Guidance

Profion ar-lein y Gwasanaeth Sifil

Canllawiau i ymgeiswyr am swyddi y gofynnir iddynt sefyll prawf ar-lein fel rhan o'r broses recriwtio.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Profion ar-lein – cyflwyniad

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd yn y Gwasanaeth Sifil, mae’n bosibl y byddwn am eich asesu gan ddefnyddio prawf seicometrig. Mae profion yn ffordd effeithiol o asesu pobl yn deg, yn gyson ac yn dryloyw.

Profion ar-lein y Gwasanaeth Sifil

Caiff tri phrawf eu defnyddio’n gyffredin:

  • Prawf Geiriol y Gwasanaeth Sifil
  • Prawf Rhifiadol y Gwasanaeth Sifil
  • Prawf Barn ar Sefyllfa y Gwasanaeth Sifil.
  • Prawf Dyfarniad Rheolaeth y Gwasanaeth Sifil (Prawf Dyfarniad Rheoli)
  • Prawf Cryfderau Gwaith y Gwasanaeth Sifil (Prawf Cryfderau Gwaith)
  • Prawf Sgiliau Gwasanaeth Cwsmer (Prawf Gwasanaeth Cwsmer)
  • Prawf Sgiliau Gwaith Achos (Prawf Gwaith Achos)

Efallai y gofynnir ichi sefyll un neu fwy o’r rhain – byddwn yn nodi hyn yn yr hysbyseb swydd. Nid oes angen gwybodaeth arbenigol na phrofiad ar gyfer ein profion.

Paratoi ar gyfer ein profion

Pan fyddwch yn sefyll ein profion, dylech fod wedi paratoi.

Gallwch wneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. I’ch helpu, rydym wedi llunio amrywiaeth o brofion ymarfer, canllawiau prawf manwl a fideos gwybodaeth.

Mae profion ymarfer yn cynnig profiad dilys o sefyll prawf, er mwyn ichi ddeall sut mae ein profion yn gweithio:

Mae’r canllawiau prawf manwl yn esbonio’r prosesau penodol i’w dilyn wrth sefyll ein profion:

Mae’r fideos gwybodaeth yn trafod pob un o’r profion a gaiff eu defnyddio’n gyffredin a’r ffordd maent yn gweithio, yn ogystal â chwestiynau cyffredin am addasiadau rhesymol a hygyrchedd, ffordd o feddwl wrth sefyll prawf, a thegwch y profion.

Fideos gwybodaeth ar gyfer pob un o’r profion ar-lein:

Fideos gwybodaeth am y profion ar-lein yn gyffredinol:

Sefyll prawf

Caiff y profion eu sefyll ar-lein. Os byddwch yn gwneud cais am swydd a bod angen ichi sefyll prawf, caiff gwahoddiad ei anfon atoch drwy e-bost, yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar y camau nesaf. Eich atebion chi eich hun y dylech eu rhoi yn y prawf; ni chewch ofyn am gymorth gan neb arall.

Addasiadau rhesymol a hygyrchedd wrth sefyll prawf

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn ymrwymedig i fod ymhlith y cyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU.

Os oes gennych anabledd a bod angen gwneud addasiadau ar eich cyfer yn ystod y broses recriwtio, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud hynny. Pan fyddwch yn gwneud cais, dylech ddweud wrthym am y cymorth sydd ei angen arnoch.

Darllenwch ein canllaw ar addasiadau rhesymol i ymgeiswyr (profion ar-lein).

Nid yw bob amser yn hawdd gofyn am addasiad, felly rydym wedi llunio astudiaethau achos enghreifftiol i roi arweiniad ichi. Gallwch ddefnyddio’r rhain i’ch helpu i benderfynu p’un a ydych am ofyn am gymorth neu sefyll y prawf heb gymorth.

Dylech hefyd roi cynnig ar y prawf ymarfer priodol cyn sefyll prawf go iawn. Os cewch unrhyw anhawster gyda’r naill fath o brawf neu’r llall, gallwch gysylltu â’r recriwtiwr yn yr hysbyseb swydd i gael rhagor o gymorth.

Canlyniadau’r prawf ac adborth

Ar ôl ichi orffen sefyll y prawf, gallwch gael adborth arno drwy fynd i’ch cyfrif ar Civil Service Jobs

Caiff eich sgôr yn y prawf ei chyfrifo ar sail eich ymatebion, a byddwn yn ei chymharu â chanlyniadau grŵp o’ch cymheiriaid a safodd yr un prawf – bydd hyn yn rhoi canradd. Er enghraifft, os mai 44 yw canradd eich sgôr, mae hynny’n golygu bod eich sgôr yn well na 44% o’r grŵp cymharu. Ni fydd bodloni’r gofynion prawf sylfaenol ar gyfer lefel swydd yn golygu bod sicrwydd y cewch wahoddiad i barhau â’r broses ddethol.

Ar gyfer y Prawf Barn ar sefyllfa, cewch adroddiad adborth i’ch helpu i ddeall eich perfformiad yn y prawf. Bydd hefyd yn cynnwys awgrymiadau cyffredinol ar gyfer gwella ymhellach.

Ni chewch atebion i gwestiynau penodol yn y prawf, er mwyn osgoi peryglu diogelwch y prawf. Byddai rhannu atebion y prawf yn rhoi mantais annheg i unrhyw un sy’n eu cael.

Cwestiynau neu bryderon

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, cewch wybodaeth am sut i wneud ymholiadau neu godi pryderon a datrys problemau.

Published 23 March 2021
Last updated 18 August 2023 + show all updates
  1. Updated lead organisation: Government People Group

  2. First published.