Call for evidence outcome

Galwad am Dystiolaeth ar Gynhyrchion Bwydo sy’n Atal Methan: Crynodeb o'r Ymatebion

Updated 26 October 2023

Trosolwg

Lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig alwad am dystiolaeth yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio cynhyrchion bwydo sy’n atal methan. Mae’r rhain wedi’u diffinio fel cynhyrchion naturiol neu synthetig a all leihau allyriadau methan o dda byw trwy eu hychwanegu at fwyd anifeiliaid neu eu cynnwys mewn bwyd anifeiliaid. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys atalyddion methanogenesis, gwymonydd, olewau hanfodol, asidau organig, probiotegau, a gwrthficrobau. 

Gan fod hon yn dechnoleg sydd wrthi’n dod i’r amlwg, roedd yr alwad am dystiolaeth yn ystyried y rôl bosibl y gallai cynhyrchion bwydo sy’n atal methan ei chwarae wrth sicrhau arbedion allyriadau, yr ymwybyddiaeth a’r argraff bresennol o’r cynhyrchion hyn, a rôl bresennol ychwanegion bwyd anifeiliaid mewn systemau ffermio. Gofynnwyd am dystiolaeth ar y rhwystrau posibl a allai atal cyflwyno cynhyrchion bwydydd anifeiliaid sy’n atal methan yn y dyfodol agos a hirdymor, dilysu, a rôl y Llywodraeth wrth oresgyn yr heriau hynny.

Gofynnwyd am sylwadau ynghylch ai ymyriadau gan y llywodraeth fyddai’r ffordd orau i hybu defnydd ohonynt, ynteu atebion gan y diwydiant neu atebion gwirfoddol, a beth fyddai’r ymyriadau hyn yn ei olygu.

Crynodeb o’r ymatebion

Cawsom 213 o ymatebion mewn amryw o fformatau. Cyflwynodd y mwyafrif o’r rhanddeiliaid sylwadau naill ai’n uniongyrchol drwy’r ebost neu ar ffurf yr arolwg ar-lein. Cawsom hefyd nifer fach o gyflwyniadau ysgrifenedig a ystyriwyd hefyd.

Gofynnwyd 21 o gwestiynau i gyd am gynhyrchion bwydo sy’n atal methan a chafwyd 4094 o atebion, ynghyd â safbwyntiau mwy cyffredinol.

Isod ceir crynodeb o’r ymatebion i bob cwestiwn yn yr alwad am dystiolaeth. Oherwydd natur gyfrinachol y tri chwestiwn cyntaf a oedd yn ymwneud â manylion cysylltu personol, rydym wedi hepgor dadansoddiad manwl o’r ymatebion hyn o’r crynodeb o ymatebion.

Categoreiddio 

At ddibenion y crynodeb hwn o’r ymatebion ac i helpu i wahaniaethu rhwng sylwadau gwahanol sectorau yn y gadwyn gyflenwi, rydym wedi grwpio’r ymatebwyr yn dri chategori:

  • Ffermwyr  (y rhai sy’n eu dynodi eu hunain fel Busnes Fferm)
  • Sefydliadau  (y rhai a ddynododd eu hunain fel cyrff diwydiant, sefydliadau anllywodraethol, neu gyrff cyhoeddus, masnach ac academaidd) ac
  • Unigolion Eraill (Pob ymateb unigol arall, gan gynnwys cynghorwyr fferm, academyddion annibynnol ac aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol)
Ymateb Canran o’r ymatebwyr (%)
Ffermwyr 52
Sefydliadau 31
Unigolion eraill 17

Amdanoch chi

1) A hoffech i’ch ymateb fod yn gyfrinachol?

Cawsom 205 o ymatebion i C1 a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr nodi a hoffent i’w hymateb barhau’n gyfrinachol. 

2) Beth yw eich enw?  

Cawsom 213 o ymatebion i C2 a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr roi eu henw

3) Beth yw eich cyfeiriad ebost?  

