Casgliad

Labelu cig eidion a chig llo: canllawiau

Mae'n rhaid i chi labelu cig eidion ffres ac wedi'i rewi, cig llo, briwgig a thrimins yn unol â rheolau gofynnol; efallai y bydd angen cymeradwyo gwybodaeth ychwanegol.

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cyflenwi cig eidion neu gig llo ffres neu wedi’i rewi gydymffurfio â’r rheoliadau o ran olrhain a labelu cig eidion.

Caiff safleoedd sydd â thrwydded i ladd gwartheg a/neu dorri cig gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) - lladd-dai, safleoedd torri cig neu gigyddion arlwyo - eu harchwilio gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig.

Caiff safleoedd eraill (e.e. y rhan fwyaf o storfeydd oer, canolfannau ailbecynnu, siopau cigyddion, siopau symudol, stondinau marchnad, archfarchnadoedd neu siopau fferm) eu harchwilio gan awdurdodau lleol.

Labelu gorfodol a labelu cymeradwy (gwirfoddol)

Mae dwy ran i’r rheolau labelu cig eidion.

Mae’r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol ,system sydd ar waith ledled yr UE, yn rhoi gwybodaeth glir a dibynadwy i brynwyr am y cig eidion sydd ar werth. Un o nodau pwysig y system yw galluogi defnyddwyr i wybod o ble y daeth y cig eidion sydd ar werth.

Gallwch ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i’ch labeli cig eidion yn wirfoddol ond mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth swyddogol gan y Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy (a elwir hefyd yn labelu cig gwirfoddol) ar gyfer rhai mathau o wybodaeth.

Rheoliadau perthnasol

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Lloegr) 2010 (OS 2010/983) Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 (OS 2011/991 (C. 145)) Rheoliad EUR 2000/1760 Rheoliad EUR 2000/1825 Rheoliad EUR 2013/1308 Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 566/2008, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 565/2013

Manylion Cyswllt

Os yw eich busnes wedi’i gofrestru â’r Asiantaeth Safonau Bwyd, dylech gysylltu â’r tîm Cynlluniau Technegol Cig yn yr Asiantaeth Taliadau Gwledig os oes gennych gwestiynau am y cynllun:

E-bost: MTS.Carlisle@rpa.gov.uk Ffôn: 01228 640 469 Ffacs: 01228 640 308

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
Cumbria
CA3 8DX

Cyhoeddwyd ar 8 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 January 2021 + show all updates
  1. Rheoliad (CE) Rhif 1760/2000 changed to Rheoliad EUR 2000/1760 Rheoliad (CE) Rhif 1825/2000 changed to Rheoliad EUR 2000/1825 Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 changed to Rheoliad EUR 2013/1308

  2. First published.