Gwneud datganiad cryno cyn cyrraedd
Gwnewch ddatganiad cryno cyn cyrraedd os ydych yn symud nwyddau i mewn i Brydain Fawr, i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, neu i mewn i Ogledd Iwerddon o wledydd y tu allan i’r UE.
Mae angen i chi wneud datganiad cryno cyn cyrraedd os ydych yn cludo nwyddau i’r cyrchfannau canlynol:
-
Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)
-
Gogledd Iwerddon, o Brydain Fawr neu o wledydd y tu allan i’r UE
Mae rhai nwyddau wedi’u hepgor rhag gorfod cyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd. Mae hyn yn cynnwys nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr. Darllenwch lawlyfr technegol y tollau (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon
-
nwyddau nad oes angen cyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd ar eu cyfer
Mae angen i chi wneud eich datganiadau cyn i’ch nwyddau gyrraedd. Gallwch gyflwyno datganiadau hyd at 200 diwrnod ymlaen llaw.
Pwy sy’n gallu cyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd
Fel y cludwr sy’n symud y nwyddau, chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y datganiad cryno cyn cyrraedd yn cael ei gyflwyno.
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
cyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd eich hun
-
defnyddio trydydd parti i’w cyflwyno ar eich rhan, fel asiant tollau (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych yn defnyddio trydydd parti i gyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd:
-
ni ddylai’r trydydd parti gyflwyno unrhyw ddatganiadau heb i chi wybod a heb gytundeb contractiol
-
ni ddylech gyflwyno datganiadau eich hun ar gyfer yr un llwyth
Os byddwch chi a thrydydd parti yn cyflwyno datganiadau ar gyfer yr un cargo, gall yr awdurdodau tollau benderfynu gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
defnyddio’r ddau ddatganiad ar gyfer eu dadansoddiad risg diogelwch
-
derbyn y datganiad rydych chi wedi’i wneud, yn hytrach na’r datganiad gan drydydd parti
Dylai mwy nag un person fod yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau CThEF rydych wedi cofrestru ar eu cyfer. Bydd hyn yn helpu i atal problemau a allai oedi eich datganiadau (er enghraifft, os bydd prif weinyddwr i ffwrdd, neu wedi gadael y cwmni). Darllenwch ragor am sut i reoli gwasanaethau ac aelodau’r tîm.
Darllenwch lawlyfr technegol y tollau (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu mwy am bartïon eraill sy’n gallu cyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd.
Meddalwedd sy’n cydweddu
Nid oes gan wasanaethau Diogelwch ym Mhrydain Fawr (S&S GB) a System Rheoli Mewnforion 2 (ICS2) ryngwynebau defnyddwyr. Mae hyn yn golygu y bydd arnoch angen meddalwedd sy’n cydweddu i gyflwyno eich datganiad fel neges XML (eXtensible Markup Language).
Gallwch ddewis i wneud y canlynol:
-
prynu meddalwedd sy’n cydweddu (yn agor tudalen Saesneg) o restr o ddarparwyr
-
defnyddio Darparwr System Gymunedol (yn agor tudalen Saesneg)
Gallwch hefyd benderfynu datblygu meddalwedd sy’n cydweddu yn fewnol. Bwriwch olwg dros hwb datblygu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Gwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiad cryno cyn cyrraedd
Mae angen i chi ddarparu dogfennau a thrwyddedau i fewnforio eich nwyddau. Gall hyn gynnwys:
-
bil llwytho
-
bil teithrestr awyr
-
anfoneb fasnachol
Mae hyn yn berthnasol i’r holl wasanaethau a restrir yn yr adrannau canlynol.
Symud nwyddau i mewn i Brydain Fawr
Gwasanaeth Diogelwch ym Mhrydain Fawr (S&S GB)
Mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth S&S GB i gyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd ar gyfer mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr.
Cyn i chi allu cofrestru ar gyfer S&S GB, bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.
Os nad yw’ch busnes wedi’i sefydlu ym Mhrydain Fawr, bydd arnoch angen rhif EORI sy’n dechrau gyda ‘GB’. Dysgwch sut i gael rhif EORI.
Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer gwasanaeth S&S GB, a pha ddogfennau a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch i wneud hynny.
Gwybodaeth arall y bydd ei hangen arnoch
Er mwyn cyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd ar gyfer mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr, bydd arnoch angen gwybodaeth am y canlynol:
-
o ble y mae’ch nwyddau’n dod
-
ble a phryd y byddant yn cyrraedd Prydain Fawr — gwiriwch y cod lleoliad S&S GB ar gyfer y porthladd mynediad (yn agor tudalen Saesneg)
-
gan bwy mae’r nwyddau’n cael eu hanfon, ac i bwy maen nhw’n mynd
Symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr neu o wledydd y tu allan i’r UE
Os ydych yn symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr neu o wledydd y tu allan i’r UE, mae angen i chi gyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd, a elwir hefyd yn ‘datganiad diogelwch’.
Bydd angen datganiadau cryno cyn cyrraedd ar gyfer symud rhai parseli o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor.
Dysgwch ragor am anfon parseli rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor (yn agor tudalen Saesneg).
Er mwyn gwneud datganiadau cryno cyn cyrraedd ar gyfer nwyddau sy’n symud i mewn i Ogledd Iwerddon, bydd angen i chi ddefnyddio un o’r gwasanaethau canlynol:
-
System Rheoli Mewnforion ar gyfer Gogledd Iwerddon (ICS NI)
-
System Rheoli Mewnforion 2 (ICS2), sy’n disodli ICS NI
Bydd arnoch angen y naill neu’r llall o’r canlynol hefyd:
-
rhif EORI sy’n dechrau gyda ‘XI’
-
rhif EORI a gyhoeddwyd gan aelod-wladwriaethau’r UE
Dysgwch sut i gael rhif EORI.
Y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr
Os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr i gyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd, gallwch barhau i wneud hyn. Nid oes angen i chi gofrestru i ddefnyddio ICS2.
Gallwch gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr gan ddefnyddio eu gwefan. Gall y gwasanaeth hwn lenwi datganiadau cryno cyn cyrraedd ar eich rhan.
Pryd i ddefnyddio ICS2
Bydd angen i chi ddefnyddio ICS2 i wneud datganiadau cryno cyn cyrraedd:
-
o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
-
o wledydd y tu allan i’r UE i Ogledd Iwerddon
-
o Brydain Fawr i’r UE, os oes gennych XI EORI
Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- enw’ch cwmni
- cyfeiriad eich cwmni
- eich rhif EORI
- eich rôl yn y broses ICS2 (er enghraifft, cludwr awyr, gweithredwr post, gweithiwr sy’n ffeilio ar lefel tŷ)
- dyddiadau’r ffenestr defnyddio
- y dyddiad yn y ffenestr hon pan y byddwch yn disgwyl dechrau defnyddio ICS2
Cysylltwch â ni am hyn drwy e-bost: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu ics.helpdesk@hmrc.gov.uk.
Cofrestru ar gyfer ICS2
Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer System Rheoli Mewnforion 2 (yn agor tudalen Saesneg), a pha ddogfennau a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch i wneud hynny.
Darllenwch ragor ynghylch:
- anfon parseli i Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
- gwneud datganiad cryno cyn cyrraedd gan ddefnyddio ICS2 (yn agor tudalen Saesneg)
Porthladdoedd Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS)
Os ydych yn symud nwyddau i mewn i Brydain Fawr, does dim rhaid i chi gynnwys cyfeirnodau datganiad cryno cyn cyrraedd yn y GVMS, ond gallwch ddewis gwneud hynny.
Os ydych yn symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon, dylech gynnwys cyfeirnodau eich datganiad cryno cyn cyrraedd yn y GVMS..
Os ydych yn cynnwys y cyfeirnodau hyn yn y GVMS, bydd angen i chi gyflwyno’ch datganiad cryno cyn cyrraedd erbyn y dyddiad cynharaf o’r canlynol:
- y gofyn isaf o ran amser
- cyn i’r broses gofrestru gau
Darllenwch ragor am symud nwyddau drwy borthladdoedd GVMS (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi wneud eich datganiad
Ar ôl i ni dderbyn eich datganiad cryno cyn cyrraedd, byddwn yn rhoi Cyfeirnod Symud i chi, gan ddefnyddio’r gwasanaeth S&S GB neu ICS2.
