Cynhaliaeth Plant: Gwella casglu a throsglwyddo taliadau (Crynodeb Gweithredol)
Updated 31 July 2024
1. Rhagair y Gweinidog
Mae Cynhaliaeth plant yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer teuluoedd sydd wedi gwahanu, ac mae wedi’i wreiddio yn yr egwyddor sylfaenol bod gan rieni gyfrifoldeb i gynnal eu plant.
Trwy drefniadau preifat (teuluol) a threfniadau Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS), amcangyfrifir bod rhieni sy’n cael cynhaliaeth mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu wedi cael £2.8 biliwn y flwyddyn mewn taliadau cynhaliaeth plant rhwng 2021 a 2023. Mae’r taliadau hyn yn cadw tua 160,000 o blant allan o dlodi bob blwyddyn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud amrywiaeth o welliannau pwysig i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i sicrhau bod plant yn cael y taliadau cynhaliaeth sydd eu hangen arnynt.
Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno rheoliadau i ddileu’r ffi gwneud cais o £20 fel nad yw’r teuluoedd tlotaf yn cael eu hatal rhag defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i’r ymgynghoriad ar orchmynion atebolrwydd gweinyddol i weithredu’r mesurau a gyflwynwyd yn Neddf Cynnal Plant (Gorfodi) 2023, a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio ei gamau gorfodi llymach yn erbyn rhieni nad ydynt yn cydymffurfio’n barhaus. Nod hyn oll yw sicrhau bod mwy o blant, yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf, yn cael mwy o gynhaliaeth ac yn cael dechrau gwell mewn bywyd o ganlyniad.
Ond mae mwy i’w wneud. Mae llawer o rieni yn dewis gwneud eu trefniadau teuluol eu hunain heb gymorth y wladwriaeth, a chredaf mai dyma’r canlyniad gorau o hyd i deuluoedd a phlant felly rwyf am sicrhau bod y system yn gwneud popeth o fewn ei gallu i annog rhieni i wneud, a chynnal, y trefniadau hyn. I’r rhai na allant wneud eu trefniant eu hunain, rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant barhau i fod yn rhwyd ddiogelwch.
Cyflwynwyd y gwasanaeth Talu Uniongyrchol i annog rhieni i gydweithio, a lleihau’r ddibyniaeth ar y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, lle gallai rhieni reoli’r taliadau eu hunain. Er bod yna trefniadau Talu Uniongyrchol sy’n gweithio’n dda, mae tystiolaeth yn dangos nad yw llawer o drefniadau Talu Uniongyrchol yn gweithio fel y bwriadwyd. Rwyf am fynd i’r afael â hyn i sicrhau ein bod yn cael cynhaliaeth i blant mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl ac i annog y rhieni hynny sy’n gallu gwneud eu trefniadau teuluol eu hunain.
Mae cam-drin domestig yn fater arbennig o ddifrifol. Cefnogodd y llywodraeth y Ddeddf Casglu Cynnal Plant (Cam-drin Domestig) a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2023. Daeth y Ddeddf â newidiadau deddfwriaethol ymlaen i ganiatáu i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig osgoi cyswllt pellach â’u camdriniwr trwy fynediad cyflymach at y gwasanaeth Casglu a Thalu. Roedd hwn yn un o’r argymhellion o adolygiad annibynnol Dr Samantha Callan o sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yr oeddwn yn falch o’i gyhoeddi y llynedd.
Roedd y Ddeddf yn cydnabod efallai na fyddai Talu Uniongyrchol bob amser yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn briodol. Mae brwydro yn erbyn cam-drin domestig yn hanfodol, ac yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Er bod y Ddeddf honno yn un cam i sicrhau’r amcan hwn, mae’n parhau i fod yn faes cymhleth ac rydym wedi edrych yn feirniadol ar y gwasanaeth Talu Uniongyrchol ac yn cydnabod bod materion sylfaenol ehangach gyda Thalu Uniongyrchol y mae angen mynd i’r afael â hwy.