Cawsom 213 o ymatebion i C3 a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr roi eu cyfeiriad ebost. 

4) Byddai’n fuddiol i’n dadansoddiad pe baech yn gallu nodi â pha un o’r sectorau hyn yr ydych yn cysylltu eich hun/eich sefydliad fwyaf at ddibenion y galwad hwn am dystiolaeth:

Cawsom 213 o ymatebion i C4 a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr nodi pa sector yr oeddent yn eu cysylltu eu hunain neu eu sefydliad ag ef fwyaf at ddibenion yr alwad am dystiolaeth.

Ymateb Canran o’r ymatebwyr (%)
Busnes fferm 52
Cadwyn gyflenwi fferm 6
Cynghorydd ffermio 6
Diwydiant manwerthu >1
Diwydiant gweithgynhyrchu 7
Corff cyhoeddus 2
Corff masnach 6
Corff academaidd 4
Sefydliad anllywodraethol 5
Aelod o’r cyhoedd 5
Arall 8

5) Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, beth yw ei enw?    

Cawsom 111 o ymatebion i C5 a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr enwi’r sefydliad, pan oedent yn ymateb ar ran sefydliad. Yn ogystal ag ymatebion sefydliadol traddodiadol, cawsom lawer o ymatebion gan fusnesau fferm a roddodd enw cofrestredig eu fferm.

6) Ym mha ran o’r Deyrnas Unedig ydych chi wedi’ch lleoli? 

Cynhaliwyd yr alwad am dystiolaeth mewn cydweithrediad rhwng Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig a’r Llywodraethau Datganoledig. Fel rhan o’r alwad am dystiolaeth, gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi o ba ran neu rannau o’r Deyrnas Unedig yr oeddent yn ymateb, gan ddewis yr holl opsiynau oedd yn gymwys.

Cawsom gyfanswm o 158 o ymatebion o Loegr, 48 o ymatebion o Gymru, 34 o ymatebion o’r Alban, a 19 o ymatebion o Ogledd Iwerddon. Cawsom un ymateb o Weriniaeth Iwerddon ac un o Awstralia.

Y Cefndir a’r Cyd-destun

7) A ydych chi’n defnyddio ychwanegion bwyd ar hyn o bryd (e.e. am resymau maethol, cynhyrchiant neu iechyd) fel rhan o drefniadau bwydo arferol eich fferm a/neu gyflenwi ffermydd?

Cawsom 205 o ymatebion i C7 ynghylch a oedd ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar fferm. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Ydw, bob amser 13 12 9 12
Ydw fel arfer 18 24 11 19
Na, nid fel arfer 28 24 14 24
Na byth 40 10 26 29
Ddim yn gwybod 2 12 20 8
Gwell gen i beidio dweud 0 19 20 9

Gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr roi rhagor o fanylion am y defnydd o ychwanegion bwyd anifeiliaid ar eu fferm a chawsom 75 o ymatebion. Rhoddodd y mwyafrif o’r ymatebwyr enw’r ychwanegion maen nhw’n eu defnyddio, gydag atchwanegiadau mwynau neu fitamin, burum a garlleg yn cael eu henwi amlaf. Roedd y cynhyrchion eraill a enwyd yn cynnwys echdyniadau braster, sodiwm bicarbonad, gwymon ac olewau hanfodol.

Enwodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr hefyd y rhesymau pam roeddent yn defnyddio ychwanegion bwyd, er enghraifft ar gyfer iechyd i reoli diffygion ac ar gyfer gwella cynhyrchiant. Rhoddodd llawer o’r ymatebwyr fanylion hefyd am y strategaethau bwydo a fabwysiadwyd ganddynt, a oedd yn amrywio rhwng ymatebwyr, neu’r ychwanegion a ddefnyddid.

8) A oeddech chi’n ymwybodol gynt o gynhyrchion atal methan mewn bwyd? 

