Cerbydau awtomataidd: diogelu termau marchnata
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024 yn amddiffyn termau penodol rhag cael eu defnyddio i farchnata cerbydau nad ydynt wedi’u hawdurdodi fel cerbydau awtomataidd. Bydd hyn yn helpu i atal camddealltwriaeth trwy sicrhau mai dim ond ar gyfer marchnata cerbydau sy’n bodloni ein safonau hunan-yrru y defnyddir termau gwarchodedig.
Rydym yn ceisio barn ar ba dermau y dylid eu diogelu.