Canllawiau

Welsh: Credyd Cynhwysol: canllawiau manwl ar y polisi er mwyn rhoi cymorth i hyd at 2 blentyn

Diweddarwyd 6 April 2020

Ffeithiau pwysig

  • Nid yw Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol na pherson ifanc cymwys[footnote 1] a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 mwyach, oni fydd eithriadau penodol yn gymwys.
  • O 6 Ebrill 2017, dim ond i gartref sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 y bydd premiwm plentyn cyntaf yn daladwy.
  • Bydd gan hawlwyr hawl i gael swm ychwanegol ar gyfer o leiaf nifer y plant neu bobl ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 y maent yn gyfrifol amdanynt.
  • Bydd gan hawlwyr hawl i gael cymorth ychwanegol o hyd mewn perthynas ag unrhyw blant anabl, hyd yn oed os nad ydynt yn cael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn anabl.
  • Efallai y bydd gan hawlwyr hawl o hyd i gael help gyda chostau gofal plant ar gyfer unrhyw un o’i blant, hyd yn oed os nad yw’n cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer ei holl blant.
  • Nid effeithir ar fudd-daliadau pasbort ar gyfer plant, er enghraifft, cinio ysgol am ddim.
  • Bydd Budd-dal Plant yn parhau i roi cymorth i deuluoedd, ni waeth faint o blant neu bobl ifanc cymwys sydd yn y cartref hwnnw.
  • Er mwyn sicrhau nad yw hawlwyr yn colli allan ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, dylent barhau i adrodd am enedigaeth plentyn ac unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau sy’n ymwneud â phlant neu bobl ifanc.

O 28 Tachwedd 2018, bydd hawlwyr yn gallu cael y swm plentyn ar gyfer plentyn sy’n bodloni’r amodau canlynol heb iddo effeithio ar unrhyw symiau eraill y gallant fod yn ei gael ar gyfer plant eraill yn eu cartref:

  • mae wedi’i fabwysiadu o ofal yr awdurdod lleol
  • mae’n byw gyda’r hawlydd fel rhan, naill ai o:

    – drefniant gofalu ffurfiol fel gorchymyn trefniadau plentyn neu warcheidiaeth arbennig (neu ei fod yn rhan o drefniant o’r fath hyd at ei ben-blwydd yn 16 oed a’i fod wedi parhau i fyw gyda’r hawlydd) neu – drefniant gofalu anffurfiol, a elwir yn ‘kinship care’ (yn Lloegr), gofal Ffrindiau a Theulu neu ofal Personau Cysylltiedig, lle mae’n debygol y byddent wedi cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall neu – mae’n blentyn i blentyn (dan 16) y mae’r hawlydd yn gyfrifol amdani.

O fis Chwefror 2019, bydd y Credyd Cynhwysol yn derbyn cais newydd gan deuluoedd ni waeth faint o blant sydd ganddynt. Ar gyfer y cais newydd hyn, bydd y Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer 2 blentyn, oni fydd amgylchiadau eithriadol yn gymwys.

Y ddogfen hon

Diben y ddogfen hon yw eich helpu yn eich sgyrsiau gyda chleientiaid. Mae dilyniant naturiol i’r broses o gymhwyso’r polisi hwn:

  • dechreuwch ag amgylchiadau’r hawlydd, er enghraifft, mae eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, mae ganddo 2 blentyn ac mae’n disgwyl trydydd
  • diffiniwch drefn y plant
  • ystyriwch a oes eithriad yn gymwys

Rydym wedi ceisio rhoi sicrwydd i hawlwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac y gallai fod ganddynt fwy na 2 blentyn. Rydym yn deall y gall amgylchiadau hawlwyr fod yn gymhleth a’n nod oedd ceisio cwmpasu rhai o’r cymhlethdodau hyn. Nid yw’r ddogfen hon yn bwriadu cwmpasu holl amgylchiadau hawlwyr unigol.

Cefndir

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu 2 newid pwysig i’r hawl i gael Credyd Cynhwysol, ac mae’r ddau yn weithredol ers 6 Ebrill 2017:

  • dileu’r premiwm plentyn cyntaf ar gyfer y rhai sy’n dechrau teulu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 Bydd y gyfradd uchaf o’r elfen plentyn ar gyfer y plentyn cyntaf (premiwm plentyn cyntaf), sy’n £281.25 y mis ar hyn o bryd, ond yn daladwy i gartref sy’n gyfrifol am blentyn, neu berson ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.
  • rhoi cymorth i hyd at 2 blentyn O fis Ebrill 2017 ymlaen, ni fydd hawlwyr yn cael y swm plentyn ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 mwyach, oni fydd eithriadau penodol yn gymwys.

Cafodd y polisi eithriad ei ddiweddaru o 28 Tachwedd 2018. Os yw’r hawlydd yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu neu fel rhan o drefniant gofalu heb fod yn rhiant, bydd yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gaiff yr hawlydd ar gyfer unrhyw blant eraill yn ei gartref. Bydd angen i’w hawlydd ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

O fis Chwefror 2019, bydd angen i bob cais newydd gan deuluoedd â phlant, ni waeth beth yw eu dyddiad geni, wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Bydd Credyd Cynhwysol yn derbyn ceisiadau newydd gan deuluoedd gwaeth faint o blant sydd ganddynt. Os ydynt yn gwneud cais newydd, bydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer yr holl blant a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.

Bydd cartrefi sydd wedi bod yn cael cymorth ar gyfer plant neu bobl ifanc cymwys drwy Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod y 6 mis diwethaf yn cael eu gwarchod fel bod lefel bresennol eu cais yn cael ei chynnal (cyhyd â’u bod yn dal i fod yn gymwys ac yn gyfrifol am yr un plant a phobl ifanc cymwys).

Yr eithriadau lle byddwn yn talu am drydydd plentyn neu blentyn dilynol yw pan fydd y plentyn:

  • yn cael ei eni fel rhan o enedigaeth luosog e.e. efeilliaid, heblaw am un plentyn yn yr enedigaeth luosog
  • yn debygol o fod wedi cael ei eni drwy feichiogiad nad oedd yn gydsyniol, sydd at y diben hwn yn cynnwys drwy drais neu pan oedd yr hawlydd mewn perthynas drwy reolaeth neu orfodaeth â rhiant biolegol arall y plentyn ar adeg y beichiogiad. (ceir diffiniad llawn yn yr adran hon).

