Astudiaeth achos

£17 miliwn i ddenu ymwelwyr a chreu swyddi yn Sir Gaerfyrddin

Mae bron £17 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi rhannau newydd o Lwybr Dyffryn Tywi ar gyfer cerdded a beicio, gan ychwanegu at y llwybr presennol.

Rhannau newydd o Lwybr Dyffryn Tywi

Bydd y cyllid yn ymestyn Llwybr Dyffryn Tywi, gan gynnwys llwybr cerdded a beicio 20km newydd oddi ar y ffordd sy’n:

  • cysylltu Caerfyrddin â Llandeilo
  • mynd ochr yn ochr ag afon Tywi

Bydd y llwybr newydd yn mynd trwy olygfeydd hardd. Mae’r dirwedd yn cynnwys cestyll, parciau gwledig, ystadau hanesyddol a:

Buddion i Ddyffryn Tywi

Disgwylir i’r buddsoddiad:

  • gynhyrchu hyd at £4.5 miliwn y flwyddyn i’r economi leol o dwristiaeth
  • denu ymwelwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt i Ddyffryn Tywi
  • creu swyddi newydd a hybu buddsoddiad preifat yn yr ardal

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023