Guidance

Paratoi ar gyfer profion Geiriol a Rhifiadol y Gwasanaeth Sifil

Canllawiau i ymgeiswyr am swyddi sy'n cwblhau prawf ar-lein drwy Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pam rydym yn defnyddio profion recriwtio ar-lein

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn defnyddio profion seicometrig ochr yn ochr â dulliau asesu eraill (fel ffurflenni cais, tystiolaeth o sgiliau technegol a chyfweliadau) i asesu gallu, potensial ac a yw person yn bodloni gofynion lefel swydd benodol.

Mae defnyddio profion yn fodd i wneud y canlynol:

  • galluogi ymgeiswyr i ddangos eu cryfderau,
  • galluogi recriwtwyr i gynnal asesiadau gwrthrychol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol,
  • dangos ble y gallai ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau.

Ar yr amod y cânt eu defnyddio’n briodol, mae ein profion yn deg ac yn rhydd o duedd neu wahaniaethu. Felly:

  • maent yn cynnig mesuriadau cadarn ac effeithiol,
  • Nid oes unrhyw fantais i feddu ar gymwysterau addysgol na phrofiad gwaith ychwanegol,
  • gallant ragweld perfformiad ymgeisydd ar gamau dethol diweddarach.

Yr hyn y mae ein profion yn ei fesur

Mae Profion Geiriol a Rhifiadol y Gwasanaeth Sifil yn mesur gallu meddyliol cyffredinol. Cydnabyddir mai hon yw’r ffordd orau o ragweld perfformiad mewn swydd ar bob lefel, ac ym mhob sector gweithle.

Mae’r profion hyn yn mesur:

  1. Prawf geiriol: y gallu i ganfod gwybodaeth berthnasol a dod i gasgliadau rhesymegol o wybodaeth ysgrifenedig.
  2. Prawf rhifiadol: y gallu i wneud cyfrifiadau, a gwerthuso a dehongli gwybodaeth rifiadol er mwyn datrys problemau.

Mae’r profion yn asesu eich gallu, sef un o’r pum elfen yn y Fframwaith Proffiliau Llwyddiant. Mae’r Gwasanaeth Sifil yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant er mwyn gallu recriwtio mewn ffyrdd hyblyg, gan roi’r siawns orau posibl o ddod o hyd i’r person cywir ar gyfer swydd.

Efallai y gofynnir ichi sefyll y Prawf Geiriol, y Prawf Rhifiadol, neu’r ddau, yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani.

Mae’r profion hyn yn gallu cael eu cwblhau naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg - dewiswch yr opsiwn sy’n well gennych ar ddechrau’r prawf. Mae canllawiau Amgen (yn Gymraeg) ar gael ar frig y dudalen hon.

Sefyll prawf

Caiff y prawf ei sefyll ar-lein. Byddwch yn cael gwahoddiad drwy e-bost a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar yr hyn i’w wneud nesaf.

Eich atebion chi eich hun y dylech eu rhoi yn y prawf; ni chewch ofyn am gymorth gan neb arall. Gall y rheolwr sy’n cyflogi ofyn i ymgeiswyr ailsefyll y prawf o dan oruchwyliaeth – byddwn yn rhoi gwybod ichi a fydd disgwyl ichi wneud hyn os cewch eich gwahodd i gael cyfweliad.

Yn y prawf geiriol, cewch ddarn o destun, ac wedyn datganiad. Rhaid ichi benderfynu a yw’r datganiad yn ‘gywir’ neu’n ‘anghywir’, neu eich bod yn ‘methu dweud’ yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd.

Yn y prawf rhifiadol, caiff graffiau, tablau neu wybodaeth rifiadol arall eu cyflwyno ichi, ac wedyn cwestiwn â sawl ateb posibl. Rhaid ichi nodi pa ateb yw’r un cywir.

Bydd gofyn ichi ateb rhai eitemau treialu yn ystod y prawf. Ni chaiff yr eitemau hyn eu sgorio ac ni fyddant yn rhan o’ch asesiad. Bydd eich atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu i baratoi cwestiynau newydd ar gyfer profion yn y dyfodol.

Dim terfyn amser

Ni chaiff y profion eu hamseru, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd rhwng 15 a 45 munud i gwblhau pob un. Ni fydd yr amser a gymerwch yn effeithio ar eich sgôr derfynol.

Bydd y profion yn addasu yn ôl eich perfformiad – os byddwch yn ateb cwestiwn yn gywir, efallai bydd y cwestiwn nesaf yn anoddach ac, os byddwch yn ateb cwestiwn yn anghywir, efallai bydd y cwestiwn nesaf yn haws. Mae hyn yn golygu y gall y profion amrywio o ran eu hyd ond, fel arfer, byddant yn fyrrach na phrofion hyd penodol.

