Canllawiau

Ap GOV.UK ID Check: datganiad hygyrchedd

Sut rydym wedi profi hygyrchedd yr ap GOV.UK ID Check, problemau rydym wedi dod o hyd iddynt, a sut gallwch chi roi gwybod am broblemau.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r:

  • ap symudol iOS GOV.UK ID Check a gyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Gorffennaf 2022
  • ap symudol Android GOV.UK ID Check a gyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Hydref 2022
  • tudalennau gwe sy’n gwirio a yw’ch dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap

Mae’r apiau symudol a’r wefan yn cael eu rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS).

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r apiau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a maint ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r ap drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys VoiceOver a TalkBack)
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r tudalennau gwefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun yr ap mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r apiau symudol hyn

Cymhwysiad Apple iOS

Bydd yr ap yn defnyddio gosodiad iaith iOS y defnyddiwr yn hytrach na’r iaith a ddewisant ar wefan GOV.UK One Login.

Os ydych chi wedi troi’r nodwedd Lleihau Symudiad ymlaen ar eich dyfais, efallai y byddwch chi’n gweld bod rhai animeiddiadau yn chwarae o hyd.

Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ap oherwydd:

  • nid yw’r cyfarwyddiadau am sut i sganio’r sglodyn yn eich ID gyda llun yn cael eu darllen allan mewn trefn resymegol - wrth i chi symud trwy’r carwsél, bydd angen i chi sweipio i fyny gyda 2 fys i ddechrau darllen o frig y sgrin ar bob sleid
  • bydd y botwm i ailchwarae animeiddiad addurniadol am sut i sganio’r sglodyn yn eich ID gyda llun yn cael ei ddarllen allan

Os ydych chi wedi cynyddu maint y ffont ar eich dyfais, efallai y bydd y cyfarwyddiadau ar sut i sganio’r sglodyn yn eich ID gyda llun yn anodd eu gweld. Bydd angen i chi sgrolio i lawr ym mhob adran i weld yr holl destun.

Cymhwysiad Android

Bydd yr ap yn defnyddio gosodiad iaith system Android y defnyddiwr yn hytrach na’r iaith y mae’n ei dewis ar wefan GOV.UK One Login.

Ar rai dyfeisiau, gall defnyddwyr ei chael hi’n anodd i rhyngweithio â’r ddolen ‘trwyddedau ffynhonnell agored’ ar dudalen cyntaf yr ap. Mae hyn oherwydd mae’n llai na’r maint a argymhellir.

Os byddwch chi’n cyrchu’r carwsél gyda chyfarwyddiadau ynglŷn â sut i sganio’r sglodyn yn eich ID gyda llun, efallai y byddwch chi’n gweld na allwch chi gau’r carwsél.

Pa mor hygyrch yw’r wefan

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch – gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ar y datganiad hygyrchedd ar gyfer GOV.UK One Login.

Pan fydd defnyddiwr yn mynd trwy’r tudalennau gwe sy’n gwirio a yw eu dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap, efallai na fydd eu dewis iaith yn parhau os maent yn defnyddio’r ddolen ’yn ôl’. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen iddynt ddewis eu dewis iaith eto.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn cael anhawster defnyddio’r apiau neu’r wefan, cysylltwch â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r ap symudol

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb, sy’n cael ei redeg ar ran EHRC.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap symudol

Mae GDS wedi ymrwymo i wneud ei gwefan ac apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â nodau safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi’i hadnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran ‘Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r ap symudol hwn’ y datganiad hwn.

Cynnwys anhygyrch yn y cymhwysiad Apple iOS

Nid yw’r cymhwysiad iOS yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau hygyrchedd am y rhesymau canlynol:

  • efallai y bydd defnyddwyr yn ei chael hi’n anodd rhagweld pa osodiad iaith y bydd y wefan a’r rhaglen yn ei ddefnyddio oherwydd cymhlethdod technegol gweithredu newid iaith rhwng dyfeisiau
  • pan fydd defnyddiwr yn mynd trwy’r tudalennau gwe sy’n gwirio a yw eu dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap, mae gweithrediad technegol y ddolen ‘yn ôl’ yn golygu efallai na fydd eu dewis iaith yn parhau os ydynt yn defnyddio’r ddolen ‘yn ôl’ - mae hyn yn golygu y gallai fod angen iddynt ddewis eu dewis iaith eto
  • mae rhai animeiddiadau yn dal i chwarae hyd yn oed pan fydd defnyddiwr wedi troi’r nodwedd Lleihau Symudiad ymlaen - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.2 Oedi, stopio, cuddio (Lefel A)
  • nid yw cyfarwyddiadau ynghylch sut i sganio’r sglodyn mewn ID gyda llun yn cael eu darllen mewn trefn resymegol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A)
  • mae botwm i ailchwarae animeiddiad addurniadol weithiau yn cael ei ddarllen allan i ddefnyddwyr darllenydd sgrin - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 3.2.4 Adnabod Cyson (Lefel AA)

Cynnwys anhygyrch yn y cymhwysiad Android

Nid yw’r cymhwysiad Android yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau hygyrchedd am y rhesymau canlynol:

  • efallai y bydd defnyddwyr yn ei chael hi’n anodd rhagweld pa osodiad iaith y bydd y wefan a’r rhaglen yn ei ddefnyddio oherwydd cymhlethdod technegol gweithredu newid iaith rhwng dyfeisiau
  • pan fydd defnyddiwr yn mynd trwy’r tudalennau gwe sy’n gwirio a yw eu dyfais yn addas i ddefnyddio’r ap, mae gweithrediad technegol y ddolen ‘yn ôl’ yn golygu efallai na fydd eu dewis iaith yn parhau os ydynt yn defnyddio’r ddolen ‘yn ôl’ - mae hyn yn golygu y gallai fod angen iddynt ddewis eu dewis iaith eto
  • mae’r ddolen ‘trwyddedau ffynhonnell agored’ ar dudalen gyntaf yr ap yn cael ei harddangos gyda maint targed sy’n llai na 48 picsel dyfais a argymhellir gan Google ar rai dyfeisiau Android - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.5.8 (Maint Targed) a maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.4.11 (Ffocws Heb ei Guddio)
  • yr unig ffordd i ddefnyddwyr bysellfwrdd gau’r carwsél gyda chyfarwyddiadau ynghylch sut i sganio’r sglodyn mewn ID gyda llun yw gyda gorchymyn bysellfwrdd, nad yw efallai’n ddull ymadael safonol - mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd (Lefel A)

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Gorffennaf 2022. Cafodd ei adolygu a’i ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi 2025.

Profwyd yr apiau symudol hyn ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2023. Cynhaliwyd profion gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ac yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau teithiau allweddol. Profwyd pob rhan o’r daith ap symudol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2022

Argraffu'r dudalen hon