Call for evidence outcome

Strategaeth Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched 2021-2024: Galwad y Llywodraeth am Dystiolaeth

Updated 21 July 2021

Applies to England and Wales

Mae’r Galwad hwn am Dystiolaeth yn cychwyn ar 10 Rhagfyr 2020

Mae’r Galwad hwn am Dystiolaeth yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021

Trosolwg

Pwrpas

Ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad byw o drais yn erbyn menywod a merched neu farnau arno, y rhai sydd ag arbenigedd mewn gweithio gyda dioddefwyr/goroeswyr, y rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau ataliol, wrth ddarparu gwasanaethau ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau a’r sefydliadau y mae’r troseddau hyn yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, megis y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi’r gyfraith, llywodraeth leol, iechyd y cyhoedd a gofal iechyd.

Hyd

Deg wythnos

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched - Galwad am Dystiolaeth
Y Swyddfa Gartref
Interpersonal Abuse Unit
Violence Against Women and Girls Team
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: VAWGStrategy2021@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb

Y ffordd hawsaf o ymateb a sicrhau bod eich barnau unigol yn cael eu hystyried yw ymateb i’r arolwg ar-lein sydd ar gael i’r cyhoedd yma: https://gov.uk/homeoffice/VAWG-be-heard

Rhagair yr Ysgrifennydd Cartref

Fel Yr Ysgrifennydd Cartref, diogelwch pobl Prydain yw fy mhrif flaenoriaeth. Dyna pam yr wyf yn hollol glir bod rhaid i ni ddefnyddio pob offeryn posib i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Nid oes gan y troseddau ffiaidd hyn le yn ein cymdeithas, ac rwyf yn benderfynol o weld mwy o gyflawnwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell a’r holl ddioddefwyr a goroeswyr yn derbyn y cymorth y maent yn ei haeddu.

Mae gan droseddau sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, megis trais rhywiol, cam-drin domestig, priodas dan orfod a stelcio ganlyniadau dinistriol. Gallant gael effaith ddwys a hirhoedlog ar y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn ogystal ag ar gymunedau a chymdeithas gyfan. Credaf yn angerddol fod gennym gyfrifoldeb i helpu’r dioddefwyr a’r goroeswyr, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod eu hanghenion wrth wraidd ein hymagwedd.

Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau pwysig yn y maes hwn, gan gynnwys cryfhau’r gyfraith ar droseddau megis stelcio, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol a sefydliadau cymorth, a mwy o ddiogelwch a chymorth i ddioddefwyr a’r rhai sydd mewn perygl trwy fesurau megis “Clare’s Law”, sy’n caniatáu i fenywod wirio a oes gan eu partner hanes treisgar.

Nid ydym wedi stopio yno. Nid yw cartref yn lle diogel i bawb, a dyna pam mae ein Bil Cam-drin Domestig arloesol mor hanfodol. Bydd yn ategu ein hymateb ar bob lefel - gan gryfhau amddiffyniadau i ddioddefwyr, wrth sicrhau bod cyflawnwyr yn teimlo grym llawn y gyfraith.

I gydnabod y ffaith bod dynion a bechgyn yn profi troseddau sy’n dod o fewn y diffiniad o drais yn erbyn menywod a merched, yn 2019 fe wnaethom gyhoeddi’r Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw trawslywodraethol cyntaf erioed.

  Ond, er gwaethaf y cynnydd rydym wedi’i wneud, rwy’n sicr bod rhagor i’w wneud. Tra bod dioddefwyr yn dioddef o’r troseddau ffiaidd hyn, rhaid i ni barhau i weithio’n ddiflino i wella ein hymagwedd. Mae’n dal yn wir y bydd 1 o bob 5 merch yn y DU yn dioddef ymosodiad rhywiol yn ystod ei hoes. A dros y deng mlynedd diwethaf rydym wedi gweld fathau mwy newydd o’r troseddau hyn yn dod i’r amlwg, megis seiber-fflachio a’r hyn a elwir yn ‘upskirting’. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae angen newid sylweddol yn ein hymateb.

Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched y flwyddyn nesaf a pham fy mod yn cyhoeddi Galwad am Dystiolaeth uchelgeisiol a phellgyrhaeddol i’w llywio. Rwyf am i’r Strategaeth newydd ysgogi gwelliannau yn yr ymdrech i dargedu cyflawnwyr; sicrhau ein bod yn gwbl barod i ymateb i natur newidiol y troseddau hyn; ac, yn bwysicaf oll, rhoi dioddefwyr a goroeswyr wrth galon ein hymagwedd.