O 28 Tachwedd 2018, bydd rhieni a gofalwyr plant yn y trefniadau canlynol yn cael swm plentyn ar gyfer y plant hyn na fydd yn effeithio ar unrhyw symiau eraill a gânt ar gyfer plant eraill yn eu cartref:

  • mae wedi’i fabwysiadu o ofal yr awdurdod lleol
  • mae’n blentyn i blentyn (dan 16) y mae’r hawlydd yn gyfrifol amdani
  • mae’n byw gyda’r hawlydd fel rhan, naill ai o:

– a formal caring arrangement such as a child arrangement order or special guardianship (or was in such an arrangement until their 16th birthday and has continued living with the claimant) or
– drefniant gofalu anffurfiol, a elwir yn ‘kinship care’ (yn Lloegr), gofal Ffrindiau a Theulu neu ofal Personau Cysylltiedig, lle mae’n debygol y byddent wedi cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall

Cyngor i hawlwyr

Hawlwyr presennol

Bydd hawlwyr sy’n cael Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol o fewn y 6 mis diwethaf ac sy’n ail-wneud cais yn parhau i gael Credyd Cynhwysol.

Bydd gan hawlwyr hawl i gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.

Bydd plant ychwanegol yn dal i allu ymuno â chais presennol am Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, os bydd rhiant sengl sy’n hawlio Credyd Treth Plant yn creu cwpwl â rhiant sengl sydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, bydd yr hawlydd Credyd Treth Plant a’i blant yn cael eu hychwanegu at y cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd gan y cartref sydd newydd gael ei ffurfio mewn Credyd Cynhwysol hawl i gael swm ychwanegol ar gyfer o leiaf nifer y plant neu bobl ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 y maent yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, ni fydd ganddynt hawl i gael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni fydd eithriad yn gymwys. Caiff hyn ei egluro yn fanylach yn yr adran ffurfiau teuluoedd.

Hawlwyr newydd

Bydd Credyd Cynhwysol yn derbyn ceisiadau newydd gan deuluoedd gwaeth faint o blant sydd ganddynt. Os ydynt yn gwneud cais newydd, bydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer yr holl blant a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.

Os ydynt wedi bod yn cael cymorth i blant mewn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod y 6 mis diwethaf, byddant yn parhau i gael swm y plentyn ar gyfer yr un nifer o blant, cyhyd â’u bod yn parhau i fod yn gyfrifol am yr un plant.

Bydd y diogelwch hwn hefyd yn cael ei gynnal drwy newidiadau i ffurf y teulu, fel gwahanu o bartner mewn cais ar y cyd, neu gyfuno i ffurfio cais newydd ar y cyd.

Bydd eithriadau (amgylchiadau arbennig) roedd yn gymwys mewn dyfarniad blaenorol o Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn parhau i fod yn gymwys yn y dyfarniad Credyd Cynhwysol newydd, oni bai nad yw’r amodau ar gyfer yr eithriad hwnnw yn cael eu bodloni mwyach.

Os oes gan yr hawlydd hawl i ddyfarniad o fudd-dal sy’n bodoli eisoes sy’n cynnwys Premiwm Anabledd Difrifol, neu wedi bod â hawl i gael budd-dal presennol o fewn y mis diwethaf a oedd yn cynnwys Premiwm Anabledd Difrifol, ac wedi parhau i gwrdd â’r amodau cymhwyster ar gyfer y Premiwm Anabledd Difrifol, ni allant hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd. Dylent, os yn gymwys, hawlio budd-daliadau eraill neu aros ar eu budd-daliadau presennol hyd nes y dywedir wrthynt am hawlio Credyd Cynhwysol.

Sut i ‘drefnu’ plant neu bobl ifanc cymwys pan gall fod eithriad yn gymwys

Fel arfer, bydd hawlwyr sydd â hawl i gael Credyd Cynhwysol ond yn cael yr elfen plentyn unigol ar gyfer y plentyn cyntaf a’r ail blentyn y maent yn gyfrifol amdanynt, oni fydd eithriad yn gymwys.

Er mwyn penderfynu a yw plentyn yn drydydd plentyn neu’n blentyn diweddarach, caiff y plant mewn cartref eu trefnu yn ôl eu dyddiad geni os ydynt yn blant naturiol neu’n llysblant, neu yn ôl y dyddiad cyfrifoldeb os ydynt wedi’u mabwysiadu neu’n rhan o drefniant heb fod yn rhiant, o’r cynharaf i’r diwethaf, gan ddefnyddio’r dyddiadau hyn.

Enghraifft:

Mae’n 2020 ac mae gan yr hawlydd 3 phlentyn naturiol. Mae’r ieuengaf yn 3 (ganwyd ar 1 Mai 2017), mae’r hynaf yn 12 (ganwyd ar 15 Rhagfyr 2008) ac mae’r plentyn canol yn 7 (ganwyd ar 30 Gorffennaf 2013). At ddibenion eithriadau Credyd Cynhwysol, bydd trefn y plant hyn fel a ganlyn – mae’r plentyn cyntaf yn 12 oed, mae’r ail blentyn yn 7 oed ac mae’r trydydd plentyn yn 3 oed. Dim ond ar gyfer eu plant 12 a 7 oed y bydd gan yr hawlydd hawl i gael elfen plentyn unigol, oni fydd y plentyn 3 oed yn bodloni un o’r eithriadau.

Yn dilyn newid i’r polisi ar 28 Tachwedd 2018, gall hawlwyr hawlio’r elfen plentyn ni waeth ym mha drefn yr ymunodd y plant â’r cartref ar gyfer:

  • plant sydd wedi’u mabwysiadu o’r awdurdod lleol
  • plant sy’n rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant (yn cynnwys plentyn plentyn)

Ni fydd y plant hyn yn cyfrannu at yr uchafswm o 2 blentyn ac ni fydd yn effeithio ar yr hyn y gall yr hawlydd ei gael ar gyfer plant eraill yn ei gartref.

