Profi eich hunaniaeth mewn Swyddfa’r Post
Beth i'w wneud os ydych yn cael problemau profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login mewn Swyddfa’r Post.
Efallai y bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth mewn Swyddfa’r Post os na allwch brofi eich hunaniaeth drwy ddefnyddio’r ap GOV.UK One Login neu ar-lein.
Dywedir wrthych os bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth mewn Swyddfa’r Post. Rhaid i chi roi rhywfaint o fanylion ar GOV.UK cyn i chi fynd i Swyddfa’r Post.
Beth i’w fynd i Swyddfa’r Post
Bydd angen i chi fynd â’ch:
-
ID gyda llun
-
llythyr cwsmer Swyddfa’r Post – byddwn yn anfon e-bost atoch i lawrlwytho hwn, neu gallwch ei gael drwy’r post
Os ydych eisiau mynd i Swyddfa’r Post wahanol
Gallwch fynd i Swyddfa’r Post wahanol i’r un a ddangosir ar eich llythyr cwsmer. Gall hyn fod yn unrhyw Swyddfa’r Post sy’n cynnig dilysu yn y gangen.
Nid oes angen i chi ddweud wrthym os ydych am fynd i Swyddfa’r Post wahanol.
Os oedd problem yn Swyddfa’r Post
Os na allai’r Swyddfa’r Post wneud eich gwiriad hunaniaeth, er enghraifft os nad oeddent yn gallu gwirio eich ID gyda llun, gallwch fynd i Swyddfa’r Post arall.
Gall hyn fod yn unrhyw Swyddfa’r Post sy’n cynnig dilysu yn y gangen.
Cael canlyniad eich gwiriad hunaniaeth
Byddwn yn anfon e-bost i ddweud wrthych pan fydd canlyniad eich gwiriad hunaniaeth yn barod. Mae hyn fel arfer o fewn 24 awr i chi fynd i’r Swyddfa’r Post. Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login i weld y canlyniad.
Os oedd y gwiriad hunaniaeth yn llwyddiannus, gofynnir i chi gadarnhau eich manylion. Yna gallwch barhau i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio.
Os nad oedd y gwiriad hunaniaeth yn llwyddiannus, dywedir wrthych nad oedd modd i ni gadarnhau eich hunaniaeth. Byddwch yn gallu ceisio profi eich hunaniaeth eto.
Os na fyddwch yn cael e-bost
Os na fyddwch yn cael e-bost o fewn 24 awr, gallwch fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login yn https://return.account.gov.uk/resume i wirio a yw canlyniad eich gwiriad hunaniaeth yn barod.