Er mwyn cyflawni’r uchelgais hon, mae angen i ni dynnu ar wybodaeth a phrofiad y cyhoedd. Mae hynny’n cynnwys y rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol, eu ffrindiau, eu teulu a’u cydweithwyr. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan sefydliadau sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, gweithwyr proffesiynol rheng flaen, ac academyddion. Bydd Nimco Ali OBE, a benodais yn ddiweddar fel Cynghorydd Annibynnol y Llywodraeth ar Fynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched, yn cefnogi’r Galwad hwn am Dystiolaeth ac yn sicrhau ein bod yn clywed gan bob rhan o gymdeithas.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn dal i fod yn rhy gyffredin ac, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mae’n effeithio ar bob un ohonom. Rwyf yn gadarn yn fy mhenderfyniad i gael gwared ar y cyflawnwyr, wrth ddarparu pob cymorth posibl i ddioddefwyr. Mae’n hanfodol ein bod, trwy ein Strategaeth newydd, yn nodi ac yn rhoi atebion ymarferol ar waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Dyna mae dioddefwyr y troseddau ofnadwy hyn yn ei haeddu, a dyna sy’n rhaid i ni ei gyflenwi. Trwy ymateb i’r Galwad hwn am Dystiolaeth, gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a chwarae rhan i’n helpu i gyflawni hynny.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb Gweithredol

Mae troseddau trais a cham-drin yn cael effaith ddwys a pharhaol ar gymdeithas. Gallant chwalu bywydau dioddefwyr, rhwygo teuluoedd, a niweidio cymunedau cyfan. Nid oes unrhyw set o droseddau yn gwneud hyn yn fwy na’r rhai sy’n dod o dan y diffiniad o drais yn erbyn menywod a merched.

Dyna pam mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth ac rydym yn benderfynol o gynyddu ein hymateb i atal y troseddau ffiaidd hyn a gwella canlyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr.

Ein gweledigaeth yw sicrhau cymdeithas lle gall pobl fyw heb ofni camdriniaeth na thrais. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan ein strategaethau trais yn erbyn menywod a merched yn 2010 a 2016 gan gydnabod effaith anghymesur y mathau hyn o droseddau a’r effaith gyfyngol y gall ei chael ar bobl o ran cyrraedd eu potensial llawn.

Er bod trais yn erbyn menywod a merched yn cyffwrdd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â phob un ohonom, mae’r troseddau erchyll hyn yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin ac wedi’u cuddio yn ein cymdeithas. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn fath o wahaniaethu ac yn groes i hawliau dynol. Ein cydgyfrifoldeb yw nodi a mynd i’r afael ag agweddau, patrymau ymddygiad ac arferion gormesol sy’n ceisio sicrhau pŵer a rheolaeth dros ddioddefwyr a goroeswyr y troseddau hyn.

Bu dau ailadroddiad o’r strategaeth trais yn erbyn menywod a merched ers 2010. Yn yr amser hwnnw, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag ystod o droseddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) stelcio, treisio, cam-drin wedi’i seilio ar ‘annrhydedd’ fel y’i gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn ogystal â’r risgiau a’r niwed sy’n gysylltiedig â phuteindra a gwaith rhyw. Er bod llawer wedi’i gyflawni dros y degawd diwethaf, mae mwy i’w wneud o hyd. Mae’r risgiau o drais yn erbyn menywod a merched a oedd yn bodoli ddeng mlynedd yn ôl yn dal i fodoli, ond mae cyflymder y newid cymdeithasol a thechnolegol yn golygu bod mathau newydd ac esblygol o droseddau yn erbyn menywod a merched yn dod i’r amlwg yn barhaus. Mae angen Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched er mwyn sicrhau yr eir i’r afael â’r troseddau hyn yn effeithiol.

  Rydym yn gwybod bod y troseddau hyn yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, ac ni fyddwn byth yn colli golwg ar yr effaith ddinistriol ac eang y gall trais yn erbyn menywod a merched ei chael. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi cyhoeddi’r Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw trawslywodraethol cyntaf er mwyn egluro a chryfhau ein hymateb i ddioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio a’r hyn a elwir yn gam-drin wedi’i seilio ar ‘anrhydedd’. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod bod nifer sylweddol o ddynion a bechgyn yn profi troseddau ymosodol a threisgar sy’n cael eu dal o dan ymbarél trais yn erbyn menywod a merched. Yn yr un modd, rydym hefyd yn cydnabod y gall rhai o’r troseddau hyn gael eu cyflawni gan fenywod hefyd.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi taflu goleuni ar y problemau presennol o gyrchu gwasanaethau yn hawdd ac yn gyflym ac, y straen ar wasanaethau cymorth ar draws y maes cyfan o niweidiau cudd. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth y gwendidau yn ein systemau a’n strwythurau y mae’r pandemig wedi’u hamlygu mor agored ac yn gweithredu arnynt. Rhaid i ni i gyd sicrhau y cedwir ymwybyddiaeth yn uchel ac yr anogir pob rhan o’r gymdeithas i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, boed yn ddarparwyr gwasanaeth, cyflogwyr, ysgolion, ffrindiau neu gymdogion.