Enghraifft:

Mae gan yr hawlydd un plentyn a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 ac un plentyn wedi’i fabwysiadu, a fabwysiadwyd yn 2015. Yna, mae’r hawlydd yn cael plentyn newydd a gaiff ei eni ym mis Ionawr 2019. Bydd gan yr hawlydd hawl i gael yr elfen plentyn unigol ar gyfer y 3 phlentyn (y plentyn sydd wedi’i fabwysiadu oherwydd y polisi eithriadau sydd wedi’i ddiweddaru).

Os bydd gan 2 blentyn neu fwy yr un dyddiad geni, ceir disgresiwn i drefnu’r plant hynny ym mha drefn bynnag fydd yn creu’r cais mwyaf i’r hawlydd.

Ceir enghreifftiau o sut i drefnu plant neu bobl ifanc cymwys yn Atodiad A.

Eithriadau

Os yw’r hawlydd/hawlwyr yn gyfrifol am drydydd plentyn neu blentyn dilynol a’u bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eithriad a restrir isod (genedigaeth luosog neu feichiogiad nad oedd yn gydsyniol), gall yr hawlydd gael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Genedigaeth luosog

Os mai plentyn cyntaf yr enedigaeth luosog yw’r plentyn cyntaf neu’r ail blentyn yn y cartref, byddwn yn talu swm plentyn ar gyfer pob plentyn a anwyd fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Pan fydd trydydd plentyn neu blentyn dilynol yn cael ei eni fel rhan o enedigaeth luosog, bydd hawlwyr yn gallu cael yr elfen plentyn ar gyfer pob plentyn heblaw un.

Er mwyn bod yn gymwys i gael yr eithriad genedigaeth luosog rhaid i’r hawlydd fod yn gyfrifol am o leiaf 2 blentyn mewn genedigaeth luosog er mwyn cael eithriad ar gyfer un ohonynt.

Mae’r eithriad genedigaeth luosog yn cydnabod nad yw teuluoedd yn cynllunio ar gyfer genedigaeth luosog, a fydd yn cyflwyno beichiau a threuliau ychwanegol. Er y gall teulu ddewis cael un plentyn ychwanegol, a thalu cost y plentyn hwnnw, ni fydd fel arfer yn dewis cael genedigaeth luosog.

Er enghraifft, os yw’r hawlydd eisoes yn cael symiau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn presennol, ac wedyn yn cael efeilliaid, byddwn yn talu swm plentyn ychwanegol arall o Gredyd Cynhwysol ar gyfer un plentyn yn yr enedigaeth luosog (sy’n golygu y bydd gan yr hawlydd hawl i gael swm ar gyfer 3 allan o 4 o’r plant).

Er enghraifft, ar hyn o bryd mae gan yr hawlydd 2 blentyn ac mae’n cael y symiau plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plant hynny. Os bydd yr hawlydd yn cael tripledi, byddwn yn talu’r swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 o’r plant yn yr enedigaeth luosog honno (sy’n golygu y bydd gan yr hawlydd hawl i gael swm ar gyfer 4 o’i 5 o blant).

Ceir enghreifftiau a senarios o eithriadau genedigaethau lluosog yn Atodiad B.

Plant sydd wedi’u mabwysiadu o ofal yr awdudod lleol

Gall hawlwyr gael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant os ydynt wedi cael eu mabwysiadu o ofal awdurdod lleol. Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys o’r dyddiad y byddant yn dod yn gyfrifol am y plentyn a fabwysiadwyd.

Gallai hyn fod yn ddyddiad y trefniant mabwysiadu ffurfiol neu’n ddyddiad lleoli, yn dibynnu ar pryd y caiff cyfrifoldeb rhianta ar gyfer y plentyn ei droslgwyddo i chi.

Bydd angen i hawlwyr roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl a rhoi dogfennau ategol i ni ar gyfer unrhyw blentyn neu blant sydd wedi’u mabwysiadu sy’n byw gyda nhw.

Ni fydd yr eithriad mabwysiadu yn gymwys:

  • i blant sy’n cael eu mabwysiadu o dramor – trefniant mabwysiadu tramor neu ‘gonfensiwn’
  • lle roedd yr hawlydd neu ei bartner, yn union cyn y trefniant mabwysiadu, yn rhiant neu’n llys-riant i’r plentyn a fabwysiadwyd

Os bydd yr hawlydd wrthi’n mabwysiadu plentyn ac nad oes tystysgrif mabwysiadu ar gael, bydd angen iddo roi dogfennau ategol gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Rhaid i’r rhain gynnwys:

  • y dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli gyda’r hawlydd
  • enw’r plentyn
  • enw’r rhiant mabwysiadu, a’i bartner os yw’n berthnasol

Ceir enghreifftiau a senarios o eithriadau mabwysiadu yn Atodiad C.

Cafodd y polisi eithriad ei ddiweddaru o 28 Tachwedd 2018. Os yw’r hawlydd yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu, efallai y gall gael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gaiff yr hawlydd ar gyfer unrhyw blant eraill yn ei gartref. Bydd angen i’w hawlydd ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

Plant sy’n byw mewn trefniadau gofalu heb fod yn rhiant

Gall hawlwyr gael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant os yw’n debygol y byddent wedi cael eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol fel arall. Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys o’r dyddiad y byddant yn dod yn gyfrifol am y plentyn sy’n derbyn gofal.

Bydd yr eithriad hwn yn gymwys i blant sydd mewn un o 2 grwp:

  • plant sy’n derbyn gofal gan ffrindiau neu aelodau o’r teulu yn hytrach na derbyn gofal gan awdurdod lleol – gall hyn fod lle mae trefniant gofalu ffurfiol neu anffurfiol ar waith
  • plant a anwyd i blentyn y mae’r hawlydd hefyd yn gyfrifol amdani

Cafodd y polisi eithriad ei ddiweddaru o 28 Tachwedd 2018. Os yw’r hawlydd yn gyfrifol am blentyn neu blant fel rhan o drefniant gofalu heb fod yn rhiant, bydd yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gaiff yr hawlydd ar gyfer unrhyw blant eraill yn ei gartref. Bydd angen i’w hawlydd ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

Pan fydd cyfansoddiad oedolion y cartref yn newid

Pan fydd cyfansoddiad oedolion y cartref yn newid, efallai y bydd angen ailasesu unrhyw blant sy’n derbyn gofal drwy drefniant gofalu heb fod yn rhiant.

