Delio â chynhyrchion fepio i’w cyfanwerthu neu fanwerthu yn y DU
Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi’n gwerthu, storio, dosbarthu neu’n delio â chynhyrchion fepio drwy gyfanwerthu neu fanwerthu yn y DU.
Ar gyfer pwy y mae’r arweiniad hwn
Dylech ddarllen yr arweiniad hwn os ydych chi’n gwerthu, storio, dosbarthu neu’n delio â chynhyrchion fepio drwy gyfanwerthu neu fanwerthu yn y DU.
Mae hyn yn cynnwys:
- manwerthwyr
- cyfanwerthwyr
- dosbarthwyr
- busnesau talu a chludo
- siopau cyfleustra
- siopau fepio arbenigol
- gwerthwyr ar-lein
Mae’r arweiniad hwn yn esbonio’r hyn i’w wneud wrth brynu, dal a gwerthu cynhyrchion fepio ar ôl i’r Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio gael eu rhoi ar waith.
Efallai y bydd angen cymeradwyaeth, toll, stampio, sganio, cadw cofnodion neu ymrwymiadau talu ychwanegol arnoch os yw’ch busnes hefyd yn gwneud y canlynol:
- gweithgynhyrchu
- mewnforio
- yn bwriadu storio cynhyrchion dan ohiriad tollau
- atodi stampiau’r doll
- cynrychioli gweithgynhyrchwr tramor
Dysgwch ragor am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio (yn agor tudalen Saesneg).
Beth yw Toll Cynhyrchion Fepio
Mae’r Doll Cynhyrchion Fepio yn doll ecséis ar gynhyrchion fepio. Mae’r doll yn berthnasol i hylif fepio a elwir weithiau’n e-hylif (‘e-liquid’).
Mae’r doll yn berthnasol p’un a yw’r hylif fepio’n cynnwys nicotin ai peidio. Mae hyn yn cynnwys hylif mewn poteli, cetris a phodiau, a sylweddau i’w defnyddio ar gyfer fepio, fel propylen glycol, glyserin llysiau a blasau.
Bydd y Doll Cynhyrchion Fepio yn cael ei chodi ar gyfradd unffurf o £2.20 am bob 10ml o hylif fepio.
Beth yw Stampiau’r Doll Fepio
Mae Stampiau’r Doll Fepio yn stampiau ffisegol diogel gyda nifer o nodweddion diogelwch. Ar gyfer stampiau digidol, mae gan y stamp god y gellir ei sganio er mwyn dilysu ac olrhain y gadwyn gyflenwi.
Mae’n rhaid atodi stampiau wrth y deunydd pacio manwerthu allanol fel na ellir agor y deunydd pacio heb ddifrodi’r deunydd pacio na’r stamp.
Mae Stampiau’r Doll Fepio yn betryal o ran siâp, 42 milimetr o hyd a 18 milimetr o led.
Ni ellir ailddefnyddio stamp y doll fepio ar ôl iddo gael ei atodi wrth gynnyrch.
Os ydych chi’n gwerthu neu’n dosbarthu cynhyrchion fepio yn unig
Os ydych chi’n gwerthu neu’n dosbarthu cynhyrchion fepio gyda’r doll wedi’i thalu drwy gyfanwerthu neu fanwerthu yn unig, nid oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio neu Gynllun Stampiau’r Doll Fepio.
Os nad ydych yn siŵr a yw’ch busnes yn gwneud mwy na gweithgarwch cyfanwerthu neu fanwerthu, dylech wirio a ydych chi’n cael eich effeithio gan y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio (yn agor tudalen Saesneg) cyn prynu neu werthu stoc o dan y rheolau newydd.
Dyddiadau pwysig ar gyfer manwerthwyr a chyfanwerthwyr
Cyn 1 Hydref 2026
Ni ddylid rhyddhau cynhyrchion fepio sydd wedi’u stampio ar gyfer y doll i farchnad y DU cyn 1 Hydref 2026.
Dylech adolygu lefelau eich stoc a siarad â’ch cyflenwyr am sut y byddant yn darparu cynhyrchion sy’n cydymffurfio ac wedi’u stampio o 1 Hydref 2026 ymlaen.
O 1 Hydref 2026 hyd at 31 Mawrth 2027
O 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio sy’n agored i’r Doll Cynhyrchion Fepio ac yn cael ei ryddhau i farchnad y DU, fod â stamp y doll fepio wedi’i atodi wrthynt.