Rydym yn cydnabod y gall troseddau ym maes trais yn erbyn menywod a merched hefyd gynnwys, neu fod yn gysylltiedig â, cham-drin domestig. Gall ymatebion i’r Galwad hwn am Dystiolaeth, wrth gwrs, gynnwys deunydd sy’n berthnasol i gam-drin domestig. Fodd bynnag, o ystyried y niwed a achosir, a’r cynnydd mewn cam-drin domestig a adroddwyd yn ystod cyfyngiadau cenedlaethol COVID-19, ymdrinnir â hyn mewn Strategaeth ategol arall a fydd yn dilyn yn ddiweddarach yn 2021. Bydd y Strategaeth Cam-drin Domestig yn dilyn Cydsyniad Brenhinol y Bil Cam-drin Domestig pwysig, a phroses ymgynghori benodol ddilynol. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth y gwendidau yn ein systemau a’n strwythurau y mae’r pandemig wedi’u hamlygu mor agored ac yn gweithredu arnynt.

Mewn ymateb i’r dirywiad mewn atgyfeiriadau, cyhuddiadau, erlyniadau ac euogfarnau am achosion treisio a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal adolygiad i’r ymateb cyfiawnder troseddol i dreisio, a fydd yn adrodd gyda chynllun gweithredu. Bydd y Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched hefyd yn ategu’r cynllun gweithredu hwn sydd ar ddod .

Rydym yn lansio’r Galwad hwn am Dystiolaeth er mwyn llywio’r Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched - o ystyried mynychder trais yn erbyn menywod a merched, rydym yn cydnabod bod gan y cyhoedd, gan gynnwys dioddefwyr a goroeswyr, gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynghylch ac o’r troseddau hyn ac rydym yn awyddus i gael y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan oroeswyr, dioddefwyr, tystion a’r rhai sy’n gweithio i’w cefnogi.   Cwmpas daearyddol y Galwad am Dystiolaeth yw Cymru a Lloegr, er ein bod yn croesawu ymatebion o rannau eraill o’r DU. Er bod llawer o agweddau ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched wedi’u datganoli i Gymru, nid yw trosedd, plismona a chyfiawnder troseddol. O ystyried y meysydd lle mae materion yn croesi drosodd, ac i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r Galwad hwn am Dystiolaeth yn effeithiol yng nghyd-destun Cymru, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Strategaeth yn effeithiol wrth fynd i’r afael â’r troseddau hyn a chefnogi dioddefwyr yng Nghymru a Lloegr.

Nod ac Amcanion

Nod y Galwad hwn am Dystiolaeth yw ein galluogi i ddeall gwir raddfa troseddau trais yn erbyn menywod a merched a’u heffaith, y mesurau a allai helpu i nodi ac atal y troseddau hyn, i ba raddau y mae’r ddeddfwriaeth a’r gwasanaethau cyfredol yn cael eu defnyddio’n effeithiol i fynd i’r afael â nhw, a nodi enghreifftiau o arfer gorau.

Maint

Mae troseddau trais yn erbyn menywod a merched yn droseddau cudd ac felly mae ein dealltwriaeth o’r maint a’r mynychder yn gyfyngedig. Er enghraifft, rydym yn gwybod y gall trais yn erbyn menywod a merched effeithio ar unrhyw berson waeth beth yw eu cefndir, ethnigrwydd, crefydd, oedran neu ryw, ond ychydig o ddealltwriaeth sydd gennym o sut y gellir dadansoddi hyn ar gyfer pob math o drosedd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn nodi’r tueddiadau a’r ysgogwyr y tu ôl i drais yn erbyn menywod a merched.

Fodd bynnag, mae rhai tueddiadau eang y gellir eu nodi yn y data. Gan gymryd troseddau treisio ac ymosodiadau rhywiol fel enghraifft, gwyddom o’r Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 2020, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, bod 2.2% o oedolion rhwng 16 a 59 oed wedi profi ymosodiad rhywiol (gan gynnwys troseddau wedi’u ceisio) yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf. Roedd hwn yn ostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (2.9%), wedi’i ysgogi gan y gostyngiad sylweddol mewn dinoethiad anweddus neu gyffwrdd rhywiol digroeso (2.5% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 o’i gymharu ag 1.9% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020).

