Canllawiau

Sut mae CThEF yn ymgynghori â Busnesau Mawr

Dysgwch sut mae CThEF yn gweithio gyda chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr yn y DU.

Ymgynghori â chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr

Mae CThEF yn ymgysylltu â chwsmeriaid sy’n fusnesau mawr drwy sawl fforwm.

Y Fforwm Treth Busnes

Mae’r Fforwm Treth Busnes (yn agor tudalen Saesneg)  yn grŵp lefel strategol, sy’n bodoli i wella gweithrediad y system dreth ar gyfer CThEF ac ar gyfer busnesau mawr.

Y Fforwm Corfforaethau Mawr

Fforwm Corfforaethau Mawr (yn agor tudalen Saesneg) sy’n ategu’r Fforwm Treth Busnes ac sy’n darparu cyfathrebiad uniongyrchol, llai ffurfiol rhwng y Gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr a’n cwsmeriaid.

Grŵp y 6 Asiantau Treth Mawr

Rydym yn cwrdd ag uwch gynrychiolwyr o asiantau treth mwyaf y DU i feithrin dealltwriaeth ac i wella gweithrediad y system dreth ar gyfer CThEF, asiantau a’r busnesau y maent yn eu gwasanaethu.

Y Cydbwyllgor Ymgynghorol TAW

Mae CThEF yn cyfarfod â nifer o aelod-sefydliadau o fewn y Cydbwyllgor Ymgynghorol TAW (yn agor tudalen Saesneg), 4 gwaith y flwyddyn, i drafod gweithdrefnau a gweithrediadau TAW. Mae hyn yn helpu i gynyddu ein dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid.

Fforymau Atal Twyll

Mae CThEF yn darparu ‘man diogel’ ar gyfer addysg strategol gyda ffocws ar Droseddau Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg), osgoi treth a thueddiadau cyllidol anghyfreithlon ehangach.

Ar hyn o bryd mae fforymau sefydledig yn cynnwys fforymau atal twyll ar gyfer bancio, yswiriant ac adeiladu.

Arolwg o Fusnesau Mawr

Mae CThEF yn cynnal yr Arolwg o Fusnesau Mawr bob blwyddyn. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â’r Pennaeth Treth neu’r Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer eich busnes er mwyn eich gwahodd i gymryd rhan.

Mae hwn yn gyfle i chi rhoi’ch barn i ni am CThEF a’ch lefel o foddhad gyda’n gwasanaethau.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn eich gwahodd am gyfweliad dilynol i drafod eich ymatebion i’r arolwg. Os byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r arolwg, bydd eich ymatebion yn ddienw.

Cynhaliwyd arolygon blaenorol gan yr asiantaeth ymchwil annibynnol IFF Research. Disodlwyd yr Arolwg Panel o Fusnesau Mawr gan yr Arolwg o Fusnesau Mawr yn 2015.

Yr Arolwg Cwsmeriaid Busnes Mawr 2022 (yn agor tudalen Saesneg)

Yr Arolwg Cwsmeriaid Busnes Mawr 2021 (yn agor tudalen Saesneg)

Yr Arolwg Cwsmeriaid Busnes Mawr 2020 (yn agor tudalen Saesneg)

Yr Arolwg Cwsmeriaid Busnes Mawr 2019 (yn agor tudalen Saesneg)

Yr Arolwg Cwsmeriaid Busnes Mawr 2018 (yn agor tudalen Saesneg)

Cyhoeddwyd ar 10 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2024 + show all updates
  1. A Welsh language version of this content has been added.

  2. Framework for co-operative compliance section has been added.

  3. Page title updated. Objectives of the strategy clarified. Added updated sections on Business Risk Reviews, large business consultation forums and the Large Business Survey, combining information from other pages. What HMRC Will Deliver section removed, as outdated.

  4. First published.