Arbed treth — gan bwyll rhag twyll
Straeon personol gan unigolion sydd wedi’u twyllo gan gynlluniau arbed treth.
Mae rhai contractwyr sydd wedi’u twyllo gan gynlluniau arbed treth wedi gofyn i ni rannu eu straeon fel rhybudd i bobl eraill. Cawsant addewid o gyflog clir uwch, biliau treth is a llai o waith papur. Yn lle hynny, gwnaethant golli amser ac arian, a chynyddu straen.
Mae’r straeon hyn yn seiliedig ar brofiadau pobl go iawn, ond mae eu manylion personol wedi eu cadw’n ôl i ddiogelu pwy ydynt.
Y nyrs — hanes Chantelle
Pan wnaeth Chantelle, nyrs 32 oed o Watford, gofrestru ar gyfer gwaith asiantaeth, cafodd ei thwyllo gan gynllun arbed treth.
Dechreuodd Chantelle bryderu bod rhywfaint o’i chyflog yn cael ei dalu i’w chyfrif banc heb fod unrhyw dreth yn cael ei ddidynnu oddi wrtho. Nid oedd yn dangos yn ei slip cyflog chwaith.
Pa gamau a gymerodd Chantelle?
Ar ôl dod ar draws yr ymgyrch ‘gan bwyll rhag twyll’, e-bostiodd Chantelle fewnflwch ymgyrch penodedig CThEF gan anfon ei slipiau cyflog, i ofyn a oedd hi’n rhan o gynllun arbed treth.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Gwnaeth CThEF roi gwybod iddi ei bod hi’n rhan o gynllun arbed treth ers 3 mis, ers iddi ddechrau ei swydd bresennol. Gwnaeth CThEF ei harwain hi drwy’r hyn roedd angen iddi ei wneud nesaf er mwyn dod allan o’r cynllun a mynd yn ôl ar y trywydd cywir yn gyflym.
Esboniodd Chantelle…
Roeddwn i’n arbrofi gyda gwaith asiantaeth, gan obeithio y byddai’n rhoi mwy o reolaeth i mi dros fy amser fy hun.
Fe wnes i wirio a gweld hysbyseb asiantaeth a oedd yn dweud bod yr asiantaeth yn cydymffurfio â CThEF, ac fe wnaeth hyn i mi deimlo’n ddiogel.
Rwy wir yn teimlo fy mod i wedi cael fy nhwyllo gan weithredoedd y cwmni ambarél a’r sefyllfa rwy ynddi o’u herwydd. Mae’n siŵr bod gweithwyr gofal iechyd eraill yn yr un sefyllfa â mi. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ennill ein harian mewn ffordd onest, dim ond i ganfod ein bod wedi cael ein twyllo gan gynllun arbed treth.
Wedi’i thwyllo gan gynlluniau arbed treth: Hanes Chantelle
Help gan CThEF
Diolch byth, gan fod Chantelle yn ymwybodol o arwyddion arbed treth, roedd hi’n gallu ymateb yn gyflym. Gyda’i hymateb prydlon, ynghyd â’n help ni, llwyddodd CThEF i weithio gyda Chantelle i setlo’r dreth oedd arni.
Y nyrs — hanes Tanya
Rhiant sengl yw Tanya. Mae hi’n gweithio fel nyrs gofal critigol yn yr ysbyty lleol. Gwnaeth hi ddod o hyd i’w swydd drwy asiantaeth, ac fe wnaeth yr asiantaeth honno argymell cwmni ambarél a oedd yn darparu gwasanaethau’r gyflogres. Dewisodd Tanya gwmni ambarél a roddodd y cyflog clir uchaf iddi. Roedd yn cynnig cynllun arbed treth iddi ac ymunodd hi â’r cynllun. Gwnaeth hyn olygu bod ganddi bil treth annisgwyl, ar ben y ffioedd uchel y gwnaeth hi eu talu i’r cwmni ambarél am ddefnyddio’r cynllun.
Bwydon nhw’r celwyddau i mi am fuddion cael cyflog uwch
Esboniodd Tanya…
Yn fy swydd fel nyrs, rydw i’n ymddiried yn fy nghleifion, ac maen nhw’n ymddiried ynof i. Ro’n i hefyd yn ymddiried yn fy asiantaeth a’r cwmni ambarél. Fe ddywedodd y ddau gelwydd wrtha i; gwnaeth y ddau fy sgamio. Ro’n i’n meddwl byddai’r cwmni ambarél yn gofalu amdana i, ond doedd dim ots ganddo. Gwnaeth fy asiantaeth a chwmni ambarél fwydo celwyddau i mi am fuddion cael cyflog uwch, a hynny drwy fodel a ddisgrifiwyd fel Cynllun Treth. Yn y pen draw, mae arna i arian i CThEF a golchodd y cwmni ambarél ei ddwylo ohonof i. Gwnaeth ddiflannu ac yn fy ngadael gyda’r biliau treth.