Er mai dim ond cipolwg ar wir ffigur y treisio a ddigwyddodd, cofnodwyd mwy na 55,000 o ddigwyddiadau trais rhywiol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ym mhob un o’r ddwy flynedd ddiwethaf (ffigurau 2018/19 a 2019/20). Y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2012 heb unrhyw gynnydd mewn achosion, fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn fwy na dwbl y ffigur ar gyfer 2013/14. Efallai y bydd y ffigurau hyn yn awgrymu ein bod yn gwella wrth gofnodi trais rhywiol, ac eto mae tystiolaeth hefyd gan wasanaethau cymorth i awgrymu nad yw’r mwyafrif o ddigwyddiadau trais rhywiol yn cael eu riportio na’u cofnodi yn yr ystadegau hyn.   Er bod arolwg yr ONS yn adlewyrchu cynnydd yn nifer yr achosion o droseddau ymosodiadau rhywiol o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2014, dim ond ychydig o newid a ddangoswyd yn nifer y troseddau hyn a gofnodwyd gan yr heddlu o’r flwyddyn flaenorol (o 154,213 i 154,113 o droseddau). Y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2012 heb unrhyw gynnydd. Gallai hyn awgrymu bod dylanwad gwelliannau mewn arferion cofnodi ar gyfer y drosedd benodol hon yn lleihau. Ar gyfer is-set o heddluoedd sy’n darparu data i Hyb Data’r Swyddfa Gartref, roedd 23% o’r troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn droseddau nad oeddent yn ddiweddar (y rhai hynny a ddigwyddodd fwy na 12 mis cyn cael eu cofnodi gan yr heddlu) . Er bod troseddau nad ydynt yn ddiweddar yn cyfrannu’n bwysig at godiadau mewn troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu mewn blynyddoedd blaenorol, yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae adroddiadau o droseddau nad ydynt yn ddiweddar wedi lleihau ac felly nid ydynt bellach yn cyfrannu at gynnydd cyffredinol mewn troseddau rhywiol.

Gwyddom, ers ysgrifennu’r Strategaeth flaenorol, fod trais yn erbyn menywod a merched wedi esblygu ac yn cwmpasu llawer mwy o ymddygiadau a mathau o droseddau. Rydym hefyd yn gwybod bod ein dealltwriaeth o gyffredinrwydd ac achosion y mathau mwy newydd hyn o drais yn erbyn menywod a merched yn gyfyngedig. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod cam-drin ym maes gwneud oedau ar-lein trwy apiau gwneud oedau wedi dod yn broblem wirioneddol i bobl iau, gan niweidio parch ac o bosibl berthnasoedd yn y dyfodol, neu weithredu fel magl ar gyfer erledigaeth bellach. Ac eto nid oes gennym lawer o afael ar faint o bobl sy’n cael eu heffeithio na faint sydd angen neu sy’n ceisio cymorth. Nid yw troseddau megis seiber-fflachio, sydd hefyd yn bryder cynyddol i bobl ifanc, er eu bod o bosibl yn droseddol, o reidrwydd yn cael eu dal yn ddigonol neu’n gywir mewn data swyddogol, os o gwbl. Mae adroddiadau cynyddol hefyd o gam-drin a rhywiaeth eithafol yn dod i’r amlwg yn y fforymau ar-lein a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag apiau newydd, er nad oes ffigurau cywir ar gyfer hyn ar gael eto.

Bydd y Galwad hwn am Dystiolaeth yn ceisio amlygu meysydd pryder ar y troseddau cudd hyn a darparu rhywfaint o gyd-destun i’r camau sy’n dod allan o’r Strategaeth.

Effaith

Nod allweddol y Galwad hwn am Dystiolaeth yw dal profiad byw y rhai y mae trais yn erbyn menywod a merched yn effeithio arnynt a deall sut y gallwn ddefnyddio profiadau a gwersi a ddysgwyd i wella ein hymateb i’r troseddau hyn. Os ydym am gynyddu ein hymateb i atal y troseddau ffiaidd hyn a gwella canlyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr, mae’n hanfodol cael gwell dealltwriaeth o’r effaith.

Gall fod yn anodd mesur effaith trais yn erbyn menywod a merched, o ystyried ei natur gudd. Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Gartref wedi amcangyfrif y bu costau economaidd a chymdeithasol cam-drin domestig mewn un flwyddyn (a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017) oddeutu £66 biliwn, yn uwch nag unrhyw fath arall o drosedd unigol. Mae amcangyfrifon blaenorol ar gyfer treisio (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015) wedi amcangyfrif costau o £4.8 biliwn. Er bod llawer ohono’n parhau i fod yn gudd, mae’n amlwg bod y troseddau hyn yn cael effaith sylweddol ar y gymdeithas gyfan.

