Ap GOV.UK One Login: datganiad hygyrchedd
Sut rydym wedi profi hygyrchedd ap GOV.UK One Login, materion rydym wedi'u darganfod, a sut y gallwch chi roi gwybod am broblemau.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r:
-
ap iOS GOV.UK One Login, rhyddhawyd gyntaf ym mis Mehefin 2025
-
ap Android GOV.UK One Login, rhyddhawyd gyntaf ym mis Mehefin June 2025
Mae’r apiau hyn yn cael eu rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS).
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein apiau. Dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys VoiceOver a TalkBack
Rydym hefyd wedi gwneud testun yn yr ap mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r ap iOS
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r fersiwn iOS o’r ap GOV.UK One Login yn gwbl hygyrch.
Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:
- mae’r ffocws yn symud i elfennau nad ydynt yn rhyngweithiol cyn glanio ar elfennau y gallwch ryngweithio â nhw
- weithiau nid yw’r ffocws yn weladwy ar rai elfennau
-
nid yw’r cyferbyniad rhwng elfennau mewn ffocws a’r cefndir yn y dull tywyll yn ddigon uchel i fod yn weladwy i bawb - gallwch wella hyn trwy newid lliw ffocws y bysellfwrdd yn eich gosodiadau dyfais
-
efallai na fyddwch yn gallu actifadu elfennau mewn ffocws gyda’r bar gofod fel yr arfer - efallai y bydd angen i chi ddefnyddio Control + Tab i symud ffocws i’r adran nesaf i actifadu botymau
- efallai na fyddwch yn gallu canslo’r pop-up sy’n ymddangos pan mae’n amser sganio’ch pasbort
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:
-
mae’r ffocws weithiau’n mynd yn sownd ar y sgrin flaenorol - os bydd hyn yn digwydd, mae angen i chi ddefnyddio’r ystum sweipio i fyny gyda 2 fys i ddechrau darllen y sgrin eto o’r brig
-
nid yw rhai elfennau rhyngweithiol yn cael eu darllen allan
-
nid yw ymddygiad rhai dolenni a botymau sy’n mynd â chi allan o’r ap yn cael eu darllen allan - gall hyn fod yn drafferthus gan nad yw bob amser yn glir ble mae’r ddolen neu’r botwm wedi mynd â chi
-
wrth brofi eich hunaniaeth, efallai na fydd yn glir i chi eich bod wedi tynnu llun o’ch ID gyda llun yn llwyddiannus - mae hyn oherwydd nad yw’r rhagolwg o’r llun rydych wedi’i dynnu yn cael ei ddarllen allan
-
pan fyddwch yn mewngofnodi, efallai y byddwch yn cael trafferth mynd yn ôl i’r ap os bydd gwall yn digwydd - bydd angen i chi ddefnyddio’r teclynnau llywio sgrin yn eich darllenydd sgrin i ddychwelyd i’r ap
Os ydych wedi cynyddu maint y ffont ar eich dyfais, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:
-
mae labeli botymau yn anodd eu darllen gan fod y testun yn gollwng dros maes y botwm
-
mae botymau yn aml wedi’u gosod ar waelod y sgrin ac yn cymryd llawer o le - mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i chi wneud mwy o sgrolio nag arfer i ddarllen yr holl destun ar sgrin
-
mae testun nad yw’n ffitio i mewn i’r sgrin weithiau’n cael ei dorri i ffwrdd, felly efallai na fyddwch yn gallu darllen yr holl destun ar rai sgriniau
Os ydych yn defnyddio rheolaeth llais ac rydych yn defnyddio ap dilysydd i fewngofnodi, efallai y bydd angen i chi olygu’r cod diogelwch rydych chi wedi’i roi cyn ei gyflwyno i wneud yn siŵr nad oes ganddo unrhyw fylchau
Os ydych wedi troi’r nodwedd ‘Screen Curtain’ ymlaen ar eich dyfais, ni fyddwch yn gallu sganio eich gwyneb. Bydd angen i chi ddiffodd ‘Screen Curtain’ i brofi eich hunaniaeth yn llwyddiannus.
Os ydych wedi troi’r nodwedd ‘Reduce Motion’ ymlaen ar eich dyfais, efallai y byddwch yn gweld bod rhai animeiddiadau yn dal i chwarae.
