd sy’n ymdrin yn benodol ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus;

  • Pe bai deddf newydd o’r fath, ai un o’r ddau opsiwn a nodwyd gennym fyddai’r model cywir ar ei chyfer; ac

  • A oes unrhyw gamau anneddfwriaethol ychwanegol y dylai’r Llywodraeth eu cymryd (naill ai’n ychwanegol at drosedd newydd neu yn ei lle).

Rydym yn cynnwys y ddau opsiwn ar gyfer trosedd newydd posibl am ddau reswm. Yn gyntaf, rydym yn credu y bydd dangos sut y gallai trosedd newydd edrych yn helpu i wneud y materion egwyddor yn gliriach i ymatebwyr ac y gallai helpu ymatebwyr i wneud y sylwadau mwyaf gwybodus. Yn ail, ni fyddai’n gwneud synnwyr i gynnal dau ymarfer ymgynghori – un ar yr egwyddor o drosedd newydd, a’r ail ar ei natur. Os yw’r Llywodraeth, yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad, yn bwriadu creu trosedd newydd, yna bydd ganddi ymatebion eisoes i helpu i lywio ei phenderfyniad ar sut olwg fyddai ar y drosedd newydd honno. Os nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu creu trosedd newydd, yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad, yna byddai’r mater o natur trosedd o’r fath yn diflannu.

Gall yr ymatebwyr hynny nad ydynt yn cefnogi creu trosedd newydd felly ddewis naill ai peidio ag ymateb i’r cwestiynau hynny sy’n gofyn am natur unrhyw drosedd newydd, neu ymateb iddynt ar y sail mai dyma sut olwg yr hoffent ei gweld ar unrhyw drosedd newydd pe bai un yn cael ei gyflwyno serch hynny. Byddwn ni’n rhoi ystyriaeth fanwl i’r holl ymatebion a ddaw i law. Mae’n bosibl hefyd y gallai unrhyw drosedd newydd edrych yn wahanol i’r ddau fodel a gyflwynir, os yw’r ymatebion a dderbynnir yn dangos y byddai model amgen yn fwy effeithiol.

Yn yr un modd, pan ofynnwn am gamau anneddfwriaethol ychwanegol y gallai’r Llywodraeth eu cymryd, rydym yn croesawu sylwadau gan ymatebwyr nad ydynt o blaid creu trosedd newydd ac sy’n gweld camau anneddfwriaethol ychwanegol fel dewis arall, a hefyd gan ymatebwyr sydd o blaid creu trosedd newydd, ond a fyddai’n dymuno gweld camau anneddfwriaethol ychwanegol hefyd.

Rydym yn cyfeirio yn y ddogfen hon at ‘aflonyddu rhywiol cyhoeddus’, gan ei fod yn derm a gydnabyddir yn gyffredin. Fodd bynnag, gall y term hwnnw awgrymu cymhelliant rhywiol, ac fel y nodir isod, mae’r modelau posibl ar gyfer trosedd newydd yn cynnwys unrhyw ymddygiad a ysgogir gan ryw y person arall, hyd yn oed os nad yw wedi’i ysgogi gan foddhad rhywiol. Felly byddai ‘aflonyddu ar sail rhyw’ yn derm cyfreithiol mwy cywir.

Yn y ddau achos cyflwynwn destun y drosedd newydd bosibl, ac yna esboniad mewn Saesneg clir o’i gynnwys. Fodd bynnag, fel erioed wrth ddehongli’r ddeddfwriaeth, dylid ffafrio testun y drosedd (posibl) fel y disgrifiad awdurdodol.

6. Opsiwn 1

Testun cyfreithiol

I’w nodi: nid yw’r cynnwys hwn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, gan nad yw’n debygol y caiff yr union ystyron sydd ynghlwm wrth ddrafftio statudol eu hailadrodd yn llawn mewn cyfieithiad, a byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol yn cael ei drafftio yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae’r disgrifiad Saesneg clir sy’n dilyn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Intentional harassment, alarm or distress on account of sex

(1) A person (A) commits an offence under this section if—

(a) A commits an offence under section 4A of the Public Order Act 1986

(intentional harassment, alarm or distress), and

(b) A carried out the conduct referred to in section 4A(1) of that Act

because of the relevant person’s sex.

In this subsection “the relevant person” means the person to whom A intended to cause harassment, alarm or distress.

