Canllawiau

Cymru - Isranbarth 5

Sgrinio Daearegol Cenedlaethol – Cymru

Manylion

Wales, subregion 5

Mae ein gwaith yn dangos y gallem ddod o hyd i leoliad daearegol addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol yn y rhan fwyaf o’r isranbarth hwn, ond mae’r diffyg gwybodaeth am y dyfnderoedd yn ei gwneud hi’n anodd gwybod a oes gan y creigiau a allai gynnwys cyfleuster y nodweddion a’r trwch addas.

Er bod modd gweld craig ar yr wyneb yn y rhan fwyaf o’r isranbarth hwn mewn clogwyni môr, ardaloedd mynyddig a chloddiadau o waith dyn fel chwareli a chloddiadau ffordd, ychydig iawn o dyllau turio dwfn neu ymchwiliadau geoffisegol, sydd i roi dealltwriaeth i ni o’r ddaeareg yn ddwfn o dan y ddaear.

Mae gwahanol fathau o fylchau yn ein dealltwriaeth o ddaeareg ac rydym yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Mae llechi a chreigiau cryf tebyg o dan y rhan fwyaf o’r isranbarth y byddwn yn gallu lleoli cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt efallai. Mae modd gweld y rhain ar yr wyneb yn Eryri ac mewn chwareli fel Dinorwig ger Llanberis a Phenrhyn ger Bethesda. Mae’r creigiau hyn yn amrywiol, yn blyg ac yn ffawtiedig a byddai’n rhaid i ni wneud rhagor o waith i ganfod a oes ganddynt y nodweddion a’r trwch addas.

Mae rhannau o’r isranbarth wedi cael eu cloddio i ddyfnder o dan 100m ar gyfer adnoddau metel fel copr, plwm a sinc, er enghraifft i’r gogledd o Ddolgellau ac yn Ynys Môn. Yn yr ardaloedd hyn, mae’r gwaith cloddio’n debygol o fod wedi cael effaith ar y ffordd mae dŵr yn llifo drwy’r graig. Hefyd, mae gwaith archwilio posibl yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn tarfu ar gyfleuster.

Mae gan ddwy ardal yn y rhan o’r isranbarth sydd wrth y glannau Drwyddedau Archwilio a Datblygu Petroliwm i ganiatáu i gwmnïau chwilio am olew a nwy. Mae’r gwaith archwilio hwn yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd ac nid oes modd dweud a fydd olew neu nwy yn yr ardaloedd trwydded hyn yn cael eu defnyddio er elw ai peidio. Bydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon.

Adroddiad Isranbarth 5

Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o nodweddion daearegol Cymru.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh

  2. First published.