Dywedodd fy asiantaeth a chwmni ambarél wrtha i am beidio â phoeni, a’u bod nhw am ofalu am fy holl drethi cyfreithiol, ac mai dim ond gweithio roedd angen i mi ei wneud, a pheidio â phoeni am y materion eraill. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy nhwyllo. Penderfynais i gysylltu â chyfrifydd a dangos fy nghontractau, ac fe ddywedodd wrtha i am gysylltu â CThEF ar unwaith.
Pan wnes i sylweddoli, oherwydd fy nghwmni ambarél, fy mod i wedi ymuno â chynllun arbed treth, newidiais i asiantaeth arall, a oedd yn cydymffurfio, ac nawr mae fy holl enillion yn cael eu trethu’n gywir.
Wedi’i thwyllo gan gynlluniau arbed treth: Hanes Tanya
Sylwi ar yr arwyddion
Roedd Tanya yn difaru peidio â chymryd bach mwy o amser er mwyn ystyried beth roedd hi’n cofrestru ar ei gyfer, ac am beidio â gofyn mwy o gwestiynau. Pe bai hi wedi gwneud hynny, byddai hi wedi sylwi ar arwyddion arbed treth. Roedd y rheiny fel a ganlyn:
- y cynnig y byddai hi’n gallu cymryd 82% o’i chyflog llawn fel cyflog clir drwy gofrestru â’r cwmni ambarél
- llofnodi mwy nag un contract neu gytundeb
- talu ffi sylweddol ar ei chyflog gros er mwyn i’r cwmni ambarél sefydlu ei chynllun cyflogaeth newydd a delio â’i chyflogwr
- taliad cymell o £500 i gael rhagor i ymuno, fel rhan o ‘gynllun cyfeirio ffrind’
- trefniant cyflog cymhleth a oedd yn rhannu ei chyflog misol yn ddau daliad: un ar gyfradd sylfaenol yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gyda’r Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cywir wedi’u talu; y llall fel benthyciad heb unrhyw Dreth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u talu
Help gan CThEF
Dywedodd Tanya:
Ysgrifennodd CThEF ata i mor fuan ar ôl i mi ddefnyddio fy nghwmni ambarél, ac rwy’n hapus am hynny — fel arall, byddwn i wedi cael bil treth mwy. Mae hyn wedi fy helpu i edrych ar bethau’n wahanol gan fy mod yn fwy ymwybodol o arbed treth oherwydd bod CThEF wedi fy arwain i ffwrdd o ddefnydd parhaus o fy nghwmni ambarél arbed treth.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Mae’n annhebygol y bydd Tanya yn gallu adennill y ffioedd uchel a godwyd gan ei chwmni ambarél, gan ei fod bellach yn ceisio datodiad gwirfoddol. Mae’n rhaid iddi hefyd dalu treth o bron i £7,500 a rhywfaint o log.
Cysylltodd Tanya â CThEF ac yr oedd hi am ddatrys popeth. Os na all Tanya dalu’r dreth sydd arni ar unwaith, bydd hi’n cael amser i dalu ei bil treth fesul rhandaliad.
Hyd yn oed os yw contractwr yn penodi rhywun arall i ymdrin â’u materion treth, y contractwr sy’n gyfrifol yn ôl y gyfraith am sicrhau bod y symiau cywir o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu talu.
Cofiwch — os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg mai dyna yw’r sefyllfa. Gan bwyll rhag twyll o ran arbed treth, felly:
- Stopiwch — peidiwch â llofnodi unrhyw beth rydych chi’n anghyfforddus ag ef neu nad ydych chi’n ei ddeall
- Heriwch — gwiriwch am arwyddion rhybuddio, herio’r hyn rydych chi’n ei weld, gofyn cwestiynau
- Diogelwch eich hun a phobl eraill — rhowch wybod i CThEF am gynlluniau arbed treth
Mae’r straeon personol hyn yn cael eu cyhoeddi i gefnogi ymgyrch Arbed treth — gan bwyll rhag twyll CThEF.
Y contractwr TG — hanes Duncan
Mae Duncan, 55 oed, yn rheolwr prosiectau TG. Mae’n briod gyda dau o blant ac yn byw yn Llundain. Pan ddechreuodd weithio fel contractwr, dewisodd ddefnyddio cwmni ambarél i’w helpu i reoli gwaith gweinyddu ei gyflogres. Daeth o hyd i un drwy wefan gymharu. Nid oedd Duncan yn gofyn digon o gwestiynau am y trefniadau yr oedd yn cael eu gwerthu iddo, felly yn y diwedd, daeth yn rhan o gynllun arbed treth. Mae hyn wedi gadael bil treth annisgwyl iddo ar ben y ffioedd a dalodd i ddefnyddio’r cynllun.