Trefniadau gofalu anffurfiol

Yn achos trefniadau gofalu anffurfiol, bydd yr eithriad ond yn gymwys os yw’n debygol y byddai’r plentyn wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall. Bydd angen i’r hawlydd roi dogfennau ategol gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Mae angen ffurflen IC1 er mwyn gwneud cais am yr eithriad hwn.

Trefniadau gofalu ffurfiol

Gall hawlwyr gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer plentyn os ydynt yn gofalu amdanynt drwy drefniant gofalu ffurfiol, er enghraifft:

  • Gorchymyn Trefniadau Plentyn
  • Gorchymyn Gwarcheidiaeth
  • Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig
  • rydych wedi cael eich penodi’n Warcheidwad (yn yr Alban)
  • Kinship Care Order (yn yr Alban)
  • Permanence Order (yn yr Alban)

Mae’r eithriad hefyd yn gymwys os oedd un o’r trefniadau ffurfiol hyn ar waith ond ei fod wedi dod i ben ar ben-blwydd y plentyn yn 16 oed, cyhyd â bod yr hawlydd wedi parhau i fod yn gyfrifol amdano ers hynny.

Gofynnir i’r hawlydd ddarparu dogfennau ategol er mwyn bodloni’r eithriad hwn.

Ni fydd yr eithriad hwn yn gymwys pan fydd yr hawlydd (neu ei bartner) yn rhiant neu’n ‘llys-riant’ i’r plentyn.

Nid oes swm ychwanegol yn daladwy ar gyfer plentyn maeth, gan fod plant maeth yn ‘derbyn gofal’ gan yr awdurdod lleol.

Plant sy’n cael plentyn

Mae’r eithriad hwn yn gymwys pan fydd plentyn dan 16 oed, y mae’r hawlydd yn gyfrifol amdani, yn dod yn rhiant i blentyn. Bydd yr hawlydd yn gymwys i gael eithriad ar gyfer y plentyn newydd hwnnw os yw hefyd o fewn cartref yr hawlydd. Bydd yr eithriad hwn yn gymwys o hyd nes bydd y rhiant ifanc yn cael ei phen-blwydd yn 16 oed ac yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol ei hun.

Bydd yr eithriad yn dod i ben os bydd y dibynnydd yn gadael y cartref, gan adael ei phlentyn ei hun yng ngofal yr hawlydd. Efallai y bydd gan yr hawlydd hawl i gael yr eithriad i ofalwyr sy’n ffrindiau a theulu (mewn perthynas â’r plentyn newydd) os bydd yn dod yn rhan o drefniant gofalu ffurfiol perthnasol, neu y gellir dangos y byddai’n debygol y byddai’r plentyn wedi cael ei roi mewn gofal fel arall.

Ceir enghreifftiau a senarios o eithriadau i ofalwyr sy’n ffrindiau neu deulu yn Atodiad D.

Plant y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant arall y plentyn

Bydd yr eithriad hwn yn gymwys i drydydd plentyn neu blant dilynol mewn cartref, a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, neu y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol na wnaeth yr hawlydd gydsynio iddi neu nad oedd yn bosibl cydsynio iddi.

Mae hyn yn golygu y bydd yn gymwys i hawlydd mewn perthynas â phlentyn y mae’n debygol ei fod wedi cael ei eni o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol neu wedi cael ei feichiogi tua’r adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant arall y plentyn.

Rydym yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r eithriad hwn mewn modd hynod sensitif. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn cael yr eithriad hwn er mwyn helpu hawlwyr yn yr amgylchiadau hyn. Cymerwyd gofal wrth gyflwyno’r eithriad hwn i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau bod hawlwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn modd nad yw’n rhy ymwthiol, ac ar yr un pryd roi’r sicrwydd cywir i’r Llywodraeth bod y cymorth ychwanegol yn cael ei roi i’r sawl y bwriadwyd iddynt ei gael.

Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cwestiynu’r hawlydd am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais a’r dogfennau ategol. Caiff unrhyw ddata neu wybodaeth eu trin yn unol â’r dogfennau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisoes yn eu defnyddio ar gyfer trin a defnyddio data sensitif.

Er mwyn gwneud cais am yr eithriad hwn (ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol) ni ddylai’r hawlydd fod yn byw gyda rhiant biolegol arall y plentyn. Bydd gofyn i’r hawlydd gadarnhau hyn.

Gall yr hawlydd wneud cais am yr eithriad hwn drwy:

  • ddarparu tystiolaeth o euogfarn am drais neu ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi mewn perthynas agos neu berthynas deuluol, pan fydd hyn yn ymwneud â beichiogi’r plentyn mewn ffordd nad oedd yn gydsyniol, neu
  • ddarparu tystiolaeth o ddyfarniad a wnaed o dan y Cynllun Iawndal Anafiadau Troseddol mewn perthynas â throsedd rywiol, achos o gam-drin corfforol neu anaf meddyliol perthnasol, lle mae hyn yn ymwneud â beichiogi’r plentyn, neu
  • gwblhau’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a gafodd ei feichiogi heb eich cydsyniad a chael trydydd parti proffesiynol i lenwi rhan ohoni. Bydd angen i’r trydydd parti proffesiynol gadarnhau i’r Adran Gwaith a Phensiynau bod yr hawlydd wedi bod mewn cysylltiad ag ef (neu weithiwr proffesiynol arall cymeradwy) a bod ei amgylchiadau fel y’u cyflwynwyd yn gyson ag amgylchiadau person sy’n bodloni amodau’r eithriad

Noder: hyd yn oed pan na all hawlydd gael yr holl ddogfennau ategol gan drydydd parti dylai roi’r ffurflen i’w hyfforddwr gwaith o hyd, gan fod hyn yn rhoi hawl iddo apelio.

Ni chaiff hawlwyr eu rhoi yn y sefyllfa o orfod rhoi manylion am amgylchiadau’r beichiogiad i swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau a gellir bodloni’r meini prawf cymhwyso ar gyfer yr eithriad heb ei adrodd i’r Heddlu, euogfarn na chanfyddiad barnwrol.

