Canllawiau

Ein Gwaith

Amlinelliad o'r broses barôl

Ein cyfrifoldebau

Ein prif rôl yw penderfynu a yw carcharorion sy’n gwneud dedfrydau amhenodol, a’r rhai hynny sy’n gwneud dedfrydau penodol ar gyfer troseddau difrifol, yn parhau i gyflwyno risg arwyddocaol i’r cyhoedd.

Y prif achosion rydym yn eu harolygu yw’r rhai ar gyfer carcharorion yn gwneud:

  • dedfrydau oes a dedfrydau carcharu er amddiffyn y cyhoedd (IPP), o dan Ddeddf Troseddu (Dedfrydau) 1997, fel y’i diwygiwyd.
  • dedfrydau penodol estynedig (EDS), o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 [(fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr 2012)] ( http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/10/contents/enacted)
  • dedfrydau ar gyfer tramgwyddwyr sy’n peri pryder arbennig, gan gynnwys terfysgwyr a throseddwyr rhyw â phlant, o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015.

Rydym hefyd yn ystyried:

Asesiad Achos Aelod

Asesiad Achos Aelod, neu AAA (MCA), yw’r cam cyntaf yn y broses barôl. Ni allwn gychwyn adolygiad parôl carcharor nes i’w hachos gael ei gyfeirio atom gan Adran Gwaith Achos Diogelu’r Cyhoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Unwaith mae achos wedi ei gyfeirio atom, rydym yn derbyn coflen y carcharor o’r ddalfa lle cânt eu cadw. Casgliad o adroddiadau a thystiolaeth am y carcharor yw’r goflen. Yna bydd un aelod o’r Bwrdd Parôl yn adolygu’r goflen ac yn gwneud asesiad ar sail y dystiolaeth a gynhwysir ynddi. Mae pedwar deilliant posibl:

  • Mae’r aelod yn penderfynu bod angen gwrandawiad llafar i glywed tystiolaeth gan y carcharor wyneb yn wyneb
  • Penderfyniad negyddol, lle mae’r aelod yn penderfynu peidio â rhyddhau’r carcharor o’r ddalfa
  • argymhelliad i’w drosglwyddo i amodau agored (mewn rhai achosion yn unig y gellir gwneud hyn)
  • Ar gyfer rhai mathau o ddedfryd, gall yr aelod benderfynu rhyddhau carcharor ar sail gwybodaeth sydd yn y goflen.

Os caiff y carcharor benderfyniad negyddol, mae ganddynt 28 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i ofyn am wrandawiad llafar. Gall y carcharor neu eu cyfreithiwr wneud hyn trwy ysgrifennu atom. Os nad yw’r carcharor yn gofyn am wrandawiad llafar o fewn 28 diwrnod, bydd y penderfyniad yn un terfynol a byddant yn aros yn y ddalfa nes eu bod yn gymwys i gael adolygiad parôl arall neu’n cael eu rhyddhau’n awtomatig dan amodau eu dedfryd.

Gwrandawiadau Llafar

Mae gwrandawiad llafar yn digwydd pan fydd aelodau o’r Bwrdd Parôl yn clywed tystiolaeth gan garcharor wyneb yn wyneb a chan bobl broffesiynol sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa.

Pan benderfynir bod achos yn galw am wrandawiad llafar, bydd rheolwyr achos y Bwrdd Parôl yn cysylltu â’r holl dystion fydd yn y gwrandawiad (e.e. cyfreithiwr y carcharor, Rheolwr y Troseddwr ac Arolygwr y Troseddwr) i ganfod pryd byddant ar gael. Yna anfonir yr achos at ein Tîm Rhestrau i ganfod dyddiad pan fydd pob tyst ac aelodau o’r Bwrdd Parôl yn gallu bod yn bresennol, ac y gall y carchar ddarparu lle iddynt gwrdd.

Mewn rhai achosion efallai byddwn yn cysylltu â’r carcharorion i ofyn iddynt gytuno i gael gwyliwr yn eu gwrandawiad llafar. Gan amlaf mae hyn at ddibenion hyfforddi pobl sydd ynghlwm â’r broses barôl. Nid yw gwylwyr ynghlwm wrth y gwrandawiad llafar na’r broses o benderfynu. Mae gan garcharorion hawl bob tro i wrthod cael gwyliwr yn y gwrandawiad.

Gall panel gwrandawiad llafar gynnwys un, dau neu dri aelod o’r Bwrdd Parôl. Bydd ‘cadeirydd’ panel yno bod amser, yn gofalu am y gwrandawiad. Mewn rhai achosion bydd angen aelod arbenigol. Gallai hwn fod yn seicolegydd neu seiciatrydd.

Cyn dyddiad y gwrandawiad, bydd cadeirydd y panel yn adolygu coflen y carcharor ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar y panel, ym marn y cadeirydd, er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad.

Weithiau, yn lle teithio i’r carchar, bydd y panel wedi eu lleoli yn Hyb y Parôl yn Llundain a byddant yn cynnal y gwrandawiad trwy gyswllt fideo. Mae hyn yn golygu bod tysion yn y carchar yn gweld y panel ar sgriîn deledu.

Cyflwynir penderfyniad ysgrifenedig o fewn 2 wythnos i ddyddiad y gwrandawiad. Pan fydd rheolwr achos y Bwrdd Parôl yn derbyn y penderfyniad oddi wrth gadeirydd y panel, byddant yn ei rannu gyda’r carcharor trwy eu dalfa a’r holl bartïon eraill sydd â buddiant (e.e. cyfreithiwr y carcharor a’u Rheolwr Troseddwr). Os bydd y carcharor yn cael ei ryddhau bydd Adran Gwaith Achos Diogelu’r Cyhoedd yn cadarnhau amodau eu trwydded (gweler y Canllawiau Amodau Trwydded am wybodaeth bellach). Os nad yw’r carcharor yn mynd i gael ei ryddhau, bydd Adran Gwaith Achos Diogelu’r Cyhoedd yn cadarnhau dyddiad yr adolygiad nesaf.

Cyhoeddwyd ar 21 May 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2019 + show all updates
  1. Cynllun Iaith Gymraeg Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth am barôl yn Gymraeg a Saesneg, erbyn hyn rydym wedi diweddaru nifer o adrannau ar ein tudalennau gwe i'r ddwy iaith. Welsh Language Scheme As part of our commitment to providing information about parole in English and Welsh we have now updated a number of sections on our web pages into both languages.

  2. First published.