Canllawiau

Trothwyau enillion tramor ar gyfer benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2

Dim ond pan fyddwch yn ennill mwy na'r trothwy ad-dalu y byddwch yn gwneud ad-daliadau i'ch benthyciad myfyriwr. Mae yna drothwyon ad-dalu gwahanol ar gyfer gwahanol wledydd.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i gwsmeriaid Cynllun 2. Rydych yn gwsmer Cynllun 2 os cawsoch gyllid gan:

  • Student Finance England rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023
  • Cyllid Myfyrwyr Cymru ar neu ar ôl 1 Medi 2012

Gallwch hefyd ddarganfod y trothwyon ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 1, Cynllun 4 ac ad-daliadau Benthyciad Ôl-raddedig. Gwiriwch pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.

Sut y gosodir y trothwyon ad-dalu tramor bob blwyddyn

Mae trothwyon tramor yn seiliedig ar gostau byw ym mhob gwlad unigol. Dyma pam nad yw’r trothwy ad-dalu bob amser yr un fath ag y mae ar gyfer y rheini yn y Deyrnas Unedig.

Defnyddir y Mynegai Lefelau Prisiau (PLI) i fesur y gwahaniaethau yn y lefelau prisiau cyffredinol ar gyfer pob gwlad, er enghraifft, costau bwyd, tai a thrafnidiaeth, er mwyn caniatáu i drothwy tebyg gael ei osod.

Pennir y trothwyon ad-dalu ar gyfer pob gwlad unwaith y flwyddyn ar 6 Ebrill.  Gall newidiadau i hyn effeithio ar faint sydd angen i chi ei ad-dalu hyd yn oed os yw eich incwm wedi aros yr un fath.

Daw’r wybodaeth PLI o’r flwyddyn ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc y Byd.

Sut rydym yn gweithio allan y gyfradd gyfnewid a ddefnyddir bob blwyddyn

Mae’r gyfradd gyfnewid a ddefnyddiwn i drosi eich cyflog i GBP yn seiliedig ar y cyfraddau cyfnewid arian cyfred cyfartalog ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan CThEF.

Caiff y rhain eu hadolygu bob blwyddyn ar 6 Ebrill. Ni fyddant yn dangos unrhyw newidiadau cyfradd o fis i fis.

Sut rydym yn cyfrifo eich cyflog blynyddol gros gan ddefnyddio eich slipiau cyflog

Os cewch eich talu’n fisol, byddwn yn defnyddio’ch incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog. Yna rydym yn lluosi hwn â 12 mis i gyfanswm eich cyflog blynyddol gros.

Enghraifft: 

Incwm mis 1 £2,500
Incwm mis 2 £3,000
Incwm mis 3 £2,750

£2,500 + £3,000 + £2,750 = £8,250

£8,250 / 3 = £2,750 cyflog misol cyfartalog

£2,750 x 12 mis = £33,000 o gyflog blynyddol gros

Os cewch eich talu’n wythnosol, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 12 wythnos diwethaf ac yn lluosi hwn â 52 wythnos i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.

Os ydych yn cael eich talu bob yn ail wythnos neu bob pythefnos, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 6 wythnos ddiwethaf ac yn lluosi hwn â 24 wythnos (ar gyfer tâl bob yn ail wythnos) neu 26 wythnos (ar gyfer tâl bob pythefnos) i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.

Bonysau a goramser

Bydd unrhyw fonysau, goramser, comisiwn a lwfansau:

  • sydd yn daliadau untro yn cael eu hychwanegu at eich incwm blynyddol ar ôl iddo gael ei gyfrifo
  • a dderbynnir yn rheolaidd yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm blynyddol.

Blwydd-dal pensiwn

Ni fydd taliadau blwydd-dal pensiwn yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn cyfrifo swm eich ad-daliad misol.

Os cewch eich talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn

Mewn rhai gwledydd mae gweithwyr yn cael eu talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn. 

Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn defnyddio’r incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog.  Bydd hwn wedyn yn cael ei luosi â nifer y cyfnodau tâl mewn blwyddyn lawn i gyfrifo eich cyflog blynyddol gros.  

Sut rydym yn cyfrifo eich amserlen ad-dalu

Rydym yn defnyddio’r tabl “trothwy ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 2” i gyfrifo swm eich ad-daliad, drwy ddefnyddio’r camau canlynol:

  1. Byddwn yn trosi eich cyflog blynyddol gros yn GBP drwy ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer y wlad rydych yn byw ynddi.
  2. Yna byddwn yn tynnu’r “trothwy ad-dalu (GBP)” ar gyfer y wlad honno o’ch cyflog blynyddol.
  3. Byddwch yn ad-dalu 9% o’r swm sy’n weddill. Caiff hwn ei rannu dros 12 mis i roi swm eich ad-daliad misol i chi.

Er enghraifft:

Rydych chi ar Gynllun 2, yn byw yn Sbaen ac mae gennych incwm o €33,000 y flwyddyn.

Trosir eich cyflog i GBP gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer Sbaen sef 0.869943:

€33,000 x 0.869943 = £28,708.11.

Y trothwy ad-dalu ar gyfer Sbaen yw £21,840.

Caiff hwn ei dynnu o’ch enillion blynyddol:

£28,708.11 - £21,840 = £6,868.11

Rydych yn ad-dalu 9% o’r ffigwr hwn (£6,868.11 x 0.09) sef £618.12.

Rhennir hyn yn 12 taliad misol o £51.51 (wedi’i dalgrynnu i lawr i £51).

Cadwch fanylion eich cyflogaeth yn gyfredol os ydych yn mynd dramor

Os ydych chi dramor am fwy na thri mis, mae angen i chi roi gwybodaeth i ni am sut rydych chi’n cynnal eich hun yn ariannol. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyflogaeth ar-lein, hyd yn oed i roi gwybod i ni eich bod yn ddi-waith. Bydd y gwasanaeth ar-lein yn dweud wrthych yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi.

Mae hyn yn ein galluogi i benderfynu a ydych ar fin dechrau gwneud ad-daliadau. Os ydych i fod i ddechrau ad-dalu, byddwn yn rhoi cynllun ad-dalu cywir i chi yn seiliedig ar eich enillion neu’n gohirio eich ad-daliadau am 12 mis os ydych yn ennill o dan y trothwy. 

Os na fyddwch yn ein diweddaru, yna disgwylir yr ad-daliad misol sefydlog a ddangosir ar gyfer y wlad yr ydych yn byw ynddi bob mis ac efallai y codir y gyfradd llog uchaf arnoch ar falans eich benthyciad.

Os na wneir ad-daliadau, bydd balans gorddyledus yn cronni ar eich cyfrif.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2024 + show all updates
  1. Corrections made to some countries' thresholds

  2. Information has been updated for the 2024-25 tax year

  3. Thresholds have been updated for the 2023-24 tax year

  4. Overseas earnings threshold HTMLs have been updated for the 2022-23 tax year

  5. More information to let foreign students self identify their plan type.

  6. Updated the HTML attachments (English and Welsh) in line with the new overseas thresholds coming in for 2021/22 tax year

  7. Updated threshold amounts for 2020-21

  8. Added Welsh language translation.

  9. First published.