Proses ar gyfer trydydd partïon proffesiynol

Mae hyn yn gymwys i’r eithriadau canlynol:

  • beichiogiad nad oedd yn gydsyniol – lle mae’n debygol bod plentyn wedi cael ei eni o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant arall y plentyn
  • gofal anffurfiol – lle mae’r plentyn neu’r person ifanc cymwys yn byw gyda’r hawlydd fel rhan o drefniant gofalu anffurfiol, lle y byddai’n debygol y byddai wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall

Bydd yr eithriadau hyn yn defnyddio model trydydd parti proffesiynol, lle y bydd angen i’r hawlydd ofyn i drydydd parti gwblhau ffurflen er mwyn cadarnhau ei fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad.

Noder: hyd yn oed pan na all hawlydd gael cadarnhad gan drydydd parti y dylai gyflwyno’r ffurflen ar gyfer penderfyniad gwneuthurwr penderfyniad, gan fod hyn yn rhoi hawl iddo apelio.

Beichiogiad nad oedd yn gydsyniol

Caiff yr hawlydd ei gyfeirio at GOV.UK er mwyn lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a gafodd ei feichiogi heb eich cydsyniad (gall staff yr Adran Gwaith a Phensiynau ddarparu’r ffurflen os nad oes gan yr hawlydd fynediad i’r rhyngrwyd na’r gallu i lawrlwytho’r ffurflen), a byddant yn mynd â hi at ei gorff proffesiynol trydydd parti dewisol neu elusen benodol i gael ei chwblhau. Yna, bydd angen i’r hawlydd ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w hyfforddwr gwaith.

Mae’r ffurflen yn cynnwys hunanddatganiad y mae’n rhaid i’r hawlydd ei gwblhau er mwyn cadarnhau nad yw’n byw gyda rhiant arall y plentyn (tad biolegol) a’i bod yn credu bod ei phlentyn yn gymwys i gael yr eithriad. Ceir rhestr o drydydd partïon proffesiynol yma.

Mae trydydd partïon proffesiynol ar gyfer yr eithriad hwn yn cynnwys:

  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel meddygon, nyrsys a bydwragedd
  • gweithwyr cymdeithasol cofrestredig
  • sefydliadau penodol, fel elusennau trais arbenigol - ceir [rhestr lawn yn] (https://www.gov.uk/government/publications/support-for-a-child-conceived-without-your-consent/approved-third-party-professionals)

Ceir canllawiau i helpu trydydd partïon proffesiynol i gwblhau’r ffurflen yma.

Gofal anffurfiol

Caiff yr hawlydd ei gyfeirio at GOV.UK er mwyn lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi yn anffurfiol (gall staff yr Adran Gwaith a Phensiynau ddarparu’r ffurflen os nad oes gan yr hawlydd fynediad i’r rhyngrwyd na’r gallu i lawrlwytho’r ffurflen), a bydd yn mynd â hi at weithiwr cymdeithasol o’r awdurdod lleol i gael ei chwblhau.

Bydd angen i’r gweithiwr cymdeithasol ddangos ar y ffurflen os nad oedd y plentyn yn byw gyda’r hawlydd o dan drefniant gofalu anffurfiol, ei bod yn debygol y byddai’r plentyn wedi cael ei roi yng ngofal awdurdod lleol fel arall.

Yna, bydd angen i’r hawlydd ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Ceir canllawiau i helpu gweithwyr cymdeithasol i gwblhau’r ffurlfen yma.

Sut i wneud cais am eithriad

Pan fydd yr hawlydd yn dweud wrthym am blentyn newydd yn ei gartref, bydd yn cael gwybodaeth am yr eithriadau. Gwneir hyn drwy:

  • ddefnyddio ei gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein, os oes ganddo un, neu
  • ffonio’r llinell gymorth os nad oes ganddo gyfrif ar-lein.

Os oes gan hawlwyr gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein, maent yn defnyddio gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol.

Os nad oes gan hawlwyr gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein, maent yn defnyddio gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol.

Gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol Ffôn 0800 328 5644 Ffôn testun 0800 328 1344 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm

Gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol Ffôn 0800 328 5644: 0800 328 9344 Ffôn testun: 0800 328 1344 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 4pm

Dysgu am gostau galwadau

Os gwneir cais am yr eithriad ar gyfer gofal anffurfiol, bydd angen i’r hawlydd naill ai lawrlwytho’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi yn anffurfiol neu gasglu un gan ei hyfforddwr gwaith. Yna, bydd angen iddo ddilyn y broses ar gyfer cadarnhau trydydd partïon proffesiynol uchod.

Os gwneir cais am yr eithriad ar gyfer beichiogiad nad oedd yn gydsyniol (ac nad oes gan yr hawlydd unrhyw ddogfennau ategol e.e. euogfarn am drais neu ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi), bydd angen i’r hawlydd naill ai lawrlwytho’r ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a gafodd ei feichiogi heb eich cydsyniad neu gasglu un gan ei hyfforddwr gwaith. Yna, bydd angen iddi ddilyn y broses ar gyfer trydydd partïon proffesiynol uchod.

Ym mhob amgylchiad arall, bydd angen i’r hawlydd roi gwybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau i ategu’r eithriad y mae’n gwneud cais ar ei gyfer – fel yr amlinellwyd yn yr adran eithriadau uchod. Caiff hawlwyr Credyd Cynhwysol 30 diwrnod i ddarparu eu dogfennau ategol a chaiff hawlwyr presennol 14 diwrnod os byddant yn ychwanegu plentyn ychwanegol at eu cais.

Gall yr hawlydd ofyn i ni ailystyried y penderfyniad os caiff ei chais am eithriad ei wrthod. Bydd angen iddo wneud hyn o fewn mis i’r dyddiad y caiff ei hysbysiad bod yr eithriad wedi’i wrthod.

Gwybodaeth ychwanegol

Llys-rieni ac eithriad ychwanegol

Llys-rieni

Caiff llys-rieni eu heithrio o gais i’r eithriadau yn eu rhinwedd eu hunain. Yn achos eithriad ar gyfer gofal heb fod yn rhiant, ni all y naill hawlydd na’r llall fod yn llys-riant i’r plentyn. Mae hyn oherwydd y gallai llys-riant fod wedi gwahanu’n fwriadol oddi wrth riant y plentyn er mwyn cael eithriad ar gyfer plentyn na fyddai wedi cael ei eithrio pe na fyddai’r cwpwl wedi gwahanu.

