Cysylltu'r ap GOV.UK ID Check i GOV.UK
Sut i gysylltu'r ap GOV.UK ID Check i'r wefan os ydych angen profi eich hunaniaeth wrth gael mynediad at rai gwasanaethau CThEF.
Mae’r ap GOV.UK ID Check ar gyfer profi eich hunaniaeth pan fyddwch yn:
- cael mynediad i rai gwasanaethau CThEF gyda Phorth y Llywodraeth
- angen newid sut rydych yn cael codau diogelwch i fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login
Sut i gysylltu’r ap GOV.UK ID Check
Mae angen i chi gysylltu’r ap GOV.UK ID Check â gwefan GOV.UK cyn y gallwch ei ddefnyddio i brofi eich hunaniaeth.
Fel arfer mae’r ap yn cysylltu â GOV.UK yn awtomatig. Os nad yw hyn yn gweithio gallwch geisio cysylltu’r ap â llaw yn lle hynny.
- Agorwch yr ap a thapiwch y botwm Parhau.
- Tapiwch Parhau eto os gofynnir i chi ddefnyddio ‘GOV.UK’ i fewngofnodi. Bydd hyn yn agor sgrin newydd.
- Tapiwch y botwm Cysylltu ap i barhau.
Mae beth sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar ba ddyfais rydych yn ei defnyddio
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled
Bydd angen i chi sganio cod QR arall i gysylltu’r ap
Mae hyn yn is i lawr ar yr un dudalen â’r cod QR y gwnaethoch ei sganio i lawrlwytho’r ap. Efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i’w weld.
Os ydych wedi cau’r ffenestr neu dab roeddech yn ei defnyddio i edrych ar y dudalen hon, ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych eisiau ei ddefnyddio a cheisiwch brofi eich hunaniaeth eto.
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar
Defnyddiwch newidiwr ap eich ffôn i adael yr ap a mynd yn ôl i’ch porwr gwe. Gwnewch yn siŵr rydych yn agor yr un porwr gwe gwnaethoch ei ddefnyddio pan ddechreuoch chi geisio profi eich hunaniaeth.
Tapiwch y botwm Cysylltu GOV.UK ID Check. Efallai y bydd angen i chi sgrolio i lawr i’w weld.
Gwirio eich bod wedi dechrau defnyddio gwasanaeth y llywodraeth
Gallwch ond defnyddio’r ap GOV.UK ID Check os ydych wedi cael eich tywys i’w ddefnyddio gan wasanaeth y llywodraeth rydych yn ceisio cael mynediad iddo.
Mae’r ap GOV.UK ID Check ar gyfer profi eich hunaniaeth pan fyddwch yn:
- cael mynediad i rai gwasanaethau CThEF gyda Phorth y Llywodraeth
- angen newid sut rydych yn cael codau diogelwch i fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login
Gwirio bod yr ap yn gweithio ar eich ffôn clyfar
Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio naill ai:
- iPhone 8 neu’n fwy newydd ac yn rhedeg ar iOS 16.7 neu’n uwch gyda Safari, Chrome neu Firefox fel eich porwr gwe diofyn
- ffôn Android (er enghraifft Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg ar 10 neu’n uwch gyda Chrome neu Firefox fel eich porwr gwe diofyn
Gwiriwch nad yw eich porwr gwe mewn dull preifat
Gwnewch yn siŵr nad ydych yn edrych ar GOV.UK mewn ffenestr preifat yn eich porwr gwe. Gelwir hyn yn ‘Incognito’ yn Chrome.
Ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio a dechreuwch eto
- Caewch bob ffenestr neu dab sydd gennych ar agor.
- Agorwch ffenestr neu dab newydd yn eich porwr gwe ac ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio.
- Ceisiwch brofi eich hunaniaeth eto - byddwch yn cael eich tywys i’r ap pan fydd hi’n amser ei ddefnyddio.
Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.
Updates to this page
-
You should now use the GOV.UK One Login app to prove your identity with GOV.UK One Login. The GOV.UK ID Check app is mainly for accessing HMRC services with Government Gateway.
-
Updated the iOS version and iPhone model that users need to use the app. You must now have an iPhone 8 or newer and running iOS 16.7 or higher.
-
If you're using an iPhone, you now need iOS 15 or higher to use the GOV.UK ID Check app.
-
Updated to clarify that the GOV.UK Check ID app works on phones that have Firefox as their default web browser.
-
Expanded the guidance to include additional context for users who might come directly to this guidance from the app itself.
-
Added translation