Rwy’n teimlo’n gryf iawn bod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaeth mwy hygyrch a haws ei ddefnyddio i bob rhiant sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Drwy’r ymgynghoriad, rwyf am sicrhau bod y llywodraeth yn deall barn y cyhoedd ar newidiadau posibl i’r ffordd y mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu ac yn trosglwyddo taliadau cynhaliaeth, gan gynnwys dileu’r gwasanaeth Talu Uniongyrchol. Rwyf hefyd am ddefnyddio’r cyfle hwn i ystyried sut y gellir gwella’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant er mwyn annog rhieni’n well i wneud eu trefniadau eu hunain a gwella ein cefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.
2. Crynodeb Gweithredol
Mae’r llywodraeth yn credu bod y mwyafrif o rieni eisiau gwneud y peth iawn a chefnogi eu plant.
Lle maent yn briodol, dylai trefniadau cynhaliaeth a wneir yn breifat, heb ymyrraeth y wladwriaeth, fod y dewis diofyn ar gyfer teuluoedd sydd wedi gwahanu. Gall y trefniadau hyn gael eu nodweddu gan berthynas mwy cyfeillgar rhwng rhieni na’r rhai sydd â threfniant statudol neu ddim trefniant. Lle nad yw’r trefniadau hyn yn bosibl, h.y., lle na all rhieni gytuno, mae angen gwasanaeth cynhaliaeth statudol effeithlon ac effeithiol o hyd.
Gyda’r gefnogaeth gywir, mae’r llywodraeth yn credu y bydd mwy o rieni yn gallu gwneud eu trefniadau eu hunain. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ba gymorth pellach y gallwn ei ddarparu i rieni sydd wedi gwahanu i’w helpu i wneud trefniadau teuluol. Mae hyn yn cynnwys cynnig ar gyfer cyfeirio’n well at offer datrys gwrthdaro ac offer cyfrifo gwell.
Ar gyfer cwsmeriaid o fewn y gwasanaeth statudol, mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut y gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wella’r broses o gasglu a throsglwyddo taliadau cynhaliaeth i sicrhau canlyniadau gwell i blant a bod rhieni’n cael eu cefnogi’n briodol wrth ddefnyddio’r gwasanaeth.
Mae hyn yn cynnwys cynnig i ddileu’r gwasanaeth Talu Uniongyrchol a rheoli pob achos Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn un gwasanaeth symlach. Mae tri phrif faes sy’n peri pryder gyda Thalu Uniongyrchol y mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio mynd i’r afael â hwy: i ba raddau nad yw wedi annog rhieni i symud i drefniadau teuluol; diffyg cydymffurfio cudd gyda thaliadau cynhaliaeth; a sut mae’n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr domestig. Dylai symud i un gwasanaeth symlach ganiatáu i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn gyflymach a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi yn gyflymach.
Rydym hefyd yn ceisio barn ar strwythur ffioedd newydd i annog yr ymddygiadau cywir yn well. Byddai hyn yn golygu ffi weinyddol fach o 2% yn y gwasanaeth symlach sengl ar gyfer rhieni sy’n cael cynhaliaeth a rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n cydymffurfio, ond cadw’r ffi uwch o 20% ar gyfer rhieni sy’n talu cynahliaeth nad ydynt yn cydymffurfio i sicrhau bod ataliad cryf i osgoi talu.
Ochr yn ochr â’r cynigion hyn, mae’r llywodraeth am fynd ymhellach ac adeiladu ar yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Callan i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yn well ac felly mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn ceisio barn ar sut y gallwn gefnogi’r grŵp hwn yn well.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam cadarnhaol tuag at greu Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gwell sy’n cefnogi, yn amddiffyn ymhellach ac yn gwella bywydau teuluoedd a phlant sydd wedi’u gwahanu ledled Prydain Fawr.