Adroddiad corfforaethol

Asesu Mynediad at Gyfiawnder yng Ngwasanaethau GLlTEF

Diweddarwyd 12 December 2023

Applies to England and Wales

1. Rhagarweiniad

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac mae’n gyfrifol am y system llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr a thribiwnlysoedd heb eu datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n gweithredu ar sail partneriaeth rhwng yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus.

Mae gan GLlTEF raglen ddiwygio uchelgeisiol ar y gweill fydd yn cyflwyno technoleg fodern a ffyrdd newydd o weithio i’r system llysoedd a thribiwnlysoedd er mwyn darparu system gyfiawn a chymesur ond gan hefyd wella mynediad at gyfiawnder i bawb sy’n ei defnyddio, gan gynnwys grwpiau bregus. Mae rhaglen ddiwygio GLlTEF yn rhaglen fawr a chymhleth gyda thros 50 o wahanol brosiectau[1].

Drwy ddiwygio, bu’n bosib casglu ystod llawer ehangach o ddata ar ein defnyddwyr, gan gynnwys ar eu nodweddion gwarchodedig, sy’n golygu y gallwn ddeall yn well sut i wella mynediad at gyfiawnder. I gwrdd â’r uchelgais hon, mae GLlTEF wedi creu fframwaith ar gyfer asesu mynediad at gyfiawnder drwy ei wasanaethau.

Mae asesiad mynediad at gyfiawnder (A2J) yn offeryn ymarferol i gynorthwyo GLlTEF i adnabod, datrys a monitro rhwystrau i fynediad at gyfiawnder. Mae’r asesiadau’n defnyddio data i adnabod rhwystrau i fynediad at gyfiawnder[2] ynghyd â dadansoddiad ychwanegol ac ymchwil sylfaenol i ddilysu’r canfyddiadau, deall beth sydd wrth wraidd y rhwystrau a dod o hyd i atebion. Yna mae GLlTEF yn parhau i fonitro’r data perthnasol yn y gwasanaeth i asesu a yw A2J wedi gwella.

Mae’r asesiadau’n wahanol ond yn ategol i’r rhaglen werthuso1 drwy fod eu ffocws ar A2J yn unig, nid ydynt yn mesur effaith diwygio’n benodol ar A2J, a’u diben yw bod yn asesiadau ymarferol i helpu GLlTEF i ganfod atebion er mwyn gwella A2J. Yna mae’r asesiadau a’u canfyddiadau yn cael eu bwydo mewn i’r rhaglen werthuso, lle bo’n berthnasol.

Mae’r fframwaith dadansoddi sy’n ategu’r asesiadau wedi cael ei ddatblygu gan GLlTEF yn unol â’r diffiniad o fynediad at gyfiawnder a ddisgrifir yn Byrom, N (2019) “Developing the detail: Evaluating the Impact of Court Reform in England and Wales on Access to Justice[3]”. Mae’r diffiniad yn cynnwys pedair elfen:

  1. Mynediad at y system gyfreithiol ffurfiol
  2. Mynediad at wrandawiad effeithiol
  3. Mynediad at benderfyniad yn unol â’r gyfraith, a
  4. Mynediad at rwymedi.

O bob un o’r pedair elfen hyn o’r diffiniad, mae cyfres o gwestiynau dadansoddol (Atodiad A) a mesurau, dangosyddion a ffynonellau data cyfatebol wedi cael eu hadnabod. Nid yw pob elfen o’r diffiniad, cwestiwn dadansoddol neu ffynhonnell ddata’n berthnasol a dadansoddol gywir i bob gwasanaeth felly, er bod pob asesiad yn defnyddio’r fframwaith, mae peth amrywiad. Er enghraifft, nid yw achosion profiant yn cael gwrandawiadau felly ni fyddai profiad o wrandawiadau’n berthnasol.

Mae’r asesiadau mynediad at gyfiawnder yn defnyddio ystod eang o ffynonellau data i ateb gymaint o’r cwestiynau â phosib. Mae’n cynnwys: rheoli gwybodaeth (e.e. nifer achosion, prydlondeb, penderfyniadau), nodweddion gwarchodedig (e.e. rhyw, tarddiad ethnig, anabledd, oed), data digidol (e.e. nifer y defnyddwyr, cyfradd cwblhau), data gwasanaeth-benodol (e.e. grantiau profiant a ail-gyflwynwyd), data cyswllt (galwadau, cwynion, arolygon cyswllt) a data arall (e.e. data cyfrifiad y DU, profion hygyrchedd).

Mae data ar nodweddion gwarchodedig yn cael ei gasglu ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain sy’n gwneud cais digidol, ac ar gyfer rhai sy’n gwneud cais papur lle y mae swmp-sganio (sganio ffurflenni papur i’r system ddigidol) ar gael. Mae’r cwestiynau’n rhai am y naw nodwedd gwarchodedig gan gynnwys oed, tarddiad ethnig, rhyw ac anabledd.

Drwy gysylltu data ar nodweddion gwarchodedig â data achosion, gallwn ddeall a yw canlyniad neu barhad achosion[4] yn wahanol yn ôl nodweddion defnyddwyr, a sut. Mae casgliadau’r asesiadau A2J yn seiliedig ar yr egwyddor bod profiad unffurf i bawb, h.y. dim amrywiad mewn canlyniad a phrydlondeb rhwng gwahanol grwpiau, yn ddangosydd da o fynediad at gyfiawnder. Os nodir unrhyw wahaniaethau, gallai awgrymu rhwystr i fynediad at gyfiawnder sydd angen mwy o ymchwilio iddo.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn unol â strategaeth data GLlTEF, sy’n disgrifio ein hymrwymiad i fod yn dryloyw ac i drin data fel un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr. Mae’r adroddiad cryno canlynol yn disgrifio’r canfyddiadau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer pob asesiad a gwblhawyd mewn profiant, nawdd cymdeithasol a chynnal plant (SSCS), ysgariad, a hawliadau sifil am arian ar-lein (OCMC) ond nid yw’n adroddiad llwyraidd o bob darn o ddadansoddiad a wnaed.

Wrth ystyried canfyddiadau’r asesiadau a gwblhawyd, mae’n werth nodi bod peth o’r data a ddefnyddiwyd wedi’i gasglu yn ystod pandemig Covid-19. Hefyd, mae’r gwaith dadansoddi sydd angen ei wneud i gwblhau asesiad mynediad at gyfiawnder yn cymryd amser a rhaid i’r achosion fod wedi cael eu cwblhau, felly gallai’r data y cyfeirir ato ymddangos yn hen. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa bresennol y gwasanaethau oherwydd cyfeiriwn at ôl-waith a wnaed neu sydd i’w wneud, gan fonitro’r data perthnasol yn barhaus.

Bydd asesiadau A2J yn cael eu cwblhau yn y gwasanaethau diwygiedig eraill ar sail y tri amod canlynol: bod y diwygiadau wedi cael eu cyflwyno’n llawn yn y gwasanaeth, bod cwestiynau nodweddion gwarchodedig wedi eu gweithredu, a phan fydd digon o amser wedi mynd heibio, bod digon o achosion gyda data nodweddion gwarchodedig wedi dod i ben. Disgwyliwn ar hyn o bryd y bydd chwe asesiad newydd yn dechrau cyn Hydref 2024 cyn eu cyhoeddi yn 2025. O ran edrych eto ar yr asesiadau a gwblhawyd, ni phenderfynwyd eto pa mor aml a phryd fydd y gwaith dadansoddi a gwblhawyd yn cael ei ailadrodd, ond nid darnau o waith untro’n unig fydd yr asesiadau.

Crynodeb o’r canfyddiadau:

Ni fwriedir i’r cyhoeddiad hwn fod yn rhestr gyflawn o bob dadansoddiad a wnaed, neu o bob ffynhonnell ddata a adolygwyd; crynodeb ydyw o’r prif ganfyddiadau a rhwystrau y credwn fydd o ddiddordeb i gynulleidfa o’r cyhoedd.

Profiant:

Cwblhawyd yr asesiad o achosion profiant fel prawf o gysyniad felly nid oedd mor fanwl â’r asesiadau a wnaed wedyn. Fodd bynnag, ni ddaeth o hyd i unrhyw dystiolaeth o ddefnyddwyr yn cael eu heithrio o’r gwasanaeth, na thystiolaeth o wahaniaeth mewn prydlondeb na chanlyniad achosion yn ôl oed, anabledd neu ryw.

Daeth yr asesiad o hyd i dystiolaeth bositif bod mynediad at gyfiawnder wedi gwella wrth i newidiadau i’r gwasanaeth arwain at fwy o ddefnyddwyr yn gallu gwneud cais am brofiant eu hunain.

Mae rhwystrau posib i fynediad at gyfiawnder yn cynnwys:

  • mae achosion defnyddwyr lleiafrifol ethnig yn cymryd hirach ac yn cael eu hatal yn amlach na rhai defnyddwyr gwyn
  • mae defnyddwyr hŷn yn dibynnu mwy ar y gwasanaeth papur sy’n cymryd hirach
  • mae addasiadau rhesymol yn cael eu tan-ddefnyddio a’u tan-gofnodi

Mae gan bob un o’r rhwystrau hyn ddatrysiad gwasanaeth cysylltiedig yn ei le, gan gynnwys gwella’r canllawiau i ddefnyddwyr a fydd, gobeithio, yn lleihau’r gwahaniaethau a brofir gan leiafrifoedd ethnig.

SSCS:

Canfu’r asesiad SSCS fod proffil geo-demograffig apelwyr yn debyg i broffil y rhai sy’n gymwys i apelio, gan awgrymu nad oes unrhyw grwpiau’n cael mwy o drafferth defnyddio’r gwasanaeth nag eraill. Hefyd, mae’r data ar brofiad defnyddwyr, addasiadau rhesymol ac amser teithio i ganolfannau gwrandawiad i gyd yn awgrymu bod y gwasanaeth yn rhoi mynediad at gyfiawnder gyda’r pethau hyn.

Ni ddangosodd dadansoddiad o ganlyniadau achosion unrhyw dystiolaeth glir o wahaniaethau yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Mae rhwystrau posib i fynediad at gyfiawnder yn cynnwys:

  • yr amseroedd clirio, yn enwedig ar gyfer achosion papur
  • y gyfran uchel o apeliadau sydd wedi dod i ben
  • y gwahaniaeth mewn prydlondeb yn ôl rhanbarth, a rhai nodweddion gwarchodedig megis tarddiad ethnig a Chymraeg neu Saesneg fel prif iaith

Mae mesurau a gwaith dadansoddi pellach yn cael ei wneud i ddeall a cheisio datrys y problemau hyn, gan gynnwys y berthynas rhwng rhanbarth a tharddiad ethnig.

Ysgariad:

Ni wnaeth yr asesiad ysgariad nodi unrhyw wahaniaeth mewn canlyniad na phrydlondeb yn ôl rhyw, oed neu anabledd. Hefyd, mae data ar brofiad defnyddwyr, metrigau digidol a chynrychiolaeth i gyd yn awgrymu bod y gwasanaeth yn rhoi mynediad at gyfiawnder i ddefnyddwyr ar y pethau hyn.

Mae rhwystrau posib i fynediad at gyfiawnder yn cynnwys:

  • prydlondeb y system bapur, sy’n cael ei dadansoddi ymhellach.
  • defnyddwyr yn cysylltu â GLlTEF a chanllawiau i’r cyhoedd
  • prydlondeb a chanlyniad i ddefnyddwyr lleiafrifol ethnig.

Mae’r rhain i gyd yn cael sylw gyda gwelliannau i gyswllt a chanllawiau eisoes wedi eu gwneud a datrysiadau’n barod i gael eu gweithredu er mwyn gwella problemau sy’n effeithio’n anghymesur ar ddefnyddwyr lleiafrifol ethnig.

Hawliadau Sifil am Arian Ar-lein (OCMC):

Casglodd yr asesiad OCMC fod defnyddwyr mwy neu lai’n debyg i’r boblogaeth yn gyffredinol, heb unrhyw dystiolaeth o wahaniaeth mawr mewn canlyniad achosion yn ôl nodweddion gwarchodedig (er bod cyfran fawr o achosion gyda chanlyniad anhysbys) a phrofiad positif gan ddefnyddwyr o gael mynediad at a defnyddio OCMC.

Mae rhwystrau posib i fynediad at gyfiawnder yn cynnwys:

  • gwahaniaeth yn yr amser i gyrraedd y gwrandawiad llawn cyntaf, i ddefnyddwyr lleiafrifol ethnig
  • cyfradd gwblhau ddigidol isel
  • ymgysylltu isel gan ddiffynyddion
  • problemau gyda’r canllawiau.

