Canllawiau

Peidio â thalu tollau mewnforio na TAW ar gyflenwadau meddygol ac offer amddiffynnol a ddygwyd i mewn oherwydd coronafeirws (COVID-19)

Sut i wneud cais am ad-daliad o’r tollau mewnforio a’r TAW a dalwyd ar offer amddiffynnol neu gyflenwadau meddygol a ddygwyd i mewn i’r DU o wledydd y tu allan i’r UE o 30 Ionawr 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020.

Roedd y rhyddhad hwn ar waith o 30 Ionawr 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Os gwnaethoch fewnforio nwyddau cymwys rhwng y dyddiadau hyn ac na wnaethoch hawlio’r rhyddhad, mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais ôl-weithredol am ad-daliad o’r tollau mewnforio hynny.

Pwy all hawlio’r rhyddhad hwn

Gall y rhyddhad hwn gael ei hawlio gan unrhyw berson sy’n mewnforio nwyddau i’r DU os yw’r amodau a nodir isod yn cael eu bodloni.

Bydd y rhyddhad yn berthnasol i offer diogelu a dyfeisiau neu offer meddygol perthnasol eraill sy’n cael eu mewnforio ar gyfer coronafeirws (COVID-19) ac sydd wedi’u nodi yn rhestr Codau Nwyddau COVID-19.

Mae’n rhaid i’r nwyddau gael eu mewnforio gan, neu ar ran, sefydliad sydd wedi’i leoli yn y DU sydd yn:

  • sefydliadau gwladwriaethol, gan gynnwys cyrff gwladwriaethol, cyrff cyhoeddus a chyrff eraill a lywodraethir o dan gyfraith gyhoeddus
  • sefydliadau elusennol neu ddyngarol eraill sydd wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdodau cymwys

Yn unol â hysbysiad 317, rydym wedi rhoi cymeradwyaeth gyffredinol i’r sefydliadau elusennol a dyngarol canlynol:

  • y rhai hynny sydd wedi’u cofrestru gan y Comisiwn Elusennau neu gan Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban
  • sefydliadau gwladwriaethol sydd wedi’u neilltuo ar gyfer lles
  • y canlynol, cyn belled â’u bod yn ddielw a’u nod yw lles y rhai hynny sydd mewn angen:
    • ysbytai
    • sefydliadau ieuenctid
    • clybiau, cartrefi a hosteli ar gyfer yr henoed
    • cartrefi plant amddifad a chartrefi plant
    • sefydliadau sydd wedi’u sefydlu er mwyn lleddfu trallod a achosir gan drychinebau penodol yn yr Undeb Tollau
    • sefydliadau sy’n ymwneud â lleddfu trallod yn gyffredinol (megis Sefydliad y Groes Goch Brydeinig neu Fyddin yr Iachawdwriaeth)

Os nad ydych yn siŵr p’un a ydych yn dod o dan y categorïau uchod, gallwch ofyn am gadarnhad drwy e-bostio gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ynghylch yr Uned Rhyddhad Mewnforion Cenedlaethol (sef y National Import Relief Unit neu ‘NIRU’).

Gellir mewnforio nwyddau ar ran un o’r sefydliadau os ydynt i’w cael eu rhoi neu eu gwerthu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) iddynt. Mae’n rhaid i’r mewnforiwr roi trefniadau ar waith i werthu neu roi’r nwyddau i un o’r sefydliadau, a hynny ar yr adeg y cânt eu mewnforio i’r DU.

Os ydych yn mewnforio nwyddau ar ran un o’r sefydliadau sydd wedi’u rhestru, mae angen i chi gael awdurdod i hawlio’r rhyddhad hwn gan y NIRU. Gallwch e-bostio gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk er mwyn cael ffurflen gais.

Os ydych wedi mewnforio’r eitemau ar ran sefydliad arall, er mwyn hawlio’r rhyddhad fel y mewnforiwr, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth glir sy’n dangos bod defnyddiwr terfynol y nwyddau yn un o’r sefydliadau cymwys. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth hon hefyd ganiatáu i CThEM olrhain y nwyddau o’u mewnforion cychwynnol i’w defnydd terfynol gan un o’r sefydliadau hyn.

