Astudiaeth achos

Adfywiad gwerth £10.95 miliwn yn Rhuthun

Dyfarnwyd £10.95m i Gyngor Sir Ddinbych gan y Gronfa Ffyniant Bro i gefnogi datblygu 10 prosiect yng Ngorllewin Clwyd.

Mae dau prif ran i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Diogelu Treftadaeth a Lles Unigryw Rhuthun 

Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth a lles unigryw Rhuthun trwy welliannau i dir cyhoeddus ac adfywio adeiladau hanesyddol a thirnodau.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at welliannau:

  • Sgwâr San Pedr
  • Clasordai ac Eglwys San Pedr
  • Tŵr Cloc Rhuthun
  • Carchar Rhuthun/46 Stryd Clwyd
  • Tŷ Tref Nant Clwyd-y-Dre
  • Parc Cae Ddol

Bydd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Llwybrau a ffyrdd gwell i draffig a cherddwyr
  • gwelliannau i hygyrchedd
  • atgyweirio ac adfer deialau’r cloc
  • mynediad newydd i Garchar Rhuthun rhestredig gradd 2*
  • cysylltedd gwell rhwng y parc a chanol y dref

Diogelu cymunedau gwledig Rhuthun a’r ardal gyfagos

Bydd yr ail linyn yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun trwy welliannau i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau) a hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig Bryneglwys a Gwyddelwern.

Bydd cyllid Ffyniant Bro yn cefnogi:

  • toiledau a chyfleusterau lluniaeth newydd ym Moel Famau
  • estyniad i lwybrau beicio ym Moel Famau
  • trosi hen adeilad ysgol yn ganolfan gymunedol newydd ym Mryneglwys
  • gwell rheolaeth llifogydd a gwelliannau i’r adeilad presennol yn Loggerheads
  • hwb cymunedol ynni-effeithlon newydd yng Ngwyddelwern

Darganfyddwch fwy am gynlluniau Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Levelling Up

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023