Canllawiau

Hawlio ad-daliad Ardoll Troseddau Economaidd

Sut i ofyn am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o’r Ardoll Troseddau Economaidd.

Pwy sy’n gallu hawlio ad-daliad

Gallwch ofyn am ad-daliad os ydych wedi gweud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu gormod ar gam
  • diwygio’ch datganiad Ardoll Troseddau Economaidd, ac nawr mae arnoch lai

Os yw’r swm wedi newid oherwydd bod y manylion a roddwyd gennych yn wreiddiol yn anghywir, neu oherwydd bod eich amgylchiadau chi wedi newid, bydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad diwgiedig cyn gofyn am ad-daliad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn hawlio, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw’ch cwmni
  • swm yr ad-daliad
  • rheswm dros hawlio ad-daliad
  • manylion y cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i wneud y taliad
  • eich manylion cyswllt — enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

Sut i hawlio

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ofyn am ad-daliad.

Bydd angen i chi fewngofnodi i’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Hawlio nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad ‘A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn?’ ar y dudalen lle mae angen help arnoch.

Cysylltwch â CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd

Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.

Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.

Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.

Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:

  • yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
  • yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
  • yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno

Ffôn: 0300 322 9621

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm

Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Cyhoeddwyd ar 5 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. Added information on how to contact HMRC for help with Economic Crime Levy.

  2. First published.