Gall methu â darparu’r dystiolaeth hon arwain at orfod talu tollau a TAW mewnforio.

Os ydych yn asiantaeth lleddfu effaith trychineb, ac rydych yn mewnforio’r nwyddau ar gyfer cylchrediad rhydd er mwyn diwallu’ch anghenion yn ystod coronafeirws, gallwch hefyd hawlio rhyddhad.

Nwyddau y gallwch hawlio rhyddhad arnynt

Gallwch hawlio’r rhyddhad hwn ar nwyddau sydd wedi’u mewnforio ar gyfer cylchrediad rhydd ac sydd wedi’u bwriadu ar gyfer y canlynol:

  • eu dosbarthu’n rhad ac am ddim i’r rhai hynny y mae coronafeirws yn effeithio arnynt, sy’n wynebu’r risg o goronafeirws neu sy’n rhan o frwydro yn ei erbyn
  • eu gwneud ar gael yn rhad ac am ddim i’r rhai hynny y mae coronafeirws yn effeithio arnynt, sy’n wynebu’r risg o goronafeirws neu sy’n rhan o frwydro yn ei erbyn, wrth barhau i fod yn eiddo i’r sefydliadau sy’n eu defnyddio

Bydd y rhyddhad yn berthnasol i offer diogelu, dyfeisiau neu offer meddygol perthnasol eraill sy’n cael eu mewnforio ar gyfer coronafeirws.

Defnyddiwch restr y codau nwyddau i ddod o hyd i’r holl nwyddau y gallwch hawlio rhyddhad arnynt. Mae rhai codau wedi’u dyblygu gan fod sawl eitem wedi’i chwmpasu gan yr un cod.

Mae’r rhestr hon wedi’i diweddaru. Byddwn yn adolygu’r rhestr yn rheolaidd ac mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu ati yn y dyfodol os daw nwyddau ychwanegol i’n sylw a allai gael budd o’r rhyddhad hwn.

Mae’r rhyddhad yn berthnasol i fewnforion i’r DU o 30 Ionawr 2020 hyd at 31 Hydref 2020.

Os yw’ch nwyddau wedi’u rhoi ar fenthyg, wedi’u rhoi ar log neu wedi’u trosglwyddo i sefydliadau sy’n gymwys ar gyfer y rhyddhad, bydd y rhyddhad yn aros yn ei le cyn belled â bod yr amodau’n parhau i gael eu bodloni.

Nid yw’r rhyddhad hwn yn effeithio ar TAW cyflenwadau domestig. Mae’n rhaid i chi godi TAW, a rhoi cyfrif amdani, ar y gyfradd arferol wrth werthu ymlaen. Byddwn yn cyhoeddi arweiniad pellach ar sut i drin y cyflenwadau hyn yn eich cofnodion busnes TAW.

Os yw’r rhai y mae coronafeirws yn effeithio arnynt yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch nwyddau, ni allwch roi’r nwyddau ar fenthyg, eu rhoi ar log na’u trosglwyddo, am ystyriaeth neu’n rhad ac am ddim, oni bai y rhoddir gwybod i ni ymlaen llaw.

Bydd angen i chi dalu tollau a TAW mewnforio os ydych yn rhoi’ch nwyddau ar fenthyg, eu rhoi ar log neu eu trosglwyddo i sefydliadau neu unigolion nad yw coronafeirws yn effeithio arnynt.

Sut i hawlio rhyddhad ar nwyddau a fewnforir fel llwyth

I hawlio’r rhyddhad hwn, yn gyntaf mae’n rhaid i chi fod wedi’ch awdurdodi gan NIRU a fydd yna’n anfon tystysgrif unigryw atoch.

Mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad drwy lenwi datganiad mewnforio yn CHIEF.

