Canllawiau

Taenlen atodlen ar gyfer ceisiadau GASDS adeiladau cymunedol

Anfonwch gais ar gyfer treth gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein ar gyfraniadau a gasglwyd mewn adeilad cymunedol o dan y cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth.

Mae angen i chi gofnodi cyfraniadau elusennol bach a gasglwyd mewn adeilad cymunedol o dan y Cynllun Cyfraniadau Bach Rhodd Cymorth (GASDS) gan ddefnyddio taenlen atodlen. Pan fyddwch wedi ei llenwi, dylech ei hatodi i’ch cais ar-lein a’i hanfon i Cyllid a Thollau EM (CThEM) gan ddefnyddio Elusennau Ar-lein.

Beth i’w gynnwys

Bydd angen i chi roi’r canlynol yn y daenlen atodlen:

  • enw’r adeilad cymunedol (uchafswm o 160 o gymeriadau)
  • llinell gyntaf cyfeiriad yr adeilad (uchafswm o 40 o gymeriadau)
  • cod post

Os nad ydych yn gwybod beth yw’r cod post, gallwch ganfod yr hyn ydyw o wefan canfod codau post (postcode finder) y Post Brenhinol. Os nad oes cod post gan yr adeilad, rhowch god post yr adeilad agosaf.

Bydd angen i chi nodi’r canlynol yn ogystal:

  • dyddiad diwedd y flwyddyn dreth rydych yn gwneud cais ar ei chyfer o dan y GASDS
  • swm pob cyfraniad bach o £20 neu lai a gesglir ym mhob adeilad cymunedol

Os ydych eisoes wedi cadw’r wybodaeth berthnasol ar eich taenlen eich hun, gallwch gopïo a gludo’r cynnwys i’r daenlen atodlen.

Terfyn fesul taenlen

Mae gan y daenlen atodlen adeiladau cymunedol uchafswm o 500 o linellau. Os ydych yn mynd dros yr uchafswm, ni atodir y llinellau dros yr uchafswm fel rhan o’ch cais.

Cael y meddalwedd cywir

Mae’r daenlen atodlen ar ffurf OpenDocument (ODF) - fformat rhydd ar gyfer taenlenni a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae defnyddio ODF yn golygu bod y daenlen atodlen yn gallu cael ei hagor gydag amrywiaeth o raglenni meddalwedd.

Cyn i chi agor y daenlen atodlen, gwnewch yn siŵr fod gennych un o’r rhaglenni meddalwedd hyn wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur:

  • Microsoft Excel - Microsoft Office 2010 ar gyfer Microsoft Windows
  • LibreOffice 3.5 ar gyfer Microsoft Windows, Apple Mac OS a Linux

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice. Mae lawrlwytho LibreOffice yn rhad ac am ddim, ac mae’n cymryd ychydig o funudau’n unig. Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o LibreOffice (yn agor ffenestr newydd).

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall). Os gwnewch hyn, efallai y cewch broblemau.

Efallai y bydd rhaglenni ODF eraill yn eich caniatáu i agor y ffeiliau taenlenni atodlen, ond efallai na fyddant yn eich caniatáu i atodi’ch taenlen i’ch cais ar-lein neu fwrw golwg ar y cynnwys yn Elusennau Ar-lein.

Cadw a chyflwyno

Pan fydd y meddalwedd priodol gennych i agor y taenlenni atodlen, cadwch y taenlenni ar eich cyfrifiadur. Gallwch eu defnyddio ar unwaith.

Mae tab ag enw i’w weld ar ochr chwith gwaelod pob taflen waith yn y daenlen atodlen. Enw’r tab yw: R68CB_V1_00_0_CY (neu EN ar gyfer y fersiwn Saesneg) - taenlen atodlen adeiladau cymunedol. Peidiwch â newid yr enw, neu ni fyddwch yn gallu atodi’r daenlen atodlen i’r ffurflen ar-lein yn Elusennau Ar-lein.

Mae gan daenlenni sydd wedi’u cadw ar ffurf OpenDocument yr ôl-ddodiad ‘.ods’ ar ôl enw’r ffeil er mwyn dangos ym mha fformat y mae’r ddogfen wedi’i chadw. Er enghraifft, byddai ffeil o’r enw ‘Cais am Rodd Cymorth 2013’ wedi’i chadw fel ‘Cais am Rodd Cymorth 2013.ods’. Os ydych yn newid yr ôl-ddodiad, efallai y byddwch yn cael problemau wrth geisio uwchlwytho eich taenlen i Elusennau Ar-lein.

Lawrlwytho’r daenlen atodlen

Cyn i chi lawrlwytho’r taenlenni atodlen, mae’n bwysig eich bod yn lawrlwytho a defnyddio’r fersiwn priodol o’r daenlen atodlen ar gyfer eich meddalwedd.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Excel, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen gywir ar gyfer MS Excel. Os ydych yn defnyddio LibreOffice, rhaid i chi lawrlwytho’r daenlen atodlen LibreOffice.

Peidiwch â lawrlwytho’r fersiwn LibreOffice o’r daenlen atodlen ac yna ceisio ei drosi i Microsoft Office neu Excel (neu fel arall).

Lawrlwythwch y daenlen atodlen Adeiladau Cymunedol a

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014