Cawsom 205 o ymatebion i C8 ar ymwybyddiaeth o gynhyrchion atal methan mewn bwyd. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Oeddwn 76 93 69 79
Nac oeddwn 23 3 23 18
Ddim yn gwybod 0 2 3 1
Gwell gen i beidio dweud 1 2 6 2

9) Os oeddech, pa rai o’r cynhyrchion bwydo atal methan canlynol ydych chi’n ymwybodol ohonynt?  

Cawsom 177 o ymatebion i C9 ar ymwybyddiaeth o gynhyrchion bwydo penodol sy’n atal methan. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Atalyddion Methanogenesis (e.e., 3-NOP, Nitradau) 32 79 59 51
Probiotigau 45 63 45 51
Metabolion eilaidd planhigion (e.e., Olewau Hanfodol Taninau, Saponinau) 38 72 52 51
Rhagsylweddion Propionad (e.e., Asid ffwmarig, maladau, asbartadau) 20 49 31 31
Gwymonydd (e.e., Asparagopsis) 77 88 72 80
Gwrthficrobau neu Ionofforau 24 65 45 41
Dim un o’r uchod 11 5 14 10
Arall (rhowch fanylion) 9 25 3 13

Rhoddodd 45 o’r ymatebwyr ragor o wybodaeth gyda’r mwyafrif yn darparu enghreifftiau o gynhyrchion bwyd anifeiliaid ychwanegol gan gynnwys rhywogaethau newydd o laswellt a chodlysiau (neu newidiadau yng nghyfansoddiad y dywarchen), biochar, asidau brasterog a chynhyrchion wedi’u brandio.

10) A ydych chi’n bwriadu neu a ydych eisoes yn treialu cynhyrchion bwydo sy’n atal methan ar eich fferm neu o fewn eich cadwyn gyflenwi?

Cawsom 205 o ymatebion i C10 ynghylch a oedd busnesau yn bwriadu treialu, neu wrthi eisoes yn treialu, cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan ar eu fferm neu o fewn eu cadwyn gyflenwi. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Ydw, wedi eu treialu eisoes 3 17 0 6
Ydw, yn eu treialu ar hyn o bryd 9 20 3 11
Ydw, bwriadu eu treialu 8 12 11 10
Ddim yn bwriadu eu treialu 74 31 46 57
Ddim yn gwybod 5 10 14 8
Gwell gen i beidio dweud 1 10 26 8

Gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr ymhelaethu ar ffactorau sy’n berthnasol i dreialu cynhyrchion a chawsom 58 o ymatebion. Rhoddodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr fanylion am y treialon yr oeddent wedi’u cynnal, gan gynnwys y cynhyrchion a dreialwyd, a’u profiadau. Amlinellodd sawl ymatebydd ddymuniad i dreialu cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan, ond nododd rhai rwystrau megis bod arferion eu fferm yn anghydnaws, bod angen ymchwil ar fudd economaidd, a chostau sydd hyd yma wedi’u hatal rhag cynnal treialon.

11) Sut fyddech chi’n disgrifio eich agwedd bresennol tuag at ddefnyddio cynhyrchion bwydo atal methan yn niet da byw?

Cawsom 206 o ymatebion i C11 ar yr agwedd bresennol at gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Positif iawn 8 15 14 11
Positif ar y cyfan 17 38 20 24
Ddim yn bositif na negyddol 25 35 17 27
Negyddol yn bennaf 15 0 14 11
Negyddol iawn 26 2 20 18
Ddim yn gwybod 7 5 9 7
Gwell gen i beidio dweud 1 5 6 3

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu hymateb a daeth 160 o ymatebion i law. Pan oedd gan ymatebwyr farn gadarnhaol ar ddefnyddio’r cynhyrchion hyn, roeddent yn aml yn cyfeirio at fanteision lleihau allyriadau methan (neu nwyon tŷ gwydr) ar gyfer yr hinsawdd. Soniodd y rhai oedd â barn negyddol am yr angen am y cynhyrchion hyn a’r angen i fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr o dda byw, yn ogystal â’u cost, eu naturioldeb ac effaith bosibl y cynhyrchion hyn ar les anifeiliaid. Roedd gan nifer o ymatebwyr safbwynt cymysg. Roeddent fel arfer yn mynegi amodau (e.e,, ‘a bwrw bod hyn yn gweithio’), gan alw am ymchwil ychwanegol, neu gynnig dull gwahanol/’cyfannol’ o fynd i’r afael ag allyriadau da byw.