Caiff llys-rieni hefyd eu heithrio rhag hawlio’r eithriad ar gyfer beichiogiad nad oedd yn gydsyniol a’r eithriad ar gyfer genedigaeth luosog yn eu rhinwedd eu hunain (gallant ei hawlio fel rhan o gais ar y cyd gyda rhiant y plentyn) am fod hyn yn ymwneud â’r (diffyg) dewis gwreiddiol i gael y plentyn ac felly dim ond i’r rhiant/rhieni naturiol y mae ar gael.

Yn yr un modd, dim ond rhiant mabwysiadu’r plentyn a all gael yr eithriad ar gyfer trefniant mabwysiadu.

Eithriad ychwanegol

Er mwyn ceisio peidio â cholli arian parod, pan fydd llys-riant yn cymryd cyfrifoldeb dros blentyn ar ôl i gais ar y cyd gyda’i riant ddod i ben, bydd eithriad a oedd yn bodoli mewn cais ar y cyd blaenorol yn parhau i fod yn gymwys i’r llys-riant yn ei chais unigol newydd tra bydd yn gyfrifol am y plentyn y mae’n gymwys ar ei gyfer. Mae’r ‘ychwanegiad’ hwn yn gymwys i’r eithriad ar gyfer genedigaeth luosog, trefniant mabwysiadu a beichiogiad nad oedd yn gydsyniol. Nid oes unrhyw barhad mewn perthynas â’r eithriad ar gyfer gofal gan ffrindiau neu deulu, am na fyddai’r hawlydd yn ‘llys-riant’ yn y sefyllfa honno a gallai barhau i’w hawlio yn ei rinwedd ei hun.

Bydd yr eithriad ychwanegol yn parhau i fod yn gymwys hyd at yr adeg pan na fydd y llys-riant yn gyfrifol am y plentyn perthnasol mwyach, neu pan fydd toriad o fwy na 6 mis yn ei chais i gael Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu, os bydd y llys-riant wedi dechrau partneriaeth newydd â pherson gwahanol, y byddai’r ychwanegiad yn parhau yn ei gais/chais newydd ar y cyd. Fodd bynnag, pe byddai’r llys-riant yn gadael y berthynas honno wedyn, gan adael y cynbartner yn llwyr gyfrifol am y plentyn, byddai’r eithriad yn dod i ben. Mae hyn oherwydd y byddai’r plentyn bellach yn derbyn gofal gan berson nad yw’n rhiant nac yn llys-riant iddo, sy’n golygu y byddai’r cysylltiad â’r rheswm gwreiddiol dros dalu’r eithriad wedi cael ei golli. Er y byddai’r eithriad ychwanegol yn dod i ben, gallai fod gan yr hawlydd hawl i gael yr eithriad ar gyfer trefniant gofal gan ffrindiau neu deulu neu drefniant mabwysiadu mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, fel dewis amgen, pe byddai’r amodau perthnasol yn cael eu bodloni.

Pan fydd plentyn yn gadael neu’n ymuno â’r cartref

Gall trefn plant mewn cartref newid dros amser, os bydd plant/plentyn neu bobl ifanc cymwys yn ymuno â’r cartref neu’n gadael y cartref. Bob tro y bydd hyn yn digwydd, bydd angen ailasesu trefn y plant a’r bobl ifanc cymwys yn y cartref.

Er enghraifft, gallai’r ail blentyn adael y cartref am ei fod yn gadael addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu’n symud i fyw gyda pherson arall. Byddai trydydd plentyn (nad oedd swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu ar ei gyfer yn flaenorol) yn dod yn ail blentyn (at ddibenion ‘trefnu’ plant ar gyfer Credyd Cynhwysol) ac yna byddai’r swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu ar gyfer y plentyn hwnnw.

Pan fydd plentyn newydd neu berson ifanc cymwys yn ymuno â chais presennol, gall trefn plant mewn cartref newid. Ar yr adeg honno, gall fod angen nodi a fydd unrhyw un o’r plant yn cael eu cymwys o fewn eithriad. Er enghraifft, os bydd rhieni plentyn yn gwahanu a bod y plentyn wedi bod yn byw gyda’i dad, a’i fod wedyn yn penderfynu ei fod am fyw gyda’i fam, byddai angen ailasesu trefn y plant yng nghartref y fam.

Cafodd y polisi eithriad ei ddiweddaru o 28 Tachwedd 2018. Os yw’r hawlydd yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu neu fel rhan o drefniant gofalu heb fod yn rhiant, bydd yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gall yr hawlydd eu cael ar gyfer unrhyw blant eraill yn ei gartref oherwydd y cânt eu diystyru wrth drefnu’r plant. Bydd angen i’w hawlydd ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

Profedigaeth

Os bydd plentyn yn marw, bydd yr ychwanegiad profedigaeth Credyd Cynhwysol yn gymwys. Mae hyn yn golygu y caiff y dyfarniad ei gyfrifo fel pe na fyddai’r plentyn wedi marw ar gyfer y cyfnod asesu pan mae’r farwolaeth yn digwydd, ac ar gyfer y ddau gyfnod asesu canlynol. Os yw’n berthnasol, byddai’r swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn dal i gael ei dalu mewn perthynas â’r plentyn a fu farw ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Os bydd y plentyn cyntaf neu’r ail blentyn mewn teulu â 3 o blant yn marw, byddai’r trydydd plentyn yn dod yn ail blentyn yn y cartref, ond dim ond ar ddiwedd y cyfnod profedigaeth ychwanegol.

Ffurfiau teuluoedd

Dyma ble mae 2 hawlydd yn ymuno er mwyn creu teulu newydd. Caiff y 2 berson sengl sy’n creu cwpwl pan fyddant yn hawlio Credyd Cynhwysol eu trin yn yr un ffordd â phe byddent wedi creu cwpwl cyn iddynt hawlio. Bydd ganddynt hawl i gael swm ychwanegol ar gyfer o leiaf nifer y plant neu bobl ifanc cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 y maent yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, ni fydd ganddynt hawl i gael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a

anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni fydd eithriad yn gymwys, hyd yn oed os cafodd y swm ychwanegol ei dalu’n flaenorol ar gyfer y plentyn hwn mewn cais blaenorol gan berson sengl.