Gyda’r holl rwystrau hyn, mae dadansoddiad pellach (e.e. ymgysylltu gan ddiffynyddion) yn digwydd neu ddatrysiad gwasanaeth yn cael ei ddatblygu (e.e. canllawiau a chyfeirio ymlaen).

Bylchau yn y dystiolaeth:

Mae’r pedwar asesiad a gwblhawyd yn rhannu elfennau cyffredin o ran bylchau yn y dystiolaeth. Mae’r bylchau tystiolaeth yn cynnwys dealltwriaeth o ddefnyddwyr papur, profiad defnyddwyr yn gyffredinol ar ôl gwneud cais, cymorth i ddefnyddwyr drwy gydol y broses, a mesurau A2J craidd o ran tegwch, ymddiriedaeth, hyder a chymhelliad.

Er mwyn ennill dealltwriaeth well a llenwi’r bylchau hyn, byddwn yn ystyried ffyrdd eraill o arolygu a holi ein defnyddwyr ar ddiwedd eu hachos. Y nod yw ennill dealltwriaeth o brofiad cyffredinol defnyddwyr o’n gwasanaethau, sicrhau bod problemau’n cael eu datrys pan fo angen, a’n helpu i barhau i ddarparu dyluniad gwasanaeth ar sail tystiolaeth.

2. Profiant

2.1. Rhagarweiniad:

Lansiwyd y gwasanaeth profiant diwygiedig yng Ngorffennaf 2018 fel rhan o Raglen Ddiwygio GLlTEF, gan gynnig gwasanaeth digidol i wneud cais a rheoli achosion profiant ar-lein. Gall defnyddwyr cyhoeddus wneud cais a rheoli eu hachosion ar-lein drwy’r porth Gwneud Cais am Brofiant, neu drwy’r system bapur. Yn Nhachwedd 2020, daeth y gwasanaeth profiant ar-lein yn orfodol i ymarferwyr cyfreithiol proffesiynol felly rhaid iddynt greu a rheoli achosion gydag ewyllys yn defnyddio platfform ar-lein MyHMCTS.

Profiant oedd y gwasanaeth peilot ar gyfer asesu mynediad at gyfiawnder felly lleihawyd cwmpas y dull dadansoddi. Defnyddiodd yr asesiad achosion a dderbyniwyd rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2020 (yn gynwysedig). Fodd bynnag, mae dadansoddi ychwanegol y cyfeirwyd ato yng nghanfyddiadau’r asesiad yn cynnwys data hyd at 2023. Mae’r data o gwestiynau nodweddion gwarchodedig (PCQ) hefyd yn seiliedig ar gyfradd ymateb o tua 50% ar gyfer ceiswyr ar-lein heb eu cynrychioli. Roedd ffocws yr asesiad ar geisiadau digidol, pan oedd cwestiynau PCQ ar gael i ddechrau.

2.2 Tystiolaeth o fynediad at gyfiawnder:

Proffil defnyddwyr:

Ni ddaeth yr asesiad o hyd i unrhyw dystiolaeth o eithrio defnyddwyr o’r gwasanaeth.

Mae dadansoddi nodweddion gwarchodedig ceiswyr a’u codau post yn dangos bod ceiswyr yn hŷn a mwy cyfoethog na’r boblogaeth oedolion ehangach. Er enghraifft, mae 65% o geiswyr heb eu cynrychioli’n 55+ oed o’i gymharu â 35% o boblogaeth oedolion Cymru a Lloegr. Mae’r nodweddion oed a chyfoeth hyn i’w disgwyl o gofio natur y gwasanaeth. Fel arfer mae’r ceiswyr yn ŵr, yn wraig, yn fab neu’n ferch yr unigolyn a fu farw ac nid oes angen profiant os nad oes ystad neu os yw’n ystad fach.

Mae’r ffactorau hyn hefyd yn egluro proffil neilltuol ceiswyr profiant yn ôl nodweddion gwarchodedig eraill, fel tarddiad ethnig a phrif iaith. Mae Arolwg Cyfoeth ac Asedau’r ONS yn dangos bod cyfoeth yn amrywio’n sylweddol yn ôl tarddiad ethnig. Ynghyd ag oed, mae hyn yn egluro pam fod ond cyfran fach o geiswyr profiant yn dod o leiafrifoedd ethnig neu’n siarad prif iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg.

Er nad oes data diffiniol i ddangos y gall pawb sydd ag angen cyfreithiol gael mynediad i’r gwasanaeth, nid oes tystiolaeth i awgrymu ychwaith nad yw angen cyfreithiol yn cael ei gwrdd. Dim ond 2,000 o ystadau oedd heb eu hawlio rhwng 2013 a 2020[5], o’i gymharu â thua 3 miliwn o ystadau a hawliwyd drwy’r gwasanaeth profiant yn ystod yr un cyfnod.

Canlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Ni chanfu’r asesiad unrhyw dystiolaeth o wahaniaeth mewn prydlondeb neu ganlyniad yn ôl oed, anabledd neu ryw.

2.3 Rhwystrau i fynediad at gyfiawnder:

Cyswllt, cwynion a phrofiad defnyddwyr:

Roedd yr asesiad o fynediad at gyfiawnder yn y gwasanaeth profiant wedi amlygu pryderon oherwydd cyswllt uwch na’r disgwyl (cwynion, e-byst a galwadau), yn ogystal â boddhad defnyddwyr is na’r disgwyl. Ers hynny a thrwy gydol 2023, mae gwaith dadansoddi parhaus wedi’i wneud i geisio deall beth sy’n gyrru pobl i gysylltu â’r gwasanaeth profiant a cheisio ei leihau. Yn dilyn dadansoddi data achosion a chwynion yn hydref 2022, cadarnhawyd mai’r prif reswm pam fod ceiswyr yn cysylltu â’r gwasanaeth profiant oedd i ofyn am ddiweddariad ar eu hachos, wedi’i waethygu gan oedi yn y gwasanaeth ac ôl-waith cynyddol o achosion hŷn anorffen.

Arweiniodd y dadansoddiad hwn at welliannau i’r gwasanaeth ac i brosesau GLlTEF yn 2023, gan gynnwys newid prosesau gweithredol i dargedu’r ôl-waith o achosion hŷn, cyflwyno Hỳb Dinasyddion, lle y gall ceiswyr fewngofnodi i gael diweddariad ar eu hachos, a newid y broses negeseua i roi gwybod i geiswyr y bydd eu hachosion yn cymryd tua 16 wythnos yn lle’r 8 wythnos a nodir yn y neges wreiddiol.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae’r gwasanaeth profiant yn cael ei ddiweddaru a’i wella’n barhaus yn unol â dadansoddi’r metrigau perfformiad. Ynghyd â’r metrigau perfformiad rheolaidd hyn, mae’r dadansoddiad diweddaraf o gyswllt a’r gwelliannau wedyn i’r gwasanaeth wedi adnabod bod angen monitro metrigau ychwanegol yn ofalus. Mae’r metrigau hyn yn cynnwys nifer yr achosion anorffen wedi eu rhannu yn ôl sianel a math o ddefnyddiwr, a nifer y galwadau a chwynion. Mae hyn er mwyn sicrhau y bydd y newidiadau a wneir yn cael yr effaith sydd mewn golwg. Mae gwelliannau gwasanaeth pellach wedi eu hadnabod drwy ddadansoddi data o’r Hỳb Dinasyddion.

Prydlondeb ac ataliadau yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Roedd yr asesiad wedi adnabod bod achosion defnyddwyr lleiafrifol ethnig yn cymryd hirach ac yn cael eu hatal[6] yn amlach na rhai defnyddwyr gwyn.

Drwy ddadansoddi’r data nodweddion gwarchodedig, gallwn weld a yw prydlondeb yn defnyddio “ataliadau” fel mesur procsi’n amrywio yn ôl nodweddion y defnyddwyr. Roedd ein ffocws ar bedair nodwedd lle’r oedd gennym ddigon o ddata. Y rhain oedd rhyw, anabledd, oed a tharddiad ethnig.

Dangosodd ddadansoddiad o ddata ar geisiadau digidol ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn Ch. 3 a Ch.4 2020 na ataliwyd 63% o’r achosion o gwbl a bod 90% o’r rhain wedi cwblhau o fewn 5 wythnos. Fel y byddid yn ei ddisgwyl, roedd 37% o’r achosion a ataliwyd o leiaf unwaith wedi cymryd hirach, a 90% o’r rhain wedi eu cwblhau mewn 12 wythnos.

Mae dros 20 o wahanol resymau pam fod achos profiant yn cael ei atal. Rydym wedi symleiddio’r rhesymau hyn yn nifer lai o gategorïau atal. Cafwyd mai’r tri rheswm mwyaf cyffredin dros atal oedd Treth Etifeddiant (IHT)[7], ewyllysiau, a phroblemau gydag enwau a dyddiadau.

Categori atal (lefel uchel) Nifer %
Dim ataliad 7330 63
Un ataliad – oherwydd IHT 687 6
Un ataliad – oherwydd ewyllys 1216 11
Un ataliad – trafferthion enw / dyddiadau 353 3
Un ataliad – rheswm arall 910 8
Sawl ataliad neu resymau atal 1086 9

Ffigwr 1: Dosbarthiad ceisiadau profiant digidol gan ymgyfreithwyr drostynt eu hunain, yn ôl categorïau atal, ar gyfer achosion profiant wedi eu caniatáu a gyflwynwyd yn Ch 3 a Ch4 2020, lle’r oedd nodweddion a warchodir wedi eu cofnodi

Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth mewn dosbarthiad categorïau atal yn ôl anabledd neu ryw, a mân wahaniaethau yn ôl oed. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau clir yn ôl tarddiad ethnig. Canfuwyd fod 64% o geiswyr gwyn yn profi dim ataliad o’i gymharu â dim ond 50% o geiswyr o leiafrifoedd ethnig. Roedd gwahaniaethau clir hefyd yn ôl tarddiad ethnig. 

Dangosodd y dadansoddiad diweddaraf o achosion profiant digidol gan ymgyfreithwyr drostynt eu hunain a gafwyd rhwng Gorffennaf 2020 ac Ebrill 2022 fod gwahaniaethau yn ôl tarddiad ethnig yn parhau:

  • Mae ataliadau ewyllys yn effeithio ar 22% o geiswyr lleiafrifol ethnig o’i gymharu â 15% o geiswyr gwyn ac mae ‘amod ewyllys’ yn gyfrifol am tua hanner y gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp tarddiad ethnig.
  • Mae ataliadau “enw’r ymadawedig’ yn effeithio ar 5.6% o geiswyr lleiafrifol ethnig a 1.5% o geiswyr gwyn

I ddeall y gwahaniaethau hyn, gwnaed mwy o ymchwil yn 2023 gyda hap-sampl o 60 o geiswyr lleiafrifol ethnig gydag achosion a ataliwyd am wahanol resymau ac wedi eu hadnabod i fod yn effeithio’n anghymesur ag ymgeiswyr lleiafrifol ethnig. Gwnaed ymchwil sylfaenol gyda gweithwyr achosion profiant hefyd. Mae’r gwaith hwn wedi’i orffen a deallwn yn well erbyn hyn pam fod y gwahaniaethau hyn yn digwydd. Yn gyffredinol, mae achosion lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o fod yn anodd i GLlTEF eu prosesu a / neu’n fwy tebygol o arwain at wall gan y defnyddiwr. Yn ei dro mae hyn yn gwneud atal achos yn fwy tebygol neu’n cynyddu’r amser prosesu. Mae’r trafferthion hyn yn cynnwys problemau’n ymwneud â chyflwr yr ewyllys, cyfieithu dogfennau, cysondeb enwau mewn dogfennau, a defnyddwyr gydag asedau dramor.

Er enghraifft, o ran yr ataliad “enw’r ymadawedig”, erbyn hyn deallwn yn well pam fod y gwahaniaeth yma’n digwydd ac mae gennym welliannau’n barod i’w gweithredu.