12) Pa rai o’r nodweddion canlynol sy’n bwysig i chi wrth ystyried cynhyrchion bwydo sy’n atal methan?  

Cawsom 208 o ymatebion i C12 ar y priodoleddau oedd yn bwysig wrth ystyried cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Effeithiolrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffermio da byw 51 84 51 61
Yr effaith ehangach ar yr amgylchedd 40 79 63 55
Iechyd a llesiant anifeiliaid 72 85 74 76
Cynhyrchiant da byw 45 76 34 52
Diogelwch bwyd a diogelu’r cyhoedd 42 77 60 56
Canfyddiadau defnyddwyr 30 55 31 38
Ardystiad 19 52 23 29
Naturioldeb 39 40 26 37
Cost 50 76 37 56
Hawdd i’w defnyddio 43 73 31 50
Arall (rhowch fanylion) 6 13 11 9
Dim un o’r uchod 17 3 9 12

Gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu dewisiadau a chawsom 100 o ymatebion.  Nododd llawer o’r ymatebwyr bryderon ynghylch y goblygiadau negyddol posibl ar gyfer iechyd a lles (e.e. iechyd y rwmen) neu bryderon ynghylch prisiau ac a fydd y cynhyrchion yn cael eu cefnogi trwy gymhellion ariannol. Amlygodd sawl un yr angen am dystiolaeth wyddonol bellach, gydag ambell un yn dymuno gweld effeithiolrwydd hirdymor gwarantedig ar draws systemau ffermio amrywiol. Roedd y sylwadau eraill yn cynnwys ystyried canlyniadau anfwriadol, cymariaethau cost-budd digonol, a’r angen am ddull cyfannol o leihau allyriadau o ffermio da byw.

13) Pe baech yn cael y dewis, a fyddech yn ffafrio cynhyrchion bwydo atal methan naturiol ynteu rai synthetig?

Cawsom 205 o ymatebion i C13 ynghylch a oedd yn well gan yr ymatebwyr gynhyrchion bwyd anifeiliaid naturiol ynteu synthetig, pe baen nhw’n cael dewis. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Naturiol 57 46 46 52
Synthetig 0 0 0 0
Y naill neu’r llall/ddim yn ffafrio’r un 13 46 31 25
Dim un 30 2 23 21
Ddim yn gwybod 1 7 0 2

Dim ond cwestiwn amlddewis a roddodd yr arolwg ar-lein, ond nododd nifer fach o ymatebion ysgrifenedig nad oeddent yn disgwyl i’r gwahaniaeth rhwng naturiol a synthetig fod yn rhwystr, er y byddent yn disgwyl i gynhyrchion naturiol gael eu derbyn yn haws, ar yr amod y gellid sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd.  

14) A ydych chi’n meddwl y byddai defnyddwyr yn barod i brynu cig neu gynnyrch llaeth a gynhyrchwyd gan wartheg neu ddefaid sy’n cael eu bwydo’n rheolaidd â chynhyrchion bwydo atal methan? 

