Gwirio sut i fewnforio neu allforio nwyddau

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio sut i fewnforio a nwyddau os ydych yn un o’r canlynol:

  • busnes
  • hunangyflogedig
  • asiant sy’n gweithredu ar ran busnes

Gallwch gael gwybodaeth am y canlynol:

  • y codau nwyddau (cyfeirnodau) sydd eu hangen arnoch i ddynodi nwyddau ar gyfer datganiadau mewnforio ac allforio
  • talu’r TAW a thollau cywir ar eich nwyddau
  • pa drwyddedau a thystysgrifau bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich nwyddau
  • sut i gael nwyddau i mewn i wlad benodol

Bydd angen i chi wybod yn fras ar ba ddyddiad y bydd y nwyddau’n cyrraedd neu’n gadael ffin y DU.

Dechrau nawr

Cael help os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio cyfrifiadur

Os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio cyfrifiadur, gallwch ffonio’r Tîm Cymorth Digidol.

Tîm Cymorth Digidol
Ffôn: 0204 551 0011
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Dysgwch am gostau galwadau