Canllawiau

Cymru - Isranbarth 2

Sgrinio Daearegol Cenedlaethol – Cymru

Manylion

Wales, subregion 2

Mae ein gwaith yn dangos y gallem ddod o hyd i leoliad daearegol addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol mewn rhan fach o’r isranbarth hwn, ond mae’n bosibl na fydd trwch a nodweddion y creigiau sy’n bresennol a allai gynnwys cyfleuster yn addas.

Ar y cyfan, nid oes modd gweld craig ar yr wyneb yn yr isranbarth hwn heblaw mewn cloddiau o law dyn fel chwareli neu gloddiadau ffordd. Fodd bynnag, mae tyllau turio dwfn ac ymchwiliadau geoffisegol, sy’n bennaf gysylltiedig â chloddio, yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r creigiau sy’n bresennol a’u dosbarthiad.

Mae gwahanol fathau o fylchau yn ein dealltwriaeth o ddaeareg ac rydym yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Mae haenau o graig llawn clai i’r dwyrain o Wrecsam a haenau o halen craig i’r gorllewin o Dre-groes y byddwn yn gallu lleoli cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt efallai. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn awgrymu eu bod yn rhy denau efallai a byddai’n rhaid i ni wneud rhagor o waith i ganfod a oes gan y creigiau hyn y nodweddion a’r trwch addas.

Hyd yn oed pan nad yw haenau unigol o graig llawn clai yn ddigon trwchus i gynnwys cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt, fe allant gefnogi’r gwaith o leoli cyfleuster gwaredu mewn creigiau dyfnach oherwydd fe allant rwystro llif y dŵr daear o’r dyfnderoedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae llif dŵr daear yn un ffordd y gallai deunydd ymbelydrol gael ei gludo yn ôl i’r wyneb.

Mae rhannau o’r isranbarth wedi cael eu cloddio i ddyfnderoedd o dan 100m am adnoddau gloyn rhannau’r Fflint a Sir Ddinbych o Faes Glo Gogledd Cymru, a phlwm a sinc i’r de o Dreffynnon ac i’r gorllewin o Wrecsam. Yn yr ardaloedd hyn, mae’r gwaith cloddio’n debygol o fod wedi cael effaith ar y ffordd mae dŵr yn llifo drwy’r graig. Hefyd, mae gwaith archwilio posibl yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn tarfu ar gyfleuster.

Mae gan rannau dwyreiniol o’r isranbarth Drwyddedau Archwilio a Datblygu Petroliwm i ganiatáu i gwmnïau chwilio am olew a nwy. Mae’r gwaith archwilio hwn yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd ac nid oes modd dweud a fydd olew neu nwy yn yr ardaloedd trwydded hyn yn cael eu defnyddio er elw ai peidio. Bydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon.

Mae rhannau o’r ardal hon, yn aber Afon Dyfrdwy ac i’r de o Fwcle, yn Ardaloedd Trwyddedig yr Awdurdod Glo sy’n caniatáu i gwmnïau chwilio am lo. Nid oes modd dweud a fydd glo yn yr ardaloedd trwyddedig hyn yn cael ei ddefnyddio er elw ai peidio. Bydd RWM yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon hefyd.

Adroddiad Isranbarth 2

Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o nodweddion daearegol Cymru.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Added translation in Welsh

  2. First published.