Cawsom 205 o ymatebion i C14 ynghylch a fyddai defnyddwyr yn barod i brynu cig neu gynnyrch llaeth a gynhyrchid gan wartheg a defaid oedd yn cael eu bwydo’n rheolaidd â cynhyrchion bwydo anifeiliaid sy’n methan atal. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Byddent, yn bendant 19 42 26 27
Efallai 25 27 20 25
Ddim yn siŵr 18 14 11 16
Annhebygol 17 5 9 12
Na fyddent, yn bendant 9 0 20 8
Ddim yn gwybod 11 8 11 10
Gwell gen i beidio dweud 1 3 3 2

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu dewis a chawsom 135 o ymatebion.  Nododd llawer o’r ymatebwyr y byddai parodrwydd defnyddwyr i brynu’r cynhyrchion hyn yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau eraill, sef pris, p’un a oedd y rhain yn bodloni safonau rheoleiddio a marchnata/labelu effeithiol. Roedd rhai yn credu y byddai’r stori amgylcheddol gadarnhaol yn annog y defnyddwyr, tra oedd eraill yn teimlo bod defnyddwyr eisoes yn negyddol eu barn ar ychwanegion bwyd anifeiliaid a gellid ystyried hyn yn ‘annaturiol’ neu’n ‘ymyrryd â natur’.

Defnyddio

15) Sut fyddech chi’n disgrifio’r gyfundrefn fwydo bresennol ar eich fferm neu yn eich ffermydd cyflenwi?

Cawsom 191 o ymatebion i C15 ar y gyfundrefn fwydo bresennol. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Awyr agored drwy’r flwyddyn 28 43 30 32
Pori gyda dognau silwair yn y gaeaf 53 51 37 50
Profi gyda bwydo lleiniau a dognau silwair yn y gaeaf 18 59 27 30
Dan do drwy’r flwyddyn 8 49 20 21
Peth pesgi buarth/ ysgubor 9 41 17 19
Pesgi buarth/ysgubor i gyd 1 35 7 11
Arall (rhowch fanylion) 9 35 33 20

Ble roedd angen hynny, gofynnwyd i’r ymatebwyr roi manylion ychwanegol am y cyfundrefnau bwydo a fabwysiadwyd ar eu fferm/ffermydd a chawsom 58 o ymatebion. Dywedodd llawer eu bod yn defnyddio cyfuniad, neu’r holl systemau a amlinellir uchod, tra eglurodd eraill fod eu cyfundrefn fwydo yn aml yn cael ei phennu gan y tywydd, yn dymhorol neu’n cael ei heffeithio gan ffactorau ehangach.

16) I gyflwyno cynhyrchion bwydo sy’n atal methan ar eich fferm, neu fferm gyflenwi a oedd angen i chi (os ydych wedi’i fabwysiadu eisoes) neu a fyddai angen i chi (os nad ydych) wneud newidiadau i’ch cyfundrefn fwydo?

Cawsom 185 o ymatebion i C16 ar faint o newidiadau roedd eu hangen i gyflwyno cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan ar y fferm. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un ateb.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Oedd, newidiadau mawr 24 13 29 22
Oedd, newidiadau sylweddol 25 19 10 21
Dim newidiadau mawr 31 40 19 31
Yn eu defnyddio eisoes 3 0 0 2
Ddim yn gwybod 13 15 26 16
Gwell gen i beidio dweud 4 15 16 9

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu dewis a chawsom 98 o ymatebion. Amlygodd llawer o’r ymatebwyr rwystrau fyddai’n atal cyflwyno’r cynhyrchion hyn yn eu systemau presennol, gyda systemau pori yn her benodol. Nododd nifer fach o’r ymatebwyr fod angen buddsoddiad ychwanegol i alluogi’r cyflwyno.

17) A ydych chi’n rhagweld unrhyw rai o’r canlynol fel rhwystr i chi wrth gyflwyno cynhyrchion bwydo sy’n atal methan ar eich fferm, neu fferm gyflenwi?