Bydd Tollau’r DU yn asesu risg eich datganiad ac yn defnyddio’r canlyniadau i nodi’r canlynol:
- mewnforion y mae Tollau’r DU am eu rheoli pan fyddan nhw’n cyrraedd
- llwythi y mae Tollau’r DU am eu hatal rhag cael eu llwytho ar long (ar gyfer cargo morol mewn cynwysyddion dwfn yn unig)
Mae’n rhaid i’ch datganiad fod yn gyflawn ac yn gywir, ac mae’n rhaid i chi ei gyflwyno o fewn y terfynau amser cyfreithiol. Bydd hyn yn lleihau unrhyw oedi pan fydd eich nwyddau’n cyrraedd y tollau.
Bydd CThEF a Llu’r Ffiniau yn gweithio gyda chludwyr i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’ch ymrwymiadau. Byddwn yn rhoi cymorth i chi er mwyn cydymffurfio, os bydd ei angen arnoch. Darllenwch lawlyfr technegol y tollau (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau o ran cyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd.
Negeseuon ‘Peidiwch â llwytho’
Ar gyfer cludo nwyddau mewn cynwysyddion dwfn, gall y system gyflwyno neges ‘Peidiwch â llwytho’ (a elwir weithiau’n ‘Hysbysiad Ymyrraeth Ymlaen Llaw IE351’) i bwy bynnag sy’n cyflwyno’r datganiad.
Os gwnaeth trydydd parti gyflwyno’r datganiad ar eich rhan, byddwn yn rhoi gwybod i chi hefyd, cyn belled â bod y trydydd parti wedi rhoi’r manylion canlynol yn y datganiad:
- eich rhif EORI, fel y cludwr ar y môr
- rhif eich dogfen gludiant, fel y cludwr ar y môr
Gallwch nodi’r llwyth yr effeithir arno gan ddefnyddio rhifau’r cynhwysydd a’r ddogfen gludiant yn y datganiad. Bydd Llu Ffiniau’r DU yn cysylltu â chi i roi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf.
Diwygio datganiad yn y gwasanaethau S&S GB ac ICS2
Mae’n rhaid i’ch datganiad fod yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf eich gwybodaeth, pan fyddwch yn ei gyflwyno. Os bydd unrhyw fanylion yn newid, neu os ydych chi wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau, mae’n rhaid i chi newid eich datganiad cyn i’r nwyddau gyrraedd eu cyrchfan.
Dylai’r diwygiad gynnwys holl ddata’r datganiad gwreiddiol, ond dylai unrhyw wybodaeth sydd wedi newid gael ei throsysgrifo gan y diwygiadau.
Gallwch newid rhai manylion y datganiad, ond nid yr holl fanylion. Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r manylion canlynol:
- y person sy’n cyflwyno’r datganiad
- y cynrychiolydd
Gallwch ddiwygio’r swyddfa dollau sy’n derbyn nwyddau a gludir am y tro cyntaf, ond dim ond os yw’r swyddfa newydd hefyd yn yr un gyrchfan. Er enghraifft, os oedd y swyddfa wreiddiol ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i’r swyddfa ddiwygiedig hefyd fod ym Mhrydain Fawr.
Canslo datganiad yn y gwasanaethau S&S GB ac ICS2
Gallwch ddiwygio datganiad cryno cyn cyrraedd, ond ni allwch ei ganslo. Os byddwch yn gwneud datganiad, ond yn dewis peidio â chludo’r nwyddau, does dim angen i chi gymryd unrhyw gamau i ganslo’r datganiad.