Atal a chymorth

Yn aml gall troseddau trais yn erbyn menywod a merched dderbyn cymorth anghyson neu hyd yn oed annigonol gan y system pan gânt eu riportio. Yn aml nhw yw’r troseddau mwyaf heriol ac anodd i arwain at erlyniadau’n llwyddiannus, ac mae’r dirywiad yn y nifer o euogfarnau treisio yn achos penodol, lle mae cyn lleied ag 1% o honiadau treisio bellach yn arwain at euogfarn a lle mae un o bob pedwar dioddefwr yn tynnu eu cefnogaeth i erlyniad yn ôl. Mae’n bwysig bod y duedd hon, a thueddiadau llai clir mewn mathau eraill o drais yn erbyn menywod a merched, yn cael eu deall yn llawn a’u trin er mwyn leihau effaith y troseddau hyn ar gymdeithas.

Rydym hefyd yn gwybod mai ond ychydig sydd ar gael o ran atal, yn arbennig ar gyfer y mathau mwyaf diweddar o drais yn erbyn menywod a merched. Prin yw’r dystiolaeth hefyd ar effeithiolrwydd rhaglenni cyflawnwyr ar gyfer llawer o droseddau trais yn erbyn menywod a merched. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau ar waith i atal y troseddau hyn rhag digwydd a ddarperir gan arbenigwyr lleol, yn aml gyda chefnogaeth Llywodraeth ganolog. Er enghraifft, prosiectau i helpu menywod sy’n ymwneud â gwaith rhyw, grŵp sydd mewn perygl arbennig o drais yn erbyn menywod a merched, i gael eu cefnogi gyda chyngor a mesurau gweithredol i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae ymagweddau ‘system gyfan’, fel yr un a fabwysiadwyd yn Ne Cymru gyda chefnogaeth Cymorth Menywod Cymru ac asiantaethau partner eraill, hefyd wedi llwyddo i fynd i’r afael ag atal erledigaeth a darparu cymorth cofleidiol.

Mae gwasanaethau cymorth ar waith hefyd trwy linellau cymorth megis y rhai sy’n cael eu rhedeg gan Rape Crisis a’r Llinell Gymorth Revenge Porn. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu pobl i ddod trwy brofiadau trawmatig. Gall eu gwaith hefyd helpu i amlygu, trwy gynyddu nifer y galwadau/cysylltiadau, pan fydd galw mawr yn digwydd ac felly pan fydd effaith y drosedd ar gymdeithas ar ei huchaf.

Defnyddio’r dystiolaeth

Bydd y dystiolaeth a gesglir trwy’r ymarfer hwn yn llywio cynnwys, gweithredoedd a chyfeiriad cyffredinol Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched i redeg rhwng 2021 - 2024 sy’n cwmpasu hyd y Senedd hon. Bydd y Strategaeth hon yn diffinio gweledigaeth uchelgeisiol y Llywodraeth ar gyfer parhau â’i brwydr i fynd i’r afael â cham-drin a thrais yn erbyn menywod a merched. Er mwyn gwneud y Strategaeth mor effeithiol ag y gall fod, rydym am gasglu ystod eang o wybodaeth. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sy’n gweithio ar drais yn erbyn menywod a merched neu droseddau sy’n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys cam-drin domestig, ac yn annog sefydliadau sydd â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i ddarparu gwybodaeth fanwl am y materion y mae’r cyhoedd yn eu profi.

Rydym hefyd am glywed yn uniongyrchol gan ddioddefwyr/goroeswyr a’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan drais yn erbyn menywod a merched. Rydym yn cydnabod bod pawb sy’n dioddef o ganlyniad i drais yn erbyn menywod a merched yn dod o amgylchiadau unigryw a bod ganddynt nodweddion unigryw a all effeithio ar eu profiad. Mae hyn yn cynnwys ffactorau oedran, ethnigrwydd, crefyddol ac anabledd a all lunio profiad rhywun o niwed a mynediad at wasanaethau cymorth. Rydym am i’n Strategaeth newydd adlewyrchu’r profiadau amrywiol hyn a mynd i’r afael â’u gwahanol anghenion.   ##Ein Hymagwedd

Rydym yn cynnig mabwysiadu ymagwedd dau linyn i ganiatáu trafodaeth fanwl ond strwythuredig i fynd i’r afael â rhai themâu allweddol megis lleihau mynychder a difrifoldeb trais yn erbyn menywod a merched trwy fesur ataliol a chefnogol; gwella canlyniadau i ddioddefwyr/goroeswyr trwy drin y troseddau hyn yn well yn y system cyfiawnder troseddol; a nodi mathau newydd o drais yn erbyn menywod a merched fel y gellir mynd i’r afael â nhw’n ddigonol.

