Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth: cais am dystiolaeth
Disgrifiad yr alwad o dystiolaeth
Gweld y galwad am dystiolaeth yn Saesneg
Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth a safbwyntiau i gryfhau sylfaen dystiolaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Rydym eisiau deall:
-
pam mae pobl yn gohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth
-
pa mor dda maent yn deall eu dewisiadau
-
beth sy’n dylanwadu ar pryd maent yn gwneud cais
-
eu profiadau a chanlyniadau eu penderfyniadau
-
unrhyw rwystrau neu anawsterau y maent yn eu hwynebu
Mae gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yn caniatáu i bobl oedi gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r trefniadau yn darparu hyblygrwydd ynghylch pryd mae pobl yn gwneud cais ac, yn dibynnu ar y rheolau perthnasol a’u hamgylchiadau, gall arwain at Bensiwn y Wladwriaeth wythnosol uwch pan fyddant yn gwneud cais. Gelwir y cynnydd, sy’n cael ei ychwanegu at eu Pensiwn y Wladwriaeth rheolaidd, yn Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol.
Bydd y dystiolaeth yn ein helpu i ddeall sut mae’r trefniadau presennol yn gweithio yn ymarferol ac i adnabod materion a allai fod yn haeddu cael eu hystyried ymhellach. Mae hwn yn ymarfer casglu tystiolaeth ac nid yw’n cynnig newidiadau polisi penodol nac yn cymryd yn ganiataol y dylid cadw neu newid y trefniadau presennol.