Er enghraifft, pan fydd person sengl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol sy’n cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 yn creu cwpwl gyda hawlydd Credyd Cynhwysol newydd sydd â 2 o blant, a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, bydd y cartref newydd a grëwyd yn cael cymorth ar gyfer hyd at 2 blentyn (oni fydd eithriadau’n gymwys) – yn yr un ffordd ag y byddai teulu sefydledig gyda 4 plentyn sy’n gwneud cais newydd yn ei gael. Os cafodd y 4 plentyn eu geni cyn 6 Ebrill 2017, bydd y cartref newydd a ffurfiwyd yn cael symiau plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y 4 plentyn.

Uchafswm o 2 blentyn a Budd-dal Tai

Ceir canllawiau ar oblygiadau’r uchafswm o 2 blentyn ar Fudd-dal Tai yn y Canllawiau Budd-dal Tai penodol.

Atodiad A – enghreifftiau o sut i drefnu plant neu bobl ifanc cymwys

Enghraifft Sut i archebu
Mae’r hawlydd yn rhiant naturiol neu’n llys-riant i’r plant/pobl ifanc cymwys. Trefnwch y plant neu bobl ifanc cymwys yn ôl eu dyddiad geni – gan ddechrau gyda’r hynaf.
Oherwydd genedigaeth luosog neu drefniant mabwysiadu grwp, mae gan y plant yr un dyddiad geni, neu’r un dyddiad y daeth yr hawlydd yn gyfrifol amdanynt. Trefnwch y plant yn y drefn sy’n rhoi’r cais mwyaf o Gredyd Cynhwysol.
Mae gan hawlydd dri o blant: rhiant plentyn 6 mis oed, rhiant plentyn 7 oed ac mae plentyn 10 oed a ymunodd â’r cartref 6 blynedd yn ôl dan drefniant gofalu heb fod yn rhiant, ond na fyddai’n derbyn gofal fel arall. Byddai trefn y plant fel a ganlyn:

* plentyn 1 fyddai’r plentyn 7 oed
* plentyn 2 fydda’r plentyn 10 oed (6 blynedd yn y cartref)
* plentyn 3 fyddai’r plentyn 6 mis oed

Nid yw’r plentyn 10 oed yn gymwys i gael yr eithriad ar gyfer gofal heb fod yn rhiant ac felly, ni fyddai’r plentyn 6 mis oed yn cael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol (oni fydd yn gymwys ar gyfer eithriad yn ei rinwedd ei hun).

Atodiad B – enghreifftiau o eithriad ar gyfer genedigaeth luosog

Enghraifft Canlyniad
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol. Mae ganddi 3 o blant a ganed pob un ohonynt ar neu cyn 6 Ebrill 2017. Mae ganddi efeilliaid a anwyd ar ôl 6 Ebrill. Parhau i dalu am y 3 phlentyn cyntaf ac un o’r ddau efaill - byddai disgwyl i’r hawlydd gael un plentyn mewn beichiogrwydd felly ni fyddai’n cael ei dalu am y plentyn hwnnw. Bydd y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu am 4 plentyn i gyd.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ond heb unrhyw blant. Mae ganddi efeilliaid a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017. Byddwn yn talu’r swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer hyd at 2 blentyn. Bydd y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu am y ddau blentyn (gefeilliaid) – fel y plentyn cyntaf a’r ail blentyn yn y cartref.
Mae gan yr hawlydd cais am Gredyd Cynhwysol gyda 3 phlentyn a anwyd cyn 6 Ebrill 2017. Mae ganddi efeilliaid a anwyd ar ôl 6 Ebrill. Byddwn yn talu’r swm plentyn ychwanegol ar gyfer 4 o’r 5 plentyn - cafodd y 3 eu geni cyn 6 Ebrill 2017 a chafodd un gefaill ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Atodiad C – enghreifftiau o eithriad ar gyfer trefniant mabwysiadu o awdurdod lleol

Enghraifft Canlyniad
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 3 phlentyn a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 ac mae’n mabwysiadu plentyn arall o ofal awdurdod lleol. Bydd y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu am bob plentyn am fod yr eithriad ar gyfer mabwysiadu yn gymwys.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn – un naturiol ac un wedi’i fabwysiadu. Mae ganddi drydydd plentyn (naturiol) a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017. Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn am fod yr eithriad ar gyfer mabwysiadu yn gymwys.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 3 phlentyn – 2 naturiol ac un wedi’i fabwysiadu. Mae ganddi drydydd plentyn (naturiol) a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017. Bydd yn dal i gael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y 3 phlentyn gwreiddiol ar y cais (2 naturiol ac un wedi’i fabwysiadu). Ni fydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn newydd a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017, oni fydd eithriad yn gymwys.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn – mae’r ddau wedi’u mabwysiadu. Yna, mae’r hawlydd yn cael 2 blentyn arall yn naturiol. Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y 4 plentyn am fod y plant a fabwysiadwyd yn cael eu diystyru wrth drefnu’r plant yn y cartref.

Atodiad Ch – enghreifftiau o eithriad ar gyfer trefniant gofalu heb fod yn rhiant

*Yn yr enghreifftiau hyn, pan fyddwn yn cyfeirio at blentyn yn derbyn gofal drwy drefniant gofal gan deulu neu ffrindiau, rydym yn tybio bod y ffurflen gofal anffurfiol, neu’r trefniadau gofal ffurfiol yn cael eu darparu. Mae hyn hefyd yn cynnwys y sefyllfa lle mae plentyn (dan 16 oed) y mae’r hawlydd yn gyfrifol amdani, yn dod yn rhiant i blentyn.

