Annex C – summary of the responses to the government’s call for evidence (Welsh)
Updated 30 July 2026
Ymwadiadau
Ymarfer casglu tystiolaeth oedd yr alwad hon am dystiolaeth ac ni chyflwynwyd unrhyw gynigion ar gyfer newid polisi na deddfwriaeth.
Cwblhawyd yr adroddiad hwn o dan y weinyddiaeth flaenorol ond ni chafodd ei gyhoeddi. Oherwydd oedi wrth gyhoeddi, nid yw cynnwys ac iaith yr adroddiad yn adlewyrchu polisi cyfredol y llywodraeth na’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Er bod y Swyddfa Cydraddoldeb a Chyfle wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir, nid yw’n gwarantu cywirdeb, cyflawnrwydd na defnyddioldeb yr wybodaeth honno.
Crynodeb o’r ymatebion i alwad y llywodraeth am dystiolaeth gan bobl neu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl ag amrywiadau mewn nodweddion rhyw (VSC), neu sy’n gweithio gyda nhw
Roedd yr alwad hon am dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth am brofiadau ac anghenion pobl yn y DU sydd ag amrywiadau yn eu nodweddion rhyw. Roedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi’u hanelu’n bennaf at y rhai â VSC neu â phrofiad byw o ofalu’n bersonol am rywun â VSC. Grŵp arall y gwnaethom ofyn i ymateb oedd y rhai sy’n gweithio gyda phobl â VSC neu’n darparu gwasanaethau iddynt mewn swyddogaeth broffesiynol. Gallai hyn gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion, athrawon, cyflogwyr, gwasanaethau cymorth a darparwyr gwasanaethau.
Cawsom 80 o ymatebion gan weithwyr proffesiynol neu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl â VSC neu’n gweithio gyda nhw. Roedd hwn yn grŵp hynod amrywiol, ac roedd yr ymatebion yn amrywio’n fawr, er bod rhai themâu’n gyson â’r rhai a godwyd gan bobl ag amrywiadau mewn VSC a/neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Mae’r ymatebion wedi’u crynhoi isod.
Terminoleg
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â’r Llywodraeth yn defnyddio’r term ymbarél ‘amrywiadau mewn nodweddion rhyw’ i ddisgrifio pobl sydd â chorff nad yw’n nodweddiadol wrywaidd na benywaidd, a hefyd i restru unrhyw derm(au) arall/eraill y byddai’n well ganddynt eu defnyddio.
Gellid grwpio’r ymatebion i’r pedair thema ganlynol:
- dewis y term ‘rhyngrywiol’
- dewis y term ‘anhwylderau neu wahaniaethau datblygiad rhyw’ gan fod y rhain yn disgrifio cyflwr meddygol yn hytrach na rhywbeth y gellid ei wleidyddoli.
- defnyddio’r derminoleg benodol ar gyfer cyflyrau penodol, gan y gellid camddehongli termau ehangach fel rhai sy’n cyffredinoli.
- yr awgrym, gan fod gan randdeiliaid safbwyntiau amrywiol a gwrthgyferbyniol ynghylch terminoleg yn y maes hwn, fod defnyddio term newydd (VSC) yn syniad da ac yn opsiwn mwy cynhwysol.
Gofal Iechyd – ymyriadau meddygol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr sut, os o gwbl, y gellid gwella’r gofal, y cymorth a’r wybodaeth a ddarperir i bobl â VSC mewn perthynas ag ymyriadau neu driniaethau meddygol.
Roedd prif faterion a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion yn cynnwys:
- Mae ansawdd yr wybodaeth a’r gofal yn amrywio yn ôl yr ardal ddaearyddol.
- Yr angen am well gwybodaeth i rieni ynghylch pa lawdriniaethau sy’n angenrheidiol a pha rai all aros nes bod plentyn yn gallu rhoi ei ganiatâd.
- Yr angen am hyfforddiant cynyddol a gwell i bob ymarferydd meddygol.
- Yr angen am wasanaethau seicolegol mwy penodol i blant, pobl ifanc ac oedolion â VSC.
- Yr angen am gymorth gwell i rieni a gofalwyr.
- Mwy o gymorth i sefydliadau yn y sector gwirfoddol a sefydliadau sy’n rhedeg eu hunain sy’n cynorthwyo unigolion â VSC.
- Nad oes un dull sy’n addas i bawb ar gyfer plant â VSC.
- Mae cymorth a chysylltiad gan gymheiriaid yn bwysig i bobl ifanc (gellid eu darparu gan sefydliadau gwirfoddol).
Gofal Iechyd – gwasanaethau gofal iechyd
Gofynnwyd i ymatebwyr sut y gellid gwella gwasanaethau gofal iechyd i gefnogi anghenion pobl sydd â VSC yn well, os o gwbl.
Roedd prif faterion a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion yn cynnwys:
- Yr angen i wasanaethau gofal iechyd fod yn ymwybodol bod hunaniaethau VSC ac LHDT yn gwbl wahanol i’w gilydd, er gwaethaf y ffaith y gallai rhai unigolion uniaethu â’r ddwy.
