Canllawiau

Sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau

Mae'r Bwrdd Parôl yn penderfynu a all carcharorion sydd wedi cael mathau penodol o ddedfryd gael eu rhyddhau.

Sut mae’r Bwrdd Parôl yn gwneud ei benderfyniadau?

Mae’r Bwrdd Parôl yn penderfynu a all carcharorion sydd wedi cael mathau penodol o ddedfryd gael eu rhyddhau. Mae’r dedfrydau mae’r Bwrdd Parôl yn delio â hwy yn cynnwys dedfrydau o garchar am oes, dedfrydau amhenodol er mwyn diogelu’r cyhoedd, rhai dedfrydau penodol ac achosion galw yn ôl (sy’n golygu bod y troseddwr wedi ei ryddhau cynt ond yn dilyn hyn mae wedi dychwelyd i’r carchar). At hyn, gall y Bwrdd Parôl gynghori ar symud rhai carcharorion o garchar caeëdig i garchar agored.

Mae’r broses barôl yn astrus. Gan amlaf mae’n cymryd 6 mis, ond weithiau gall gymryd mwy o amser. Mae cam cyntaf pob adolygiad parôl yn cynnwys adolygiad o goflen y carcharor gan un aelod o’r Bwrdd Parôl. Casgliad o ddogfennau ynghylch y carcharor yw’r goflen, yn cynnwys adroddiadau a gwybodaeth am eu troseddu, y cynnydd a wnaed yn y ddalfa a’u cynllun rheoli risg. Gan ddefyddio’r holl wybodaeth yn y goflen, bydd yr aelod yn penderfynu a yw’r achos yn galw am wrandawiad llafar neu’n rhoi penderfyniad negyddol. Mewn rhai achosion, gall yr aelod argymell trosglwyddo i amodau agored ac mewn ambell fath o ddedfryd gallant ryddhau carcharor ar sail gwybodaeth yn y goflen.

Os bydd angen gwrandawiad llafar, caiff hyn ei gynnal gan y panel. Gall y panel gynnwys un, dau neu dri aelod. Byddant yn cwrdd â’r carcharor a thystion eraill a fydd yn rhoi tystiolaeth am y risg y mae’r carcharor yn ei gyflwyno.

Mae’r broses o benderfynu yn astrus, gyda llawer o ffactorau gwahanol i’w hystyried. Ni fydd pob penderfyniad a wneir gan yr aelodau yn boblogaidd er iddynt barhau mor deg a gwrthrychol ag y medrant. Byddant yn ystyried ystod eang o dystiolaeth cyn dod i benderfyniad, gan gynnwys y dystiolaeth wreiddiol ynghylch y drosedd, sylwadau adeg y dedfrydu a thystiolaeth o newid mewn ymddygiad ac agwedd wrth i’r troseddwr gwblhau rhaglenni tra yn y ddalfa.

Beth mae aelodau o’r Bwrdd Parôl yn ei ystyried?

Er mwyn asesu’r risg mae troseddwr penodol yn ei gyflwyno, mae aelodau yn chwilio am dystiolaeth bod eu hymddygiad wedi newid ers i’w trosedd gael ei chyflawni. Gall y materion dan ystyriaeth gynnwys:

  • Beth ynghylch eu sefyllfa oedd wedi arwain at ymddygiad troseddol? Ydyn nhw wedi mynd i’r afael â’r materion hynny?
  • Os oedd ganddynt ffordd ddryslyd o fyw cynt (e.e. camddefnyddio cyffuriau neu alcohol) ydyn nhw wedi gweithio i fynd i’r afael â hyn?
  • Sut mae’r troseddwr yn bwriadu ymdopi yn y gymuned? Mae aelodau yn edrych ar y cynllun rheoli risg am fanylion ynghylch lle maent yn bwriadu byw, pa fath o gefnogaeth fydd ar gael iddynt gan eu teulu a’u ffrindiau ac a fydd ganddynt waith.
  • Sut fath o berthynas sydd rhyngddynt a’u Rheolwr Troseddwyr? A fyddant yn onest ac agored gyda nhw ynghylch unrhyw faterion sy’n codi pan fyddant wedi eu rhyddhau?

Os yw’r panel yn penderfynu y dylid rhyddhau troseddwr, nid yw hyn yr un peth â dweud nad yw ef neu hi bellach yn cyflwyno risg. Fodd bynnag, efallai bod eu risg wedi lleihau i lefel sydd yn ddigon bach i gael ei reoli’n effeithiol yn y gymuned, ac ni fydd y panel yn argymell rhyddhau nes byddent yn yn teimlo bod hynny’n bosibl.

Deilliannau Posibl o Wrandawiad Parôl

Mae tri deilliant posibl o wrandawiad parôl: * Rhyddhau - unwaith mae’r Bwrdd Parôl wedi gorchymyn rhyddhau carcharor, y Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd yn gwneud y trefniadau. * Amodau Agored - gall y Bwrdd Parôl argymell bod carcharor yn symud i garchar agored; er hyn y Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. * Adolygiad Pellach (gelwir hyn yn knockback weithiau yn Saesneg) - dan y ddeddfwriaeth gyfredol, bydd y carcharor yn gymwys am adolygiad pellach o fewn dwy flynedd. Gosodir dyddiad yr adolygiad nesaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyhoeddwyd ar 28 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2019 + show all updates
  1. First published.

  2. Cynllun Iaith Gymraeg: Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth am barôl yn Gymraeg a Saesneg, erbyn hyn rydym wedi diweddaru nifer o adrannau ar ein tudalennau gwe i'r ddwy iaith. Welsh Language Scheme: As part of our commitment to providing information about parole in English and Welsh we have now updated a number of sections on our web pages into both languages.