Sut mae tafarnau yn cael eu prisio
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer tafarnau.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae tafarnau yn cael eu prisio
Gwyliwch fideo ar sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn asesu tafarnau ar gyfer ardrethi busnes.
Sut yr ydym yn asesu tafarnau ar gyfer ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r VOA fel arfer yn cyfrifo gwerth ardrethol tafarnau gan ddefnyddio masnach gynaliadwy deg, sef ‘fair maintainable trade’ (FMT). Dyma’r lefel flynyddol o fasnach (heb gynnwys TAW) y mae disgwyl i’ch tafarn ei chyflawni os yw’n cael ei rhedeg mewn ffordd resymol o effeithlon. Mae’n seiliedig ar ffactorau megis:
-
manylion a phatrymau eich masnach
-
dyluniad a lleoliad eich tafarn
-
y gwasanaethau y mae’n ei chynnig, er enghraifft bwyd, gemau neu ddangos chwaraeon ar sgrîn
-
unrhyw incwm a wnewch o letya
Yna rydym yn cymhwyso canran i gyfrifo’r gwerth ardrethol, yn seiliedig ar:
-
yr arddull gweithredu
-
costau gweithredu
-
proffidioldeb
Gallwch ddod o hyd i’r canrannau yng nghanllaw cymeradwy prisio tafarnau (yn agor tudalen Saesneg) y VOA.
Mae’r VOA wedi cytuno ar y dull prisio FMT a’r canrannau a ddefnyddiwn gyda chyrff y diwydiant.
Gwerthoedd ardrethol 2026
Mae gwerth ardrethol yn asesiad o’r hyn y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn, ar ddyddiad penodol a elwir yn Ddyddiad Prisio Rhagflaenol, sef ‘Antecedent Valuation Date’ (AVD).
Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2023. Roedd yn seiliedig ar yr AVD 1 Ebrill 2021.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Ebrill 2026. Mi fydd yn seiliedig ar yr AVD 1 Ebrill 2024.
Ar yr AVD 1 Ebrill 2021, cafodd tafarnau eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o dafarnau wedi cael gwerthoedd ardrethol llawer is yn ailbrisiad 2023 nag y byddent wedi’u derbyn fel arall. Mae cynnydd mewn gwerthoedd ardrethol yn ailbrisiad 2026 yn adlewyrchu’r cynnydd yn masnach tafarnau ers 2021.
Nid eich gwerth ardrethol yw’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu. Mae cynghorau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.