Y broblem

  • Os nad yw enw’r ymadawedig ar y cais yr un fath â’r enw yn yr ewyllys, oni bai fod yr enw yn yr ewyllys yn cael ei ychwanegu fel ‘alias’ nes ymlaen yn y cais, rhaid i’r gweithiwr achos atal yr achos.
  • Yn aml iawn mae defnyddwyr yn rhoi gwahanol enwau yn y cais i’r enwau yn yr ewyllys. Mae hyn yn digwydd yn enwedig gyda cheiswyr lleiafrifol ethnig sydd, yn gynyddol, yn defnyddio fersiynau ‘gorllewinol’ o enw llawn yr ymadawedig. Hefyd, mae arferion enwi crefyddol yn gyffredin mewn ewyllysiau sy’n golygu, hyd yn oed os yw enw’r ymadawedig ar y cais yn gywir, y bydd y cais dal efallai’n cael ei atal oherwydd na fyddai prif enw’r ymadawedig yr un fath â’r enw estynedig yn yr ewyllys.
  • Os yw’r enw ar y cais yn wahanol, yn aml iawn nid yw pobl yn deall bod angen ychwanegu enw’r ymadawedig yn yr ewyllys fel ‘alias’.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

  • Mae’r gwasanaeth yn diweddaru ei ganllawiau ar ba enw’n union sydd angen ei roi i fod yn glir bod yn rhaid rhoi’r enw yn yr ewyllys os yw’n wahanol i’r enw yn y cais.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae gan bob achos sydd wedi’i adnabod i fod yn arwain at wahaniaethau mewn ataliadau i geiswyr lleiafrifol ethnig welliant gwasanaeth cyfatebol fel yr un a ddisgrifir uchod. Unwaith y gweithredir y gwelliannau hyn, byddwn yn parhau i fonitro’r data ataliadau hwn i weld a yw mynediad at gyfiawnder wedi gwella. Fodd bynnag, mae oedi ynghlwm â hyn oherwydd rhaid gadael i achosion gwblhau cyn monitro’r newid.

Y gwasanaeth papur:

Fel y soniwyd yn gynharach, mae gwahaniaethau rhwng nodweddion gwarchodedig ceiswyr profiant a’r boblogaeth ehangach i’w disgwyl. Mae llawer o ddefnyddwyr profiant naill ai’n bartner neu’n blentyn i’r ymadawedig felly gallwn ddisgwyl “sgiw oedran” tuag at bobl hŷn. Dengys y data fod 77% o geiswyr papur a 65% o geiswyr digidol yn 55+ oed. Ymhlith y boblogaeth oedolion ehangach, dim ond 35% sy’n 55+.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos pwysigrwydd y system bapur yn y gwasanaeth profiant gyda thua 1 mewn 6 yn dibynnu arni. Hefyd, mae’r rhai sy’n defnyddio’r system bapur yn debygol o fod yn hŷn na’r rhai sy’n defnyddio’r system ddigidol. Mae’n bwysig, felly, bod A2J yn cael ei ddarparu drwy’r ddwy system a rhaid i ni sicrhau bod y system bapur yn gweithio cystal â’r system ddigidol gan wybod fod achosion drwy’r gwasanaeth papur wedi cymryd hirach yn aml na’r gwasanaeth digidol rhwng 2020 a 2023.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae prosiectau ar y gweill sy’n sicrhau bod ein holl wasanaethau’n hygyrch i’n holl ddefnyddiwr ac felly’n cwrdd ag anghenion rhai sy’n dewis y system bapur a phobl hŷn yn enwedig. Maen nhw’n cynnwys:

  • Dyluniad ffurflenni papur: Mae hyn yn sicrhau bod y ffurflenni papur yr un mor hygyrch â’r gwasanaeth digidol, e.e. ffurflenni print mawr a ddefnyddir gan amlaf gan bobl hŷn.
  • Addasiadau rhesymol: Rydym yn dylunio proses o gasglu gofynion addasiadau rhesymol yn gyson ar draws ein gwasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys gofyn yn rhagweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth pa gymorth sydd ei angen arnynt, a gwella’r systemau rheoli achosion i’w gwneud yn haws i staff reoli a darparu’r addasiadau hyn.
  • Cymorth digidol: Darparu gwasanaeth cymorth digidol cenedlaethol fel y gall ein holl ddefnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau digidol.
  • Metrigau a pherfformiad: Tracio perfformiad (e.e. prydlondeb) a mynediad at wasanaeth i’n holl ddefnyddwyr a sianeli ac adnabod yr achosion sylfaenol sy’n gyfrifol am unrhyw wahaniaethau neu broblemau fel y gallwn ddylunio a gweithredu gwelliannau lle bo angen.

Cynrychiolaeth i ddefnyddwyr:

Un o brif anghenion craidd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth profiant diwygiedig yw sicrwydd bod modd gwneud cais am brofiant heb fod angen cymorth proffesiynol drud[8]. Arweiniodd hyn at y ddamcaniaeth bod pobl efallai’n dibynnu gormod ar gyfreithwyr (roedd 60% o’r holl achosion profiant wedi cyfarwyddo cyfreithiwr), yn enwedig rhai gyda gwerth ystad isel o lai na £50,000 lle y mae 40% yn dal i gyfarwyddo cyfreithiwr. Mae ymchwil hefyd wedi adnabod cymysgedd o brofiadau gyda rhai pobl yn meddwl na wnaeth y cymorth cyfreithiol proffesiynol a gawsant roi gwerth da am arian ond eraill yn difaru na chawsant gymorth cyfreithiol oherwydd eu bod yn teimlo bod y broses yn gymhleth, anodd ei deall ac wedi cymryd amser.

Ar sail y gwaith ymchwil hwn, ers Rhagfyr 2021 mae’r gwasanaeth profiant wedi ychwanegu at y cymorth cyfeirio ymlaen at gyngor allanol sy’n cadarnhau’n well pryd y mae angen arbenigedd cyfreithiwr ar ddefnyddwyr neu beidio.

Yn dilyn ôl-ddadansoddi data ar gynrychiolaeth i ddefnyddwyr gydag ystadau gwerth llai na £50,000, awgrymir bod yr effaith wedi arwain at wella A2J. Gwelir hyn wrth i’r ganran o ddefnyddwyr gydag ystadau bach sy’n gwneud cais fel ymgyfreithwyr drostynt eu hunain gynyddu o tua 60% i 70%. Yn anffodus, ni allwn briodoli’r gwelliant hwn i’r newid mewn canllawiau’n unig oherwydd roedd dau newid mawr arall a effeithiodd ar geiswyr profiant ac a ddaeth i rym yr un pryd:

  • Newidiadau i symleiddio treth etifeddiant (IHT) a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2022[9]
  • Newid ffioedd fel y codir yr un ffi bellach ar gais drwy gyfreithiwr neu gan ymgyfreithiwr drosto’i hun (personol), sydd mewn grym ers 26 Ionawr 2022

Fodd bynnag, gallwn briodoli i’r asesiad mynediad at gyfiawnder y ffaith o adnabod rhwystrau posib, deall yr achosion sylfaenol, ac yna gweithredu newid gwasanaeth a monitro gwelliant i fynediad at gyfiawnder na fyddem fel arall wedi bod yn ymwybodol ohono.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Rydym yn monitro cynrychiolaeth i ddefnyddwyr yn rheolaidd yn ogystal â metrigau ehangach o brofiadau profiant i benderfynu a yw’r gwasanaeth yn parhau i fod yn hygyrch i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain.

Ail-gyflwyno a thynnu’n ôl:

Fel rhan o’r asesiad, fe wnaethom adnabod bod tua 2% o achosion yn cael eu hail-gyflwyno a 1% yn cael eu tynnu’n ôl. Gall ail-gyflwyno a thynnu’n ôl achosi problemau mynediad at gyfiawnder. Er enghraifft, gall profiant gael ei ganiatáu i ddefnyddiwr gan gwrdd â rhan ‘mynediad at benderfyniad’ y diffiniad o A2J, ond efallai na fydd yn gadael i’r defnyddiwr etifeddu’r ystad os oes gwallau yn y gwaith papur ac felly ni fyddai’n cwrdd â rhan ‘mynediad at rwymedi’ y diffiniad. Fodd bynnag, nid yw pobl yn llwyr ddeall y rhesymau dros ail-gyflwyno a thynnu’n ôl ac mae amrywiol resymau dros ail-gyflwyno profiant nad oes a wnelent ddim â mynediad at gyfiawnder, e.e. defnyddwyr yn gofyn am gopïau ychwanegol o’r caniatâd i’w hanfon at ysgutorion eraill.

Fel rhan o’r asesiad, penderfynwyd na fyddai’n gymesur ymchwilio’n fanwl i’r gyfradd bresennol o ail-gyflwyno a thynnu’n ôl ond y byddai’n well gosod trothwy ar gyfer pob un pryd y byddai dadansoddiad dwfn yn cael ei ysgogi. Y trothwyon hyn yw 3% ar gyfer y ddau fetrig.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae’r gyfradd ail-gyflwyno a thynnu’n ôl yn cael ei monitro’n barhaus ac os yw’r naill fetrig neu’r llall yn mynd dros 3%, ysgogir dadansoddiad dwfn i ddeall y cynnydd.

Addasiadau rhesymol:

Fe wnaeth yr asesiad adnabod bod addasiadau rhesymol yn cael eu tan-adrodd a than-ddefnyddio yn y gwasanaeth profiant, gyda dim ond tri addasiad rhesymol wedi’i gofnodi yn 2020.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Rydym yn gwella sut y gellir gofyn am a gweithredu addasiadau rhesymol yn y Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd. Bydd hyn yn cynnwys gofyn yn rhagweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth pa gymorth sydd ei angen arnynt, a gwella’r systemau rheoli achosion i’w gwneud yn haws i staff reoli a darparu’r addasiadau hyn.

3. Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS)

3.1 Rhagarweiniad:

Yn 2018 lansiwyd y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS) diwygiedig fel rhan o Raglen Ddiwygio GLlTEF sy’n gadael i ddefnyddwyr gyflwyno a rheoli eu hapeliadau ar-lein drwy Cyflwyno Eich Apêl (SYA), a Rheoli Eich Apêl (MYA).  Hefyd, rydym wedi gweithredu swmp-sganio fel y gall GLlTEF sganio’r apeliadau papur a’u llwytho i’r un platfform a ddefnyddir i brosesu apeliadau digidol.

Mae rhaglen ddiwygio SSCS wedi cael ei chyflwyno’n raddol gan ddechrau gydag apeliadau Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) yng Ngorffennaf 2018 cyn ei hymestyn i’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn Rhagfyr 2018, a mathau eraill o fudd-daliadau nes ymlaen[10]. Mae nifer fach o fathau o fudd-daliadau na fydd yn cael eu diwygio. Fodd bynnag, edrychodd yr asesiad hwn ar apeliadau diwygiedig ac anniwygiedig, lle’r oedd yn bosib.

3.2 Tystiolaeth o fynediad at gyfiawnder:

Proffiliau defnyddwyr:

Cynhyrchodd yr asesiad broffiliau geo-demograffig o boblogaeth ehangach Prydain, pobl sy’n gymwys i apelio penderfyniad PIP (hynny yw sydd wedi bod drwy’r broses ail-ystyried orfodol) ac apelwyr PIP. Roedd y proffiliau’n seiliedig ar Ddosbarthiadau Allbwn Ardaloedd (OAC).

Uwch-grŵp OAC Poblogaeth Prydain (%) Pobl sy’n gymwys i apelio (%) Apelwyr SSCS (%)
Pobl dan bwysau cyni 18 26 26
Dinaswyr mewn cyfyngder 8 18 19
Metropolitaniaid aml-ddiwylliant 13 16 16
Canol dinas 6 9 11
Trefolion 18 12 11
Maesdrefolion 21 9 8
Trigolion gwledig 11 6 6
Cosmopolitaniaid 6 4 4

Ffigwr 2: Cymhariaeth geo-demograffig o boblogaeth Prydain (ar sail data cyfrifiad 2011), rhai sy’n gymwys i apelio penderfyniad PIP (hynny yw, wedi bod drwy’r broses Ail-ystyried Gorfodol ar gyfer PIP yn 2021[11]) a rhai a gyflwynodd apêl PIP yn 2021[12]

Mae dosbarthiad y bobl sy’n gymwys i apelio’n dra gwahanol i’r boblogaeth ehangach. Mae hyn i’w ddisgwyl ac yn gyson â data cyfrifiad. Dengys data cyfrifiad fod gan yr uwch-grwpiau ‘pobl dan bwysau cyni’ a ‘dinaswyr mewn cyfyngder’ lefelau uwch o salwch hirdymor ac anabledd o’i gymharu â grwpiau eraill. Mae’r crynodiad o apelwyr posib yn yr uwch-grwpiau hyn felly i’w ddisgwyl.

Fodd bynnag, mae’r dosbarthiad o rai sy’n apelio mewn gwirionedd, yn ôl uwch-grwpiau, yn dra gwahanol i’r dosbarthiad o rai sy’n gymwys i apelio. Gellir dehongli hyn fel arwydd da drwy awgrymu nad oes rhwystrau mawr i rai grwpiau’n fwy nag eraill. Er hynny rhaid pwyllo oherwydd gall dadansoddiad geo-demograffig byth ond rhoi tystiolaeth o nodweddion sy’n amrywio’n ystyrlon o un lleoliad daearyddol i’r llall.