Bydd y llinyn cyntaf yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â dioddefwyr a goroeswyr a chyda’r cyhoedd. Fel rhan o’n hail linyn, rydym yn awyddus i glywed gan y rhai sy’n cynrychioli dioddefwyr, y rhai sy’n helpu i ddelio â thramgwyddwyr, ac eraill sydd â throsolwg o faterion ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws manwl ac yn gwahodd aelodau o’r sector gwirfoddol, academyddion ac arbenigwyr ym maes trais yn erbyn menywod a merched a chyrff cyhoeddus. Gyda’i gilydd, byddai’r ddau ymagwedd hyn yn darparu tapestri cyfoethog o ddata a syniadau i ddod i gasgliadau a chamau gweithredu i gyflawni’r mesurau llwyddiant.

Bydd ymgysylltiad deng wythnos â’r cyhoedd yn ein helpu i gael ymdeimlad cliriach o sut mae’r troseddau hynny’n esblygu, deall pam nad yw troseddau’n cael eu riportio’n ddigonol, sicrhau bod ein hymateb yn cadw i fyny â thechnoleg, ac i gysylltu â phrofiad y dioddefwr.

Llinyn Cyntaf - Data ymarferol

Nod ffocws y rhan hon o’r Galwad am Dystiolaeth yw ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn deall beth sy’n gweithio’n dda a beth y gallwn ei wneud yn well. Trwy ddefnyddio ystod o ymagweddau i roi cyhoeddusrwydd i’n Galwad am Dystiolaeth, rydym am estyn allan a chasglu tystiolaeth gan y cyhoedd, gan gynnwys pobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ag ymgyngoriadau’r Llywodraeth. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl a allai deimlo nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol mewn strategaethau blaenorol neu sy’n teimlo nad oedd eu hamgylchiadau’n cael eu cefnogi gan y gwasanaethau presennol. Mae’r arolygon yn agored i’r rhai 16 oed neu’n hŷn, er y bydd y broses ehangach yn darparu cyfleoedd i sicrhau bod profiadau ehangach plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried.

Meysydd a Gwmpesir yn yr Arolwg Cyhoeddus

Er mwyn atal, nodi a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn effeithiol, mae’n hanfodol bod barnau’r cyhoedd yn dylanwadu ar ein gwaith parhaus yn y maes hwn. Bydd cydran holiadur ar-lein o’r Galwad am Dystiolaeth yn anelu at gipio llais y cyhoedd a sut maent yn teimlo am y troseddau hyn.

Trais yn erbyn Menywod a Merched a’r Niwed Mae’n ei Achosi i Gymdeithas

Rydym yn cydnabod bod mathau o drais a nodwyd yn erbyn menywod a merched sydd wedi effeithio ar lawer o bobl o gefndiroedd amrywiol. Fodd bynnag, hoffem ddeall mwy am y troseddau hyn fel y gallwn ddeall yn well y gwir ddarlun mewn cymdeithas.

Hoffem i ymatebion i’r Galwad am Dystiolaeth amlinellu rhai o’r mathau o droseddau y mae ymatebwyr yn credu sy’n dod o dan y term ‘trais yn erbyn menywod a merched’, ac i ddisgrifio’r niwed y maent yn ei achosi i ddioddefwyr a chymdeithas. Hoffem hefyd ddeall barn y cyhoedd ynghylch a yw’r troseddau hyn yn cynyddu o ran mynychder (yn unigol neu yn eu cyfanrwydd) a pha grwpiau sy’n cael eu heffeithio fwyaf.

Profiadau Uniongyrchol Trais yn erbyn Menywod a Merched

Mae gan bob unigolyn y mae trais yn erbyn menywod a merched yn effeithio arno brofiad unigryw y gallwn ddysgu ohono, trwy enghreifftiau o arfer da sydd wedi helpu pobl trwy eu trawma neu, yn anffodus, lle nad oedd cefnogaeth cystal ag y dylai fod.

Rydym yn ceisio barn dioddefwyr a goroeswyr yn uniongyrchol fel rhan o’r Galwad am Dystiolaeth hon, trwy arolwg y byddwn yn ei ddosbarthu trwy wasanaethau cymorth arbenigol. Bydd y sefydliadau hyn yn gallu darparu cefnogaeth uniongyrchol i’r rhai sy’n ymateb.

Mae croeso hefyd i ddioddefwyr a goroeswyr gwblhau’r arolwg cyhoeddus, pe baent yn teimlo’n gyffyrddus yn gwneud hynny.