(2) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A

carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act

1986 for the purposes of sexual gratification.

(3) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A also carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act 1986 because of any other factor not mentioned in subsection (1)(b).

(4) A person who commits an offence under subsection (1) is liable—

(a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding the general limit in a magistrates’ court, to a fine or to both;

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding

2 years, to a fine, or to both.

(5) If, on the trial on indictment of a person charged with an offence under

subsection (1), the jury find the person not guilty of the offence charged, they

may find the person guilty of the basic offence mentioned in that provision.

(6) References in this section to a person (A) carrying out conduct because of

another person’s (B’s) sex include references to A doing so because of B’s presumed sex.

Disgrifiad Saesneg clir

Byddai Opsiwn 1 yn creu trosedd newydd a fyddai’n gymwys pan fo person yn cyflawni trosedd o dan adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, ac yn gwneud hynny oherwydd rhyw yr achwynydd. Byddai eu bod wedi cyflawni’r drosedd oherwydd rhyw yr achwynydd yn golygu y gallai’r diffynnydd gael dedfryd hwy na phe na bai hynny wedi bod yn gymhelliant iddo.

Ein model cychwynnol ar gyfer hyn oedd y troseddau yn adrannau 29-32 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (ymosodiadau a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd, difrod troseddol, troseddau trefn gyhoeddus, neu aflonyddu, yn y drefn honno). Mae’r rhain yn berthnasol pan yw rhywun wedi cyflawni trosedd o dan y troseddau ‘cyffredin’ o ymosod, difrod troseddol ac ati a bod y weithred wedi’i hysgogi gan elyniaeth y diffynnydd tuag at aelodaeth yr achwynydd o grŵp hiliol neu grefyddol neu gan elyniaeth tuag at y grŵp hwnnw yn ei gyfanrwydd. Yna gallai’r person gael dedfryd uwch nag y byddai wedi’i gael pe bai wedi’i ddyfarnu’n euog o dan y drosedd ‘gyffredin’ gyfatebol. Mae’r rhain yn rhan o ddeddfwriaeth troseddau casineb. (Yn ogystal, mae Deddf Dedfrydu (2020) eisoes yn rhoi’r gallu i lys ymestyn dedfryd yn erbyn trosedd ‘gyffredin’, o fewn y gosb uchaf bresennol, ar gyfer troseddau casineb sy’n targedu dioddefwr ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.)

Mae gan Opsiwn 1 wahaniaethau hollbwysig i adrannau 29-32, er, yn benodol, nad oes angen i’r diffynnydd gael ei ysgogi gan elyniaeth ar sail rhyw yr achwynydd. Bydd aflonyddu rhywiol cyhoeddus weithiau’n seiliedig ar elyniaeth o’r fath, ond nid bob amser, a dyma un o’r rhesymau pam y daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad na ddylid ychwanegu rhyw at ddeddfwriaeth troseddau casineb, a pham y mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r casgliad hwnnw. Yn lle hynny, mae Opsiwn 1 yn dibynnu ar ymddygiad a wneir ‘oherwydd’ rhyw y dioddefwr. Fel y cyfryw, ni fyddai Opsiwn 1 yn cynrychioli trosedd casineb a, phe bai’n cael ei ddeddfu, ni fyddai’n rhan o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

Mae Opsiwn 1 yn cymryd, fel ei fan cychwyn, ymddygiad sy’n dod o dan adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus.[footnote 10] Mae Adran 4A yn:

  • berthnasol pan yw rhywun yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus, neu ymddygiad afreolus, tuag at berson arall, neu os yw’n arddangos unrhyw ysgrifen, arwydd neu gynrychioliad gweladwy arall sy’n fygythiol, yn difrïol neu’n sarhaus tuag at y person hwnnw;

  • ei gwneud yn ofynnol mai bwriad y diffynnydd oedd achosi aflonyddwch, braw neu ofid i’r achwynydd;

  • ei gwneud yn ofynnol i’r achwynydd neu berson arall gael ei achosi aflonyddwch, braw neu ofid;