Profiad defnyddwyr:

Mae’r gwasanaeth SSCS ar-lein ar gael yn eang, yn cael ei ddefnyddio’n eang ac yn gweithio’n dda. Yn ôl yr asesiad, roedd Cyflwyno eich Apêl (SYA) ar gael ar gyfer 74,154 o 86,417 o apeliadau a wnaed (86%) a chyflwynwyd 77% o apeliadau drwy SYA lle’r oedd ar gael. Hefyd, y gyfradd gwblhau ddigidol (DCR)[13] ar gyfer SSCS oedd 85% sydd fwy neu lai’n gyson â gwasanaethau diwygiedig eraill.

Mae canfyddiadau asesiad SSCS yn ymwneud â’r arolwg gadael yn seiliedig ar gyfradd ymateb o 47%. Yn dilyn dadansoddi, mae’r gwasanaeth SSCS ar-lein yn gweithio’n dda gyda 89% o ymatebwyr i’r arolwg yn disgrifio eu profiad fel da neu dda iawn a 62% yn dweud ei fod yn well neu’n llawer gwell na’r disgwyl.

Addasiadau rhesymol:

Roedd y rhan fwyaf o geisiadau am addasiadau rhesymol wedi eu caniatáu a’r gyfradd ganiatáu wedi cynyddu dros amser. Cofnodwyd 315 o geisiadau am addasiadau rhesymol yn 2021 a 88% o’r rhain wedi eu caniatáu. Mae hyn yn cymharu â 666 cais yn 2020 a 85% wedi eu caniatáu. Fel y nodwn yn yr adran Profiant, rydym yn gwella sut y gellir gofyn am, a gweithredu, addasiadau rhesymol yn y Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd. Bydd hyn yn cynnwys gofyn yn rhagweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth pa gymorth sydd ei angen arnynt, a gwella’r systemau rheoli achosion fel bo’n haws i staff reoli a darparu’r addasiadau hyn.

Amseroedd teithio:

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru a Lloegr o fewn amser teithio rhesymol i dribiwnlys gwrandawiadau, a deallwn fod hyn yn ddwy awr, fel y disgrifiwn yn ein Strategaeth Ystadau. Yn 2022, amcangyfrifodd GLlTEF amseroedd teithio i geir, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer SSCS. Dangosodd y canlyniadau fod yr amser teithio cyfartalog i geir yn 15 munud a dim ond 2,200 o bobl o holl boblogaeth Cymru a Lloegr yn methu â chyrraedd canolfan wrandawiadau o fewn dwy awr. Yr amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus oedd 50 munud a dim ond tua 6% o’r boblogaeth wedi methu â chyrraedd canolfan wrandawiadau o fewn dwy awr[14].

Canlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Mae nifer o ganlyniadau posib i apêl SSCS:

  • Wedi dod i ben: Yr atebydd (e.e. DWP) yn tynnu’n ôl a’r apelydd yn llwyddiannus
  • O blaid: Panel tribiwnlys yn dod i benderfyniad o blaid yr apelydd mewn gwrandawiad
  • Cadarnhau: Panel tribiwnlys yn dod i benderfyniad mewn gwrandawiad yn cadarnhau penderfyniad gwreiddiol yr atebydd
  • Taflu allan: Y tribiwnlys yn taflu apêl allan, er enghraifft oherwydd i apelydd fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd gymaint fel nad yw’r tribiwnlys yn teimlo y gall symud ymlaen yn deg na chyfiawn
  • Tynnu’n ôl: Yr apelydd yn tynnu ei apêl yn ôl.

Edrychodd y dadansoddiad ar ganlyniadau apeliadau a wnaed rhwng Mawrth ac Awst 2021, yn ôl nodweddion gwarchodedig. Roedd yn lwfa ar gyfer math o fudd-dal a sianel, drwy ond edrych ar apeliadau PIP a wnaed ar-lein. Nid oedd tystiolaeth o wahaniaeth mewn canlyniad yn ôl prif iaith, crefydd, tarddiad ethnig, tueddiad rhywiol na rhyw. Dehonglwyd hyn fel canlyniadau cyfartal i wahanol grwpiau a thystiolaeth felly o fynediad at gyfiawnder.

##3.3 Rhwystrau i fynediad at gyfiawnder:

Apeliadau ‘wedi dod i ben’ a phenderfyniadau ‘o blaid’:

O’r apeliadau a wnaed rhwng Mawrth ac Awst 2021, gan gynnwys yr holl wahanol fathau o fudd-daliadau, ac a gyflwynwyd drwy sianeli digidol a phapur, roedd 34% ‘wedi dod i ben’ (h.y. yr atebydd, fel arfer y DWP, wedi tynnu’n ôl o’r achos) a 35% wedi cael penderfyniad ‘o blaid’ mewn gwrandawiad (h.y. penderfyniad o blaid yr apelydd). Mae o fudd i’r ddwy ochr sicrhau y gwneir y penderfyniad cywir cyn gynted â phosib. Byddai hyn yn debygol o olygu mwy o hawliadau’n cael eu derbyn yn y cais gwneud cais, neu’r cam ailystyried gorfodol, a llai o apeliadau i’r tribiwnlys.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Yn dilyn gwrandawiad, mae’r apelydd a’r atebydd yn cael hysbysiad o benderfyniad yn rhoi’r canlyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad. Gall y ddwy ochr yna ofyn am ddatganiad ychwanegol o’r rhesymau os ydynt eisiau. Byddwn yn parhau i fonitro data canlyniadau. Fodd bynnag, y partïon eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i ddylanwadu ar y canlyniad ac mae’r tribiwnlys wedi’i gyfyngu o ran beth all ei gyflawni.

Amseroedd clirio cyffredinol:

Diffinnir amser clirio cyffredinol fel yr amser rhwng y diwrnod y derbyniwyd apêl a’r diwrnod y penderfynwyd ar ganlyniad yr achos. Mae GLlTEF yn ceisio clirio 75% o achosion o fewn 16 wythnos. O’r apeliadau a wnaed rhwng Mawrth ac Awst 2021, yn cynnwys yr holl wahanol fathau o fudd-daliadau a rhai a wnaed ar-lein ac ar bapur, cyrhaeddodd 59% y targed hwn, gydag achosion papur yn cymryd hirach. Mae hyn yn broblem arbennig i’r gyfran gymharol fach o apeliadau y gellir ond eu gwneud ar bapur (h.y. os nad yw SYA ar gael) a lle nad yw’r broses wasanaeth swmp-sganio ar gael. Er enghraifft, apeliadau yn erbyn awdurdodau lleol am fudd-dal tai. Y testun cwyn mwyaf cyffredin pan wnaed yr asesiad oedd ‘oedi’, sy’n cadarnhau ymhellach yr effaith y mae amseroedd clirio yn ei gael ar ddefnyddwyr.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Dyluniwyd y rhaglen ddiwygio’n rhannol i leihau amseroedd clirio cyffredinol, er enghraifft drwy ddarparu SYA a swmp-sganio, ac mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth gyda GLlTEF yn gweithredu ac ystyried beth yn fwy y gall ei wneud i leihau oedi a gohirio. Er enghraifft, rydym wedi ail-gyflwyno canllawiau i ganolfannau prosesu ar sut i adrodd ‘problemau darparu’ sy’n gallu achosi oedi neu ohirio (e.e. diffyg cyfarpar technegol mewn lleoliad sy’n atal cynnal gwrandawiad o bell). Rydym hefyd yn ystyried a fyddai’n fanteisiol cyflwyno canllawiau ychwanegol ar ddarparu tystiolaeth feddygol oherwydd gall rhai apelwyr feddwl yn anghywir bod y DWP yn gofyn am dystiolaeth feddygol gan eu meddyg teulu ar eu rhan. Nid yw hyn yn wir a gall arwain at ohirio os nad oes gan y tribiwnlys y dystiolaeth angenrheidiol.

Amseroedd clirio yn ôl rhanbarth a nodweddion gwarchodedig:

O ddadansoddi apeliadau PIP ar-lein a wnaed yn 2021, nid oedd ond mân wahaniaethau mewn amseroedd clirio yn ôl rhanbarth ar gyfer achosion a benderfynwyd heb wrandawiad, ond gwahaniaethau mawr ar gyfer achosion a benderfynwyd drwy wrandawiad. Er enghraifft, roedd gan apeliadau yn yr Alban a benderfynwyd drwy wrandawiad amseroedd clirio llawer byrrach nag apeliadau drwy wrandawiad yn Llundain, Canolbarth Lloegr a Gogledd-orllewin Lloegr.

Rhanbarth Nifer yr apeliadau yn 2021 Amser clirio cymedrig (diwrnodau) Amser clirio canolrifol (diwrnodau)
Llundain 2,962 161 131
Canolbarth Lloegr 3,275 140 121
Gogledd-orllewin Lloegr 2,506 169 143
Yr Alban 2,407 83 66

Ffigwr 3: Amseroedd clirio yn ôl rhanbarth ar gyfer achosion a benderfynwyd drwy wrandawiad, ac ar gyfer apeliadau PIP ar-lein a dderbyniwyd yn 2021.

Mae hyn yn golygu bod angen ystyried anghenion rhanbarth wrth ddadansoddi amseroedd clirio yn ôl nodweddion gwarchodedig, oherwydd gwyddom fod defnyddwyr gyda rhai nodweddion yn fwy tebygol o fyw mewn rhai rhannau o’r wlad. Gallai unrhyw amrywiad mewn amseroedd clirio yn ôl nodweddion gwarchodedig, yn rhannol o leiaf, fod oherwydd ble y mae pobl yn byw.

Fodd bynnag, ar ôl lwfa ar gyfer rhanbarth, roedd gwahaniaethau o hyd mewn amseroedd clirio yn ôl nodweddion gwarchodedig. Er enghraifft, mewn nifer o ranbarthau, roedd achosion pobl leiafrifol ethnig ac achosion gyda phrif iaith wahanol i’r Gymraeg neu’r Saesneg wedi cymryd hirach nag apeliadau gan ddefnyddwyr gwyn a rhai gyda Chymraeg neu Saesneg yn brif iaith.

Rhanbarth Tarddiad ethnig Nifer yr achosion Amser clirio cymedrig (diwrnodau) Amser clirio canolrifol (diwrnodau)
Llundain Gwyn 373 149 128
  Lleiafrifol ethnig 317 165 142
Gogledd-orllewin Lloegr Gwyn 659 167 144
  Lleiafrifol ethnig 74 200 180

Ffigwr 4a: Amseroedd clirio yn ôl rhanbarth a tharddiad ethnig yr apelydd, ar gyfer achosion a benderfynwyd drwy wrandawiad, ar gyfer apeliadau PIP ar-lein a dderbyniwyd yn 2021.

Rhanbarth Prif iaith Nifer yr achosion Amser clirio cymedrig (diwrnodau) Amser clirio canolrifol (diwrnodau)
Llundain Cymraeg neu Saesneg 588 155 135
  Arall 155 170 143
Gogledd-orllewin Lloegr Cymraeg neu Saesneg 720 168 147
  Arall 35 188 162

Ffigwr 4b: Amseroedd clirio yn ôl rhanbarth a phrif iaith yr apelydd, ar gyfer achosion a benderfynwyd drwy wrandawiad, ar gyfer apeliadau PIP ar-lein a dderbyniwyd yn 2021.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae dadansoddi pellach ar waith i ddeall yr achosion sylfaenol sy’n gyfrifol am y gwahaniaethau yn ôl rhanbarth a nodweddion gwarchodedig. Gallai hyn gynnwys ymchwil sylfaenol i edrych ar samplau o achosion i ddeall ym mha gam(au) y gall y broses droi’n hirach i apelwyr, a pham.

Canlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Edrychodd y dadansoddiad ar ganlyniadau apeliadau PIP ar-lein a wnaed rhwng Mawrth ac Awst 2021, yn ôl nodweddion gwarchodedig. Nid oedd tystiolaeth o wahaniaeth mewn canlyniad yn ôl prif iaith, crefydd, tarddiad ethnig, tueddiad rhywiol na rhyw. Sylwyd ar wahaniaethau yn ôl priodas / partneriaeth sifil ac oed, ond effaith fach oedd hyn ac ar hyn o bryd nid oes cyfiawnhad dros ymchwil fwy manwl.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Byddwn yn parhau i fonitro’r data hwn yn ofalus am unrhyw newid sylweddol i weld a oes, a phryd y mae angen mwy o waith dadansoddi.

4. Ysgariad

4.1 1. Rhagarweiniad:

Lansiwyd y gwasanaeth ysgariad diwygiedig ym Mawrth 2018 gan gynnig gwasanaeth ar-lein hollgynhwysol ar gael i bawb.