Troseddau Trais yn Erbyn Menywod a Merched sydd yn esblygu ac yn dod i’r amlwg

Hoffem i ymatebion i’r Galwad am Dystiolaeth nodi mathau o droseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn esblygu ac yn dod i’r amlwg. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried barnau’r cyhoedd ar yr hyn y mae ein hymatebwyr yn credu yw’r troseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn dod i’r amlwg ac yn esblygu ac yn ein galluogi i ystyried y goblygiadau i lywio datblygiad y Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched.

Dioddefwyr Gwryw

Er gwaethaf y ffaith bod y Strategaeth Terfynu Trais yn erbyn Menywod a Merched yn cipio’r holl ddioddefwyr, roedd angen y Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw, a gyhoeddwyd yn 2019, i archwilio’r heriau a’r rhwystrau penodol y mae dioddefwyr gwrywaidd yn eu profi o ran ceisio cymorth, ac mae’n amlygu adnoddau sy’n ddefnyddiol i gomisiynwyr lleol, wrth gynnal bod trais yn erbyn menywod a merched yn drosedd anghymesur o ran rhyw.

Mae yn ein hymrwymiad i ddynion sy’n dioddef o’r troseddau hyn yr hoffem gael ymatebion i’r Galwad am Dystiolaeth i ystyried yn well sut mae’r troseddau hyn yn effeithio ar ddioddefwyr gwryw. Dim ond trwy ddeall y materion allweddol y gallwn ni wir adlewyrchu profiadau dioddefwyr gwryw yn y Strategaeth newydd, a fydd yn ystyried yr ymagwedd, y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar y grŵp hwn.

Ail Llinyn - Data Strategol

Ein hail linyn fydd casglu gwybodaeth strategol trwy gyflwyniadau a grwpiau ffocws gan academyddion ac arbenigwyr yn y maes hwn a’r rhai sy’n archwilio troseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn dod i’r amlwg ac yn esblygu.

Bydd ein grwpiau ffocws yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y meysydd dilynol:

  • Tramgwyddwyr a rheoli tramgwyddwyr
  • Treisio a thrais rhywiol
  • Stelcio ac aflonyddu (gan gynnwys aflonyddu cyhoeddus ac yn y gweithle) Dioddefwyr mudol a rhwymedigaethau rhyngwladol
  • Camdriniaeth ‘wedi’i seilio ar anrhydedd’ fel y’i gelwir, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod
  • Dioddefwyr/goroeswyr LGBTQ+
  • Dioddefwyr/goroeswyr Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Dioddefwyr/goroeswyr Byddar ac Anabl
  • Dioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd
  • Niweidiau ar-lein a cham-drin wedi’i alluogi gan dechnoleg
  • Plant a phobl ifanc
  • Rhywiaeth eithafol
  • Dyletswydd gofal: cyflogwyr ac addysg
  • Puteindra a gwaith rhyw, camfanteisio masnachol, masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern
  • Cam-drin economaidd
  • Gweithio amlasiantaethol
  • Y System Cyfiawnder Troseddol Iechyd meddwl (gan gynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio)
  • Comisiynu lleol - Datganiad Cenedlaethol Disgwyliadau

Cyflwyniadau ysgrifenedig

Byddwn yn ymgysylltu â sefydliadau arbenigol sydd â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth. Bydd y ffynhonnell werthfawr hon o wybodaeth yn cael ei hystyried yn ganolog wrth gasglu barnau’r sector am drais yn erbyn menywod a merched i’n helpu i ysgrifennu’r Strategaeth newydd.

Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan academyddion ac eraill sydd â diddordeb ac arbenigedd ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Gall cyflwyniadau ysgrifenedig gynnwys cyfrannu data cyhoeddedig, ymchwil ac adroddiadau eraill sy’n berthnasol i drais yn erbyn menywod a merched.

Er mwyn cynorthwyo ein dealltwriaeth o gwmpas troseddau y dylid eu dosbarthu fel trais yn erbyn menywod a merched, byddwn yn gwahodd y sector i gymryd rhan yn y Galwad hwn am Dystiolaeth i ddarparu gwybodaeth bellach am droseddau mwy sefydledig ochr yn ochr â data newydd ar fathau o drais yn erbyn menywod a merched sydd yn esblygu ac sydd newydd ddod i’r amlwg. Byddwn yn ystyried unrhyw fath o drosedd sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, ochr yn ochr ag edrych yn benodol ar drais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, stelcio, cam-drin domestig, priodas dan orfod, cam-drin ‘wedi’i seilio ar anrhydedd’ fel y’i gelwir, rhannu delweddau personol heb gydsyniad, seiber-fflachio, anffurfio organau cenhedlu benywod, aflonyddu rhywiol, aflonyddu ar-lein ac eraill.