Roedd Duncan yn ffodus wrth i CThEF sylwi ar anghysondebau yn ei ddata TWE. Roedd hynny’n golygu ein bod ni wedi gallu camu i mewn yn gyflym. Ond nid yw hynny bob amser yn bosibl, felly ni ddylai neb byth gymryd yn ganiataol bod eu trefniadau yn iawn oherwydd nad ydyn nhw wedi clywed gennym ni.
Fe wnes i ddod o hyd iddo ar wefan gymharu
Esboniodd Duncan:
Fe wnes i chwilio ar y we am gwmnïau ambarél, ac fe ddes i ar draws gwefan oedd yn cymharu gwahanol gwmnïau ambarél. Siaradais ag un o’r bobl yno a llenwi ffurflen, ac awgrymodd dri chwmni. Dywedodd, ‘mae’r bobl hyn wedi rhoi’r broses hon ar waith, ac mae’n talu’r swm hwn’. Roedd hi mor syml — dewisais i un o’r cwmnïau, ac fe wnaeth y cwmni sefydlu pethau i mi.
Pan ges i’r llythyr gan CThEF, fy meddwl cyntaf oedd ‘roedd hynny’n gyflym’. Dim ond ychydig fisoedd ynghynt roeddwn i wedi dechrau defnyddio’r cwmni ambarél, ac roedd hynny’n dal i fod yr un flwyddyn dreth. Ces i gwpl o nosweithiau di-gwsg ar y dechrau — dyna’r rhan waethaf mewn gwirionedd.
Wedi’i dwyllo gan gynlluniau Arbed Treth: Hanes Duncan
Sylwi ar yr arwyddion
Roedd Duncan yn difaru peidio â chymryd bach mwy o amser i ystyried beth roedd e’n cofrestru ar ei gyfer, ac am beidio â gofyn mwy o gwestiynau. Pe bai wedi gwneud hynny, byddai wedi sylwi ar arwyddion arbed treth. Roedd y rheiny fel a ganlyn:
- y cynnig o gyflog clir uwch wrth lofnodi ei gontract cyflogaeth newydd
- llofnodi cytundeb benthyciad ar ben ei gontract cyflogaeth
- talu ffi uchel ar ei gyflog gros, i’r cwmni ambarél sefydlu ei gontract cyflogaeth newydd a chyfrifo ei enillion misol
- dewis o dri threfniad cyflog cymhleth oedd i gyd yn rhannu ei enillion misol yn ddau daliad
- derbyn cyngor yr ymgynghorydd a’r rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid bod y cynllun talu wedi’i fetio ac yn gyfreithiol, heb geisio ail farn broffesiynol
Help gan CThEF
Siaradais â rhywun yn CThEF ac fe wnaeth hynny dawelu pethau. Yn ariannol doedd dim gormod o effaith oherwydd, yn ffodus, nad oeddwn i wedi gwario fy holl arian ac roeddwn i wedi arbed rhywfaint ohono. Yn amlwg, roedd bil treth a oedd yn boenus. Ond erbyn hynny roeddwn i’n ei ddisgwyl ac felly ces i gyfle i baratoi ar ei gyfer.
Beth ddigwyddodd nesaf?
Nid oedd Duncan yn gallu adennill y ffioedd uchel a dalodd i’r cwmni ambarél, a ddaeth i gyfanswm o £7,600. Dywedodd y cwmni ambarél fod Duncan wedi ymuno â’r trefniadau o wirfodd, gan gytuno i’r model talu a’r ffioedd cysylltiedig. Bu’n rhaid i Duncan hefyd dalu’r dreth a oedd yn ddyledus o ychydig dros £12,000, ynghyd â llog oherwydd bod y dreth yn hwyr.
Mae pawb yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eu materion treth eu hunain ac am dalu’r swm cywir o dreth hyd yn oed os ydynt yn cael rhywun arall i wneud hynny ar eich rhan.
Cofiwch — os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg mai dyna yw’r sefyllfa. Gan bwyll rhag twyll o ran arbed treth, felly:
- Stopiwch — peidiwch â llofnodi unrhyw beth rydych chi’n anghyfforddus ag ef neu nad ydych chi’n ei ddeall
- Heriwch — gwiriwch am arwyddion rhybuddio, herio’r hyn rydych chi’n ei weld, gofyn cwestiynau
- Diogelwch eich hun a phobl eraill — rhowch wybod i CThEF am gynlluniau arbed treth
Mae’r straeon personol hyn yn cael eu cyhoeddi i gefnogi ymgyrch Gan bwyll rhag CThEF.
Updates to this page
-
Added Welsh translation.
-
First published.