  • gallu bod yn berthnasol ni waeth ble mae’r diffynnydd a/neu’r achwynydd wedi’u lleoli’n gorfforol, oni bai bod y ddau ohonynt mewn ‘annedd’. Mewn man arall yn Neddf Trefn Gyhoeddus 1986 diffinnir ‘annedd’ fel “strwythur neu ran o strwythur a feddiannir fel cartref person neu fel llety byw arall (p’un a yw’r feddiannaeth ar wahân neu’n cael ei rhannu ag eraill) ond [nad yw] yn cynnwys unrhyw ran nad yw wedi’i meddiannu felly, ac at y diben hwn mae ‘strwythur’ yn cynnwys pabell, carafán, cerbyd, llong neu strwythur dros dro neu symudol arall.” Mae hyn yn golygu y gallai’r partïon fod, er enghraifft, ar stryd, mewn man agored, ar gludiant cyhoeddus, mewn adeilad cyhoeddus neu mewn gweithle. Neu efallai bod un parti mewn annedd a’r parti arall ddim – er enghraifft person yn gweiddi sarhad trwy ffenestr agored eu cartref i berson ar y stryd y tu allan.

  • darparu ar gyfer dau amddiffyniad, sy’n golygu amgylchiadau lle na fyddai’r person yn cyflawni’r drosedd. Y cyntaf yw os oedd y troseddwr mewn annedd ac nad oedd yn sylweddoli y byddai eu gweithredoedd yn cael eu clywed neu eu gweld gan berson y tu allan i’r annedd honno neu unrhyw annedd arall. Yr ail yw os oedd ymddygiad y person a wnaeth y gweithredoedd yn rhesymol.

Mae adran 4A yn grynodeb yn unig, sy’n golygu mai dim ond yn y llys ynadon y gellir ei rhoi ar brawf, nid yn Llys y Goron. Mae hyn yn golygu mai’r uchafswm dedfrydau yw chwe mis yn y carchar [footnote 11], dirwy neu’r ddau. Yn y ddedfryd y mae Opsiwn 1 yn wahanol i adran 4A bresennol. Mae Opsiwn 1 yn darparu, os cyflawnodd y diffynnydd y drosedd oherwydd rhyw y person y cyfeiriwyd ei achos ato, yna gellir ei roi ar brawf ar dditiad hefyd – h.y. yn Llys y Goron. Mae hyn yn golygu y gallent dderbyn uchafswm dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.

Mae Opsiwn 1 yn glir:

  • nad oes rhaid i’r diffynnydd gael ei ysgogi gan yr awydd am foddhad rhywiol, er y gallai ef neu hi fod. Mae’n ddigon bod yr ymddygiad yn cael ei wneud oherwydd rhyw y person arall;

  • efallai y bydd gan y diffynnydd gymhellion ychwanegol, nad ydynt yn gysylltiedig â rhyw y dioddefwr; ac

  • y rhyw y mae’r diffynnydd yn rhagdybio sydd gan y person arall sy’n bwysig, hyd yn oed os ydynt mewn gwirionedd yn anghywir.

Mae’r drosedd hefyd yn darparu, os na chaiff prawf uwch Opsiwn 1 ei fodloni, y gallai’r person ddal i sefyll ei brawf o dan y drosedd ‘gyffredin’ yn adran 4A pe bai telerau’r drosedd honno’n cael eu bodloni.

7. Opsiwn 2

Testun cyfreithiol

I’w nodi: nid yw’r cynnwys hwn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, gan nad yw’n debygol y caiff yr union ystyron sydd ynghlwm wrth ddrafftio statudol eu hailadrodd yn llawn mewn cyfieithiad, a byddai unrhyw drosedd yn y dyfodol yn cael ei drafftio yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae’r disgrifiad Saesneg clir sy’n dilyn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Intentional harassment, alarm or distress on account of sex

(1) A person (A) commits an offence under this section if—

(a) A commits an offence under section 4A of the Public Order Act 1986

(intentional harassment, alarm or distress), and

(b) A carried out the conduct referred to in section 4A(1) of that Act

because of the relevant person’s sex.

In this subsection “the relevant person” means the person to whom A intended to cause harassment, alarm or distress.

(2) For the purposes of subsection (1)(b), the following are examples of conduct that might, in particular circumstances, be carried out because of a person’s sex—

(a) following a person;

(b) making an obscene or aggressive comment towards a person;

(c) making an obscene or offensive gesture towards a person;

(d) obstructing a person making a journey;

(e) driving or riding a vehicle slowly near to a person making a journey.

(3) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A

carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act

1986 for the purposes of sexual gratification.