Cawsom 202 o ymatebion i C17 ar y rhwystrau ynglŷn â chyflwyno cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan ar y fferm gan gynnwys 195 o ymatebion i ran gyntaf y cwestiwn a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Arferion cyfredol y fferm neu’r gyfundrefn fwydo (e.e. Organig) 46 58 50 50
Pris 69 78 53 69
Canfyddiad defnyddwyr 41 38 44 41
Dim dull i fonitro na mesur effeithlonrwydd 59 62 47 58
Arall (rhowch fanylion) 23 27 6 22
Dim un o’r uchod 3 9 19 7

Gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr roi rheswm dros eu dewis a chawsom 113 o ymatebion. Trafododd llawer o’r ymatebwyr hyfywedd economaidd y cynhyrchion hyn gan nodi costau cynyddol mewnbynnau. Roedd sawl ymatebydd yn amau y byddai cymorth ariannol ar gael tra nododd eraill y byddai’n well ganddynt gynhyrchion sy’n darparu cyd-fuddion (e.e., gwelliannau cynhyrchiant).

Nododd llawer o’r ymatebwyr hefyd yr anawsterau wrth fwydo cynhyrchion bwyd anifeiliaid ar hyn o bryd i anifeiliaid ar borfa, a’r cyfyngiadau o ran defnyddio rhai o’r cynhyrchion hyn mewn systemau organig. Ymhlith y rhwystrau ychwanegol fyddai’n eu hatal rhag eu defnyddio roedd amharodrwydd ffermwyr, yr angen am ragor o wybodaeth a phryderon ynglŷn â lles anifeiliaid.

Llywodraethu a Pholisi

18) Pa rai o’r opsiynau canlynol ydych chi’n credu a fyddai’n effeithiol i gynyddu’r defnydd o gynhyrchion bwydo sy’n atal methan?

Cawsom 206 o ymatebion i C18 ar yr opsiynau a fyddai’n effeithiol wrth gynyddu’r defnydd o gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Cymhellion ariannol 63 90 63 71
Gofynion rheoleiddiol 30 62 46 42
Contractau cyflenwyr 25 50 34 34
Safonau, achrediadau ac ardystiadau (e.e. Tractor Coch) 27 63 43 40
Ymrwymiadau gwirfoddol (e.e. Targedau dan arweiniad y diwydiant neu fapiau trywydd) 19 37 20 24
Cyngor annibynnol (e.e. ymgynghorwyr, cynghorwyr bwydo) 20 50 34 31
Gwneud dim 12 3 17 10
Arall (rhowch fanylion) 16 13 17 16

Cawsom farn ychwanegol gan 125 o’r ymatebwyr gyda llawer yn rhannu eu barn am ddefnyddio cymhellion ariannol. Yn nodweddiadol, amlygodd y rhain feichiau ariannol presennol a’r angen i adennill costau ychwanegol drwy’r gadwyn gyflenwi neu drwy gefnogaeth y llywodraeth. Roedd y safbwyntiau ar ofynion rheoleiddiol yn gymysg: er bod sawl ymatebydd yn credu mai dyma fyddai’n sicrhau’r ymateb cyflymaf o ran derbyn y cynhyrchion, cyfeiriodd llawer at faich rheoleiddio ar ffermydd gan gredu y dylai’r rhain fod yn ddewis olaf a dim ond pan gaent eu paru â chymhellion ariannol.

Cododd sawl ymatebydd yr angen am ymchwil ychwanegol, tra dadleuai rhai o blaid opsiynau eraill fel gwell addysg a chyfathrebu.

Dilysu

19) Pa rai o’r opsiynau canlynol a fyddai’n helpu i’ch argyhoeddi o effeithiolrwydd cynhyrchion bwydo sy’n atal methan?

Cawsom 206 o ymatebion i C19 ar opsiynau i sicrhau effeithiolrwydd cynhyrchion bwydo sy’n atal methan. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Dilysu gorfodol ar gyfer honiadau cynhyrchion 54 67 57 58
Safonau annibynnol ar gyfer effeithiolrwydd cynhyrchion 49 73 43 55
Labeli ar y pecynnau wedi’u hategu gan ddeddfwriaeth ar ddisgrifiadau masnachol 28 45 40 35
Arall (rhowch fanylion) 29 18 23 25

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu dewis a chawsom 84 o ymatebion. Un pryder cyffredinol a fynegwyd oedd, er mwyn sicrhau effeithiolrwydd yn ddigonol, y byddai angen i’r dull cytûn adlewyrchu tystiolaeth wyddonol gadarn, cael ei chynnal yn allanol a/neu’n annibynnol a chynnwys ystod eang o fathau a systemau fferm. Cyfeiriodd sawl ymatebydd at yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r llywodraeth ehangach fel y llwybr i gyflawni hyn, tra awgrymodd ambell un ddewisiadau amgen, er enghraifft, cod ymarfer i’r diwydiant bwyd anifeiliaid neu gyngor milfeddygol.