Cael help a chymorth
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r canlynol:
- gwasanaeth S&S GB (yn agor tudalen Saesneg)
- ICS2 (yn agor tudalen Saesneg)
- ICS NI (yn agor tudalen Saesneg)
Problemau gyda’ch cyfrif neu broblemau wrth gofrestru
Os na allwch fewngofnodi i wasanaeth S&S GB neu ICS NI oherwydd problemau gyda’ch cyfrinair neu’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch gael help gyda gwasanaethau ar-lein CThEF, fel:
- ailosod y cyfrinair
- ailosod manylion adnabod
- codau dilysu defnyddiwr
Os na allwch gyflwyno datganiadau
Cysylltwch â desg gymorth ICS (yn agor tudalen Saesneg) i gael cymorth technegol gyda gwasanaethau S&S GB, ICS NI neu ICS2.
Os ydych wedi cyflwyno datganiad ond heb gael ymateb, bydd angen i chi ddarparu eich Cyfeirnod Lleol (LRN). Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i’ch datganiad.
Os ydych wedi cael neges gwrthod neu neges gwall a ddim yn siŵr pa feysydd data i’w cywiro, dylech ddarparu copi o’r neges datganiad XML a’r cod gwall.
Elfennau data ar gyfer datganiadau cryno cyn cyrraedd
Yn y taenlenni hyn:
- Mae ‘An’ yn golygu alffaniwmerig
- Mae ‘A’ yn golygu alffa
- Mae ‘N’ yn golygu rhifol
- Mae ‘A2’ yn golygu 2 gymeriad alffa yn unig (fel arfer mae rhestrau cod ar gael i gyd-fynd â’r rhain)
- Mae ‘An.#’ yn golygu hyd at # o gymeriadau (er enghraifft, mae An.7 yn golygu hyd at 7 cymeriad alffaniwmerig)
Ar gyfer y gwasanaeth S&S GB
.
Mae’r daenlen hon yn egluro pa elfennau data sy’n orfodol, yn amodol neu’n ddewisol. Mae hefyd yn esbonio’r canlynol:
- y lefelau gofynnol o ddata
- pryd i ddarparu elfennau data amodol
Ar gyfer y gwasanaeth ICS NI
.
Mae’r elfennau data ar gyfer ICS NI dim ond yn cwmpasu symudiadau ffyrdd a rheilffyrdd.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
The new arrangements set out in the Windsor Framework have now been implemented.
-
The new arrangements set out in the Windsor Framework have now been implemented.
-
The file 'Entry summary declaration data elements for the S&S GB service' has been updated with new information about trailer registration.
-
The temporary waiver on making safety and security (S&S) declarations for goods imported from the EU has ended. The file 'Entry summary declaration data elements for the S&S GB service' has been updated. Links to the Customs Technical Handbook have been added.
-
Information about when to register and use Import Control System 2 to make an entry summary declaration for different modes of transport have been added.
-
The waiver for import requirements for goods from the EU (and other territories that did not have requirements before 1 January 2021) has been extended until 31 January 2025.
-
Information about when to submit your declaration has been updated to include the time limits for goods being shipped by roll on roll off (RoRo) shipping and through the Channel Tunnel.
-
Sections about who should submit an entry summary declaration have been removed from this guidance.
-
Fixed inaccurate link to Article 104 of the retained Commission Delegated Regulation (EU) 2015/2446.
-
Added information to show arrangements for movements from Ireland and Northern Ireland and Great Britain are changing from 31 October 2024.
-
To submit an entry summary declaration of imports into Great Britain, you will need to know the S&S GB location code for the port of entry.
-
A link to a new draft border target operating model of controls has been added in the ‘Before you submit a declaration’ section of the guidance.
-
The section 'Before you submit a declaration' has been updated with information on when the new import controls regime will be introduced. When using the Goods Vehicle Movement Service, the inclusion of any safety and security declaration reference numbers is an optional step.
-
Guidance has been updated to explain that you do not need to make an entry summary declaration for goods imported from the EU and other territories from which a declaration was not required before 1 January 2021.
-
The dates to make an entry summary declaration for goods imported into Great Britain from the EU have been updated.
-
The date when you will need to start submitting safety and security declarations for imports into Great Britain from some countries has changed from 1 July 2021 to 1 January 2022.
-
Updated to include information about short straits sea journeys into Northern Ireland.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
First published.