Gallwch barhau i storio a gwerthu stoc heb ei stampio a gynhyrchwyd neu a fewnforiwyd cyn 1 Hydref 2026 hyd at 31 Mawrth 2027.
Os cynigir cynhyrchion heb eu stampio i chi ar ôl 1 Hydref 2026, dylech wneud yn siŵr eich bod yn cadw tystiolaeth o’r rheswm nad oes angen stamp ar y cynhyrchion. Er enghraifft, dylech allu dangos bod y stoc wedi’i chynhyrchu neu ei mewnforio cyn 1 Hydref 2026, ac felly o fewn y cyfnod gras.
Os nad ydych yn fodlon bod gan nwyddau reswm cyfreithlon dros fod heb eu stampio, ni ddylech eu prynu, eu cyflenwi na’u gwerthu.
O 1 Ebrill 2027 ymlaen
O 1 Ebrill 2027 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio y tu allan i ohiriad tollau yn y DU gael stamp y doll fepio wedi’i atodi.
Ni chewch werthu cynhyrchion fepio sydd heb eu stampio o’r dyddiad hwn ymlaen.
Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw stoc sydd heb ei stampio wedi’i gwerthu, ei dychwelyd i’ch cyflenwr, neu wedi’i delio ag ef mewn ffordd gyfreithlon arall cyn y dyddiad hwn. Os byddwch yn parhau i ddal, gwerthu neu gyflenwi stoc heb ei stampio, efallai y byddwch yn agored i gosbau.
O’r dyddiad hwn ymlaen, gallwn ymafael mewn nwyddau, codi cosbau ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, cynnal ymchwiliad troseddol. Os byddwch chi’n cael eich erlyn a’ch dyfarnu’n euog, gallwch wynebu dirwy ddiderfyn, eich carcharu, neu’r ddau.
Prynu cynhyrchion fepio gan gyflenwyr
O 1 Hydref 2026 ymlaen, dylech wirio bod gan stoc newydd rydych chi’n ei phrynu, stamp doll fepio os oes angen un.
Dylech gymryd gofal penodol os yw cyflenwr yn cynnig cynhyrchion heb eu stampio ar ôl 1 Hydref 2026.
Dylech ofyn am, a chadw, ddigon o wybodaeth i ddangos i CThEF bod y cynhyrchion yn gyfreithlon ac y gellir eu gwerthu’n gyfreithlon.
Dylech wirio’r canlynol:
- a oes stamp y doll fepio ar y cynhyrchion, lle mae angen un
- p’un a yw’r stamp wedi’i atodi wrth y deunydd pacio manwerthu mwyaf allanol ac yn selio’r deunydd pacio
- o ble y daeth y cynhyrchion
- p’un a yw’r cynhyrchion wedi’u cynhyrchu neu eu mewnforio cyn 1 Hydref 2026, os ydynt heb eu stampio
- a yw’r cyflenwr yn ymddangos yn gredadwy ac yn gallu darparu cofnodion masnachol arferol, fel anfonebau a danfonebau
Os bydd unrhyw beth yn ymddangos yn anghywir, yn aneglur neu’n anghyson, dylech ei ddatrys cyn prynu neu werthu’r cynhyrchion.
Os nad ydych yn siŵr a yw’r stoc yn gyfreithlon, ni ddylech ei phrynu, ei chyflenwi na’i gwerthu.
Gwerthu stoc bresennol sydd heb ei stampio
Gallwch barhau i werthu cynhyrchion fepio sydd heb eu stampio tan 31 Mawrth 2027, os cawsant eu cynhyrchu neu eu mewnforio cyn 1 Hydref 2026.
Bwriad y cyfnod gras yw helpu busnesau i reoli stoc hŷn sydd eisoes yn y gadwyn gyflenwi ar yr adeg y daw’r Doll Cynhyrchion Fepio i rym.
Dylech reoli’ch stoc yn ofalus fel bod cynhyrchion sydd heb eu stampio yn cael eu gwerthu cyn i’r cyfnod gras ddod i ben. O 1 Ebrill 2027 ymlaen, ni ddylech werthu neu ddal cynhyrchion fepio sydd heb eu stampio, gan y gallech fod yn agored i gosbau.
