Astudiaeth achos

Buddsoddiad £19 miliwn Caerfyrddin a Phenfro ar gyfer hybiau cymunedol

Bydd preswylwyr Caerfyrddin a Phenfro yn elwa o fuddsoddiad o fwy na £19 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro. Bydd y buddsoddiad yn creu dau hyb cymunedol newydd yng nghanol y trefi.

Hyb Caerfyrddin

Bydd hyb Caerfyrddin yn cael ei ddatblygu yn hen adeilad Debenhams ar Rodfa Santes Catrin.

Mae cynigion ar gyfer yr hyb yn cynnwys lle ar gyfer:

  • gwybodaeth iechyd a thwristiaeth
  • diwylliant ac arddangosfeydd
  • campfa o’r radd flaenaf
  • cyfleusterau prifysgol
  • gwasanaethau cwsmeriaid

Hyb Penfro

Bydd hyb tebyg yn cael ei ddarparu yng Nghei’r De ym Mhenfro hefyd. Bydd hwn yn gyfleuster cymunedol modern sy’n cynnal canolfan ddydd ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023