Yn Ebrill 2022 lansiwyd gwasanaeth ysgariad dim bai newydd ar draws Cymru a Lloegr. Roedd y newid hwn yn rhoi diwedd ar yr angen i gyplau orfod beio’r naill neu’r llall am briodas yn chwalu gan eu helpu’n hytrach i ganolbwyntio ar benderfyniadau ymarferol yn ymwneud â phlant neu eu sefyllfa ariannol ac edrych i’r dyfodol.

Edrychodd yr asesiad mynediad at gyfiawnder ysgariad ar y gwasanaeth rhoi bai diwygiedig a chohort o achosion rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021 (yn gynhwysol). Roedd hyn oherwydd nad oedd y gwasanaeth ysgariad dim bai wedi dod i rym eto pan wnaed yr asesiad. Yn dilyn yr asesiad, mae gwaith pellach wedi cael ei wneud yn defnyddio data o’r gwasanaethau ysgariad rhoi bai a dim bai. Roedd y data dim bai yn ddata o’r cyfnod Ebrill 2022 a Mehefin 2023 (yn gynhwysol).

Hefyd, mae sawl cafeat a chyfyngiadau data sydd angen eu hystyried wrth geisio deall canfyddiadau’r asesiad A2J o achosion ysgariad.

  • Dim ond ar gyfer ceiswyr ar-lein heb eu cynrychioli[15] y mae data’r cwestiynau nodweddion gwarchodedig ar gael, gyda chyfradd ymateb o tua 50%.
  • Nid oes procsi dibynadwy ar gyfer angen cyfreithiol: Ni wyddom ba is-grŵp o’r boblogaeth sydd angen gwasanaeth ysgariad arnynt felly ni allwn ddweud a yw’r proffil defnyddwyr presennol yn rhoi sicrwydd pendant o ran lefel y mynediad at gyfiawnder.

4.2 Tystiolaeth o fynediad at gyfiawnder:

Proffil defnyddwyr:

Nid oedd unrhyw dystiolaeth fod unrhyw grwpiau poblogaeth wedi eu gor- neu dan-gynrychioli yn y gwasanaeth. Mae’r proffil defnyddwyr yn debyg i broffil poblogaeth oedolion Cymru a Lloegr ond mae defnyddwyr ysgariad yn debygol o fod yn iau.

Canlyniadau a phrydlondeb yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Ni wnaeth yr asesiad adnabod unrhyw wahaniaeth mewn canlyniad na phrydlondeb yn ôl rhyw, oed neu anabledd. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau mewn ceisiadau gan ddefnyddwyr o leiafrifoedd ethnig neu grefyddol neu os oeddent yn siarad prif iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg (wele’r adran nesaf).

Defnyddwyr digidol:

Awgrymodd yr asesiad fod y gwasanaeth ar-lein beio diwygiedig ar gael yn eang, yn cael ei ddefnyddio’n eang ac yn gweithio’n dda. Mae nifer y defnyddwyr digidol, hynny yw’r gyfran o ymgeiswyr sy’n dewis gwneud cais ar-lein, wedi bod yn cynyddu’n gyson o tua 70% ar ddechrau 2021 i bron i 90% yn Rhagfyr 2021. Mae monitro perfformiad y gwasanaeth ers hynny wedi dangos bod mwy’n dewis defnyddio’r gwasanaeth digidol dim beio - 92% ar gyfartaledd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Gellir priodoli’r cynnydd mewn defnyddwyr digidol i ymgyrchoedd marchnata’n pwysleisio pa mor syml yw’r system ar-lein, y ffaith ei bod yn orfodol i gyfreithwyr ddewis y system ar-lein ers Medi 2021, a chyflwyniad y gwasanaeth ysgariad dim bai, sydd wedi symleiddio’r broses ar-lein ymhellach. Mae’r lefelau’n uchel o’i gymharu â gwasanaethau eraill GLlTEF ac yn dystiolaeth bod y gwasanaeth ar-lein ar gael ac yn cael ei ddefnyddio’n eang.

Profiad defnyddwyr:

Ni ddylid trin canfyddiadau’r asesiad o’r arolwg gadael fel rhywbeth i’w gyffredinoli i ddefnyddwyr ysgariad oherwydd mae’r gyfradd gwblhau yn 2% a’r ymatebion yn rhai gan ddefnyddwyr sydd â hunan-gymhelliad i gwblhau’r arolwg. Fodd bynnag, o’r rhai a ddewisodd gwblhau’r arolwg, roedd 87% wedi sgorio’r gwasanaeth ar-lein fel eithriadol dda neu dda a 72% yn dweud bod y gwasanaeth ar-lein wedi rhagori ar eu disgwyliadau. Hefyd, dywedodd ddefnyddwyr a ffoniodd y CTSC am eu hysgariad ac a ddewisodd gwblhau’r arolwg ffôn CTSC eu bod yn fodlon iawn â’r gwasanaeth. Roedd dau o bob tri wedi sgorio’r alwad ffôn fel da iawn neu dda gan deimlo ei bod yn hawdd iawn neu’n hawdd cael yr hyn yr oeddent ei eisiau o’r alwad.

Cyfraddau cynrychiolaeth:

Ers 2018 mae llai o bartïon ysgariad wedi eu cynrychioli gyda’r gyfran o achosion ysgariad lle’r oedd o leiaf un parti wedi eu cynrychioli’n amrywio rhwng 50-59% yn 2018 a 35-40% yn 2021. Mae’r gyfradd gynrychiolaeth gyfartalog wedi parhau i ostwng - ers cyflwyno ysgariad dim beio mae’n 28% - a gwaith dadansoddi’n dangos bod gan y mwyafrif o achosion ysgariad wedi eu cynrychioli achos rhwymedi ariannol. Mae cyfradd gynrychiolaeth is yn awgrymu bod y gwasanaeth yn symlach a mwy hygyrch ac yn arwydd da o fynediad at gyfiawnder.

4.3 Rhwystrau i fynediad at gyfiawnder:

Prydlondeb achosion papur:

Yn ôl yr asesiad A2J o achosion ysgariad, o dan y system flaenorol, roedd achosion papur ar gyfartaledd pob mis yn para dros 90 wythnos yn gyson, ym mhob achos a gafodd ddyfarniad absoliwt rhwng Gorffennaf 2021 ac Ebrill 2022. Mewn cymhariaeth, roedd ceisiadau digidol dros gyfnod tebyg wedi cymryd tua 23 wythnos.

Er mwyn gwella prydlondeb ceisiadau papur, cafodd swmp-sganio ei weithredu ar gyfer y gwasanaeth ysgariad dim beio yn Ebrill 2022. Mae’r broses yma’n golygu sganio’r ceisiadau papur a’u llwytho i’r un platfform llwyfan â’r broses ceisiadau digidol. O safbwynt gweinyddol mae’n golygu bod y ceisiadau papur i gyd yn dod yn ddigidol. Yn dilyn dadansoddi pellach yn 2023, mae llai o wahaniaeth mewn parhad cyfartalog achosion o’r cam cyflwyno cais i’r gorchymyn terfynol, gyda cheisiadau papur yn cymryd 7 wythnos yn hirach na rhai digidol. Fodd bynnag mae’r ffigur hwn yn codi bob mis wrth i achosion mwy cymhleth, sydd wedi bod yn hirach yn y system, gyrraedd y cam gorchymyn terfynol a chyfrannu at y ffigurau misol cyfartalog.

Byddem yn disgwyl i achosion papur gymryd fymryn yn hirach na rhai digidol i gyrraedd y cam gorchymyn terfynol yn y gwasanaeth dim beio, oherwydd yr amser a gymerir i bostio ffurflenni newydd ar gyfer eu gorchymyn amodol a therfynol. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth er hynny’n uwch nag y byddem yn ei ddisgwyl a’r rhesymau’n dal i fod yn aneglur.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Er mwyn sicrhau mynediad at gyfiawnder i ddefnyddwyr y sianeli digidol a phapur, bydd GLlTEF yn parhau i fonitro faint y mae achosion papur yn para nes y gall fesur faint o oedi sy’n digwydd yn y gwasanaeth dim beio. Hefyd, bydd y cohort o achosion ysgariad dim beio’n cael ei ddadansoddi a’i gymharu ag achosion digidol drwy’r drefn feio. Byddwn wedyn yn gallu deall mwy beth sy’n achosi’r oedi gyda cheisiadau papur. Disgwylir cwblhau’r gwaith hwn yn 2024. Gan ddibynnu ar faint yr oedi, efallai y bydd angen ymchwilio ymhellach er mwyn deall demograffeg ceiswyr papur a’u rhesymau dros ddewis y drefn bapur, cyn gwneud argymhellion ar gyfer gwella mynediad at gyfiawnder.

Cyswllt:

Yn dilyn dadansoddi data cyswllt, h.y. galwadau ffôn, ebyst, cwynion ac adborth gan ddefnyddwyr digidol, cafwyd bod defnyddwyr yn cael trafferth cysylltu â GLlTEF i gael diweddariad ar eu hachos, a chael canllawiau ar y broses o wneud cais.

Gallai hyn fod yn arwydd o broblem mynediad at gyfiawnder, felly ar ddechrau 2023 fe wnaethom ddadansoddiad pellach o’r pethau sy’n ysgogi pobl i gysylltu er mwyn deall pam fod y trafferthion hyn yn digwydd. Dangosodd y dadansoddiad hwn fod dros hanner y cyswllt (57%) yn y gwasanaeth ysgariad yn ymwneud â cham ôl-gyflwyno’r broses, a gallwn rannu hyn yn y ddau gam pellach:

  • Yn gyntaf, roedd y cam pryd y mae’r ceisydd wedi cyflwyno eu cais ysgariad, ond cyn y cam cychwyn, yn cyfrif am 26% o’r cyswllt. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nifer fach o wallau gan ddefnyddwyr fel dogfennau ar goll, ansawdd y dystysgrif priodas a lwythwyd, ac anghysondebau rhwng y ffurflen gais a’r dystysgrif priodas. Pan fydd gwallau o’r fath yn cael eu hadnabod, mae angen i ddefnyddwyr gysylltu â GLlTEF i’w cywiro. Mae hefyd yn gyffredin i ddefnyddwyr sy’n mynd drwy’r broses gysylltu â GLlTEF am ddiweddariad ar eu hachos, a gofyn cwestiynau am ganllawiau.
  • Roedd cam nesaf y broses, lle y disgwylir i’r atebydd lenwi’r ffurflen cydnabod cyflwyno (AOS) yn dweud sut y maen nhw eisiau ymateb i’r cais ysgariad, yn cyfrif am tua 31% o’r cyswllt. Mae’r cyswllt hwn yn bennaf oherwydd nad yw defnyddwyr wedi cael ymateb gan yr atebydd, ac felly’n gorfod gofyn i’r papurau ysgariad gael eu hail-gyflwyno neu wneud cais am gyflwyniad o fath arall[16]. Roedd cysylltu â’r CTSC yn gofyn am ganllawiau ar sut i symud ysgariad yn ei flaen neu’n gorfod cyflwyno cywiriadau oherwydd eu bod wedi cwblhau eu cais am gyflwyniad gwahanol yn anghywir. Mae nifer fawr o geisiadau am gyflwyniad o fath arall yn cael eu dychwelyd i ddefnyddwyr i’w cywiro oherwydd gwallau, sydd yn ei dro’n arwain at gysylltu.

Y camau nesaf i GLlTEF:

O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, rydym wedi datblygu a hefyd yn ehangu’r Hỳb Dinasyddion presennol, i gynnwys y cam ôl-gyflwyno ond cyn cychwyn y broses ysgariad. Disgwylir lansio’r ehangu hwn yn 2024. Bydd defnyddwyr wedyn yn gallu cyflwyno’r cywiriadau ac esboniadau perthnasol i’w cais ysgariad yn ddigidol, fel na fydd angen cysylltu â GLlTEF dros y ffôn na’r e-bost yng ngham ôl-gyflwyno ond cyn cychwyn y broses ysgariad. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllawiau gwell ar y gofynion ar gyfer llwytho dogfennau, er mwyn gwella ansawdd y dogfennau a lwythir. Bydd y canllawiau diweddaraf hyn ar gael yn 2024.

Rydym hefyd wedi addasu ein gweithdrefnau prosesu mewnol fel y gall ceisiadau sydd ddim yn cwrdd â’r safonau ansawdd symud ymlaen sut bynnag, drwy groeswirio tystysgrifau priodas. Mae ymchwilio pellach wedi’i wneud i’r broses o ‘brofi’ enwau ac rydym wedi ail-ddylunio sut y gofynnwn i geiswyr am eu henw llawn. Bydd y drefn newydd ar gael i ddefnyddwyr yn 2024.

Er mwyn deall pam fod ceiswyr ac atebwyr yn cysylltu ynghylch y cam AOS, mae gennym brosiect dadansoddi sgyrsiau sy’n ymchwilio i’r galwadau ffôn (wedi eu recordio) a wnaed gan ddefnyddwyr i’r CTSC. Bydd hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am y rhesymau dros gysylltu â’r GLlTEF fel y gallwn ystyried sut i wella neu gywiro’r gwasanaeth. Disgwylir i hyn fod wedi’i gwblhau yn 2023.