Erbyn 1 Ebrill 2027, dylech wneud yn siŵr bod unrhyw stoc sydd heb ei stampio wedi’i gwerthu, ei dychwelyd i’ch cyflenwr, ei hallforio, ei dinistrio, neu wedi’i delio ag ef mewn ffordd gyfreithlon arall.
Cofnodion y dylech eu cadw
Os ydych chi’n gwerthu, storio neu’n delio â chynhyrchion fepio, dylech gadw cofnodion busnes clir.
Bydd cofnodion da yn eich helpu i ddangos o ble y daeth eich cynhyrchion, pa wiriadau a wnaethoch, ac a oedd stoc o fewn y cyfnod gras.
Dylech gadw cofnodion am o leiaf 6 blynedd sy’n dangos y canlynol:
- o ble y daeth eich cynhyrchion fepio
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cyflenwr
- rhifau anfoneb, derbynebau a’r dyddiadau y daeth y cynhyrchion i law
- pa gynhyrchion yr oeddech chi’n eu prynu, eu dal, eu cyflenwi neu eu gwerthu
- pryd gafodd y cynhyrchion eu cynhyrchu neu eu mewnforio
- pa wiriadau y gwnaethoch chi i wneud yn siŵr bod y cynhyrchion yn gyfreithlon
- pa gamau y cymeroch chi os nad oedd cynhyrchion wedi’u stampio, os oedd y cynhyrchion yn aneglur neu’n ymddangos fel nad oeddent yn cydymffurfio
Mae cadw cofnodion yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod gras rhwng 1 Hydref 2026 a 31 Mawrth 2027. Os ydych chi’n gwerthu stoc sydd heb ei stampio yn ystod y cyfnod hwn, dylai’ch cofnodion helpu i esbonio pam y gellir gwerthu’r cynhyrchion o hyd.
Dylech gadw cofnodion mewn ffordd hygyrch, fel bod modd cyfeirio atynt yn hawdd os bydd CThEF yn gofyn am y cynhyrchion fepio rydych chi’n eu gwerthu, eu storio, neu’n delio â nhw.
Os yw cynhyrchion heb eu stampio neu’n ymddangos fel nad ydynt yn cydymffurfio
Dylech gymryd diffyg cydymffurfio o ddifrif. Mae Stampiau’r Doll Fepio yn cael eu cyflwyno i helpu i nodi cynhyrchion cyfreithlon a chefnogi camau gweithredu yn erbyn cynhyrchion anghyfreithlon yn y farchnad fepio.
Os yw cynhyrchion heb eu stampio pan ddylid eu stampio, neu os yw’r stamp yn ymddangos fel ei fod wedi’i ddifrodi, ei ailddefnyddio, ar goll, wedi’i newid neu heb ei atodi wrth y deunydd pacio cywir, ni ddylech brynu, cyflenwi na gwerthu’r cynhyrchion oni bai bod y mater wedi’i ddatrys ac rydych yn gallu dangos i CThEF bod y cynhyrchion yn gyfreithlon.
Dylech gysylltu â’ch cyflenwr a gofyn am esboniad. Dylech gadw cofnod o’r mater, yr esboniad a ddarperir ac unrhyw gamau gweithredu rydych chi’n eu cymryd.
Dylech roi gwybod am gynhyrchion fepio yr ydych yn amau eu bod yn anghyfreithlon, ffug, heb eu stampio pan ddylid eu stampio, neu’n cael eu gwerthu’n anghyfreithlon.
Gallwch wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i CThEF am dwyll treth neu arbed treth (yn agor tudalen Saesneg)
- cysylltu â’ch Swyddfa Safonau Masnach leol (yn agor tudalen Saesneg)
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch yr arweiniad llawn ynghylch y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio ar GOV.UK os yw’ch busnes yn cynhyrchu, mewnforio, cadw cynnyrch mewn warws, atodi stampiau, allforio, gweithredu ar ran gweithgynhyrchwr tramor, neu’n dal cynhyrchion o dan ohiriad tollau.
Dylech hefyd ddefnyddio arweiniad GOV.UK os oes angen i chi ddeall cymeradwyaethau, Ffurflenni Treth, taliadau, gwarantau ariannol, gohiriad tollau, gofynion sganio, mewnforion, allforion neu gosbau yn fanylach.