20) Pwy ydych chi’n credu sydd yn y sefyllfa orau i ddilysu’r cynhyrchion hyn?

Cawsom 206 o ymatebion unigryw i C20 ar bwy sydd yn y sefyllfa orau i ddilysu effeithiolrwydd cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan, gan gynnwys 205 o ymatebion i ran gyntaf y cwestiwn. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis pob un oedd yn gymwys.

Ymateb Ffermwr (%) Sefydliad (%) Unigolion eraill (%) Cyfanswm (%)
Y Llywodraeth ac Asiantaethau’r Llywodraeth (e.e., Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Food Standards Scotland) 39 63 48 47
Ymchwil annibynnol gan brifysgolion / ffermydd colegau 59 59 74 61
Ymgynghorwyr annibynnol 11 14 9 11
Corff o’r diwydiant/ cymdeithasau masnach 12 27 14 17
Cynlluniau gwarant fferm (e.e., Tractor Coch) 13 14 20 14
Arall (rhowch fanylion) 25 14 11 20

Gofynnwyd i’r ymatebwyr roi rhesymau dros eu dewis a chawsom 71 o ymatebion. Fel gydag ymatebion C19 amlygwyd bod annibyniaeth a’r gallu i naill ai ymgymryd ag ymchwil wyddonol neu graffu ar ymchwil wyddonol neu brofion a threialon ar y cynhyrchion hyn yn ofynion hanfodol. Cafodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei henwi’n gorff presennol a dibynadwy unwaith eto, tra soniodd eraill fod angen i ffermydd prifysgolion neu golegau ymgymryd ag ymchwil annibynnol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cawsom 145 o ymatebion i C21, a oedd yn gofyn i’r ymatebwyr ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yr oeddent am ei rhannu fel rhan o’r alwad am dystiolaeth.

Manteisiodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr ar y cyfle i ailadrodd neu ehangu ar eu hatebion i’r cwestiynau cynharach yn yr alwad am dystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i ystyried gwahanol systemau fferm, opsiynau ar gyfer cyllid a chymhellion, a dull o wirio fel rhan o ddatblygu polisi yn y dyfodol. Ailadroddodd eraill bryderon ynghylch lles anifeiliaid, effeithiolrwydd a chanlyniadau anfwriadol neu argymell bod angen rhagor o ymchwil.

Dadleuai llawer o’r ymatebwyr dros strategaethau amgen i leihau allyriadau, gan gynnwys ailffocysu’r ymdrechion ar sectorau eraill yn yr economi, hybu arferion ffermio adfywiol ar gyfer dal a storio carbon, lleihau bwyta cig ac yfed llaeth neu welliannau mewn geneteg a chynhyrchiant da byw.

Yn olaf, defnyddiodd llawer o’r ymatebwyr y cwestiwn hwn i gwestiynu’r angen am gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan neu i feirniadu cynsail yr alwad am dystiolaeth. Roedd yr ymatebwyr fel arfer yn mynegi’r farn nad da byw oedd y broblem, bod allyriadau methan yn rhan o gylch naturiol, ac y dylid rhoi mwy o ffocws ar danwydd ffosil.

Ffynonellau eraill a thystiolaeth arall

Darparodd 22 o’r ymatebwyr ffynonellau neu dystiolaeth ychwanegol ar bwnc cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan fel rhan o’u cyflwyniad i’r alwad am dystiolaeth.