Ar ôl allgofnodi o’r ap, ar hyn o bryd rydych yn cael eich cymryd yn syth i dudalen ar ddechrau’r broses sefydlu ap sy’n gofyn a ydych am rannu dadansoddeg. Gall hyn fod yn ddryslyd gan nad yw’n glir eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ac mae’r ap nawr yn eich trin fel defnyddiwr newydd.
Pa mor hygyrch yw’r ap Android
Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:
-
mae’r cyflwr ffocws yn defnyddio newid lliw gwan nad yw’n weladwy i bawb
-
efallai y byddwch yn gweld nad yw’r drefn y mae’r ffocws yn teithio trwy bob tudalen yn gyson - mae hyn yn golygu y gallai llywio drwy’r daith gyda bysellfwrdd gymryd mwy o amser
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:
-
nid yw pwyntiau bwled mewn rhai sgriniau gyda rhestr bwled yn cael eu darllen allan
-
mae rhai elfennau tudalen yn cael eu darllen allan yn anghywir fel rhai mewn rhestr
-
mae rhai hysbysiadau yn cael eu darllen allan ddwywaith
-
nid yw rhai penawdau tudalennau yn cael eu darllen allan fel penawdau
-
nid yw ymddygiad rhai dolenni a botymau sy’n mynd â chi allan o’r ap yn cael eu darllen allan - gall hyn fod yn ddryslyd gan nad yw bob amser yn glir ble mae’r ddolen neu’r botwm wedi mynd â chi
-
pan fyddwch yn mewngofnodi i’r ap, gall fod aros hir rhwng rhoi eich cod diogelwch a chael eich cymryd i’r tab hafan yr ap - nid oes unrhyw gyhoeddiad yn ystod yr aros hwn, felly efallai na fydd y rheswm dros yr aros yn glir i chi
Os ydych yn defnyddio dull tywyll, efallai y byddwch yn cael trafferth gweld dolenni a botymau gwyrdd. Nid yw’r cyferbyniad rhwng y testun gwyrdd a’r cefndir tywyll yn ddigon uchel i fod yn weladwy i bawb.
Os ydych chi wedi cynyddu maint y ffont ar eich dyfais, efallai y bydd angen i chi wneud mwy o sgrolio nag arfer i ddarllen yr holl destun ar sgrin. Mae hyn oherwydd bod botymau yn aml wedi’u gosod ar waelod y sgrin ac yn cymryd llawer iawn o le.
Os ydych wedi gosod Cymraeg fel eich dewis iaith ar wefan GOV.UK wrth fewngofnodi, efallai y byddwch yn gweld bod yr iaith yn mynd yn ôl i’r Saesneg pan fyddwch yn dod ar draws gwall.
Ar ôl allgofnodi o’r ap, ar hyn o bryd rydych yn cael eich cymryd yn syth i dudalen ar ddechrau’r broses sefydlu ap sy’n gofyn a ydych am rannu dadansoddeg. Gall hyn fod yn ddryslyd gan nad yw’n glir eich bod wedi mewngofnodi’n llwyddiannus ac mae’r ap nawr yn eich trin fel defnyddiwr newydd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru yn y datganiad hwn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â accessibility-team@digital.cabinet-office.gov.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap iOS
Mae GDS wedi ymrwymo i wneud yr ap hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r fersiwn iOS o ap GOV.UK One Login yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y cynnwys nad yw’n hygyrch a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r ap iOS yn bodloni’r meini prawf WCAG 2.2 canlynol yn llawn:
-
1.1.1 Cynnwys nad yw’n destun (Lefel A) - ar ôl i’r defnyddiwr dynnu llun o’u ID gyda llun, nid yw’r rhagolwg yn cael ei ddarllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
-
1.4.4 Newid maint y testun (Lefel AA) - mae labeli ar fotymau’n gollwng dros faes y botwm pan fydd maint y ffont yn cael ei gynyddu
-
1.4.10 Ail-lifo (Level AA) - pan fydd maint y ffont yn cynyddu, efallai na fydd yr holl gynnwys mewn sgrin yn weladwy ac mae botymau sefydlog yn lleihau faint o gynnwys sy’n weladwy ar y sgrin
-
1.4.11 Cyferbyniad nad yw’n destun (Lefel AA) - efallai na fydd ffocws yn weladwy i ddefnyddwyr dull tywyll sy’n defnyddio bysellfwrdd allanol