- Yr angen am hyfforddiant penodol i feddygon a staff meddygol eraill, gan gynnwys seicotherapyddion.
- Yr angen am fynediad cynnar at gwnselwyr profiadol i rieni a phobl ifanc.
- Yr angen am well gofal seicogymdeithasol i deuluoedd.
- Seilwaith TG gwell fel y gall timau gofal iechyd, cleifion a theuluoedd gyfathrebu’n well ar draws adrannau arbenigol wrth i deuluoedd gael mynediad at wahanol rannau o’r system.
- Yr angen i allu cofnodi rhyw heblaw gwryw neu fenyw ar waith papur a systemau TG.
- Pontio gwell o ofal pediatrig i ofal oedolion.
- Angen cysylltu grwpiau cymorth â gwasanaethau gofal iechyd.
Addysg
Gofynnwyd i ymatebwyr sut y gellid gwella sefydliadau addysgol ar gyfer disgyblion â VSC a’u teuluoedd, os o gwbl.
Roedd prif faterion a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion yn cynnwys:
- Gellid ymgorffori dealltwriaeth o VSC yn y cwricwlwm ar draws pynciau mewn addysg gynradd ac uwchradd i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ymhlith pob disgybl.
- Lle bo’n briodol, dylid rhoi gwybod i staff, ar sail angen gwybod, am ddisgyblion â VSC fel y gallant eu cynorthwyo.
- Y dylai ysgolion anelu at ddefnyddio iaith gynhwysol o amgylch rhyw a rhywedd, o bosibl drwy dderbyn hyfforddiant ar VSC (y gellid ei gyflwyno gan sefydliadau gwirfoddol).
- Yr angen i ddarparu cymorth neu addasiadau priodol i’r rhai sydd wedi colli ysgol oherwydd anghenion iechyd.
- Yr angen i ganiatáu ystafelloedd newid ar wahân i ddisgyblion â VSC mewn rhai achosion.
Gwasanaethau cymorth
Gofynnwyd i’r ymatebwyr sut, os o gwbl, y gellid gwella gwasanaethau neu sefydliadau cymorth i bobl â VSC ac i’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd yn ymwneud â’r angen am well cyllid ar gyfer sefydliadau cymorth. Roedd materion eraill yn cynnwys:
- Yr angen am wasanaethau cymorth amlddisgyblaethol.
- I rai, yr angen am sefydliadau a gwasanaethau cymorth sy’n wahanol i sefydliadau LHDT.
- Y posibilrwydd o wella dealltwriaeth o VSC mewn sefydliadau crefyddol.
- Pwysigrwydd grwpiau cymorth hygyrch i rieni.
- Y cyfleoedd i sefydliadau ddod at ei gilydd i weithio ar flaenoriaethau cyffredin ac i weithio gyda’r llywodraeth.
- Yr angen i ymgysylltu â phobl â VSC i ddeall yn well y mathau o gymorth sydd eu hangen.
Gweithleoedd, budd-daliadau, chwaraeon a hamdden
Gofynnwyd i’r ymatebwyr sut y gellid gwella’r gweithleoedd, y broses o hawlio budd-daliadau, a gwasanaethau chwaraeon a hamdden i bobl â VSC a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, os o gwbl.
Roedd prif faterion a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion yn cynnwys:
Gweithle
- Yr angen i godi ymwybyddiaeth eang am VSC mewn gweithleoedd, a materion mwy penodol fel
- sut mae deddfwriaeth gyfredol yn amddiffyn pobl â VSC, yn ogystal ag amddiffyniadau mwy penodol posibl sy’n cael eu cyflwyno.
- yr angen am addasiadau rhesymol i bobl â VSC mewn gwaith ac yn ehangach.
- Yr angen posibl am wasanaethau cymunedol mewn gweithleoedd, yn ogystal â mwy o ystafelloedd ymolchi i bobl anabl.
- Y cyfle i’r Llywodraeth ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i gwmnïau a gweithleoedd am VSC.
Budd-daliadau
- Yr angen am hyfforddiant i staff sy’n gweithio mewn prosesau budd-daliadau fel y gallant gefnogi pobl â VSC yn well i lywio’r system.
Chwaraeon a hamdden
- Yr angen posibl am newidiadau i gyfleusterau newid mewn gwasanaethau hamdden.
- Yr angen posibl i gyrff chwaraeon gyflwyno fframweithiau penodol sy’n gwahardd gwahaniaethu mewn chwaraeon yn seiliedig ar nodweddion rhyw.
- Y cyfle i glybiau a sefydliadau chwaraeon ar bob lefel fod yn fwy cynhwysol ar draws rhywedd a rhyw, ac i bobl â VSC.
Rhoddwyd cyfle hefyd i’r ymatebwyr rannu unrhyw beth a ddymunent am weithio gyda phobl â VSC yn y DU neu ddarparu gwasanaethau iddynt. Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn helaeth ac yn amrywiol ac fe’u hystyriwyd yn ofalus, ond ni chânt eu cyflwyno yma.