Cyflwyno adroddiad cyfryngwr cyflogaeth

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am bobl yr ydych yn eu talu ond nad ydych yn gweithredu TWE ar eu cyfer – er enghraifft, os ydych yn asiantaeth recriwtio ac yn dod o hyd i waith i bobl.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid i chi ddefnyddio templed yr adroddiad, llenwi’r manylion a’i uwchlwytho pan ofynnir i chi wneud hynny.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn cyflwyno adroddiad.

Rhaid i chi uwchlwytho adroddiad bob 3 mis. Efallai y codir cosb arnoch os yw’ch adroddiad yn hwyr, yn anghyflawn neu’n anghywir.