Chwilio cofnodion profiant am ddogfennau ac ewyllysiau (Cymru a Lloegr)
Gallwch chwilio am gofnod profiant, a elwir hefyd yn ‘grant cynrychiolaeth’, ar gyfer rhywun a fu farw ar ôl 1857.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae profiant yn rhoi hawl gyfreithiol i rywun ddelio ag eiddo ac arian (‘ystad’) unigolyn ymadawedig.
Bydd cofnod profiant newydd ar-lein tua 14 diwrnod ar ôl i brofiant gael ei gyhoeddi.
Mae proses wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- chwilio am gofnod profiant yng Nghymru a Lloegr
- gwirio a yw profiant wedi’i gyhoeddi
- gwirio’r math o brofiant a gyhoeddwyd
- archebu copi o gofnod profiant (gan gynnwys ewyllys, os oes un)
Mae pob copi o gofnod profiant a archebir ar-lein yn costio £16.
Cyn i chi ddechrau
Ewyllysiau a chofnodion profiant rhwng 1858 a 1996
Os na allwch ddod o hyd i’r cofnod rydych yn chwilio amdano, gwiriwch y blynyddoedd ar ôl i’r unigolyn farw. Cedwir y cofnodion hyn o dan y flwyddyn y cafodd profiant ei gyhoeddi, yn hytrach na’r flwyddyn marwolaeth.
I ddod o hyd i ewyllys rhywun a fu farw yn y 1990au cynnar, efallai y bydd angen i chi chwilio’r cofnodion ar gyfer 1996 a thu hwnt.
Cofnodion profiant sy’n cynnwys ewyllys
Nid yw pob cofnod profiant yn cynnwys ewyllys. Gwiriwch y math o grant cynrychiolaeth pan fyddwch yn chwilio’r cofnodion.
Mae’r mathau o grant sy’n cynnwys ewyllys yn cynnwys:
- ‘Profiant’ neu ‘Grant ac Ewyllys’
- ‘Admon gydag Ewyllys’ neu ‘Grant ac Ewyllys’
Nid yw ‘Gweinyddiad (Admon) neu Grant’ yn cynnwys ewyllys.
Chwilio am gofnod profiant drwy’r post
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen PA1S i chwilio am gofnod profiant drwy’r post cyn ei hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Mae’n costio £16 i wneud chwiliad drwy’r post. Mae hyn yn cynnwys copi o’r cofnod profiant a’r ewyllys (os oes un).
Dylech gael ymateb ymhen 4 wythnos.
Os bu i’r unigolyn farw yn y 6 mis diwethaf
Mae’n bosib nad yw profiant wedi’i gyhoeddi eto. Gallwch ddefnyddio ffurflen PA1S i ofyn i gopi o’r profiant gael ei anfon atoch os caiff ei gyhoeddi yn y 6 mis nesaf. Gelwir hyn yn ‘chwiliad sefydlog’. Mae’n costio £3.
Gallwch ymestyn y chwiliad sefydlog ar ôl 6 mis.