Gallwch hawlio rhyddhad ar eich datganiad yn CHIEF drwy nodi’r canlynol:

  • ym mlwch 37, cod gweithdrefn tollau 40 00 C26
  • ym mlwch 44, datganiad/nodiadau, nodwch godau dogfen 9AID a/neu 9AIV a chodau statws JP neu UP fel sy’n briodol
  • ym mlwch 44, nodwch rif tystysgrif NIRU fel datganiad Gwybodaeth Ychwanegol GEN 13

Pryd y gallwch hawlio

Os gwnaethoch fewnforio nwyddau o 30 Ionawr 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2020 ond na wnaethoch hawlio rhyddhad, efallai y byddwch yn dal i allu adennill y tollau mewnforio a dalwyd. Mae gennych hyd at 31 Rhagfyr 2023 i wneud hyn.

Sut i hawlio rhyddhad ar nwyddau sydd eisoes wedi’u mewnforio

Os gwnaethoch fewnforio nwyddau ar neu ar ôl 30 Ionawr 2020 ond ni wnaethoch hawlio rhyddhad, efallai y byddwch yn gymwys i adennill y tollau mewnforio a dalwyd.

Bydd angen i chi wneud cais am awdurdod drwy gysylltu â gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ynghylch yr Uned Rhyddhad Mewnforion Cenedlaethol (sef y National Import Relief Unit neu ‘NIRU’) er mwyn cael ffurflen gais.

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi gan NIRU, gallwch gyflwyno’ch hawliad i’r Ganolfan Ad-dalu Tollau Cenedlaethol (NDRC) er mwyn ad-dalu toll dramor a TAW mewnforio a ordalwyd.

Bydd yn rhaid i chi gyflwyno’r canlynol:

  • copi o’ch tystysgrif tollau a rhyddhad TAW
  • copi o’ch archeb neu ddogfennau ategol eraill sy’n dangos eich cymhwystra ar gyfer y rhyddhad hwn

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW ac yn chwilio am ad-daliad o TAW mewnforio a ordalwyd, mae’n rhaid i chi wneud hyn drwy’ch hawliad i’r NDRC yn hytrach nag addasu’ch Ffurflen TAW. Dylech roi ymwadiad i nodi nad ywֹ’r TAW mewnforio wedi’i hadennill/na fydd y TAW mewnforio’n cael ei hadennill, yn rhannol nac yn gyfan gwbl, fel treth fewnbwn ar eich Ffurflen TAW.

Os ydych yn fasnachwr cwbl drethadwy, sydd eisoes wedi cael eich C79 ac wedi hawlio TAW drwy’ch Ffurflen TAW, ni ddylech wneud dim ynghylch y TAW a dim ond adennill y doll dramor.

Os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • trefniadau cyfyngedig o ran adennill treth fewnbwn
  • eisoes wedi hawlio’r dreth gymwys ar Ffurflen TAW
  • cynlluniau i hawlio’r TAW mewnforio nad oedd modd ei hadennill o’r blaen

gallwch wneud hawliad i’r NDRC ar gyfer y swm llawn o dreth.

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • addasu’r hawliad am dreth fewnbwn berthnasol ar eich Ffurflen TAW i ddim
  • rhoi ymwadiad eich bod wedi addasu’ch cyfrif TAW fel nad oes unrhyw dreth fewnbwn wedi’i hadennill ar y mewnforion

Ni ddylai’ch hawliad fod ar gyfer y TAW mewnforio nad oedd modd ei hadennill o’r blaen yn unig.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gyflwyno’ch hawliad.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 June 2022 + show all updates
  1. Updated because the relief has expired. Removed information on domestic VAT treatment of PPE products as this information can be found in the Revenue and Customs Brief 4 (2020).

  2. The COVID-19 Commodity Codes list CSV file has been updated.

  3. The date relief applies to imports into the UK has been updated to 30 January 2020 until 31 December 2020.

  4. The COVID-19 Commodity Codes list has been updated.

  5. The COVID-19 Commodity Codes list has been updated.

  6. The date relief applies to imports into the UK has been updated to 30 January 2020 until 31 October 2020.

  7. Information about goods that are imported on behalf of an organisation has been added and the COVID-19 Commodity Codes list CSV file has been updated.

  8. Added Welsh translation

  9. Added translation

  10. COVID-19 Commodity Codes list CSV file has been updated.

  11. Welsh translation has been added.

  12. First published.