(4) For the purposes of subsection (1)(b) it does not matter whether or not A also carried out the conduct referred to in section 4A(1) of the Public Order Act 1986 because of any other factor not mentioned in subsection (1)(b).

(5) A person who commits an offence under subsection (1) is liable—

(a) on summary conviction, to imprisonment for a term not exceeding the general limit in a magistrates’ court, to a fine or to both;

(b) on conviction on indictment, to imprisonment for a term not exceeding

2 years, to a fine, or to both.

(6) If, on the trial on indictment of a person charged with an offence under

subsection (1), the jury find the person not guilty of the offence charged, they

may find the person guilty of the basic offence mentioned in that provision.

(7) References in this section to a person (A) carrying out conduct because of

another person’s (B’s) sex include references to A doing so because of B’s presumed sex.

(8) In this section “vehicle” includes—

(a) a mechanically propelled vehicle,

(b) a pedal cycle (whether electrically assisted or not), and

(c) a form of transport which is not mechanically propelled.

Disgrifiad Saesneg clir

Mae Opsiwn 2 yn cymryd Opsiwn 1 fel ei fan cychwyn, ond mae’n ychwanegu un elfen ychwanegol allweddol. Mae’n cynnwys rhestr o fathau o ymddygiad bygythiol, difrïol, sarhaus neu afreolus a allai gael eu cyflawni o dan amgylchiadau penodol oherwydd rhyw person. Mae’r rhestr yn enghreifftiol yn hytrach na hollgynhwysfawr, a gallai mathau o ymddygiad nad ydynt wedi’u cynnwys ynddi gael eu cynnwys yn y drosedd. Felly nid yw’n gyfreithiol hanfodol ei gynnwys. Ond fe allai fod o gymorth i egluro pwrpas y drosedd i bobl a allai roi gwybod amdano ac i bartïon o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r rhestr yn cynnwys:

  • dilyn rhywun;

  • gwneud sylw anweddus neu ymosodol tuag at rywun;

  • gwneud ystum anweddus neu ymosodol tuag at rywun;

  • rhwystro person sy’n gwneud taith (a elwir weithiau yn eu “cornelu”); neu

  • gyrru neu reidio cerbyd yn araf yn agos at berson sy’n gwneud taith. Diffinnir cerbyd fel cerbyd a yrrir yn fecanyddol (er enghraifft, car), beic pedalau (boed â chymorth trydanol ai peidio), neu fath o gludiant nad yw’n cael ei yrru’n fecanyddol (er enghraifft, sglefrfwrdd).

Mae’r mathau hyn o ymddygiad i gyd yn cynnwys gweithredoedd gan y diffynnydd pan fyddant ym mhresenoldeb corfforol yr achwynydd. Fel y drosedd adran 4A bresennol, nid yw Opsiynau 1 a 2 yn eithrio ymddygiad ar-lein, a gellid eu defnyddio i’w erlyn. Ond nid dyma’r ymddygiad y maent wedi’u cynllunio i’w wrthwynebu. Mae troseddau eraill a all fynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol ar-lein, ac rydym yn gofyn i’r Senedd greu troseddau pellach drwy’r Mesur Diogelwch Ar-lein.

8. Cwestiynau’r ymgynghoriad

1. Pa mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn y wlad hon yn eich barn chi?

2. Ydych chi’n credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus?

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Dddim yn gwybod

3. Os ydych yn credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a fyddai hyn oherwydd (ticiwch bob un sy’n berthnasol):

  • Byddai’n troseddoli ymddygiad nad yw eisoes yn droseddol.

  • Byddai’n codi ymwybyddiaeth bod yr ymddygiadau hyn yn anghyfreithlon.

  • Byddai’n atal pobl rhag cymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn.

  • Byddai’n annog mwy o bobl i riportio i’r heddlu.

  • Byddai’n gwneud y gyfraith ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn gliriach i’r heddlu ac eraill.

  • Arall (nodwch)

4. Os ydych yn credu y byddai deddf newydd yn troseddoli ymddygiad nad yw eisoes yn droseddol, nodwch pa ymddygiadau.

5. Os nad ydych yn credu y dylai fod trosedd benodol o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a fyddai hyn oherwydd (ticiwch bob un sy’n berthnasol):

  • Mae troseddau eisoes yn mynd i’r afael â’r ymddygiadau hyn.

  • Ni ddylid troseddoli’r ymddygiadau hyn.

  • Rheolir yr ymddygiadau hyn yn well trwy gamau anneddfwriaethol.