Rydym hefyd yn edrych ar yr opsiwn o ddigideiddio’r siwrne os nad yw ceisydd yn cael ymateb gan yr ymatebydd i’w cais ysgariad. Nod digideiddio’r rhan yma o’r broses ysgariad yw tywys defnyddwyr yn well i wneud y cais cywir i’w sefyllfa a symud yr ysgariad yn ei flaen. Dylai cwestiynau cliriach a mwy pwrpasol, yn ogystal â chynnwys ychwanegol a dilysu ar y sgrin, hefyd helpu i leihau gwallau gan ddefnyddwyr sy’n gyffredin ar fersiynau papur y ceisiadau hyn.

Prydlondeb a chanlyniad yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Roedd yr asesiad A2J o achosion ysgariad wedi adnabod gwahaniaethau o ran prydlondeb a chanlyniad mewn achosion lle’r oedd y ceisydd o leiafrif ethnig neu gyda phrif iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. Roedd ceiswyr gyda’r nodweddion hyn yn llai tebygol o gwblhau eu hysgariad yn derfynol a’u hachosion, ar gyfartaledd, yn para’n llawer hirach.

Cam ysgariad a gyrhaeddwyd Ceiswyr gwyn Ceiswyr lleiafrifol ethnig
Dyfarniad Absoliwt 9136 (91%) 1282 (83%)
Dyfarniad Nisi yn unig 424 (4%) 74 (4%)
Y camau uchod heb eu cyrraedd 443 (4%) 182 (12%)

Ffigwr 5a: Cam a gyrhaeddwyd mewn achosion ysgariad wedi’i rannu yn ôl tarddiad ethnig (hunan-adrodd) ceiswyr ar-lein heb eu cynrychioli, a dderbyniwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 31 Mawrth 2021, data ar gynnydd achosion ar 8 Awst 2022

Cam ysgariad a gyrhaeddwyd Ceiswyr gwyn Ceiswyr lleiafrifol ethnig
  Wythnosau cymedrig Wythnosau canolrifol Wythnosau cymedrig Wythnosau canolrifol
Dyfarniad Absoliwt 21.5 15.1 24.5 16.7
Dyfarniad Nisi 11.1 8.1 15.1 9.6

Ffigwr 5b: Amserlen a gyrhaeddwyd mewn achosion ysgariad wedi’i rannu yn ôl tarddiad ethnig (hunan-adrodd) ceiswyr ar-lein heb eu cynrychioli, a dderbyniwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 31 Mawrth 2021, data ar gynnydd achosion ar 8 Awst 2022

Er mwyn deall y gwahaniaethau hyn, cafodd waith dadansoddi ychwanegol ei wneud. Dadansoddwyd sampl o 80 o achosion gan geiswyr a adnabyddent fel rhan o leiafrif ethnig, gydag ymchwil sylfaenol yn cael ei chynnal â staff gweithredol. Dangosodd yr ymchwil fod amrediad o drafferthion cyffredin oedd yn fwy tebygol o effeithio ar ddefnyddwyr lleiafrifol ethnig gan awgrymu pam fod y gwahaniaethau mewn prydlondeb a chanlyniad yn digwydd. Roedd y trafferthion hyn yn cynnwys:

  • Sut y mae GLlTEF yn delio ag arferion enwi diwylliannol: Rhaid i enwau a theitlau ar y ffurflen gais fod yr un fath â’r rhai a restrir ar y dystysgrif priodas a gyflwynir. Gyda rhai ceisiadau gan ddefnyddwyr lleiafrifol ethnig, roedd enwau neu deitlau gwahanol neu ychwanegol wedi cael eu cynnwys i’r rhai a oedd ar y dystysgrif priodas (sy’n debyg i ganfyddiadau’r asesiad o achosion profiant).
  • Nifer o ddyddiadau ar dystysgrifau priodas: I brosesu cais ysgariad, mae angen nodi dyddiad y briodas rhwymol-gyfreithiol. Cafwyd bod tystysgrifau priodas gan geiswyr lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o gynnwys nifer o wahanol ddyddiadau, neu ddim dyddiad priodas o gwbl.
  • Lleoliad y briodas: Ar hyn o bryd nid oes cytundeb ar ba mor benodol y mae angen i leoliad fod ac mae’r hyn a roddir ar dystysgrifau priodas tramor yn amrywio. Yn aml iawn bydd hyn yn cynnwys y corff tramor a gymeradwyodd y briodas ond nid ble’n union y digwyddodd y briodas.
  • Llwytho cyfieithiadau ardystiedig o dystysgrifau priodas: Os yw’r dystysgrif priodas wreiddiol mewn iaith wahanol i’r Saesneg, mae angen llwytho cyfieithiad ardystiedig gyda’r copi gwreiddiol. Aseswyd bod gan y dasg hon gyfradd wall o dros 50% gyda chais cychwynnol gan awgrymu bod y gwallau’n digwydd drwy gamddeall beth yn union yw cyfieithiad ardystiedig, sut i gael un ac i bwy y dylid ei gyflwyno.
  • Cyflwyno i ymatebwyr: O dan y gwasanaeth ysgariad dim beio, y ceisydd sy’n gyfrifol am gyflwyno’r cais i’r atebydd os ydynt wedi nodi yn y cais cychwynnol bod yr atebydd yn byw dramor. Mae’r protocol ar sut y gellir gwneud hyn yn gymhleth ac yn amrywio o wlad i wlad, ac mae’r canllawiau ar-lein yn eithaf dyrys.
  • Darparu dogfennau swyddogol: Mewn ceisiadau ysgariad, rhaid i geiswyr lwytho copi o’u tystysgrif priodas a dogfennau swyddogol yn egluro unrhyw newid enw ers y briodas, er enghraifft drwy weithred newid enw. Os anfonwyd y rhain allan yn y DU yn wreiddiol, gall GLlTEF gynghori defnyddwyr ar sut i gael copïau. Ond, oherwydd amrywiadau lleol, ni all wneud hyn gyda dogfennau a anfonwyd allan gan gyrff tramor. Hefyd, ni fydd rhai cyrff tramor yn anfon copïau ychwanegol allan.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae’r dadansoddiad ychwanegol wedi egluro rhai o’r rhesymau dros y gwahaniaethau mewn prydlondeb a chanlyniad i rai ceiswyr ysgariad, felly rydym yn gweithio tuag at gywiro’r gwasanaeth yn benodol i ddatrys y trafferthion hyn. Rydym yn edrych ar y canllawiau presennol i weld sut y gallwn eu gwella er mwyn lleihau’r trafferthion gyda llwytho cyfieithiadau ardystiedig, a disgwyliwn ddechrau ar y gwaith hwn yn 2024. Rydym hefyd yn gwella’r canllawiau prosesu mewnol i sicrhau bod holl staff GLlTEF yn ‘profi’ tystysgrifau priodas tramor yn gyson. Disgwylir i hyn hefyd fod wedi’i gwblhau yn 2024.

5. Hawliadau Sifil am Arian Ar-lein (OCMC)

5.1 Rhagarweiniad:

Lansiwyd OCMC ym mis Mawrth 2018 fel rhan o Raglen Ddiwygio GLlTEF fel y gall defnyddwyr wneud neu amddiffyn hawliad sifil am arian ar-lein. Roedd y gwasanaeth ar gael i ddechrau ar gyfer achosion gyda dim ond un hawlydd ac un diffynnydd, a’r un o’r ddwy ochr wedi eu cynrychioli a gwerth yr hawliad yn llai na £10,000. Ym mis Mai 2022 ehangwyd y meini prawf cymhwyso i gynnwys cynrychiolwyr cyfreithiol hawlwyr gyda hawliadau o dan £25,000.

Pan wnaed yr asesiad, nid oedd OCMC yn darparu gwasanaeth hawliadau sifil am arian ollgynhwysol. Fodd bynnag, roedd asesiad A2J OCMC yn canolbwyntio ar y siwrne gyfan i achosion a gychwynnodd drwy’r gwasanaeth OCMC. Hefyd pan wnaed yr asesiad, dim ond i ddefnyddwyr heb eu cynrychioli gyda hawliadau o dan £10,000 oedd y gwasanaeth ar gael. Felly dim ond i’r achosion hyn y mae’r canfyddiadau hyn yn berthnasol.

5.2 Tystiolaeth o fynediad at gyfiawnder:

Mae dau fwlch gwybodaeth sy’n cyfyngu ar asesiad yr OCMC o fynediad at gyfiawnder, sy’n berthynol i’r asesiadau eraill o achosion profiant, ysgariad a SSCS:

  • Nid oes procsi dibynadwy ar gyfer angen cyfreithiol: Ni wyddom ba is-grŵp o’r boblogaeth sydd fwy o angen gallu gwneud hawliadau sifil am arian felly ni allwn ddweud a yw’r proffil defnyddwyr presennol yn rhoi sicrwydd pendant o ran lefel y mynediad at gyfiawnder.
  • Mae canlyniadau anhysbys i gyfresi sylweddol o hawliadau: Gellir setlo achosion OCMC y tu allan i’r llys heb hysbysu GLlTEF felly nid yw’r wybodaeth am sut y penderfynwyd yr achosion yn fanwl iawn. Gall y gyfres o achosion gyda chanlyniad anhysbys gynnwys rhai sydd wedi cael eu setlo, rhai lle’r oedd yr hawlydd efallai eisiau dyfarniad diofyn ond yn methu â gwneud hynny oherwydd problemau cyflwyno, ond ni wyddom hyn. Gall hyn felly gyflwyno elfen o ragfarn wrth geisio asesu amrywiadau mewn achosion lle y mae’r canlyniad yn hysbys neu mewn prydlondeb yn ôl nodweddion y defnyddiwr.

Proffil defnyddwyr:

Yng nghyd-destun y bylchau hyn yn yr wybodaeth, nid yw’r asesiad yn dangos tystiolaeth o arwydd amlwg bod unrhyw grwpiau poblogaeth wedi eu gor- neu dan-gynrychioli yn y gwasanaeth oherwydd mae proffil hawlwyr a diffynyddion sy’n ymgysylltu’n eithaf tebyg i broffil poblogaeth 16+ oed Cymru a Lloegr.

Canlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Ni wnaeth yr asesiad adnabod unrhyw wahaniaethau mawr mewn canlyniad yn ôl nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, ni ellir dehongli’r dadansoddiad fel un diymwad o ystyried y gyfran fawr o achosion gyda chanlyniadau anhysbys.

Profiad defnyddwyr:

Ni ddylid trin canfyddiadau’r asesiad o’r arolwg gadael fel rhywbeth i’w gyffredinoli i ddefnyddwyr OCMC oherwydd mae’r gyfradd gwblhau yn 4% a’r ymatebion yn rhai gan ddefnyddwyr sydd â hunan-gymhelliad i gwblhau’r arolwg. Fodd bynnag, o’r rhai a ddewisodd gwblhau’r arolwg, dywedodd 86% nad oedd angen help arnynt i ddefnyddio OCMC. Hefyd, roedd 18% o’r ymatebion yn cynnwys beirniadaeth adeiladol o OCMC gyda’r 82% arall yn cynnwys canmoliaeth neu ddim sylwadau pellach. Mae hyn yn awgrymu nad yw defnyddwyr yn cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth.

5.3 Tystiolaeth o rwystrau posib i fynediad at gyfiawnder:

Ymgysylltu gan ddiffynyddion:

Rhwng Medi 2020 ac Ionawr 2021, ni dderbyniodd 70% o achosion a dderbyniwyd gan y llys unrhyw ymateb ffurfiol gan y diffynnydd. Arhosodd hyn yn eithaf cyson tan 2023. Fodd bynnag, mae’n aneglur pam fod gymaint o ddiffynyddion yn methu ag ymateb i’r hawliad, ac ni allwn felly fod yn sicr mai rhwystrau i ymgysylltu sy’n gyfrifol am yr ymateb isel.

Y camau nesaf i GLlTEF:

I ddeall pam fod rhai diffynyddion yn methu ag ymgysylltu â’u hachos, bwriadwn wneud ymchwil sylfaenol gyda diffynyddion hawliadau arian sydd ddim yn ymgysylltu. Ar ôl deall pam, os byddwn yn canfod unrhyw rwystrau byddwn yn gweithio i wella’r gwasanaeth er mwyn eu lleihau. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar ddiwedd 2023.

Cwblhau digidol:

Mae’r gyfradd gwblhau ddigidol (DCR)[17] ar gyfer OCMC o dan 50% sy’n isel o’i gymharu â gwasanaethau eraill. Mae gan SSCS gyfradd DCR o tua 85% a phrofiant tua 90%. Gallai cyfradd gwblhau isel olygu bod defnyddwyr yn methu, neu wedi penderfynu peidio â chwblhau eu cais neu dasg ddigidol.
Wrth ystyried y DCR ar gyfer OCMC, mae’n bwysig cofio pan fydd defnyddwyr yn dechrau hawliad sifil am arian drwy OCMC eu bod yn cael eu hannog i ystyried cyfryngu, a datrys eu hanghydfod mewn ffordd arall. Felly os yw’r opsiynau eraill yn llwyddo, gall olygu nad ydynt wedyn yn cwblhau’r hawliad. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cymharu’r DCR yn gywir â gwasanaethau eraill sydd â phrosesau gwahanol. Nid yw hyn yn golygu nad yw’n bosib bod rhai defnyddwyr yn cael trafferth defnyddio OCMC. Gallai hyn fod oherwydd pethau fel problemau technegol, trafferth deall y cynnwys, trafferth darparu’r wybodaeth angenrheidiol, neu benderfynu peidio â pharhau gyda’r hawliad am resymau eraill. Nodwyd hefyd fod 13 allan o’r 441 o gwynion a ddadansoddwyd yn ymwneud â gwallau ar ffurflenni.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Drwy gyfuno data perfformiad Google analytics[18] â’r data cyswllt, yr adborth drwy’r wefan a’r arolwg gadael ac o ddadansoddi sgyrsiau, byddwn yn gallu ymchwilio i siwrne defnyddwyr ac ennill dealltwriaeth well o’r trafferthion. Gallwn wedyn benderfynu pa addasiadau i’w gwneud i’r cynnwys, canllawiau a’r broses cyfeirio ymlaen er mwyn cael defnyddwyr i ymgysylltu mwy a, gobeithio, gwella’r gyfradd gwblhau ddigidol. Disgwylir i’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau 2024.

Prydlondeb yn ôl nodweddion gwarchodedig:

Mae canlyniadau anhysbys i gyfresi sylweddol o hawliadau OCMC: Gall y gyfres o achosion gyda chanlyniad anhysbys gynnwys rhai sydd wedi cael eu setlo tu allan i’r llys, neu os oedd yr hawlydd eisiau dyfarniad diofyn ond yn methu oherwydd problemau cyflwyno. Mae hyn yn gwneud dehongli prydlondeb yn anodd. I ddechrau felly, roedd ffocws y dadansoddiad ar yr amser a gymerwyd i gyrraedd cyfryngu llwyddiannus neu ddyfarniad diofyn. Roedd yr amser cyfartalog i gyrraedd cyfryngu llwyddiannus a dyfarniad diofyn yn debyg yn ôl tarddiad ethnig yr hawlydd. Nid yw’r gwahaniaethau mewn amseroedd (cymedrig) cyfartalog yn ystadegol arwyddocaol. Mae’n golygu bod gwahaniaethau fel hyn yn debygol o gael eu gweld hyd yn oed os nad oes cysylltiad rhwng nodweddion y defnyddiwr a phrydlondeb.

Cyfryngu Nifer yr achosion / hawlwyr Diwrnodau canolrifol Diwrnodau
Hawlwyr lleiafrifol ethnig 85 44 46
Hawlwyr gwyn 626 42 48

Ffigwr 6a: Amserlen cyfryngu lwyddiannus, wedi’i rannu yn ôl tarddiad ethnig (hunan-adrodd) hawlwyr ar-lein heb eu cynrychioli, a dderbyniwyd rhwng Medi 2020 ac Ionawr 2021

Dyfarniad diofyn Nifer yr achosion / hawlwyr Diwrnodau canolrifol Diwrnodau cymedrig
Hawlwyr lleiafrifol ethnig 384 23 38
Hawlwyr gwyn 2234 23 41

Ffigwr 6b: Amserlen cyrraedd dyfarniad diofyn, wedi’i rannu yn ôl tarddiad ethnig (hunan-adrodd) hawlwyr ar-lein heb eu cynrychioli, a dderbyniwyd rhwng Medi 2020 ac Ionawr 2021

Ar y llaw arall, roedd gwahaniaethau sylweddol yn yr amser cyfartalog a gymerwyd i gyrraedd gwrandawiad llawn cyntaf, gydag achosion yn cymryd 37 diwrnod yn hirach ar gyfartaledd i gyrraedd y cam hwn os oedd yr hawlydd o grŵp lleiafrifol ethnig o’i gymharu â hawlwyr gwyn.

Gwrandawiad llawn cyntaf Nifer yr achosion / hawlwyr Diwrnodau canolrifol Diwrnodau cymedrig
Hawlwyr lleiafrifol ethnig 188 260 286
Hawlwyr gwyn 973 208 249

Ffigwr 6c: Amser a gymerwyd i gyrraedd gwrandawiad llawn cyntaf, wedi’i rannu yn ôl tarddiad ethnig (hunan-adrodd) hawlwyr ar-lein heb eu cynrychioli, a dderbyniwyd rhwng Medi 2020 ac Ionawr 2021

Y camau nesaf i GLlTEF:

Byddwn yn ymchwilio ymhellach i’r data er mwyn deall a oes unrhyw ffactorau cyd-destun eraill sy’n gyfrifol am y gwahaniaethau, fel rhanbarth, fel y gwelsom o’r blaen gyda data canlyniadau GLlTEF. Fodd bynnag, o ystyried y cyfyngiadau data y soniwyd amdanynt yn barod, efallai na allwn ateb i sicrwydd y cwestiwn a oes rhwystrau neu beidio, ond rydym wedi dewis cynnwys y canfyddiad yma er mwyn bod yn dryloyw. Disgwylir i’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn Mawrth 2024.

Problemau gyda’r canllawiau:

Roedd tystiolaeth i awgrymu bod lle i wella’r canllawiau presennol ar GOV.UK. Dangosodd ddata ar alwadau i’r Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSC), roedd 54% o’r galwadau gan hawlwyr OCMC a 45% o rai gan ddiffynyddion OCMC yn rhai am ganllawiau ‘sut i’. Roedd ymchwil gyda 11 o Swyddogion Rheoli Ymholiadau a Gweinyddu Achosion (QMCA) yn y canolfannau CTSC hefyd yn adleisio problemau canllawiau wrth i’r cyfranogwyr deimlo bod angen iddynt roi mwy o arweiniad i ddefnyddwyr na’r hyn oedd ar gael ar-lein. Fodd bynnag, teimlai’r rhan fwyaf (10 allan o 11) o gyfranogwyr nad oedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr wedi darllen na deall y canllawiau cyn ffonio. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod problem sylfaenol ddyfnach fel bod yn well gan ddefnyddwyr dderbyn eu canllawiau drwy ddulliau gwahanol i GOV.UK.

Yn benodol roedd diffyg arweiniad ar y gwahanol fathau o ffioedd llys oherwydd bod y canllawiau ar GOV.UK ond yn nodi’r costau sy’n gysylltiedig â ffi’r cais. Yn dilyn dadansoddi, roedd 26 allan o’r 441 o gwynion a ddadansoddwyd yn ymwneud â’r ffioedd yr oedd angen eu talu ar ben ffi’r cais cychwynnol. Roeddent yn cynnwys ffioedd ychwanegol i ddiwygio ffurflenni, a ffioedd gwrandawiad a rhestru. Roedd hyn yn creu’r argraff bod hawliad sifil am arian ar-lein yn costio mwy na’r hyn oedd defnyddwyr yn ei ddisgwyl. Dangosodd yr ymatebion i’r arolwg gadael hefyd fod angen canllawiau gwell gyda 43 allan o’r 189 beirniadaeth adeiladol yn sôn am fod angen canllawiau ar y gwahanol ffioedd llys ynghlwm â’r broses, ar y gwahanol gamau ym mhroses llys yr OCMC, ac ar gyfrifo cyfraddau llog.

Yn ogystal â’r dystiolaeth yn awgrymu’r diffyg canllawiau, cafwyd fod rhai defnyddwyr yn aros yn hirach na’r disgwyl am ymateb i ymholiad am gyngor nad oedd yn hawdd dod o hyd iddo ar GOV.UK na thrwy chwilio ar y we. Roedd 85 allan o 441 o gwynion Hawliadau Sifil am Arian yn ymwneud ag achosion OCMC, a dderbyniwyd gan hawlwyr a diffynyddion, yn gwynion am yr amser y bu’n rhaid iddynt aros i GLlTEF ymateb iddynt. Roedd hyn yn cynnwys amser aros ar y ffôn ac ymateb i ebyst. Roedd amser aros hirach na’r disgwyl yn boen neilltuol i ddefnyddwyr oherwydd eu bod yn cysylltu â GLlTEF i ofyn am gymorth neu arweiniad ar sut i ymateb i orchymyn llys, egluro gohebiaeth (h.y. dyddiad gwrandawiad) neu am wybodaeth goll neu anghyson (h.y. dau ddyddiad gwrandawiad neu os na chawsant unrhyw gyfarwyddyd ar sut i ymuno â gwrandawiad ‘o bell’), neu i gael diweddariad ar eu hachos.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Ar sail y canfyddiadau hyn, rydym yn gweithio i wella’r cynnwys a’r ‘cyfeirio ymlaen’ yn y canllawiau ‘sut i’ ar GOV.UK. Rydym hefyd wedi datblygu ein Strategaeth Cyfeirio Ymlaen yn egluro sut y cefnogwn ddefnyddwyr i gysylltu â sefydliadau cymorth allanol lle bo angen arnynt. Fel rhan o hyn gobeithiwn gynnwys ‘cyfeirio ymlaen’ ar draws ein sianeli, gan gynnwys ein cynnwys ysgrifenedig. Rydym hefyd yn cynnal archwiliad cynnwys ar y gwahanol ganllawiau a gyhoeddir ar GOV.UK. Er mwyn deall pa wybodaeth y mae defnyddwyr yn chwilio amdani, gan gynnwys pa dermau chwilio a fewnbynnir ar-lein ac unrhyw rwystrau, rydym yn profi’r canllawiau ar ddefnyddwyr a hefyd yn edrych ar ddata Google Analytics. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut orau i wella’r canllawiau.

Prosesau gwasanaeth OCMC:

Nid oes gan OCMC rai o’r prif brosesau gwasanaeth sydd angen i sefydliadau (ond nid unigolion) eu cael [19]. Yn Ebrill 2022 fe wnaethom gynnal 12 o gyfweliadau manwl â sefydliadau a allai fod wedi cyflwyno eu hachosion drwy OCMC ond a ddefnyddiodd ddulliau eraill, a 10 cyfweliad gyda sefydliadau a ddefnyddiodd OCMC. Nod y cyfweliadau oedd deall pam fod sefydliadau a allai fod yn cyflwyno hawliad drwy OCMC yn dewis cyflwyno eu hawliad drwy ddulliau eraill (e.e. Hawliadau am Arian Ar-lein, yr hen system ddigidol). Y prif drafferthion wedi eu hadnabod oedd:

  • Nid oes opsiwn mewngofnodi i gwmnïau, ar gyfer nifer o ddefnyddwyr mewn sefydliad, a chadw manylion y cwmni.
  • Gorfod ateb y cwestiynau cymhwyso droeon, hyd yn oed os yw defnyddwyr yn ffyddiog eu bod yn gwybod pa hawliadau y gellir eu cyflwyno ar OCMC.
  • Diffyg hysbysu neu atgoffa o ddyddiadau pwysig, e.e. pan fydd achos yn gymwys am ddyfarniad diofyn, y’n golygu bod angen i sefydliadau wirio eu hachosion eu hunain gan felly, fel defnyddwyr MCOL, ddatblygu systemau mewnol i reoli a monitro eu hachosion y tu allan i OCMC.
  • Pan fydd gan ddefnyddwyr nifer fawr o hawliadau, mae’r diffyg opsiwn chwilio neu hidlo’n ei gwneud yn anodd iawn dod o hyd i achos unigol penodol.
  • Yn y diwedd, mae siwrne defnyddwyr yn rhannol bapur a rhannol ddigidol sy’n drysu ac achosi rhwystredigaeth.

Y camau nesaf i GLlTEF:

Mae gwaith dadansoddi pellach wedi’i wneud i ddeall sut i gyflwyno prosesau gwasanaeth newydd a gwella rhai presennol OCMC. Bwriadwn hefyd ehangu’r llwyfan MyHMCTS fel y gall rhai heb fod yn ymarferwyr cyfreithiol ddefnyddio a chreu hawliadau drwy’r dull hwn. Bydd y prosesau gwasanaeth hyn ar gael i ddefnyddwyr wrth i ni barhau i gyflwyno platfform MyHMCTS.

Hygyrchedd OCMC:

Pan wnaed yr asesiad, cafwyd bod y datganiad hygyrchedd cyhoeddedig ar gyfer OCMC wedi dyddio sy’n golygu nad oedd y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r Gofynion Hygyrchedd ar gyfer Cyrff Sector Cyhoeddus (PSBAR) er credir bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â safon AA WCAG2.1.  Er bod OCMC yn cydymffurfio â safon AA WCAG2.1, mae rhai problemau hygyrchedd o hyd gyda rhai ebyst. Rhaid i’r datganiad hygyrchedd felly ddweud bod y gwasanaeth ar y cyfan ond yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA WCAG2.1.  

Y camau nesaf i GLlTEF:

Ar sail y canfyddiad hwn, mae GLlTEF bellach wedi diweddaru’r Datganiad Hygyrchedd ar gyfer OCMC[20], ac yn gweithio i gywiro’r problemau ebyst gan ddisgwyl i’r gwaith hwn fod wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2024.

6. Crynodeb a’r camau nesaf

Mae’r pedwar asesiad mynediad at gyfiawnder wedi cynorthwyo GLlTEF i adnabod y rhwystrau A2J a fyddai fel arall yn anhysbys, gan hefyd ddarparu tystiolaeth ychwanegol ar gyfer y meysydd y gwyddom sydd angen eu gwella. Am bob rhwystr sydd wedi’i adnabod, mae GLlTEF wedi gallu datblygu cam nesaf i ddeall gwraidd y broblem (e.e. ymchwil sylfaenol i ddeall yr ymgysylltu isel gan ddiffynyddion yn OCMC) neu adnabod newid gwasanaeth y credwn fydd yn lleihau’r rhwystr hwnnw (e.e. diweddaru canllawiau i ddefnyddwyr profiant ar y gofynion yn ymwneud ag enwau). Mae’r asesiadau hefyd yn tynnu sylw at feysydd gwaith lle y mae mynediad at gyfiawnder yn cael ei ddarparu a lle y mae wedi gwella, a byddwn yn rhoi diweddariad ar y gwaith gwella parhaus hwn yn y cyhoeddiad nesaf ac yn parhau i fonitro data A2J er mwyn gwella ein gwasanaethau.

Dim ond un o nifer o ffyrdd yw’r asesiadau hyn o adnabod a chywiro trafferthion A2J. Mae’r gwasanaethau i gyd yn monitro data perfformiad yn rheolaidd, gan gynnwys rhai o’r un ffynonellau â’r asesiadau A2J. Mae’r monitro rheolaidd hwn yn cynnwys gwaith i ddeall pam fod defnyddwyr efallai’n cwyno neu pam fod achosion yn cymryd amser hir i’w datrys. Gyda’r ddau fater, mae’r un timau ar draws GLlTEF sy’n gwneud yr asesiad A2J yn gyfrifol am ddadansoddi’r data a gwneud penderfyniadau am newidiadau a gwelliannau i’r gwasanaeth. Mae hyn yn sicrhau y gellir defnyddio’r dystiolaeth yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol.

Mae’r dystiolaeth o’r asesiadau wedi dangos pa mor bwysig yw casglu data ar nodweddion gwarchodedig. Mae’n nodedig bod gan yr asesiadau profiant ac ysgariad wahaniaethau cyffredin yn ôl tarddiad ethnig a deallwn bellach fod y rhain oherwydd cymhlethdod gyda phrosesu’r ceisiadau ac agweddau fel confensiynau enwi. Drwy adnabod y rhwystrau hyn a deall y rhesymau, rydym wedi gallu argymell gwelliannau gwasanaeth, yn cynnwys gwella’r canllawiau i ddefnyddwyr, gan fonitro hyn i ddeall a yw mynediad at gyfiawnder wedi gwella. Mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn dysgu gwersi ar gyfer dylunio a phrofi gwasanaeth yn y dyfodol fel bod ein gwasanaethau, prosesau a chanllawiau’n rhydd o’r rhwystrau sy’n effeithio’n anghymesur ar ddefnyddwyr gyda nodweddion gwarchodedig.

Yn SSCS ac OCMC rydym mewn cam cynharach o ddatrys y rhwystrau i fynediad at gyfiawnder ac wrthi’n gweithio i geisio deall yn well y gwahaniaethau mewn prydlondeb yn ôl tarddiad ethnig, ond byddwn yn dilyn yr un prosesau ag ar gyfer profiant ac ysgariad a rhoi diweddariadau pan gyhoeddwn yr asesiadau nesaf.

Mae’r asesiadau hefyd wedi dangos bylchau clir yn y dystiolaeth, yn bennaf o brofiad defnyddwyr ar ôl y broses o wneud cais ynghyd â mesurau tegwch, ymddiriedaeth, hyder a chymhelliad sydd i gyd yn greiddiol i ddeall mynediad at gyfiawnder. I geisio datrys y bylchau hyn, rydym yn adolygu opsiynau er mwyn gallu deall profiad defnyddwyr ar ddiwedd eu hachos.

Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn cwblhau hyd at chwe asesiad arall wrth i wasanaethau gael eu diwygio, data ar nodweddion gwarchodedig gael ei gasglu ac wrth i ddigon o achosion gwblhau i wneud dadansoddiad manwl. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r asesiadau hyn ynghyd â diweddariadau rheolaidd ar y data gwarchodedig. Ni phenderfynwyd eto ba mor aml na phryd fydd y dadansoddiad yn cael ei ail-adrodd ond nid gwaith untro fydd yr asesiadau.

I gloi, ni yw un o’r ychydig os nad yr unig wlad i fod yn asesu mynediad at gyfiawnder yn ei wasanaeth llys fel hyn, gan gynnwys drwy ddefnyddio data nodweddion gwarchodedig. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan yr OECD ac rydym wrthi’n trafod opsiynau i gyhoeddi dogfen ar y cyd yn egluro ein gwaith, at ddefnydd gwledydd eraill y OECD.

Os ydych am wybod mwy, cysylltwch â ni yn HMCTSinsight@justice.gov.uk

Atodiad A:

Fframwaith A2J:

Mae’r asesiad mynediad at gyfiawnder yn cynnwys cyfres o gwestiynau o dan bob un o bedair elfen y diffiniad. Lle bo’n berthnasol i bob gwasanaeth, trafodir y cwestiynau A2J canlynol:

1. Mynediad at y system gyfreithiol ffurfiol

a. Ydy nifer a phroffil y defnyddwyr mwy neu lai fel y disgwyl?

b. A oes tystiolaeth o eithrio rhai defnyddwyr?

c. Ydy’r gwasanaeth yn cael ei gwblhau’n gywir?

d. Beth yw’r gost a’r ymdrech o ddefnyddio’r gwasanaeth?

e. Beth yw’r trafferthion i ddefnyddwyr gyda chael mynediad at y gwasanaeth?

2. Mynediad at wrandawiad teg ac effeithiol

a. Faint o ddefnyddwyr sy’n cyrraedd y cam gwrandawiad? Pa fathau o bobl a hawliadau sy’n gadael y broses cyn y gwrandawiad?

b. Pa mor dda y mae defnyddwyr yn ymgysylltu â’r broses?

c. Ydy defnyddwyr yn defnyddio cymorth a chefnogaeth allanol i gwblhau’r broses?

d. Ydy’r broses yn deg a beth yw profiad y defnyddiwr?

3. Mynediad at benderfyniad

a. Pa mor hir y mae’n ei gymryd i gael penderfyniad?

b. Pa fathau o ddefnyddwyr ac achosion sy’n cael penderfyniad?

c. Pa fathau o benderfyniad y maen nhw’n ei gael?

d. Beth yw profiad y defnyddiwr o gael mynediad at benderfyniad?

4. Mynediad at rwymedi

a. Pa gyfran o ddefnyddwyr sy’n cyflwyno hawliad sy’n cael rhwymedi ar y diwedd?

b. A yw gwahanol fathau o ddefnyddwyr yn fwy neu’n llai tebygol nag eraill o gael rhwymedi?

c. Pa mor hir y mae’n ei gymryd o’r amser y mae defnyddiwr yn cael penderfyniad i gael rhwymedi?

d. Beth yw profiad y defnyddiwr o gael mynediad at rwymedi?


[1] Fframwaith Gwerthuso Diwygiadau GLLTEF

[2] Rhwystr mynediad at gyfiawnder yw rhywbeth sy’n atal neu’n amharu ar allu defnyddiwr i gael mynediad at gyfiawnder, wedi’i adnabod 1) gan amrywiad mewn mynediad i’r math o ddefnyddiwr, 2) o’i fesur yn erbyn targed neu lefel, neu 3) lle y mae rhwystr yn ddamcaniaeth ac angen ei ddadansoddi ymhellach.

[3] https://research.thelegaleducationfoundation.org/wp-content/uploads/2019/02/Developing-the-Detail-Evaluating-the-Impact-of-Court-Reform-in-England-and-Wales-on-Access-to-Justice-FINAL.pdf

[4] Mae parhad achosion yn cyfeirio at yr amser sy’n pasio rhwng y diwrnod y cafwyd y cais a’r diwrnod y cyrhaeddodd achos ei ganlyniad. Mewn Tribiwnlysoedd, cyfeirir at hyn fel amseroedd clirio.

[5] https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/unclaimed-estates-list

[6] “Ataliad” yn y gwasanaeth profiant yw achos sy’n cael ei ohirio er mwyn aros i’r ceisydd neu barti allanol arall, fel HMRC, weithredu.

[7] Treth Etifeddiant yw treth ar ystad (eiddo, arian a pethau eraill) person sydd wedi marw. Cyn gwneud cais am brofiant, rhaid prisio’r ystad i ddeall a oes angen talu Treth Etifeddiant, oherwydd bydd angen i werth yr ystad fod yn rhan o’r cais profiant. Am fwy o wybodaeth am hyn ewch i: https://www.gov.uk/inheritance-tax

[8] Un o ganfyddiadau ymchwil gyda dros 100 o ddefnyddwyr Profiant rhwng 2016 a 2000

[9] https://www.gov.uk/valuing-estate-of-someone-who-died

[10] Am fwy o fanylion am y rhaglen SSCS ewch i Taflen: Tribiwnlysoedd Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant - GOV.UK

[11] Data gan y DWP

[12] Am fwy o wybodaeth am y system geo-demograffig a ddefnyddiwyd ewch i  Dosbarthiadau ardaloedd preswyl - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

[13] Y gyfradd gwblhau ddigidol  (DCR) yw nifer y trafodion digidol y mae defnyddwyr yn eu cwblhau fel canran o’r holl drafodion digidol y mae defnyddwyr yn eu dechrau. Mae gan drafodion fan cychwyn a man gorffen penodol ac yn cael eu hystyried i fod wedi cael eu cwblhau pan fydd rhywun yn gorffen y dasg y mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu. Felly nid yw defnyddwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a ddim yn symud ymlaen ar hyd y llwybr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo DCR.

[14] Am fwy o fanylion ewch i [DEUNYDD ARCHIF] Daearyddiaeth Cyfrifiad - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Data teithio gan Transport API. Am fwy o wybodaeth ewch i Credits – TransportAPI

[15] O dan y gwasanaeth digidol diwygiedig o feio, roedd pobl a wnâi gais am ysgariad yn cael eu galw’n ddeisebwyr ond o dan y gwasanaeth ysgariad dim beio, maen nhw’n cael eu galw’n geiswyr. Er hwylustod, yn yr adroddiad hwn pan gyfeiriwn at geiswyr, golygwn ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ysgariad o dan y gwasanaeth beio a’r gwasanaeth dim beio.

[16] Gofynnir am gyflwyniad o fath arall os na fydd yn bosib cysylltu ag atebydd i gais ysgariad yn y ffordd arferol.

[17] Y gyfradd gwblhau ddigidol  (DCR) yw nifer y trafodion digidol y mae defnyddwyr yn eu cwblhau fel canran o’r holl drafodion digidol y mae defnyddwyr yn eu dechrau. Mae gan drafodion fan cychwyn a man gorffen penodol ac yn cael eu hystyried i fod wedi cael eu cwblhau pan fydd rhywun yn gorffen y dasg y mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu. Felly nid yw defnyddwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a ddim yn symud ymlaen ar hyd y llwybr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo DCR.

[18] Google analytics yw offeryn sy’n tracio ac adrodd ar draffig gwefannau fel y gallwn ddeall ymddygiad defnyddwyr a gwella ein siwrneiau ar-lein i gwsmeriaid.

[19] Yn y cyd-destun hwn, mae ‘sefydliadau’ yn golygu unrhyw un nad yw’n ddinesydd unigol – gallai gynnwys unig fasnachwyr a busnesau mwy.

[20] https://www.moneyclaims.service.gov.uk/accessibility-statement