Cyn dechrau

Ceisiwch sefyll y prawf cyn gynted â phosibl ar ôl ichi gael eich gwahodd, er mwyn ichi allu datrys unrhyw broblemau technegol neu broblemau mynediad cyn y dyddiad cau. Dylech gyflwyno pob ymholiad neu gais am gymorth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad cau hwn er mwyn gwneud yn siŵr y cewch ymateb.

Cyngor ar sefyll prawf:

  • Sefwch y prawf mewn lle tawel heb ddim byd a all dynnu eich sylw.
  • Efallai yr hoffech wneud yn siŵr bod gennych bapur sgrap, beiro a chyfrifiannell.
  • Darllenwch holl gyfarwyddiadau’r prawf yn ofalus.
  • Atebwch bob cwestiwn – ni allwch adael cwestiwn yn wag na mynd yn ôl.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ddibynadwy.
  • Ceisiwch sefyll y prawf/profion pan na fyddwch wedi cynhyrfu, ond mae’n naturiol teimlo ychydig yn nerfus.
  • Er na chaiff y profion eu hamseru, rydym yn argymell caniatáu o leiaf awr i gwblhau pob un.

Profion ymarfer

Cyn sefyll y Prawf Geiriol neu’r Prawf Rhifiadol,, dylech ymgyfarwyddo â sefyll profion seicometrig. Mae yna gwestiynau enghreifftiol ar ddechrau pob prawf, ac rydym hefyd wedi datblygu dwy set ar wahân o gwestiynau ymarfer.

Gall y rhain fod yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch yn defnyddio technoleg gynorthwyol gyda chynnwys gwe, a’ch bod am weld a yw’n gweithio gyda’n profion ni. Rydym yn argymell naill ai ateb y cwestiynau enghreifftiol neu sefyll prawf ymarfer llawn cyn rhoi cynnig ar y prawf go iawn, er mwyn ymgyfarwyddo’n llawn.

Gallwch hefyd wylio’r fideos byr hyn sy’n esbonio sut mae’r profion yn gweithio:

Mynediad i’r profion

Os ydych wedi gwneud cais am swydd lle mae angen sefyll prawf, gallwch gael mynediad i’r prawf/profion perthnasol o’ch canolfan ceisiadau yn Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Mae’r profion yn gweithio ar y rhan fwyaf o borwyr gwe a systemau gweithredu modern, cyn belled â bod gennych gysylltiad dibynadwy â’r rhyngrwyd. Os nad yw eich porwr yn gydnaws, bydd y prawf yn dweud wrthych am roi cynnig ar borwr gwahanol. Gallwch gau’r prawf a’i ailagor yn yr un man, ond dylech geisio ei gwblhau ar un tro os oes modd.

Er y dylent weithio ar ffonau clyfar neu lechi, mae ein profion yn gweithio’n well o lawer ar ddyfeisiau â sgrin fawr – er enghraifft, gliniaduron neu gyfrifiaduron desg. Os nad oes gennych eich cyfrifiadur eich hun, mae opsiynau ar gael – er enghraifft, eich llyfrgell leol.

Rhaid ichi fod wedi’ch cysylltu â’r rhyngrwyd drwy gydol y prawf/profion. Os byddwch yn colli cysylltiad â’r rhyngrwyd, gallwch barhau â’r prawf o’r un man ar ôl ichi ailgysylltu. Os byddwch yn colli tudalen y prawf, ewch yn ôl i’ch canolfan ceisiadau i’w hailagor.

Eich sgôr a’ch canlyniadau

Bydd sgôr yn cael ei rhoi ichi yn seiliedig ar nifer y cwestiynau a atebwyd a pha mor anodd oeddent, a chaiff eich sgôr ei chymharu â grŵp cynrychioladol o ymgeiswyr a fydd hefyd wedi sefyll y prawf.

Caiff eich sgôr ei chyflwyno fel canradd, a fydd yn dweud wrthych pa mor dda oedd eich perfformiad mewn perthynas â’r grŵp hwn. Er enghraifft, os mai 44 yw eich canradd, mae eich sgôr yn well na 44% o’r grŵp.

Caiff pob un o swyddi’r Gwasanaeth Sifil eu hysbysebu ar lefel benodol. Os byddwch yn llwyddo yn y prawf ar y safon isaf sy’n ofynnol ar gyfer y lefel swydd berthnasol, caiff neges ei hanfon atoch yn rhoi gwybod ichi.

Wedyn, bydd un o ddau beth yn digwydd:

  • os bydd angen sefyll unrhyw brofion ychwanegol, cewch wahoddiad i wneud hynny, neu
  • ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y prawf, bydd y recriwtiwr yn edrych ar sgôr pob ymgeisydd i benderfynu beth fydd y marc llwyddo ar gyfer y swydd. Bydd yn ystyried yr effaith ar grwpiau gwarchodedig, a’r nifer o wahoddiadau i’r cam nesaf.