-
2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd (Lefel A) - ni all defnyddwyr bysellfwrdd allanol gyrraedd y botwm canslo ar y pop-up sy’n ymddangos wrth sganio eu pasbort
-
2.2.2 Saib, stopio, cuddio (Lefel A) - mae rhai animeiddiadau yn dal i chwarae hyd yn oed pan fydd defnyddiwr wedi troi’r nodwedd ‘Reduce Motion’ ymlaen
-
2.4.7 Ffocws Gweladwy (Lefel AA) - wrth ddefnyddio darllenydd sgrin, mae’r cyflwr y ffocws weithiau’n mynd yn sownd yn y dudalen flaenorol, ac nid yw’r cyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol yn ddigon gweladwy yn y dull tywyll
-
3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau (Lefel A) - wrth ddefnyddio rheoli llais, gall defnyddwyr sy’n defnyddio ap dilysydd i fewngofnodi gael gwall dilysu oherwydd bod nod bwlch yn aml yn cael ei gyflwyno wrth ddarllen y cod 2FA
-
4.1.2 Enw, rôl, gwerth (Lefel A) - nid yw elfennau rhyngweithiol yn cael eu darllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
-
4.1.3 Negeseuon statws (Lefel AA) – nid oes neges gadarnhau pan fo defnyddwyr wedi allgofnodi yn llwyddiannus
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap Android
Mae GDS wedi ymrwymo i wneud yr ap hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r fersiwn Android ap GOV.UK One Login yn cydymffurfio’n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y cynnwys nad yw’n hygyrch a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r ap yn bodloni’r meini prawf WCAG 2.2 canlynol yn llawn:
-
1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A) - nid yw eitemau’r rhestr fwled bob amser yn cael eu darllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
-
1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (Lefel A) - nid oes gan gyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol a thestun gwyrdd ar gyfer defnyddwyr dull tywyll gyferbyniad digon uchel
-
1.4.10 Ail-lifo (Level AA) - mae botymau sefydlog yn lleihau faint o gynnwys sy’n weladwy ar y sgrin ar gyfer defnyddwyr gyda maint ffont mwy
-
2.4.7 Lefel Ffocws Gweladwy AA - nid yw’r cyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol yn ddigon gweladwy ac nid yw’n teithio trwy bob tudalen mewn ffordd gyson
-
3.2.2 Ar Fewnbwn (Lefel A) - nid yw eiconau sy’n hysbysu defnyddwyr y bydd dolen neu fotwm yn mynd a hwy allan o’r ap yn cael eu darllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
-
4.1.2 Enw, rôl, gwerth (Lefel A) - nid yw cyflwr allgofnodi, penawdau a hysbysiadau yn cael eu darllen allan na’u eu darllen allan ddwywaith wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
-
4.1.3 Negeseuon Statws (Lefel AA) - does dim neges gadarnhau pan fo defnyddwyr wedi allgofnodi yn llwyddiannus
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd problemau yn cael eu datrys neu rydym yn disgwyl iddynt gael eu datrys. Byddwn hefyd yn ei ddiweddaru pan fydd problemau newydd yn cael eu nodi.
Mae tîm hygyrchedd GOV.UK One Login yn monitro’r maes esblygol o archwilio hygyrchedd apiau a sut mae’r meini prawf WCAG yn berthnasol i apiau. Mae GOV.UK One Login wedi ymrwymo i ymchwil defnyddwyr ac yn croesawu sylwadau neu adborth gan yr holl ddefnyddwyr.
Sut rydym wedi paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei adolygu a’i ddiweddaru o leiaf bob 12 mis.
Profwyd hygyrchedd yr ap GOV.UK One Login ddiwethaf ym mis Mehefin 2025. Cynhaliwyd profion gan arbenigwyr hygyrchedd o fewn GDS.
Gwnaethant gynnal profion â llaw gyda nodweddion hygyrchedd dyfeisiau i wirio gallu defnyddiwr i gwblhau’r daith profi hunaniaeth ar iOS ac Android. Profwyd pob rhan o’r daith ar yr ap.