Canllawiau

Cymru - Isranbarth 3

Sgrinio Daearegol Cenedlaethol – Cymru

Manylion

Wales, subregion 3

Mae ein gwaith yn dangos ein bod yn annhebygol o ddod o hyd i ddigon o graig addas i gael lle i’r holl wastraff yn yr isranbarth hwn, ond efallai byddwn yn gallu dod o hyd i ddigon o graig addas ar gyfer rhan ohono.

Mae creigiau’n bresennol ar yr wyneb yn y rhan fwyaf o’r isranbarth hwn, gan gynnwys y clogwyni môr ar Benrhyn Gŵyr ac arfordir Penfro, a chlogwyni mewn ardaloedd ucheldir fel y Bannau Brycheiniog. Ynghyd â rhai tyllau turio dwfn ac ymchwiliadau geoffisegol, yn enwedig yn yr ardaloedd maes glo, mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r creigiau sy’n bresennol a’u dosbarthiad.

Mae gwahanol fathau o fylchau yn ein dealltwriaeth o ddaeareg ac rydym yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Nid yw ein gwaith wedi canfod unrhyw greigiau y mae cyfleuster gwaredu daearegol yn debygol o allu cael ei leoli ynddynt o dan yr isranbarth hwn.

Mae rhannau o’r isranbarth hwn wedi cael eu cloddio am adnoddau glo i ddyfnderoedd o dan 100m, yn bennaf ym Maes Glo De Cymru yn y cymoedd i’r gogledd o Gaerdydd ac Abertawe, ac i raddau llai o lawer yn Sir Benfro hefyd, Yn yr ardaloedd hyn, mae’r gwaith cloddio’n debygol o fod wedi cael effaith ar y ffordd mae dŵr yn llifo drwy’r graig. Hefyd, mae gwaith archwilio posibl yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn tarfu ar gyfleuster.

Mae gan rannau o’r ardal hon, sy’n gysylltiedig â methan haenau glo ar gyfer rhannau o’r maes glo a’i ffin ddeheuol ac ar hyd y morlin rhwng Casnewydd a Chas-gwent, Drwyddedau Archwilio a Datblygu Petroliwm i ganiatáu i gwmnïau chwilio am olew a nwy. Mae’r gwaith archwilio hwn yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd ac nid oes modd dweud a fydd olew neu nwy yn yr ardaloedd trwydded hyn yn cael eu defnyddio er elw ai peidio. Bydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon.

Mae rhannau o’r ardal hon, sy’n gysylltiedig â Maes Glo De Cymru, yn Ardaloedd Trwyddedig yr Awdurdod Glo sy’n caniatáu i gwmnïau chwilio am lo. Nid oes modd dweud a fydd glo yn yr ardaloedd trwyddedig hyn yn cael ei ddefnyddio er elw ai peidio. Bydd RWM yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon hefyd.

Mae ffynhonnau thermol yn Ffynnon Taf, 10km i’r gogledd o Gaerdydd, sy’n dangos bod dŵr daear yn symud yn gyflym o’r dyfnderoedd i’r wyneb yn yr ardaloedd hyn. Byddai’n rhaid ystyried hyn wrth leoli cyfleuster gwaredu daearegol yn yr isranbarth hwn.

Adroddiad Isranbarth 3

Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o nodweddion daearegol Cymru.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh

  2. First published.