Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra

Mae’n rhaid mai un o’r canlynol yw’r cyflogeion:

  • tad y plentyn
  • gŵr neu bartner y fam (neu’r mabwysiadwr)
  • mabwysiadwr y plentyn
  • rhiant bwriadedig y plentyn (os yw’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg)

Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y cyflogai hefyd:

  • mae’n cael ei ystyried yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (absenoldeb tadolaeth yn unig)
  • mae’n cael ei gyflogi gennych hyd at ddyddiad geni’r plentyn (neu ddyddiad lleoli’r plentyn gyda’r mabwysiadwr) (tâl tadolaeth yn unig)
  • mae ar eich cyflogres ac mae’n ennill o leiaf £123 yr wythnos (gros) mewn ‘cyfnod perthnasol’ o 8 wythnos (tâl tadolaeth yn unig)
  • mae’n rhoi’r rhybudd cywir i chi
  • mae’n cymryd amser i ffwrdd er mwyn gofalu am y plentyn neu am ei bartner
  • mae’n gyfrifol am fagwraeth y plentyn
  • mae wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr ‘wythnos gymhwysol’

Yr wythnos gymhwysol yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.

Defnyddiwch y gyfrifiannell ar gyfer tâl tadolaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwirio a yw cyflogai’n gymwys a chyfrifo’i gyfnod perthnasol, ei gyfnod rhybudd a’i dâl tadolaeth.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl.

Os caiff y plentyn ei eni’n gynnar

Os caiff y plentyn ei eni’n gynnar, mae’r cyflogai’n gymwys o hyd pe bai wedi gweithio i chi’n barhaus am o leiaf 26 wythnos erbyn yr wythnos gymhwysol.

Ar gyfer genedigaethau cynnar iawn, bydd angen i chi cyfrifo SMP gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os yw’n cynnwys y nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw (yn agor tudalen Saesneg). Genedigaeth gynnar iawn yw pan fo’r plentyn yn cael ei eni 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl.

Cyflogeion sy’n rhan o drefniant mam fenthyg

Efallai y bydd rhieni sy’n bwriadu cael plentyn drwy drefniant mam fenthyg yn gymwys ar gyfer Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol.

Os byddwch yn gofyn, bydd yn rhaid i’r cyflogai roi datganiad ysgrifenedig i chi sy’n cadarnhau ei fod wedi gwneud cais, neu’n bwriadu gwneud cais, am orchymyn rhiant (yn agor tudalen Saesneg) yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y babi.