Help i gywiro bil TWE y cyflogwr
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i herio tâl TWE cyflogwr ac i ofyn am gymorth gan CThEF i ddod o hyd i’r gwall cyflogres a datrys y broblem.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael help gan CThEF os ydych chi’n meddwl bod eich bil TWE y cyflogwr yn anghywir a bod un o’r canlynol yn wir:
- mae angen help arnoch i ddod o hyd i’r camgymeriad cyflogres neu i gywiro’r gwall
- nid ydych wedi gallu datrys problemau gyda rhedeg cyflogres
Er mwyn i ni allu eich helpu i ddod o hyd i’r gwall, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni beth yw’r symiau o’ch meddalwedd gyflogres.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r canlynol:
- cyflogwr TWE
- asiant sy’n gweithredu ar ran cyflogwr TWE
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Cyfeirnod TWE
- cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon — os oes gennych un
- cyfeirnod Hunanasesiad neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth — bydd gan eich busnes un o’r rhain
- nifer y cyflogeion sydd gan eich busnes
Bydd hefyd yn rhaid i chi roi manylion unrhyw symiau Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) o’ch meddalwedd gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth, gan gynnwys cyfansymiau’r canlynol:
- Treth Incwm
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai
- didyniadau benthyciad myfyriwr
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Os oes mwy nag un flwyddyn yn destun anghydfod, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn.
Rhowch y manylion fel y maent yn ymddangos ar eich meddalwedd gyflogres, nid y manylion o’ch cyfrif treth busnes CThEF.
Cael help
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael e-bost gyda chyfeirnod pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost o fewn 40 diwrnod gwaith gyda’ch gwybodaeth FPS a’ch cerdyn cymorth i’ch cynorthwyo gyda thrwsio’ch cofnodion cyflogres.
Updates to this page
-
Information about what happens once you've submitted a dispute about your PAYE charge has been updated, to confirm that HMRC will contact you by email within 40 days to discuss your Full Payment Submission (FPS) information and help card.
-
Added Welsh translation.
-
First published.