Gall y recriwtiwr benderfynu codi’r marc llwyddo ar gyfer y swydd – os felly, cewch wybod am hynny a ph’un a ydych wedi llwyddo neu fethu ar y safon uwch.

Ni fydd bodloni’r gofynion prawf sylfaenol ar gyfer lefel swydd yn golygu bod sicrwydd y cewch gwahoddiad i barhau â’r broses ddethol.

Os na fyddwch yn llwyddo ar y safon isaf sy’n ofynnol ar gyfer lefel swydd, gallwch ailsefyll y prawf yn ystod unrhyw geisiadau yn y dyfodol.

Bancio scoriae

Os byddwch yn pasio prawf geiriol neu rifiadol ar y safon ofynnol neu’n uwch, bydd eich sgôr yn cael ei gadw ac ni fydd angen i chi ail-sefyll y prawf os gwnewch gais am swyddi yn y dyfodol yn yr un grŵp gradd (gwelwch esboniad o’r grwpiau, isod). Mae hyn oherwydd y bydd eich sgôr yn cael ei ail-ddefnyddio

Os na fyddwch yn pasio, nid oes angen i chi aros am gyfnod cyn sefyll y prawf eto am unrhyw swyddi y gwnewch gais amdanynt yn y dyfodol.

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd sy’n gofyn i chi sefyll prawf, bydd Swyddi’r Gwasanaeth Sifil yn gwirio a oes gennych sgôr prawf cymwys wedi ei gadw.

  • Os oes sgôr gennych - ni chewch eich gwahodd i’r prawf.
  • Os nad oes sgôr gennych - fe’ch gwahoddir i’r prawf, a bydd rhaid i chi ei sefyll.

Bydd sgôr a gedwir yn dod i ben pan fodlonir unrhyw un o’r amodau canlynol:

  • Bod chwe mis wedi mynd heibio ers sicrhau’r sgôr a gedwir
  • Mae meincnod sgôr newydd yn cael ei gosod ar gyfer y prawf
  • Mae gwaith technegol ar y platfform prawf yn digwydd sy’n effeithio ar sgoriau a gedwir

Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi sefyll y prawf eto.

Gallwch gadw sgôr ar y profion Geiriol neu Rifiadol dim ond ar gyfer grŵp lefel gradd y swydd y gwnaethoch gais amdani. Ar gyfer y profion hyn, mae’r lefelau gradd wedi eu grwpio fel a ganlyn:

  • Cynorthwyydd Gweinyddol (AA) a Swyddog Gweinyddol (AO)
  • Swyddog Gweithredol (EO)
  • Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) ac Uwch Swyddog Gweithredol (SEO)
  • Gradd 7 a Gradd 6

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am swydd ar lefel SEO ac yn pasio’r prawf, bydd eich sgôr a gedwir hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw swyddi ar lefel HEO rydych yn gwneud cais amdanynt tra bod y sgôr a gedwir yn dal i fod yn ddilys.

Lle nad oes gan Adran y Llywodraeth y graddau hyn, byddant yn dewis lefel briodol o brawf ar gyfer eu swydd wag.

Os gwnewch gadw sgôr ar brawf, ni fydd yn trosglwyddo rhwng profion.

Cael cymorth

Os byddwch yn colli mynediad yn ystod y prawf, mewngofnodwch i’ch canolfan ceisiadau i’w ail-lansio. Gallwch lansio’r prawf cynifer o weithiau ag y bo angen, ac nid oes rhaid i hyn fod ar yr un ddyfais.

Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chael problemau technegol wrth sefyll unrhyw brawf, cysylltwch â’ch tîm recriwtio – mae manylion cyswllt y tîm i’w gweld yn yr hysbyseb swydd, neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen gyswllt gyffredinol. Dylai cwestiynau am y swydd sy’n cael ei hysbysebu gael eu cyfeirio at yr unigolyn cyswllt yn yr hysbyseb.

Pan fyddwch yn gwneud cais, cewch gyfle i ddweud wrthym fod angen help arnoch gyda’ch cais, fel yr angen am addasiad rhesymol. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm recriwtio os bydd angen rhagor o help arnoch, neu os byddwch yn cael problemau hygyrchedd. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud addasiadau rhesymol, felly peidiwch â bod ofn gofyn am help os byddwch yn credu bod angen hynny arnoch.

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Addasiadau Rhesymol ar gyfer Profion Ar-lein - tudalen ganllaw i ymgeiswyr.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data

Caiff gwybodaeth bersonol ei chadw’n ddiogel yn Swyddi’r Gwasanaeth Sifil – ni all y cyflenwr profion ei gweld, a dim ond os byddwch yn dewis rhannu eich enw y caiff ei wybod.

Dim ond i ategu eich cais am swydd a gwerthuso effeithiolrwydd y prawf y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Am ragor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Published 23 March 2021
Last updated 18 August 2023 + show all updates
  1. Updated lead organisation: Government People Group

  2. Updated guidance on banked scores

  3. First published.