Canllawiau

Gwirio pryd i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch pryd y mae’n rhaid i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Yn gyntaf, dylech wirio a fydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

Fel arall, mae’n bosibl y gallwch fynd ati i gofrestru’n wirfoddol nawr. Bydd hyn yn helpu CThEF i brofi a datblygu’r gwasanaeth.

Beth fydd yn digwydd erbyn 6 Ebrill 2026

  1. Mae angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 erbyn 31 Ionawr 2026.

  2. Byddwn yn adolygu’ch Ffurflen Dreth ac yn gwirio a yw’ch incwm cymwys yn fwy na £50,000.

  3. Os ydyw, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn cadarnhau bod yn rhaid i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 6 Ebrill 2026. Os oes gennych asiant, gall eich asiant gwneud hyn ar eich rhan.

  4. Mae’n rhaid i chi, neu’ch asiant, ddod o hyd i feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a’i hawdurdodi.

  5. Mae’n rhaid i chi, neu’ch asiant, gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os byddwch yn dod yn hunangyflogedig neu’n landlord ar ôl 6 Ebrill 2026

Nid oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tan ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, ond gallwch ddewis cofrestru’n wirfoddol ar unrhyw adeg.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, byddwn yn gwirio a yw’ch incwm cymwys yn fwy na £30,000. Os ydyw, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yn rhaid i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer un busnes, ac wedyn yn dechrau busnes arall, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd i gofrestru’ch busnes arall ar gyfer y cynllun.

Gwirio pryd y mae angen i bartneriaethau gofrestru

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi yn nes ymlaen ar gyfer partneriaethau.

Cyhoeddwyd ar 23 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 April 2024 + show all updates
  1. Information about when you need to sign up to use Making Tax Digital for Income Tax has been updated. If you want to voluntarily sign up, you can now do this online instead of through your software provider.

  2. Welsh translation added.

  3. Information about meeting the Making Tax Digital for Income Tax requirements has been updated for 6 April 2026 and 6 April 2027. Information on what you can do if you become self-employed or a landlord has been updated for 6 April 2026.

  4. Information has been added to check if you must meet the Making Tax Digital for Income Tax requirements by 6 April 2024 and what steps will happen before then. Information on what you can do if you become self-employed or a landlord after 6 April 2023, and when partnerships should sign up, has been updated.

  5. First published.