Casgliad

Diogelu oedolion sydd mewn risg: Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Darganfyddwch sut mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn amddiffyn oedolion sydd mewn risg o ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ddyletswydd diogelu i amddiffyn pobl sydd mewn risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i bryderon a adroddwyd i ni am:

  • ddirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod
  • atwrneiod a benodwyd o dan atwrneiaeth arhosol gofrestredig (LPA)
  • atwrneiod o dan atwrneiaeth barhaus gofrestredig (EPA)

Mae ein polisi a’n strategaeth yn nodi ein rôl a’n hymagwedd at ddiogelu oedolion sydd mewn risg.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Polisi diogelu

Polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar ddiogelu oedolion sydd mewn risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Strategaeth diogelu 2019 i 2025

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rôl i’w chwarae mewn cefnogi a diogelu oedolion sydd mewn risg y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw.

Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn.

Sut rydym yn ymdrin â phryderon diogelu

Darganfyddwch sut y gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus helpu os oes gennych bryderon bod rhywun yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso o dan atwrneiaeth arhosol (LPA), atwrneiaeth barhaus (EPA) neu orchymyn llys dirprwy.

Cyhoeddwyd ar 13 June 2023