Os nad yw CThEM wedi gweithredu ar yr wybodaeth a roddwyd iddo

Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ganslo’r dreth sydd arnoch (‘ôl-ddyledion’) os ydych o’r farn ei fod wedi gwneud camgymeriad oherwydd bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • ni wnaeth weithredu ar wybodaeth a oedd ganddo
  • bu oedi cyn i CThEM ofyn i chi am y dreth

Mae’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch wneud hyn drwy ofyn i CThEM ddileu’r dreth o dan gonsesiwn all-statudol (ESC A19) os oes arnoch y canlynol:

  • Treth Incwm, er enghraifft, oherwydd eich bod ar y cod treth anghywir
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

Cymhwystra

Mae gan CThEM awdurdod cyfyngedig i ganslo treth sydd arnoch, hyd yn oed os yw’r ôl-ddyledion oherwydd ei gamgymeriadau.

Gallwch ofyn i CThEM ddileu’r dreth sydd arnoch os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw CThEM wedi defnyddio gwybodaeth a roddwyd iddo, er enghraifft, am newid swydd
  • rhoddodd CThEM wybod i chi am y dreth sydd arnoch fwy na 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth pan ddaeth eich gwybodaeth i law – mae’n annhebygol y bydd treth sy’n ddyledus o’r flwyddyn dreth ddiwethaf yn cael ei dileu waeth pryd y cafodd CThEM wybodaeth am eich newid mewn amgylchiadau
  • mae gennych gred resymol bod eich materion treth mewn trefn ar gyfer y blynyddoedd y mae’r dreth yn ddyledus gennych ac mae CThEM yn cytuno

Gallai’r wybodaeth am dreth fod wedi dod o’r ffynonellau canlynol:

  • chi
  • eich cyflogwr
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Ôl-ddyledion treth o’r flwyddyn dreth ddiwethaf

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd CThEM yn ystyried canslo treth sydd arnoch o’r flwyddyn dreth ddiwethaf, a hynny ar yr amod bod pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • peidiodd CThEM â gweithredu ar wybodaeth a roesoch iddo fwy nag unwaith am yr un ffynhonnell incwm
  • hwn yw’r tro cyntaf y mae CThEM wedi rhoi gwybod i chi fod arnoch dreth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach – rhaid i’r rheswm fod arnoch dreth am flwyddyn dreth gynharach a’r flwyddyn dreth ddiwethaf fod yr un peth
  • mae’r dreth sydd arnoch wedi cronni dros ddwy flynedd dreth gyfan neu fwy
  • mae gennych gred resymol bod eich materion treth mewn trefn ar gyfer y blynyddoedd yr oedd arnoch y dreth ac mae CThEM yn cytuno

Sut i wneud cais

Ffoniwch neu ysgrifennwch at CThEM i wneud cais.

Dylech wneud hyn cyn i chi dalu unrhyw ran o’r dreth sydd arnoch. Os ydych eisoes wedi gwneud taliad, mae’n bosibl y gall CThEM ei ad-dalu.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM:

  • pa ôl-ddyledion rydych yn dadlau yn eu herbyn, gan gynnwys y flwyddyn dreth
  • pa wybodaeth y dylai CThEM fod wedi gweithredu arni a phryd y cafodd ei rhoi
  • pam yr oeddech o’r farn bod eich treth yn gyfredol

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEM yn adolygu’ch cais yn erbyn ei feini prawf cymhwystra a’ch cofnodion treth ac yn penderfynu a ddylid canslo’r dreth sydd arnoch.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEM

Gallwch ffonio neu ysgrifennu at CThEM a gofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.

Bydd angen i chi esbonio pam yr ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEM.