Canllawiau

Ymuno â gwrandawiad troseddol drwy fideo fel gweithiwr proffesiynol

Sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad fideo yn y llys ynadon neu Lys y Goron a’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod os ydych yn cymryd rhan fel gweithiwr proffesiynol.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiadau troseddol, yn cynnwys:

  • erlynwyr
  • cyfreithwyr yr amddiffyniad
  • swyddogion prawf
  • swyddogion cyswllt
  • timau troseddwyr ifanc
  • cyfieithwyr
  • cyfryngwyr

Ceir arweiniad cyffredinol i bawb sy’n rhan o achos, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd yn ein canllawiau ar beth i’w ddisgwyl wrth ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.

Ein platfform gwrandawiadau fideo

Defnyddir Platfform Fideo’r Cwmwl (CVP) ar gyfer yr holl wrandawiadau fideo troseddol. Mae’n eich galluogi i ymuno â:

  • gwrandawiadau a gynhelir yn rhannol drwy fideo, lle bo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn ystafell llys ac mae rhai partïon yn ymuno drwy gyswllt fideo; neu
  • gwrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl drwy fideo, gyda phawb yn cymryd rhan o bell

Gallwch ymuno â gwrandawiad a gynhelir yn rhannol drwy fideo neu’n gyfan gwbl drwy fideo trwy ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ddyfais arall sydd â mynediad i’r rhyngrwyd.

Darllenwch y canllawiau ar sut i ymuno â gwrandawiad CVP. Mae hyn hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut y gallwch rannu dogfennau a ffeiliau eraill yn ystod y gwrandawiad.

Os oes arnoch angen cymorth technegol gyda CVP, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0300 303 5177, dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm. Ar ddyddiau Sadwrn a gwyliau banc, cysylltwch â’r llys.

Os na all y tîm cymorth technegol ddatrys eich problem, yna rhaid ichi roi gwybod i’r llys ar unwaith.

Pwy all fynychu gwrandawiad fideo

Os yw’r llys wedi penderfynu cynnal gwrandawiad yn gyfan gwbl drwy fideo, bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i ymuno o bell.

I gael caniatâd i fynychu gwrandawiad fideo o bell, anfonwch neges e-bost i gyfeiriad e-bost pwrpasol y llys ar gyfer materion CVP, gan nodi’r rheswm dros eich cais. Dylech wneud hyn dim hwyrach na 24 awr cyn y gwrandawiad, neu, ar gyfer gwrandawiadau remand yn y llys ynadon, ar fore’r gwrandawiad. Os cewch ganiatâd, bydd y llys yn anfon y manylion CVP atoch. Yn Llys y Goron, bydd y manylion ar y System Achosion Digidol (DCS) neu fe gewch yr wybodaeth drwy e-bost os nad oes gennych fynediad i’r DCS; yn y llys ynadon, fe gewch y manylion drwy e-bost.

Os bydd gofyn i dyst ymuno â gwrandawiad drwy gyswllt fideo, bydd arnynt angen caniatâd y llys. Os ydych yn goruchwylio tystion fel erlynydd neu fel cyfreithiwr yr amddiffyniad, rhaid ichi wneud cais ar ran y tyst.

Bydd yr ystafell llys yn parhau i fod yn agored i aelodau’r cyhoedd os ydynt yn dymuno mynychu, ond bydd rhaid iddynt lynu at reolau ymbellhau cymdeithasol. Dylent roi gwybod i’r llys os ydynt yn dymuno mynychu.

Dylai aelodau o’r cyfryngau sy’n dymuno arsylwi gwrandawiad o bell geisio caniatâd gan y llys cyn gynted â phosib.

Diffynyddion yn mynychu gwrandawiad fideo

Bydd y llys yn penderfynu p’un a yw’n addas i ddiffynnydd yn y ddalfa gymryd rhan drwy gyswllt fideo.

Rhaid i ddiffynyddion sydd ar fechnïaeth fynychu’r llys yn bersonol ar gyfer achosion sy’n cael eu cynnal yn rhannol drwy fideo. Os ydych yn cynrychioli diffynnydd, yna gallwch wneud cais iddynt ymuno drwy fideo lle nad oes modd iddynt fynychu’r llys yn bersonol. Rhaid ichi wneud cais drwy e-bost i gyfeiriad e-bost pwrpasol y llys ar gyfer materion CVP o leiaf 24 awr cyn y gwrandawiad.

Cyn y gwrandawiad

Rhaid ichi anfon eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn cysywllt i’r llys fel y gallant gysylltu â chi. Dylai unrhyw un o’ch cydweithwyr a fydd yn cymryd rhan hefyd gysylltu â’r llys ar wahân. Cliciwch yma i ddod o hyd i fanylion cyswllt y llys neu dribiwnlys.

