Canllawiau

Dileu eich GOV.UK One Login

Sut i ddileu eich GOV.UK One Login, a beth sy'n digwydd os gwnewch hyn.

Gallwch ddileu eich GOV.UK One Login ar unrhyw adeg. Ond os byddwch angen GOV.UK One Login yn y dyfodol bydd yn rhaid i chi greu un newydd.

Bydd dileu eich GOV.UK One Login yn dileu eich:

  • manylion mewngofnodi - mae hyn yn golygu na fyddwch bellach yn gallu mewngofnodi i unrhyw wasanaethau neu apiau gyda GOV.UK One Login
  • gwybodaeth hunaniaeth (os ydych wedi profi’ch hunaniaeth gyda GOV.UK One Login)
  • cofnod o’r gwasanaethau rydych wedi’u cyrchu gyda GOV.UK One Login
  • tanysgrifiadau e-bost GOV.UK (os oes gennych rai)

Bydd hefyd yn golygu na allwch weld na rhannu unrhyw ddogfennau rydych wedi’u hychwanegu at eich ap GOV.UK One Login.

Ni fydd dileu’ch GOV.UK One Login yn dileu’r wybodaeth bersonol a gedwir gan wasanaethau rydych wedi’u defnyddio.

Os gallwch fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login

I ddileu eich GOV.UK One Login:

  1. Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
  2. Ewch i Diogelwch.
  3. Ar waelod y dudalen, dewiswch y ddolen Dileu eich GOV.UK One Login.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch Parhau.
  5. Dewiswch y botwm Dileu eich GOV.UK One Login.

Os na allwch fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login

Bydd angen i’r tîm cymorth dileu eich GOV.UK One Login. Cael help a chysylltu â GOV.UK One Login.

Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Hydref 2025 show all updates
  1. Added information about what happens to any digital documents you've saved to the app when you delete your GOV.UK One Login.

  2. Updated instructions on how to delete your GOV.UK One Login if you cannot sign in.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon