Canllawiau

Cymru - Isranbarth 4

Sgrinio Daearegol Cenedlaethol – Cymru

Manylion

Wales, subregion 4

Mae ein gwaith yn dangos y gallem ddod o hyd i leoliad daearegol addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol yn y rhan fwyaf o’r isranbarth hwn.

Gan mai’r glannau sy’n ymestyn 20km o’r arfordir ydy’r rhan fwyaf o’r isranbarth hwn, nid oes modd gweld craig ar yr wyneb ond mae nifer bach o dyllau turio ac ymchwiliadau geoffisegol yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r ddaeareg yn ddwfn o dan y ddaear.

Mae gwahanol fathau o fylchau yn ein dealltwriaeth o ddaeareg ac rydym yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Mae haenau o graig llawn clai o dan y rhan fwyaf o’r isranbarth y byddwn yn gallu lleoli cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt efallai. Mae haenau o halen craig o dan y rhan fwyaf o hanner deheuol yr isranbarth hefyd. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu lleoli cyfleuster ynddynt. Byddai’n rhaid i ni wneud rhagor o waith i ganfod a oes gan y creigiau hyn y nodweddion a’r trwch addas.

Hyd yn oed pan nad yw haenau unigol o graig llawn clai yn ddigon trwchus i gynnwys cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt, fe allant gefnogi’r gwaith o leoli cyfleuster gwaredu mewn creigiau dyfnach oherwydd fe allant rwystro llif y dŵr daear o’r dyfnderoedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae llif dŵr daear yn un ffordd y gallai deunydd ymbelydrol gael ei gludo yn ôl i’r wyneb.

Does dim adnoddau glo, olew, nwy na metel yn yr isranbarth hwn sy’n golygu ei bod yn annhebygol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn tarfu ar gyfleuster.

Adroddiad Isranbarth 4

Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o nodweddion daearegol Cymru.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh

  2. First published.