Canllawiau

Taenlen atodlen ar gyfer ceisiadau GASDS elusennau cysylltiedig

Cyflwynwch gais ar gyfer treth gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein os yw eich elusen neu CChAC yn gysylltiedig ag un arall, ac rydych yn hawlio treth yn ôl ar gyfraniadau GASDS.

Defnyddiwch daenlen atodlen i hawlio treth yn ôl o dan y Cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth (GASDS) ar gyfer elusennau cysylltiedig gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein os:

  • yw eich elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) yn gysylltiedig ag elusen neu CChAC arall
  • ydych yn cyflwyno cais ar gyfer enillion bychain o dan £30 o dan y GASDS

Bydd sefydliadau cysylltiedig sy’n hawlio taliad ychwanegol ar gyfer y flwyddyn yn rhannu’r terfyn ar gyfer rhoddion - sef uchafswm o £8,000 - rhyngddynt, ar ôl 6 Ebrill 2016, neu’r terfyn ar gyfer rhoddion a oedd yn gymwys mewn blynyddoedd treth blaenorol, sef £5,000.

Pan fyddwch wedi llenwi’r daenlen atodlen, dylech ei hatodi i’ch cais ar-lein.

Beth i’w gynnwys

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • enwau unrhyw elusennau neu glybiau chwaraeon amatur cymunedol eraill sydd gennych gysylltiad â nhw
  • cyfeirnod Adran Elusennau Cyllid a Thollau EM (CThEM) yr elusen neu’r CChAC cysylltiedig

Os ydych eisoes wedi cadw’r wybodaeth berthnasol ar eich taenlen eich hun, gallwch ei chopïo a’i phastio i’r daenlen atodlen.

Terfyn fesul taenlen

Mae gan y daenlen atodlen elusennau cysylltiedig uchafswm o 200 o linellau. Os ydych yn mynd dros yr uchafswm, ni fydd unrhyw linellau sydd dros yr uchafswm yn cael eu hatodi fel rhan o’ch cais.

Cael y meddalwedd cywir

Mae’r daenlen atodlen wedi ei hysgrifennu mewn fformat OpenDocument (ODF), fformat rhydd ar gyfer taenlenni a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn eich bod yn agor y daenlen atodlen, sicrhewch fod un o’r rhaglenni meddalwedd canlynol wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel - Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice 3.5 ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel.

Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice. Mae lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, a dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd. Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o LibreOffice (yn agor ffenest newydd). Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei throsi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y gall rhaglenni ODF eraill eich caniatáu i agor y ffeiliau taenlenni atodlen, ond efallai na fyddant yn eich caniatáu i atodi’ch taenlen i’ch cais ar-lein neu fwrw golwg ar y cynnwys yn Elusennau Ar-lein.

Cadw a chyflwyno

Pan fod gennych y feddalwedd briodol i agor y taenlenni atodlen, dylech gadw’r taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Os oes eisoes gennych wybodaeth wedi ei chadw ar eich taenlen eich hun, gallwch ei chopïo a’i phastio i’ch taenlen atodlen ODF.

Mae gan bob taflen waith yn y daenlen atodlen tab ag enw ar yr ochr chwith ar y gwaelod. Enw’r tab yw: R68CB_V1_00_0_EN (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - taenlen atodlen elusennau cysylltiedig. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen atodlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sy’n cael eu cadw mewn fformat OpenDocument yr ôl-ddodiad ‘.ods’ yn dilyn enw’r ffeil er mwyn dangos ym mha fformat y cedwir y ddogfen. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Cais Rhodd Cymorth 2013’ yn cael ei chadw fel ‘Cais Rhodd Cymorth 2013.ods’. Os byddwch yn newid yr ôl-ddodiad, gallech gael problemau wrth geisio uwchlwytho eich taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho’r daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho’r taenlenni atodlen, mae’n bwysig eich bod yn lawrlwytho a’n defnyddio’r fersiwn priodol o’r daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwytho’r daenlen atodlen Elusennau Cysylltiedig

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2019 + show all updates
  1. The small donations gift aid limit has been updated from £20 to £30 from 6 April 2019.

  2. Guide updated with the new £8,000 limit effective from 6 April 2016.

  3. First published.