Canllawiau

Rhowch wybod i CThEF am gyflenwadau tir ac eiddo rydych yn eu gwneud

Rhowch wybod i CThEF am natur benodol y cyflenwadau tir ac eiddo rydych yn eu gwneud gan ddefnyddio ffurflen VAT5L.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Oni bai eich bod yn dewis trethu cyflenwad o dir moel neu eiddo masnachol, ar gyfer datblygu neu weithio ar eich tir neu eiddo eich hun, efallai y gofynnir i chi am wybodaeth ychwanegol.

Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth trydydd parti bod y canlynol yn wir:

  • chi sy’n berchen ar y tir neu’r eiddo
  • rydych yn bwriadu prynu neu gaffael y tir neu’r eiddo
  • mae gennych fuddiant llesiannol yn y tir neu’r eiddo

Er enghraifft, dogfennau y Gofrestrfa Tir neu brydles neu ohebiaeth cyfreithwyr.

Gellir gofyn i chi hefyd am gopi o un o’r canlynol:

  • y cais cynllunio perthnasol
  • y caniatâd cynllunio
  • hysbysiad cymeradwyo blaenorol gan y cyngor o dan hawliau datblygu a ganiateir

Os nad oes gennych hyn, gallwch anfon tystiolaeth trydydd parti sy’n dangos eich gweithgareddau rydych yn bwriadu eu gwneud ar gyfer datblygu tir neu eiddo. Er enghraifft, copïau o ddarluniau pensaer neu gyngor cyn gwneud cais.

Gellir gofyn am gopi o unrhyw ganiatâd cynllunio sydd wedi dod i ben, gyda thystiolaeth i ddangos naill ai:

  • bod y datblygiad wedi dechrau o fewn yr amserlen a ganiateir
  • eich bod wedi gwneud cais arall am ganiatâd cynllunio (os yw’n berthnasol)

Os na fyddwch yn rhoi’r holl wybodaeth ofynnol i chi, bydd oedi gyda’ch cais.

Gallwch ddewis rhoi tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol sy’n dangos eich bod yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cyflenwadau trethadwy o dir neu eiddo, os hoffech i CThEF ei ystyried.

Rhoi gwybod i CThEF

Dylech gael eich holl wybodaeth gyda’ch gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

Dechrau nawr

Ar ôl ei llenwi, gallwch gadw’r ffurflen fel PDF a’i atodi i’ch cais ar-lein i gofrestru ar gyfer TAW.

Fel arall, gallwch argraffu a phostio’r ffurflen i:

BT VAT
HM Revenue and Customs
BX9 1ST

Cyhoeddwyd ar 8 December 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 May 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Form VAT5L has been updated so that you can now complete it digitally.

  3. First published.