Os ydych wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo, bydd y gwahoddiad yn cynnwys manylion y gwrandawiad. Lle bo’n briodol, bydd hyn hefyd yn cynnwys manylion yr ymgynghoriadau a drefnwyd gan y llys gyda’r carchar ar gyfer cyfreithwyr yr amddiffyniad a’u cleientiaid, a fydd yn cael eu cynnal cyn neu ar ôl y gwrandawiad.

Yn y llys ynadon, bydd y llys yn anfon gwahoddiad atoch drwy e-bost. Yn Llys y Goron, bydd y llys yn rhannu hysbysiad ar DCS. Os nad oes gennych fynediad i DCS, byddwn yn anfon y manylion drwy e-bost.

Os bydd diffynnydd sydd yn nalfa’r heddlu angen cyfieithydd, bydd yr heddlu yn trefnu un. Mewn amgylchiadau eraill, y llys fydd yn trefnu’r cyfieithydd. Byddwn yn anfon manylion at y cyfieithydd am sut i ymuno â’r gwrandawiad.

Ar gyfer gwrandawiad remand o ddalfa’r heddlu, bydd rhaid ichi gyflwyno eich hun i’r llys trwy anfon neges i gyfeiriad e-bost pwrpasol y llys ar gyfer materion CVP erbyn dim hwyrach na 8 o’r gloch y bore ar ddiwrnod y gwrandawiad, gan ddarparu:

  • eich enw (ac enw’r diffynnydd rydych yn ei gynrychioli, os yw’n berthnasol)
  • eich manylion cyswllt llawn (yn cynnwys rhif ffôn uniongyrchol)

Ymgynghori â’r diffynnydd

Os yw’r diffynnydd yn nalfa’r heddlu, byddwch yn cael amser cyn y gwrandawiad i siarad gyda nhw dros y ffôn yng nghanolfan y ddalfa. Bydd staff canolfan y ddalfa yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i wneud y trefniadau.

Os yw’r diffynnydd yn un o gelloedd y llys, cysylltwch â’r llys. Efallai y bydd modd ichi drefnu apwyntiad ymgynghori dros y ffôn am gyfnod o 15 munud. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd arnoch angen mynychu’r llys a siarad â’r diffynnydd wyneb yn wyneb.

Os yw’r diffynnydd yn y carchar, cyflwynwch eich hun i’r llys 48 awr cyn y gwrandawiad. Bydd y llys yn darparu manylion y gwrandawiad a’r ymgynghoriad ichi. Ar ddiwrnod yr ymgynghoriad, bydd arnoch angen dangos prawf adnabod (ID) i staff y carchar. Rhaid i hyn gynnwys:

  • cerdyn adnabod gyda llun – er enghraifft, cerdyn adnabod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ), neu ffyrm gyfreithiol, neu gerdyn mynediad i weithiwr proffesiynol gan Gyngor y Bar; neu
  • llythyr yn eich cyflwyno, ar bapur â phennawd eich ffyrm, ynghyd â phasbort neu drwydded yrru gyda llun

Dangoswch gopïau ffisegol o’ch prawf adnabod dan ddefnyddio camera eich dyfais neu rhannwch eich sgrin os oes gennych fersiynau digidol.

Rhaid ichi roi gwybod i’r swyddog llys sy’n rheoli’r alwad fideo os na fyddwch yn gallu mynychu ymgynghoriad drwy fideo cyn y gwrandawiad.

Yn ystod y gwrandawiad

Mae gwrandawiadau drwy fideo yn dilyn yn un broses â gwrandawiadau a gynhelir mewn adeilad llys. Dylech ddarllen ein canllawiau cyffredinol ar beth i’w ddisgwyl wrth ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.

Eich rôl yn y gwrandawiad

Pan fyddwch yn ymuno â gwrandawiad fideo, bydd CVP yn gofyn ichi nodi eich rôl yn y gwrandawiad – er enghraifft, cyfreithiwr yr amddiffyniad. Efallai bydd y llys yn gofyn ichi gyflwyno’ch hun cyn ichi siarad, ac eto ym mhob cam o’r gwrandawiad.

Efallai y cewch rai gwrandawiadau lle bydd oedi gyda’r sain - ceisiwch osgoi torri ar draws neu siarad dros bobl eraill. Efallai bydd y llys yn gadael bylchau hirach o amser rhwng pob cyfranogwr pan fyddant yn siarad, i ganiatáu amser ar gyfer unrhyw oedi.

Siarad yn gyfrinachol

Os ydych yn gyfreithiwr yr amddiffyniad, dylech gael cyfarwyddiadau llawn gan eich cleient cyn y gwrandawiad. Os yw’n angenrheidiol, gall y llys roi stop ar y gwrandawiad i roi amser i chi drafod gyda’ch cleient yn gyfrinachol. Bydd y llys yn penderfynu pa mor hir fydd y sgwrs gyfrinachol a bydd yn symud pawb arall sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i’r ystafell aros rithiol. Rhowch wybod i’r llys os bydd arnoch angen mwy o amser neu os byddwch yn gorffen yn gynt na’r disgwyl – gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r adnodd sgwrsio ar CVP neu drwy ffonio’r rhif a ddarparwyd gan y swyddog llys sy’n rheoli’r alwad fideo.

Byddwn yn rhannu manylion cysywllt y gweithwyr proffesiynol fydd yn bresennol cyn y gwrandawiad. Os oes arnoch angen siarad yn gyfrinachol â gweithiwr proffesiynol arall, fel yr erlynydd neu gyfreithiwr yr amddiffyniad, dylech geisio gwneud hynny cyn y gwrandawiad. Os oes arnoch angen siarad yn ystod y gwrandawiad, sicrhewch eich bod chi a’r gweithiwr proffesiynol arall yn troi eich meicroffonau i ffwrdd ac yna cysylltwch â nhw dros y ffôn.

Os ydych yn swyddog prawf, gall y llys orchymyn ei fod angen adroddiad cyn dedfrydu (‘stand-down’) ar ddiwrnod y gwrandawiad. Gall y barnwr benderfynu roi stop ar y gwrandawiad i roi amser ichi siarad â’r diffynnydd. Os yw’r diffynnydd yn nalfa’r heddlu, efallai y byddwch yn gallu cwblhau’r adroddiad ‘stand-down’ dros y ffôn. Ar gyfer diffynyddion sydd ar fechnïaeth, yn ddibynnol ar eu lleoliad, gallwch gwblhau’r adroddiad dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Peidiwch â defnyddio’r adnodd sgwrsio ar CVP ar gyfer unrhyw sgwrs gyfrinachol oherwydd bydd pawb sy’n rhan o’r achos yn gallu gweld unrhyw negeseuon.

Rhannu deunyddiau achos

Yn y llys ynadon, mae deunyddiau achos yn cael eu hanfon at yr unigolion perthnasol drwy neges e-bost ar weinydd diogel cyn y gwrandawiad. Yn Llys y Goron maen nhw ar gael ar DCS.

Yn ystod y gwrandawiad, gellir rhannu dogfennau ar y sgrin.

Pan fyddwch yn rhannu dogfennau, sicrhewch eu bod yn gopïau ‘glân’, heb unrhyw nodiadau arnynt.

Tystiolaeth neu wybodaeth newydd

Os bydd tystiolaeth neu wybodaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn y gwrandawiad, bydd hyn yn cael ei rheoli yn yr un modd â mewn gwrandawiad a gynhelir yn yr ystafell llys.

Os bydd amgylchiadau’n newid yn sylweddol, gallwch ofyn i roi stop i’r gwrandawiad am ychydig, neu ohirio’r achos. Yna gallwch siarad yn gyfrinachol â gweithwyr proffesiynol eraill dros y ffôn.

Ar ôl y gwrandawiad

Ymgynghori â’r diffynnydd

Os oes arnoch angen siarad â’r diffynnydd ar ôl y gwrandawiad, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o hyn cyn iddynt gael eu hesgusodi.

Os yw’r diffynnydd yn cael ei remandio yn y ddalfa, rhowch wybod i’r llys tra eich bod dal yn yr alwad fideo a chyn i’r diffynnydd gael ei hebrwng i gell yn y ddalfa. Bydd y llys yn trefnu i’ch ffonio dros y ffôn fel y gallwch siarad â’r diffynnydd.

Ar gyfer diffynyddion yn y carchar, bydd y llys eisoes wedi trefnu apwyntiad ymgynghori ar ôl gwrandawiad. Os mai chi yw cyfreithiwr yr amddiffyniad, ac nid oes arnoch angen y slot amser, rhowch wybod i’r llys ar ddiwedd y gwrandawiad. Os mai chi yw’r swyddog prawf, gallwch ddefnyddio’r slot amser os yw’n rhydd, neu drefnu apwyntiad gyda’r carchar yn uniongyrchol.

Gwrandawiadau dilynol

Bydd y llys yn ymdrechu i symud achos yn ei flaen cymaint ag sy’n bosib yn y gwrandawiad cyntaf, yn cynnwys gweithgareddau rheoli achos neu ddedfrydu lle bo’r angen. Lle bo angen cynnal gwrandawiadau ychwanegol, bydd y llys yn penderfynu a fydd angen cynnal y rheiny drwy gyswllt fideo hefyd.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 February 2021 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.