Cael help gyda budd-daliadau a phensiynau os oes gennych anghenion hygyrchedd
Cael help os ydych yn cael anawsterau wrth geisio am fudd-daliadau a phensiynau oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gwneud addasiadau i chi os yw eich anabledd neu gyflwr iechyd yn ei gwneud hi’n anodd i:
-
defnyddio’r ffôn
-
defnyddio’r rhyngrwyd
-
darllen llythyrau
-
llenwi ffurflenni
-
mynychu apwyntiadau wyneb yn wyneb
-
deall gwybodaeth gymhleth i reoli materion eich hunain
Anawsterau defnyddio’r ffôn
Os oes gennych anawsterau defnyddio’r ffôn, gallwch ddefnyddio un o’r gwasanaethau canlynol yn lle.
Relay UK
Mae Relay UK yn wasanaeth cenedlaethol a ddarperir gan BT sy’n helpu pobl sydd ag anawsterau clywed neu siarad â phobl dros y ffôn. Gallai hyn gael ei ddefnyddio i gysylltu â’n holl wasanaethau budd-dal a phensiwn.
Ffôn Testun
Mae ffôn testun ar gael i bob gwasanaeth budd-dal a phensiwn. Rhoddir y rhif ffôn testun gyda’r manylion cyswllt eraill yng nghanllawiau budd-dal a phensiwn.
Gwasanaeth Video Relay
Mae’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo yn caniatáu i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gyfathrebu â DWP trwy gyfieithydd BSL. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer holl fudd-daliadau a gwasanaethau DWP. Gwiriwch fanylion cyswllt budd-daliadau a gwasanaeth i ddarganfod ble mae ar gael a sut i’w ddefnyddio.
Dewisiadau eraill i’r ffôn
Os na allwch ddefnyddio’r rhain, gallwch ofyn am:
-
cyfathrebu trwy e-bost – gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud bod hyn oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd
-
cefnogaeth gan aelod o’ch teulu, ffrind neu rywun arall fel ymgynghorwr hawliau lles - gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi caniatâd iddynt eich helpu
Anawsterau defnyddio cyfrifiadur
Os ydych yn cael anawsterau defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, cysylltwch â’r gwasanaeth dros y ffôn neu trwy lythyr. Dywedwch wrthynt na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth digidol oherwydd eich anabledd. Cewch help i gael mynediad at y gwasanaeth mewn ffordd arall.
Anawsterau darllen llythyrau neu lenwi ffurflenni
Os ydych yn cael anawsterau darllen llythyrau neu lenwi ffurflenni, dywedwch wrthym pan rydych yn cysylltu â ni. Gallwch ofyn am wybodaeth mewn ffyrdd eraill, er enghraifft:
-
maint teip fwy
-
Braille – gwnewch yn glir os ydych angen gradd 1 (a elwir hefyd yn ‘uncontracted Braille’) neu gradd 2 (a elwir hefyd yn ‘contracted Braille’)
-
sain – gallwch gael llythyrau neu daflenni ar Gryno ddisg neu fel ffeil MP3
-
e-bost - os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, gallwch gael llythyrau a ffurflenni wedi’u he-bostio atoch mewn fformat addas
-
ffôn - gofynnwch am alwad ffôn i egluro pethau i chi’n fwy manwl
-
lliw’r papur - os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen llythyrau oherwydd y lliw gallwch ofyn i’w cael mewn lliw gwahanol
Anawsterau mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb
Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu swyddfa fel rhan o’ch cais am fudd-dal neu bensiwn. Os gallai hyn fod yn anodd oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am ‘addasiad rhesymol’, er enghraifft:
-
apwyntiad ar adeg dawelach
-
lle tawel i gwrdd neu ystafell ar wahân mewn canolfan gwaith
-
ystafell gyda dolen clyw
-
dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
-
rhywun i gwrdd â chi pan fyddwch yn cyrraedd yr adeilad
-
dod â rhywun gyda chi rydych yn ei adnabod er mwyn eich cefnogi
Cysylltwch â’r swyddfa sydd wedi gofyn i chi fynychu apwyntiad.
Os na allwch ymweld â swyddfa oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd, gallech ofyn am ymweliad cartref.
Anawsterau reoli materion eich hunain
Os na allwch reoli materion eich hunain, neu os hoffech rywun i weithredu ar eich rhan gallwch ofyn i rywun fod yn benodai i chi.
Sut i gwyno
Os ydych yn meddwl nad yw gwasanaeth neu wybodaeth yn hygyrch, gallwch gwyno.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 March 2024 + show all updates
-
Amended the wording about the 2 different types of Braille (also known as un-contracted and contracted Braille).
-
The Video Relay Service for British Sign Language (BSL) users is now available for all DWP benefits and services.
-
Added translation
-
First published.