Er enghraifft, fel rhan o’u cyflwyniad nhw, cyflwynodd WWF a Tesco adroddiad cynhwysfawr ar ychwanegion bwyd a thechnolegau sy’n atal methan sydd ar y farchnad bresennol ac sy’n agos at y farchnad. Cyflwynodd yr adroddiad dystiolaeth o effeithiolrwydd amrediad o’r cynhyrchion hyn gan edrych ar gyfres o lwybrau rheoleiddio i’r farchnad neu fecanweithiau i hybu eu mabwysiadu.

Roedd yr enghreifftiau eraill yn cynnwys adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Canolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw (CIEL), Ruminant Health & Welfare, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a’r SAI Platform. 

Yn ychwanegol, rhannodd ychydig o’r ymatebwyr erthyglau, adroddiadau, tudalennau gwe ac erthyglau newyddion annibynnol ar y pwnc hwn.

Ymateb y Llywodraeth a’r Camau Nesaf

Hoffem ddiolch i’r holl unigolion a sefydliadau a gymerodd yr amser i ymateb. Mae’r cyflwyniadau wedi bod yn werthfawr wrth helpu i ddeall yn well y rôl bosibl y gallai cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan ei chwarae wrth sicrhau sero net yn y sector amaethyddiaeth.

Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wrth inni ystyried polisi ymhellach yn y maes hwn, gan gynnwys rôl polisi’r llywodraeth wrth annog pobl i ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.

Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, drwy weithio gyda ffermwyr a’r diwydiant i addasu at dechnolegau ffermio carbon isel, gan gynnwys rôl bosibl cynhyrchion sy’n atal methan. Byddwn yn parhau i weithio mewn cydweithrediad â’r gweinyddiaethau eraill ac yn monitro’r ymchwilio a’r datblygu ar y cynhyrchion hyn.

Lloegr

Mae Defra o’r farn bod cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan yn offeryn hanfodol i ddatgarboneiddio’r sector amaethyddol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i ysgogi’r farchnad ac i annog pobl i fanteisio ar y cynhyrchion hyn.

Yn Lloegr, rydym yn bwriadu cymell y defnydd o gynhyrchion effeithlon iawn gyda diogelwch cydnabyddedig unwaith y bydd cynhyrchion addas yn dod i’r farchnad (sef o 2025 ymlaen yn ôl y disgwyl). Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i archwilio’r dull gorau o gyflwyno cymhellion, sy’n debygol o gynnwys cyngor, canllawiau a chymorth ar gyfer datblygu a defnyddio cynhyrchion ar ffermydd drwy ein cynlluniau ffermio megis drwy’r Rhaglen Arloesi Ffermio, y Llwybr Iechyd a Lles Anifeiliaid, ein cynlluniau Rheoli Tir Amgylcheddol, neu gynllun pwrpasol newydd.

Ein huchelgais o hyd yw datblygu marchnad aeddfed a mandad o blaid defnyddio cynhyrchion diogel ac effeithiol mewn systemau gwartheg addas yn Lloegr cyn gynted ag y bo modd ac erbyn 2030 fan bellaf. 

Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn dal i fonitro’r broses o ddatblygu, rheoleiddio a chynhyrchu cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan. Mae potensial sylweddol i’r cynhyrchion hyn helpu sector amaethyddiaeth yr Alban i leihau allyriadau.  Ym mis Chwefror 2023 cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei Rhestr ddraft o Fesurau Diwygio Amaethyddiaeth sy’n amlinellu’r bwriad i ddatblygu opsiynau ynglŷn ag amodau cymorth amaethyddol yn y dyfodol a all gydnabod ymateb priodol i gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n atal methan ymysg ffermwyr.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae arferion ffermio sydd ag allyriadau carbon isel, gan gynnwys defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid i leihau allyriadau methan enterig, allbynnau nitrogen a ffosfforws yn mynd rhagddynt drwy gyfrwng ymchwil gydweithredol gan y diwydiant drwy Gronfa Her Ymchwil.