  • Byddai’n dod â chanlyniadau negyddol eraill (os felly, nodwch pa rai)

Byddai cwestiynau 6 – 13 yn berthnasol pe bai trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus yn cael ei chyflawni. Rydym yn croesawu ymatebion gan y rhai sy’n cefnogi a’r rhai nad ydynt yn cefnogi trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

6. A fyddai Opsiwn 1 yn fodel hyfyw?

  • Byddai

  • Na fyddai (nodwch pam)

  • Ddim yn gwybod

7. A fyddai Opsiwn 2 yn fodel hyfyw?

  • Byddai

  • Na fyddai (nodwch pam)

  • Ddim yn gwybod

8. Os ydych yn ystyried y byddai Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 yn fodelau hyfyw, a ydych yn credu y byddai’r naill opsiwn neu’r llall yn fwy effeithiol? Eglurwch pam os gwelwch yn dda.

  • Ydw (byddai Opsiwn 1 yn fwy effeithiol)

  • Ydw (byddai Opsiwn 2 yn fwy effeithiol)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

  • Amherthnasol – Nid wyf yn ystyried y byddai Opsiwn 1 nac Opsiwn 2 yn fodel hyfyw.

9. Ydych chi’n credu bod ffordd well o lunio trosedd aflonyddu rhywiol cyhoeddus na naill ai Opsiwn 1 neu Opsiwn 2?

  • Ydw (rhowch fanylion am sut olwg a allai fod ar drosedd o’r fath)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

10. Gan nodi nad yw’r rhestr o ymddygiadau enghreifftiol yn Opsiwn 2 yn hollgynhwysfawr, a ydych chi’n credu ei bod yn cynnwys y mathau mwyaf cyffredin o ymddygiad aflonyddu rhywiol cyhoeddus?

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

Os Na, pa rai ychwanegol fyddech chi’n eu cynnwys?

11. A ydych yn ystyried y dylid eithrio unrhyw un o’r ymddygiadau enghreifftiol yn Opsiwn 2? Os felly, nodwch pam.

  • Dilyn person;

  • Gwneud sylw anweddus neu ymosodol tuag at berson;

  • Gwneud ystum anweddus neu ymosodol tuag at berson;

  • Rhwystro person rhag gwneud taith;

  • Gyrru neu reidio cerbyd yn araf yn agos at berson sy’n gwneud taith.

  • Ni ddylid eithrio unrhyw un ohonynt.

  • Ddim yn gwybod

12. A ydych yn ystyried mai uchafswm y ddedfryd a gynhwysir yw’r un gywir?

  • Ydw

  • Nac ydw (nodwch beth ddylai fod yn eich barn chi yn lle hynny)

  • Ddim yn gwybod

13. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar Opsiynau 1 a 2?

14. A ydych yn credu y byddai cyflwyno trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus â goblygiadau i adnoddau’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol?

  • Ydw (rhowch fanylion pellach)

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

A ydych yn credu bod y camau anneddfwriaethol y mae’r Llywodraeth ac awdurdodau statudol eraill wedi bod yn eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus – fel y nodir yn adran 2 o’r ddogfen hon – yn ddigonol? Rydym yn croesawu atebion gan y rhai sy’n credu y dylai fod trosedd newydd o aflonyddu rhywiol cyhoeddus a’r rhai nad ydynt yn credu hynny.

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Ddim yn gwybod

15. Os ydych yn credu nad yw’r camau hynny’n ddigonol, pa gamau anneddfwriaethol ychwanegol ydych yn credu y dylai’r Llywodraeth ac awdurdodau statudol eraill eu cymryd?

16. Yn benodol, a oes unrhyw gamau anneddfwriaethol eraill y dylai’r Llywodraeth eu cymryd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus sy’n digwydd yn economi’r nos?

  • Oes (nodwch ba rai)

  • Nac oes

  • Ddim yn gwybod

9. Sut i Ymateb

Fe daw’r ymgynghoriad hwn i ben am 23:59 ar 1 Medi 2022.

Y ffordd orau o ymateb yw drwy’r arolwg hwn: https://www.homeofficesurveys.homeoffice.gov.uk/s/LFKIWD/

Fodd bynnag, gallwch hefyd e-bostio ymatebion i publicsexualharassmentconsultation@homeoffice.gov.uk. Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i ofyn unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad.