Canllawiau

Fframwaith CThEF ar gyfer cydymffurfiad cydweithredol

Set o egwyddorion y dylai busnesau mawr a CThEF eu cymhwyso i’r ffordd y maent yn gweithio.

Beth yw’r fframwaith

Y fframwaith ar gyfer cydymffurfiad cydweithredol yw’r set o egwyddorion y dylai busnesau mawr a CThEF eu cymhwyso i’r ffordd y maent yn gweithio. Defnyddir y fframwaith fel rhan o ddull o weithredu presennol CThEF o ran rheoli risg dreth busnesau mawr.

Bydd CThEF yn ystyried bod parhau i gydymffurfio â’r fframwaith yn ddangosydd ymddygiad risg is, a bod peidio â chydymffurfio â’r fframwaith yn ddangosydd ymddygiad risg uwch.

Cydymffurfiad cydweithredol

Datblygwyd y term “cydymffurfiad cydweithredol” gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i ddisgrifio’r broses lle mae awdurdodau treth yn ceisio rheoli risg gyda chwsmeriaid mawr a chymhleth.

Mae’r OECD yn datgan yn glir fod dull cydymffurfio cydweithredol yn seiliedig ar gydweithredu ond gyda’r pwrpas o sicrhau cydymffurfiad, sef “talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg iawn”.

Mae’r gwaith amser real o ran materion Gosod Pris Trosglwyddo (y tu hwnt i Gytuno Prisiau Ymlaen Llaw (APA), y Weithdrefn Cytuno ar y Cyd (MAP) neu ymholiadau ffurfiol) yn cael ei lywodraethu gan arweiniad yn ein Llawlyfr Rhyngwladol ar INTM480540 (yn agor tudalen Saesneg) a INTM480550 (yn agor tudalen Saesneg).

Cydymffurfiad cydweithredol proffesiynol

Dylai’r ddau barti wneud y canlynol:

  • hyrwyddo perthynas broffesiynol a chydweithredol sy’n seiliedig ar egwyddorion tryloywder ac ymddiriedaeth gyfiawn
  • cymryd rhan mewn deialog agored ac amserol i drafod cynllunio treth, strategaeth, risgiau a busnesau a thrafodion sylweddol, er mwyn datgelu’n llawn unrhyw ansicrwydd sylweddol mewn perthynas â materion treth
  • ymateb i ymholiadau, ceisiadau am wybodaeth a cheisiadau clirio mewn modd amserol
  • sicrhau bod y parti arall yn cael gwybod sut mae’r materion yn datblygu, yn enwedig y rhai sy’n gymhleth neu’n anodd
  • ceisio datrys problemau cyn i Ffurflenni Treth gael eu cyflwyno lle bo hynny’n bosibl

Dylai busnesau wneud datgeliadau teg a chywir mewn Ffurflenni Treth, adroddiadau a dogfennau a gyflwynir i CThEF, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Anghydfodau ac anghytundebau

Dylai’r ddau barti weithio’n rhagweithiol gyda’i gilydd, yn unol ag amserlenni cytunedig, i ddatrys anghydfodau treth.

Bydd CThEF bob amser yn gweithio yn unol â’r Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo (yn agor tudalen Saesneg). Pan fydd angen troi at Dribiwnlys i ddatrys anghydfodau treth, dylai’r ddau barti gynnal perthynas waith broffesiynol drwy gydol y broses.

lai busnesau ddefnyddio llwybr uwchgyfeirio cyhoeddedig CThEF pan fo anghytundebau eraill yn codi rhwng y ddau barti ac na ellir dod o hyd i ateb rhesymol.

Llywodraethu busnes a chynllunio treth

Dylai busnesau:

  • fod yn agored ac yn dryloyw o ran gwneud penderfyniadau, llywodraethu a chynllunio treth, gan roi gwybod i CThEF pwy sydd â chyfrifoldeb, sut y gwneir penderfyniadau, sut mae’r busnes wedi’i strwythuro a ble mae gwahanol rannau o’r busnes wedi’u lleoli
  • strwythuro trafodion mewn ffordd sy’n cyd-fynd â gweithgaredd masnachol ac economaidd ac nad yw’n arwain at ganlyniad treth difrïol
  • strwythuro trafodion mewn ffordd sy’n rhoi canlyniad treth y credant yn rhesymol nad yw’n groes i fwriad Senedd y DU

Ym mhob achos, dylai busnesau sicrhau bod trafodion wedi’u strwythuro mewn ffordd sy’n gyson â pherthynas cydymffurfiad cydweithredol ag awdurdodau treth.

Sut bydd rheoli risg yn gweithio

Er mwyn rheoli risg yn effeithiol:

  • bydd CThEF yn defnyddio dull o reoli risg dreth sy’n seiliedig ar fod yn agored ac ar ddeialog amserol, gan amlinellu’r risg dreth benodol a nodwyd er mwyn osgoi ymholiadau eang diangen
  • dylai’r ddau barti drafod risgiau sylweddol, neu drafodion â goblygiadau treth sylweddol, ar sail “amser real” lle bo hynny’n bosibl (er enghraifft, cyn-drafodiad neu gyn-gyflwyno)

Blaenoriaethu

Bydd CThEF yn blaenoriaethu adnoddau i weithio gyda chwsmeriaid yn y meysydd canlynol:

  • risg absoliwt
  • ansicrwydd gwirioneddol
  • brys masnachol
Cyhoeddwyd ar 15 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2024 + show all updates
  1. A Welsh language version of this content has been added.

  2. First published.