Enghraifft Canlyniad
Roedd yr hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol cyn 6 Ebrill 2017 gyda mwy na 2 blentyn (un yn derbyn gofal gan deulu/ffrindiau). Ganwyd pob plentyn cyn 6 Ebrill 2017. Bydd y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu am bob plentyn am eu bod i gyd wedi cael eu geni cyn 6 Ebrill 2017 (a hefyd mae’r eithriad gofalu heb fod yn rhiant yn gymwys).
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol gyda mwy na 2 blentyn. Mae’r hawlydd yn dechrau gofalu am blentyn fel teulu/ffrindiau ar ôl 6 Ebrill 2017 – a bod y plentyn hwnnw wedi cael ei eni cyn 6 Ebrill 2017. Swm plentyn ychwanegol presennol o Gredyd Cynhwysol yn cael ei dalu am bob plentyn ar y cais presennol. Bydd yr hawlydd hefyd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer plentyn newydd am eu bod i gyd wedi cael eu geni cyn 6 Ebrill 2017 (a hefyd mae’r eithriad gofalu heb fod yn rhiant yn gymwys).
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn – un naturiol ac un fel gofalwr sy’n aelod o’r teulu/ffrind. Mae’r hawlydd yn disgwyl ei hail blentyn (naturiol). Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn am fod y plentyn sy’n derbyn gofal heb fod yn rhiant yn cael ei ddiystyru wrth drefnu’r plant.
Cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Mae ganddi 3 phlentyn – 2 naturiol ac un fel gofalwr sy’n aelod o’r teulu/ffrind. Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn am fod y plentyn sy’n derbyn gofal heb fod yn rhiant yn cael ei ddiystyru wrth drefnu’r plant.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol. Mae ganddi 2 blentyn eisoes – mae’r ddau mewn trefniant gofalwr sy’n aelod o’r teulu neu’n ffrind. Mae gan yr hawlydd 2 blentyn arall ei hun, a anwyd ar ôl 6 Ebrill 2017. Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn am fod y plant sy’n derbyn gofal heb fod yn rhiant yn cael ei ddiystyru wrth drefnu’r plant.
Mae’r hawlydd eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn – un naturiol ac un mewn trefniant gofalwr sy’n aelod o’r teulu/ffrind. Yna, bydd yr hawlydd yn dod yn gyfrifol am blentyn arall dan drefniant gofalwr sy’n aelod o’r teulu/ffrind. Bydd yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn am fod yr eithriad ar gyfer gofal heb fod yn rhiant yn gymwys.

Diffiniadau

Diffiniad o Berson Ifanc Cymwys

Mae Person Ifanc Cymwys yn rhywun 16-19 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant. Yn fanylach:

Dros 16 oed yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • o’i ben-blwydd yn 16 oed hyd at 31 Awst ar ôl y pen-blwydd hwnnw, p’un a yw mewn addysg llawn amser ai peidio
  • hyd at 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 19 oed os caiff ei gofrestru neu ei dderbyn ar gyfer hyfforddiant neu gwrs addysg cymeradwy sy’n:

    – addysg nad yw’n addysg uwch ac sy’n – cael ei darparu mewn ysgol neu goleg neu mewn lleoliad arall ond a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol

    – lle mae’r amser cyfartalog a dreulir yn ystod amser tymor mewn hyfforddiant, gwaith ymarferol, amser astudio dan oruchwyliaeth neu gymryd arholiadau (heb gynnwys egwylion ar gyfer prydau na chyfnodau astudio nad ydynt dan oruchwyliaeth) yn fwy na 12 awr yr wythnos neu – hyfforddiant cymeradwy

Pan fydd y person ifanc cymwys yn 19 oed, mae’n rhaid iddo fod wedi dechrau ar yr addysg neu’r hyfforddiant, neu wedi cael ei gofrestru ar ei gyfer neu ei dderbyn ar ei gyfer cyn cyrraedd yr oedran hwnnw.

Beth yw beichiogiad nad oedd yn gydsyniol?

Mae’n golygu beichiogiad sy’n deillio o weithred na wnaeth yr hawlydd gytuno iddo drwy ddewis, neu nad oedd ganddi’r rhyddid na’r gallu i gytuno iddo drwy ddewis. Gall hyn fod lle mae’r hawlydd wedi cael ei threisio (boed hynny gan bartner, rhywun roedd yn ei adnabod, neu ddieithryn). Gall hefyd gynnwys amgylchiadau lle roedd yr hawlydd, ar adeg y beichiogiad neu o amgylch yr adeg honno, yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus mewn perthynas agos neu berthynas deuluol.

Beth yw ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi?

Mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn fath o gam-drin domestig neu drais.

Mae ymddygiad sy’n gorfodi yn weithred neu’n batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, cywilyddio, bygwth, neu godi ofn ar y dioddefwr.

Mae ymddygiad sy’n rheoli yn amrywiaeth o weithredoedd wedi’u cynllunio i wneud person yn ddarostyngol a/neu’n ddibynnol drwy ei ynysu oddi wrth ffynonellau o gymorth, ecsbloetio ei adnoddau a’i alluoedd er budd personol, ei amddifadu o’r moddau sy’n angenrheidiol iddo fod yn annibynnol, gwrthwynebu a dianc a rheoleiddio ei ymddygiad o ddydd i ddydd.

Gallai ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi gynnwys (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • ynysu person oddi wrth ei ffrindiau a theulu
  • ei amddifadu o’i anghenion sylfaenol
  • monitro ei amser
  • monitro person drwy ddulliau cyfathrebu ar-lein neu ddefnyddio ysbïwedd
  • cymryd rheolaeth dros agweddau ar ei fywyd bob dydd, fel ble y gall fynd, pwy y gall ei weld, beth i’w wisgo a ble y gall gysgu
  • ei amddifadu o allu defnyddio gwasanaethau cymorth, fel cymorth arbenigol neu wasanaeth meddygol
  • ei fychanu fel dweud wrtho ei fod yn ddiwerth
  • gorfodi rheolau a gweithgarwch sy’n bychanu, diraddio neu’n dad-ddynoleiddio’r dioddefwr
  • gorfodi’r dioddefwr i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol fel dwyn o siopau, esgeuluso neu gam-drin plant er mwyn ei annog i feio ei hun ac atal datgeliad i’r awdurdodau
  • cam-drin ariannol yn cynnwys rheoli cyllid, fel dim ond galluogi person i gael lwfans cosbol
  • bygwth anafu neu ladd
  • bygwth plentyn
  • bygwth datgelu neu gyhoeddi gwybodaeth breifat (e.e. bygwth cyhoeddi bod rhywun yn hoyw)
  • ymosodiad
  • difrod troseddol (fel dinistrio nwyddau cartref)
  • trais
  • atal rhywun rhag defnyddio trafnidiaeth a rhag gweithio
  1. Ceir rhagor o wybodaeth am ‘person ifanc cymwys’ yn adran olaf y canllaw hwn.