Rydym yn chwilio am gyflwyniadau i gynnwys cwmpas, graddfa a chyffredinrwydd y troseddau hyn, lle mae hynny’n bosibl. Gan arddangos mor glir â phosibl pa mor fawr o broblem yw pob math o drosedd trais yn erbyn menywod a merched, neu pa mor dreiddiol yw’r troseddau hyn ar draws cymdeithas ac a oes grwpiau penodol sy’n cael eu heffeithio’n ddyfnach. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gwybodaeth am y sbectrwm o fathau o droseddau sy’n effeithio ar grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai â gwendidau penodol.

Mae gwybodaeth am weithgareddau i gynorthwyo atal hefyd yn bwysig, gan helpu i ddiffinio ffyrdd y bydd y Strategaeth newydd yn atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf. Bydd ymatebion sy’n darparu enghreifftiau o raglenni atal llwyddiannus a syniadau ar sut y gallent gael eu hehangu yn ein helpu i lunio gweithredoedd pellach gan y Llywodraeth i leihau niwed.

Yn gysylltiedig ag atal, ac yr un mor bwysig wrth atal troseddau, fyddai unrhyw dystiolaeth y gall arbenigwyr, sefydliadau ac elusennau ei darparu ar dramgwyddwyr. Bydd y Strategaeth newydd yn cynnwys gwaith o amgylch tramgwyddwyr, ac mae’n bwysig ein bod yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwn ar y sawl sy’n cyflawni’r troseddau hyn a’r hyn sy’n gweithio i’w helpu i stopio. 

Ni ellir ystyried bod unrhyw Strategaeth yn llwyddiant oni bai ei bod yn cyflenwi ar gyfer dioddefwyr, felly hoffem gyflwyno tystiolaeth i nodi gwasanaethau a chymorth i ddioddefwyr yn glir gan y rhai sy’n ymwneud â’r gwaith hwn neu sydd â gwybodaeth arbenigol amdano. Gallai amlygu arfer gorau yma ochr yn ochr â rhaglenni atal, agor cyfleoedd i ehangu. Bydd nodi meysydd lle mae darpariaeth gwasanaeth yn annigonol neu hyd yn oed yn absennol yn helpu i nodi ffrydiau gwaith penodol i’w gwella.

Yn yr un modd, byddai cyflwyniadau sy’n ymwneud ag ymateb y system cyfiawnder troseddol a systemau arall i droseddau trais yn erbyn menywod a merched hefyd yn cael eu croesawu. Rydym yn gwybod, er bod gwelliannau wedi’u gwneud mewn sawl maes, bod llawer y gellir ei wneud o hyd i wella profiad y dioddefwr ac i sicrhau bod y gosb yn cyd-fynd â’r drosedd a bod y niwed i ddioddefwyr a’u teuluoedd yn cael ei leihau, yn arbennig o ran troseddu mynych.

Byddem hefyd yn awyddus i ddeall unrhyw faterion allweddol eraill ym maes trais yn erbyn menywod a merched yr hoffech eu hystyried ar gyfer y Strategaeth. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch rhyngweithio â meysydd troseddu eraill neu feysydd lle gwelir troseddau trais yn erbyn menywod a merched yn dod i’r amlwg yn y dyfodol. Felly, rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig i gwmpasu’r chwe maes hyn.

Sut i Ymateb

Y ffordd hawsaf o ymateb a sicrhau bod eich barn unigol yn cael ei hystyried yw ymateb i’r arolwg ar-lein sydd ar gael i’r cyhoedd yma https://gov.uk/homeoffice/VAWG-be-heard

Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan academyddion ac eraill sydd â diddordeb ac arbenigedd ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Gall cyflwyniadau ysgrifenedig gynnwys cyfraniad data cyhoeddedig, ymchwil ac adroddiadau eraill sy’n berthnasol i drais yn erbyn menywod a merched.

Gellir anfon cyflwyniadau ysgrifenedig at VAWGStrategy2021@homeoffice.gov.uk

Os na allwch chi neu’r bobl rydych chi’n eu cynorthwyo gwblhau arolwg ar-lein neu os hoffech gael fersiwn fwy hygyrch, neu iaith arall, mae fersiynau ychwanegol o’r arolwg ar gael. Cysylltwch â’r tîm trwy’r cyfeiriad e-bost uchod neu trwy’r post yn:

Ymgynghoriad Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2020
Y Swyddfa Gartref
Interpersonal Abuse Unit
Violence Against Women and Girls Team
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF